Archif Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Agendâu a chofnodion cyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng 08/12/2010 a 01/04/2020.

Dydd Mercher, 1 Apr 2020

Ni chymerwyd cofnodion/Nid yw’r cofnodion ar gael

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020 a 10 Chwefror 2020.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2020

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020

9. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020 a 11 Chwefror 2020

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

14/20 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/20
Chwenychir sylwadau’r Aelodau ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft

15/20 Cadarnhau Cytundeb Rheol Sefydlog 16 Ynghylch Gwarchodaeth Yswiriant yn Cychwyn 1af Ebrill 2020.
Mae’r adroddiad yn chwennych cadarnhad i ddefnyddio Cytundeb Rheol Sefydlog 16 ynghylch gwarchodaeth yswiriant yr Awdurdod.

16/20 Cynllun Adnoddau a Chorfforaeth 2020/21
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Adnoddau a Chorfforaeth 2020/21.

17/20 Ymateb i’r Argyfwng Newid Hinsawdd
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo Ymateb i’r Argyfwng Newid Hinsawdd (2020 – 2030) – Ein bwriadau i wireddu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2020-2024.

18/20 Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau
Gofynnir i’r Aelodau i gytuno ar benodiad dau Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau

19/20 Cydnabyddiaeth Aelod 2020/21
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Daliadau Cydnabyddiaeth o ran y Cyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol 2020/21.

20/20 Adolygiadau Datblygiad Personol
Mae’r adroddiad yn chwennych cymeradwyaeth o fframwaith Adolygiad Datblygiad Personol ar gyfer Aelodau.

21/20 Calendar Cyfarfodydd 2020/2021
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo calendar o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

22/20 Parciau Cenedlaethol Cymru – Tirweddau i Bawb: Ein Hagwedd tuag at Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant.
Gofynnir i’r Aelodau i nodi Parciau Cenedlaethol Cymru – Tirweddau i Bawb: Ein Hagwedd tuag at Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant

Dydd Mercher, 5 Chwefror2020

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2019

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2019

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2019

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
01/20 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2020/21
Mae’r adroddiad yn cyflwyno
Y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Drafft ar gyfer 2020/21 a’r rhagolygon 2021/22 i 2024/25
Yr Ardoll Ddrafft 2019/20 ar Gyngor Sir Penfro
Dangosyddion Darbodus ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf
Datganiad ar y Strategaeth Buddsoddi a’r Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2020/21.

02/20 Diweddariad i Safonau Ariannol 2020
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Diweddariad i Safonau Ariannol 2020.

03/20 Rheolau Sefydlog Contractau 2020
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r drafft o’r Rheolau Sefydlog ar gyfer Contractau 2020.

04/20 Cymeradwyo Rheol Sefydlog Contractau 13 mewn perthynas â’r Contract ar gyfer y Cysylltiad Carthffosydd Dŵr Aflan yng Nghastell Caeriw
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Rheol Sefydlog Contractau 13 mewn perthynas â’r Contract ar gyfer y Cysylltiad Carthffosydd Dŵr Aflan yng Nghastell Caeriw.

05/20 Cynllun Corfforaethol 2020/21
Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau ar Gynllun Corfforaethol drafft 2020/21.

06/20 Cynllun Cydraddoldeb 2020-24
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb 2020-24 yr Awdurdod a’r amcanion cydraddoldeb diwygiedig.

07/20 Cynllun Datblygu Lleol 2 ar Adnau Cyngor Sir Penfro a Dogfennau Ategol
Mae’r adroddiad yn ceisio pwerau dirprwyedig i gyflwyno ymateb am Gynllun Datblygu Lleol 2 ar Adnau Cyngor Sir Penfro a Dogfennau Ategol.

08/20 Fforwm Gwirfoddolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad yn gofyn am gynrychiolaeth o blith yr Aelodau ar Fforwm Gwirfoddolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

09/20 Clwb Golff Newport Links
Gofynnir i Aelodau dderbyn adroddiad A5(2) ynghylch gwerthu 10 uned lety yng Nghlwb Golff Newport Links sydd, yn ôl pob golwg, yn torri amodau Cytundeb A106.

10/20 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.

11/20 Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Benfro 2020-2025
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau fabwysiadu’n ffurfiol Gynllun Rheoli Cyrchfannau Sir Benfro 2020 – 2025 fel y ddogfen allweddol i arwain gwasanaethau ymwelwyr ledled y sir.

12/20 Cais gan Gyngor Sir Penfro am Gyllid i Gefnogi Elfennau o Gynllun Cyrchfannau Sir Benfro
Gofynnir i’r Aelodau drafod llythyr a ddaeth i law gan Gyngor Sir Penfro yn gofyn am arian tuag at gynnal elfennau o gynllun Cyrchfannau Sir Benfro.

10. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraffau 13 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

11. Ystyried yr adroddiad canlynol:
13/20 Sefydliad Rheoli Cyrchfannau – Twristiaeth
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau ystyried yr egwyddor a’r lefel o gefnogaeth y gallai APCAP fod eisiau ei darparu er mwyn creu Sefydliad Rheoli Cyrchfannau, a arweinir gan fasnach ond a ariennir yn bennaf gan y sector cyhoeddus, ar gyfer Sir Benfro.

Dydd Mercher, 11 Rhagfyr 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2019

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019 a 11 Medi 2019.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 25 Medi 2019

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019

10. Penodi Aelod(au) i lenwi’r swyddi gwag ar y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu’r Gwasanaethau Corfforaethol, y Fforwm Gweithwyr, y Pwyllgor Cymorth a Datblygu Aelodau, y Pwyllgor Apeliadau a’r Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Orllewin Cymru – Fforwm Aelodau Datganiad Technegol Rhanbarthol.

11. Ystyried y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd R Owens: Nad yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn codi tâl am barcio ym Maes Parcio West Angle.

12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
42/19 Ymgynghoriad ar y Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol Drafft 2020 – 2024
Rhoi adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar y Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol a cheisio cymeradwyaeth i Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol terfynol 2020-2024 a’r asesiadau statudol sy’n cyd-fynd â’r Cynllun.

43/19 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Datganiad Diogelu
Mae’r adroddiad yn cyflwyno Datganiad Diogelu diwygiedig yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i’r Aelodau ei ystyried a’i gymeradwyo.

44/19 Cynllun Cydraddoldeb Drafft 2020 – 2024
Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau ar y Cynllun Cydraddoldeb Drafft 2020-24.

45/19 Adolygiad Blynyddol o Weithredu a Rheoli Codi Tâl ar Safleoedd Meysydd Parcio yr Awdurdod 2019
Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r dulliau codi tâl ym meysydd parcio yr Awdurdod dros y 12 mis diwethaf ac yn amlinellu’r amcanion cyn dechrau’r tymor codi tâl yn 2020.

46/19 Fframwaith Polisi ar gyfer Codi Tâl ym Meysydd Parcio yr Awdurdod
Mae’r adroddiad yn rhoi fframwaith Polisi ar gyfer codi tâl ym meysydd parcio yr Awdurdod.

47/19 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/21
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ar gyfer ymgynghori ar y lefel arfaethedig o gyflogau Aelodau yn 2020/21 ac yn ceisio barn yr Aelodau ar hynny.

48/19 Cyfansoddiad y Pwyllgor Safonau
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau benodi Aelod i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau yn lle Mr Allan Archer, ac ystyried cynyddu cyfansoddiad Pwyllgor Safonau yr Awdurdod i saith Aelod drwy gynyddu nifer yr Aelodau Annibynnol i bedwar.

49/19 Uwchraddio Trwydded Microsoft
O’r 14eg o Ionawr 2020 ni fydd Microsoft bellach yn rhoi cymorth technegol na diweddariadau meddalwedd a diogelwch ar gyfer y llwyfannau gweinydd y mae systemau’r Awdurdod yn eu rhedeg. Gofynnir i’r Aelodau felly gymeradwyo gwariant o £108k i dalu am ddarparu’r trwyddedau hyn tan y flwyddyn 2025.

51/19 Dathlu Hanner Canmlwyddiant agor Llwybr Arfordir Sir Benfro
Gofynnir i’r Aelodau gadarnhau’r rhaglen arfaethedig o weithgareddau dathlu 50 mlynedd ers agor Llwybr yr Arfordir.

50/19 Cytuno i Ddiddymu Parciau Cenedlaethol y DU Cyfyngedig
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i Ddiddymu Parciau Cenedlaethol y DU Cyfyngedig.

13. Ystyried yr eitam frys canlynol:
52/19 Cymeradwyo Gwariant Cyfalaf Ychwanegol i Dalu am Osod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan ac i Amrywio Rheolau Sefydlog Contractau yn y Weithdrefn Caffael
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i fynd ati i brynu pedwar pwynt gwefru cerbydau trydan ar safleoedd sy’n berchen i’r Awdurdod, ac i amrywio rheolau sefydlog contractau yn y weithdrefn caffael.

Dydd Mercher, 16 Hydref 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:
a) 4 Medi 2019
b) 11 Medi 2019 (Cyfarfod Anghyffredin)

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2019

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 4 Medi 2019

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
37/19 Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad Cynllunio APCAP 2018-19
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2018/19 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

38/19 Yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2019
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.

39/19 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Adran 6 (Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau) – Dogfen gyfeirio yr APCAP
Gofynnir i’r Aelodau drafod y dulliau a gymerir gan yr Awdurdod i wneud y ddyletswydd yn rhan annatod o’i fframwaith cynllunio corfforaethol, a chymeradwyo’r ddogfen gyfeirio.

40/19 Cyfraniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i wynebu heriau’r Argyfwng Newid Hinsawdd
Gwahoddir yr Aelodau i drafod yr adroddiad.

41/19 Y Polisi Amgylcheddol
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i Bolisi Amgylcheddol yr Awdurdod.

Dydd Mercher, 11 Medi 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Ystyried argymhelliad ar lafar y Pwyllgor Personél mewn perthynas ag apwyntiad Swyddog Monitro

Dydd Mercher, 4 Medi 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2019

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2019

8. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 5 Mehefin a 3 Gorffennaf 2019

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2019

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

32/19 Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Diben yr adroddiad yw dwyn yr ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft i sylw’r Aelodau. Bydd yr Awdurdod yn ymateb i’r ymgynghoriad ar sail Rhanbarth De-orllewin Cymru.

33/19 Ffermio Cynaliadwy a’n Tir
Diben yr adroddiad yw dwyn yr ymgynghoriad uchod ‘Ffermio Cynaliadwy a’n Tir’ i sylw’r Aelodau. Bydd yr Awdurdod yn ymateb i’r ymgynghoriad ar sail y tri Pharc.

34/19 Prosiect Cerdded er Lles Gorllewin Cymru
Gofynnir am gymeradwyaeth o ran y gweithdrefnau ariannol ar gyfer ymdrin â Phrosiect Cerdded er Lles Gorllewin Cymru.

35/19 Polisi Cyfle Cyfartal
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Polisi Cyfle Cyfartal yr Awdurdod.

36/19 Polisi Diogelu Data, Polisi Defnyddwyr TGCh a Pholisi Diogelu Data a Gwybodaeth yr Awdurdod
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Polisi Diogelu Data, Polisi Defnyddwyr TGCh a Pholisi Diogelu Data a Gwybodaeth yr Awdurdod.

Dydd Iau, 25 Gorffennaf 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
a) 5 Mehefin 2019 – Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol , a’r
b) 5 Mehefin 2019 – Cyfarfod Cyffredin

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 1 Mai 2019 a’r 5 Mehefin 2019

7. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 8 Mai 2019 a’r 5 Mehefin 2019

8. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 4 Mehefin a’r 5 Mehefin 2019

9. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 5 Mehefin a’r 12 Mehefin 2019

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

27/19 ADRODDIAD ISA260 I’R RHEINY SYDD Â CHYFRIFOLDEB LLYWODRAETHU.
Gwneir cyflwyniad ar Adroddiad ISA260 Swyddfa Archwilio Cymru: Cyfathrebu Ynghylch Datganiadau Cyllidol i’r rheiny sydd â Chyfrifoldeb Llywodraethu. Bydd Datganiad Cyfrifon yr Awdurdod 2018/19 hefyd yn cael ei gyflwyno i’w gadarnhau a’i lofnodi

28/19 ADRODDIAD BLYNYDDOL AR GYFLAWNI’R AMCANION LLESIANT (CYNLLUN GWELLA RHAN 2) 2018/19. O dan y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae’n ofynnol i’r Awdurdod gyhoeddi Cynllun Gwella Rhan 2 erbyn y 31ain o Hydref. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 hefyd yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i nodi ei Amcanion Llesiant a dangos sut mae’r amcanion hyn yn cyfrannu at saith Nod Llesiant Llywodraeth Cymru. O dan y ddeddfwriaeth rhaid i gyrff cyhoeddus bob blwyddyn gyhoeddi adroddiad blynyddol yn dangos y camau y maent wedi’u cymryd i gyflawni eu hamcanion. Hefyd rhaid iddynt ddangos sut maent wedi cymhwyso’r 5 ffordd o weithio dan yr egwyddor datblygu cynaliadwy, sef Hirdymor, Atal, Integreiddio, Cydweithio a Chynnwys

29/19 PENODI SWYDDOG MONITRO.
Mae’r papur yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i atal Rheolau Sefydlog yr Awdurdod er mwyn penodi Swyddog Monitro drwy gytundeb cydweithio yn hytrach na thrwy recriwtio agored

30/19 AELODAETH PWYLLGORAU A CHYRFF ALLANOL.
Cadarnhau aelodaeth o Bwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yr Awdurdod; Pwyllgor Cwynion, a’r Pwyllgor Apeliadau. Ystyried cynrychiolaeth yr Awdurdod ar y cyrff allanol canlynol: Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro

31/19 SIARTER CYMRU AR GYFER CEFNOGI A DATBLYGU AELODAU.
Gofyn i’r Aelodau fabwysiadu’r ffurfiol gyfres o ddisgrifiadau rôl a manylebau person, a’r Strategaeth Cefnogi a Datblygu Aelodau

 

Dydd Mercher, 5 Mehefin 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mai 2019

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 15 May 2019.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaehau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Mai 2019

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

23/19 DRAFFT YMGYNGHOROL CYNLLUN RHEOLI’R PARC CENEDLAETHOL 2020 – 2024
Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer drafft ymgynghorol Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2020-2024 ac ar gyfer tri asesiad drafft ymgynghorol ohono.

24/19 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL 2018/19 Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn gyfrwng ar gyfer dangos llwyddiant yr Awdurdod o ran gwelliant parhaus mewn perfformiad, a nodir ynddo systemau a phrosesau rheoli, gan dynnu sylw at faterion llywodraethu o bwys i fynd i’r afael â hwy. Dyma gyfle i’r Aelodau gyfrannu at gynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft ar gyfer 2018/19 a’i drafod

25/19 CYMERADWYO GRANTIAU YN UNOL AG ADRAN 78 O’R SAFONAU ARIANNOL Mae angen awdurdodiad yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (2016), sy’n datgan lle mae cyfanswm y grant a’r nawdd a delir o dan un cytundeb dros £10,000, rhaid cael cymeradwyaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

26/19 SAFONAU’R GYMRAEG: ADRODDIAD BLYNYDDOL Mae’n ofynnol i’r Awdurdod lunio Adroddiad Blynyddol erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn yn unol â Safonau 158, 164 a 170 o’r Hysbysiad Cydymffurfio, ac mae copi o’r adroddiad hwnnw yn atodedig.

 

Dydd Mercher, 5 Mehefin 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd P Harries

2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd Mrs D Clements

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

5. Ystyried adroddiad Rheolwr y Gwasanaethau Gweinyddol a Democrataidd ar Aelodaeth Pwyllgorau, Grwpiau a Chyrff Allanol
Mae’r adroddiad yn cadarnhau penodiad Aelodau i Bwyllgorau mewnol yr Awdurdod, Grwpiau a Chyrff Allanol.

 

Dydd Mercher, 8 May 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2019

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2019 & 25 Mawrth 2019.

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2019

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2019

9. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2019 a 10 Ebrill 2019

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2019.

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

16/19 Adroddiad Gwella Blynyddol 2018-19 Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwiliad Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac Archwiliad o Bartneriaethau a Chydweithrediadau
Derbyn adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar: Adroddiad Gwella Blynyddol 2018-19, ac Archwiliad Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac archwiliad o bartneriaethau a chydweithrediadau

17/19 Meysydd Parcio
I’r Aelodau ailgadarnhau eu cyfarwyddiadau i’r Awdurdod Priffyrdd i fwrw ymlaen â Gorchymyn Cyngor Sir Penfro (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd) Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2015 (Amrywio) Rhif 1 2019 erbyn tymor codi tâl am barcio 2020.

18/19 Cynllun Rheoli Cyrchfannau Sir Benfro 2019/20
Gofyn i’r Aelodau fabwysiadu’n ffurfiol Gynllun Rheoli Cyrchfannau Sir Benfro 2019-20 fel y brif ddogfen i lywio gwasanaethau mewn perthynas â thwristiaeth yn y sir.

19/19 Dyfarnu Cymorth Grant Ychwanegol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cymeradwyo’r gyllideb Refeniw a Chyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019/20, ac i greu cronfeydd wrth gefn priodol ac amrywiadau i weithdrefnau ariannol, sydd wedi deillio o’r grant ychwanegol a gafodd yr Awdurdod gan Lywodraeth Cymru.

20/19 Dirprwy Swyddog Monitro – cadarnhau penodiad.
Mae’r papur yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i wneud swydd y Dirprwy Swyddog Monitro yn barhaol.

21/19 Llechfeddiant Parc Trewent
Mae’r papur hwn yn cyflwyno’r achos dros drosglwyddo tir sy’n eiddo i APC i ddwylo preifat o dan ein polisi presennol ar gyfer rheoleiddio llechfeddiant hanesyddol er budd rheoli’r ystâd yn dda.

12. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

22/19 St Justinians – Rheoli Cyfleusterau Ymwelwyr yn y Dyfodol
Rhoi cyflwyniad i’r Aelodau am y pwnc dan sylw.

 

Dydd Mercher, 20 Mar 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2019

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2019.

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2019

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

09/19 Datganiadau o ddiddordeb gan Gynghorau Cymuned Amroth, Angle a Nolton a’r Garn ynghylch rheoli meysydd parcio cyhoeddus yn Amroth, West Angle a Nolton Haven
Mae’r adroddiad yn ystyried y datganiadau o ddiddordeb gan Gynghorau Cymuned Amroth, Angle a Nolton a’r Garn ynglŷn â rheoli’r meysydd parcio cyhoeddus yn Amroth, West Angle a Nolton Haven sy’n eiddo i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol ac a reolir gan yr Awdurdod.

10/19 Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2019/20.

11/19 Ymestyn Ffin Ardal Gadwraeth Dinbych-y-pysgod
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth i ymestyn ffin bresennol Ardal Gadwraeth Dinbych-y-pysgod a ddynodwyd yn 1971 a’i ymestyn yn 1996. Bydd yr Aelodau yn cofio cymeradwyo’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer yr ymestyn yng nghyfarfod yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yr y 13eg o Awst 2018.

12/19 Cais gan yr RNLI i Gynnal Gweithgareddau Codi Arian ar Draethau’r Parc Cenedlaethol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo caniatáu i’r RNLI godi arian ar chwech o draethau a reolir gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ac i ymestyn y cyfnod sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau codi arian gan yr RNLI.

13/19 Calendr Cyfarfodydd 2019/2020
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r calendr o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

14/19 Digwyddiadau Corfforaethol
Yn ystod blwyddyn, gwahoddir yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i fynychu amrywiol ddigwyddiadau corfforaethol. Mae mynychu digwyddiadau allanol yn rhan bwysig o ddyletswyddau’r Aelodau, a chydnabyddir bod galwadau eraill ar eu hamser, ond disgwylir y bydd yr Aelodau yn mynychu nifer o’r digwyddiadau hyn yn ystod eu tymor o wasanaeth gyda’r Awdurdod.

15/19 Cydnabyddiaeth Ariannol i’r Aelodau 2019/20
Mae’r Adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran y Cyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy i Aelodau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol 2019/20, ac yn gofyn am farn yr Aelodau ynglŷn â thalu’r cyfryw Gyflogau Uwch.

Dydd Mercher, 30 Ionawr 2019

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2018.

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018 a’r 5 Rhagfyr 2018.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2018.

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2018

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/19 Adolygu Dewisiadau Cyflogwyr mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i wneud newidiadau i’r penderfyniadau dewisol y mae’r Awdurdod yn eu mabwysiadu mewn perthynas â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

02/19 Oriel y Parc – Cytundeb Lefel Gwasanaeth gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Cytundeb Lefel Gwasanaeth newydd (CLG) rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru (AGC).

03/19 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2019/20
Mae’r adroddiad yn cyflwyno
Y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Drafft ar gyfer 2019/20 a’r rhagolygon 202/20 i 2023/24
Yr Ardoll Ddrafft 2019/20 ar Gyngor Sir Penfro
Dangosyddion Darbodus ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf
Datganiad ar y Strategaeth Buddsoddi a’r Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2019/20.

04/19 Cynllun Corfforaethol 2019/20
Gofyn i’r Aelodau wneud sylwadau ar y Cynllun Corfforaethol drafft 2019/20.

05/19 Adroddiad Cwmpasu Drafft ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gyfer Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020-2024
Gofyn am gymeradwyaeth i’r Adroddiad Cwmpasu drafft ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gyfer Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol (2020-2024) at ddibenion ymgynghori.

06/19 Y Strategaeth a Ffefrir gan Gyngor Sir Penfro ar gyfer eu Cynllun Datblygu Lleol 2 a’r Dogfennau Ategol
Gofynnir am gymeradwyaeth ffurfiol i gyflwyno ymateb ar y Strategaeth a Ffefrir gan Gyngor Sir Penfro ar gyfer eu Cynllun Datblygu Lleol 2 a’r dogfennau ategol.

07/19 Aelodaeth Fforwm Mynediad Lleol Sir Benfro
Penodi Aelod o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol i wasanaethu ar Fforwm Mynediad Lleol Sir Benfro am y tymor 2019-2021.

08/19 Cymorth a Datblygu Aelodau
Cytuno i sefydlu Pwyllgor Cymorth a Datblygu Aelodau i hyrwyddo’r Rhaglen Cymorth a Datblygu Aelodau.

Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2018

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2018
.
4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 5 Medi 2018 a’r 17 Medi 2018.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

43/18 Maniffesto Ieuenctid Europarc – galw am newid mewn cymunedau gwledig ac ardaloedd gwarchodedig
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar Faniffesto Ieuenctid Europarc, a lansiwyd yn ddiweddar yng Nghynhadledd Europarc Medi 2018 yn y Cairngorm, a chyfraniad Parcmyn Ieuenctid APCAP yn y gynhadledd honno.

44/18 Cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo (Newydd) a’r Newidiadau Ffocws a Dogfennau Ategol
Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth ffurfiol i gyflwyno’r dogfennau uchod i Lywodraeth Cymru ac i’r Arolygiaeth Gynllunio ynghyd ag awdurdod i gyhoeddi newidiadau ffocws ar gyfer sylwadau a symud y Cynllun ymlaen drwy Archwiliad.

45/18 Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer Sir Benfro
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y gwaith o baratoi ail Gynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer Sir Benfro (ROWIP2) ac yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo cyhoeddi’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy terfynol 2018-2028.

46/18 Adolygiad Blynyddol o Weithredu a Rheoli Safleoedd Meysydd Parcio yr Awdurdod sy’n Codi Tâl 2018
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar redeg meysydd parcio yr Awdurdod sy’n codi tâl yn ystod y 12 mis diwethaf ac yn amlinellu’r amcanion cyn y tymor codi tâl yn 2019.

47/18 Adroddiad diweddaru ar y bwriad i amrywio’r Gorchymyn Meysydd Parcio sydd eisoes yn bodoli yn barod ar gyfer dechrau’r tymor codi tâl yn y meysydd parcio yn 2019
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y camau gweithdrefnol a gymerwyd i amrywio’r Gorchymyn Parcio sydd eisoes yn bodoli yn barod ar gyfer dechrau tymor codi tâl yn y meysydd parcio yn 2019.

48/18 Y Bwriad i Ail-gerio Maes Parcio Traeth Marloes
Gofynnir i’r Aelodau ystyried ail-gerio prydles galwedigaethol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y safle uchod.

49/18 Yr Eiddo o’r enw ‘Furze Mill’ wrth ymyl Maes Parcio yr Awdurdod yn Nolton Haven
Gofynnir i’r Aelodau ystyried rheoleiddio llechfeddiant hanesyddol parhaus o dir yr Awdurdod.

50/18 Cronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF) – newidiadau i weinyddu’r gronfa
Mae’r adroddiad hwn yn hysbysu’r Aelodau o’r trefniadau newydd arfaethedig o weinyddu’r gronfa SDF.

51/18 Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019/20
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o Adroddiad Blynyddol drafft ymgynghorol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynglŷn â’r lefel arfaethedig o gyflogau Aelodau ar gyfer 2019/20 ac yn gofyn am eu barn ar hyn.

52/18 Adolygu’r Polisi Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i bolisi Iechyd a Diogelwch diwygiedig yr Awdurdod.

53/18 Adroddiad ar y Gwaith ar y Sarn, Llyn Melin Caeriw a Chastell Caeriw
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o sefyllfa bresennol y gwaith o gynnal a chadw Sarn Caeriw ac yn gofyn am gymorth ariannol i gynnal y rhwymedigaeth parhaus hwn. Mae’r adroddiad hefyd yn hysbysu’r Aelodau o’r gwaith a wneir i greu atyniad ymwelwyr rhagorol yng Nghastell Caeriw ac yn gofyn am gymorth ariannol pellach ar gyfer 2 welliant ymarferol.

Dydd Mercher, 3 Hydref 2018

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Awst 2018.

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 5 Medi 2018

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

38/18 Adroddiad Monitro Blynyddol 2018 ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn yr 31ain o Hydref 2018.

39/18 Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad Cynllunio yr APCAP
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2017/18 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn yr 31ain o Hydref 2018.

40/18 Cynllun Hyfforddiant Datblygu Aelodau
Gofynnir i’r Aelodau ystyried a chymeradwyo’r Cynllun Hyfforddiant ar Gefnogi a Datblygu Aelodau.

41/18 Amrywio’r Safonau Ariannol ar gyfer Caffael Argraffydd Rheoli Datblygu
Gofynnir i’r Aelodau gytuno i brynu sganiwr Oce newydd yn lle’r hen un.

42/18 Amrywio’r Rheolau Sefydlog ar gyfer Caffael Meddalwedd Rheoli Swyddi ESRI Arc ar-lein
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i amrywio Rheolau Sefydlog APCAP o ran caffael llwyfan meddalwedd masnachol oddi ar y silff sy’n rheoli swyddi ar gyfer y Tîm Rheoli Cefn Gwlad.

Mon, 13 Awst 2018

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:
a) 20 Mehefin 2018 – Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol, a’r
b) 20 Mehefin 2018 – Cyfarfod Cyffredin

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2018, 18 Mehefin 2018 a’r 20 Mehefin 2018.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2018

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
29/18 Adroddiad ISA260 i’r rheiny sydd â Chyfrifoldeb Llywodraethu
Gwneir cyflwyniad ar Adroddiad ISA260 Swyddfa Archwilio Cymru: Cyfathrebu Ynghylch Datganiadau Cyllidol i’r rheiny sydd â Chyfrifoldeb Llywodraethu. Bydd Datganiad Cyfrifon yr Awdurdod 2017/18 hefyd yn cael ei gyflwyno i’w gadarnhau a’i lofnodi.

30/18 Cynllun Gwella Rhan 2 a’r Adroddiad Blynyddol ar fodloni Amcanion Llesiant 2017/18
O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, mae’n ofynnol i’r Awdurdod gyhoeddi Cynllun Gwella Rhan 2 erbyn 31 Hydref. Mae hwn yn adrodd am y cynnydd ar sail y rhaglen waith a gynigir yng Nghynllun Corfforaethol ac Adnoddau’r Awdurdod 2017/18

31/18 Gwerthfawr a Chydnerth: Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o’r blaenoriaethau ar gyfer yr Awdurdod fel y’u pennwyd gan Lywodraeth Cymru.

32/18 Ardal Gadwraeth Dinbych-y-pysgod
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus i ymestyn ffin bresennol Ardal Gadwraeth Dinbych-y-pysgod.

33/18 Ystyried newid i’r Calendr o Gyfarfodydd ym mis Mawrth 2019
Gofynnir i’r Aelodau ystyried symud cyfarfodydd a drefnwyd ar 13 Mawrth 2019.

34/18 Aelodaeth Pwyllgor
Mae’r adroddiad yn chwennych cadarnhad o aelodaeth Pwyllgor Archwilio a Disgyblaeth; Pwyllgor Achwynion, a Phwyllgor Apeliadau’r Awdurdod.

35/18 Staciau’r Heligog a St Gofan: Y Diweddaraf am y Trafodaethau ar Adnewyddu’r Les
Gofynnir i’r Aelodau awdurdodi swyddogion i gofnodi adnewyddu’r les ar safleoedd Staciau’r Heligog a St Gofan ar y telerau a amlinellir yn yr adroddiad.

36/18 Cynllun Tanddaearu yn y Parrog, Trefdraeth
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynllun i danddaearu’r seilwaith trydan a ffôn yn y Parrog, Trefdraeth.

10. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

11. Ystyried yr adroddiad canlynol:

37/18 Y diweddaraf am werthu daliad tir yr Awdurdod a elwir Maes Carafannau’r Parc Cenedlaethol, Sageston

Dydd Mercher, 20 Mehefin 2018

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai 2018

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd a’r 25 Ebrill 2018

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Mai 2017

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Mai 2018

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

25/18 Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2020-2024
Gofynnir i’r Aelodau gadarnhau’r dulliau a gynigir o baratoi Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2020–2024.

26/18 Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn Sir Benfro
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y gwaith o baratoi ail Gynllun Gwella Hawliau Tramwy yn Sir Benfro ac yn ceisio eu cymeradwyaeth i’r cynllun drafft ar gyfer ymgynghori.

27/18 Cymeradwyo Grantiau yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (a Ddiwygiwyd yn 2012)
Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (2012) i wneud taliadau sy’n uwch na £10,000 i Fforwm Arfordir Sir Benfro ac i Gyngor Sir Penfro fel cyfraniad tuag at Bartneriaeth Lonydd Glas Sir Benfro.

28/18 Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol
Ar 30 Medi 2015, cyflwynodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiad Cydymffurfio i’r Awdurdod a oedd yn nodi pa Safonau’r Gymraeg y byddai’n rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio â hwy wrth gynnal ei fusnes, ac erbyn pa bryd y byddai’n rhaid iddo gydymffurfio â’r Safonau hynny. Fel sy’n ofynnol gan yr Hysbysiad, rhaid i’r Awdurdod lunio Adroddiad Blynyddol, a gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol er mwyn i’r Awdurdod ei gyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg.

 

 

Dydd Mercher, 20 Mehefin 2018

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Mrs G Hayward

2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Mr AE Sangster

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

5. Ystyried adroddiad Rheolwr y Gwasanaethau Gweinyddol a Democrataidd ar Aelodaeth Pwyllgorau, Grwpiau a Chyrff Allanol
Mae’r adroddiad yn cadarnhau penodiad Aelodau i Bwyllgorau mewnol yr Awdurdod, Grwpiau a Chyrff Allanol.

Dydd Mercher, 16 May 2018

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2018

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018 a 26 Mawrth 2018.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2018

8. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2018 a 18 Ebrill 2018

9. Cadarnhau penodiad Mr Rhys Stephens yn Swyddog Monitro’r Awdurdod o 21/05/2018 ymlaen

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

18/18 Ymgynghoriad ynghych Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10

19/18 Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Gofynnir i’r Aelodau gytuno a chymeradwyo’r dogfennau terfynol i sefydlu Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

20/18 Brandio’r Parc Cenedlaethol
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau roi eu cymeradwyaeth i greu brand unigryw pwrpasol ar gyfer y Parc Cenedlaethol a fydd yn wahanol i’r brand corfforaethol presennol ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP).

21/18 Y diweddaraf am waredu safle’r Awdurdod yn Stryd Hir, Trefdraeth
Gofynnir i’r Aelodau roi eu cymeradwyaeth i ddogfennu prydles newydd ar gyfer eiddo’r Awdurdod yn Stryd Hir, Trefdraeth.

22/18 Amrywio’r Gorchymyn Meysydd Parcio presennol yn barod ar gyfer dechrau tymor taliadau parcio 2019
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am benderfyniad i fwrw ymlaen i amrywio’r Gorchymyn Meysydd Parcio presennol yn barod ar gyfer dechrau tymor taliadau parcio 2019

23/18 Penodi Swyddog Diogelu Data
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo penodi Swyddog Diogelu Data ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

24/18 Cronfa Tirweddau’r Dyfodol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo gweithdrefnau ariannol sy’n ymwneud â thrin Cronfa Tirweddau’r Dyfodol.

Dydd Mercher, 28 Mar 2018

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2018

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2018.

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2018

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2018

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2018

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
06/18 Y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo (Newydd), yr Arfarniad Drafft o Gynaliadwyedd, Asesiad Drafft o’r Effaith ar Gydraddoldeb, Asesiad Drafft o’r Rheoliadau Cynefinoedd, yr Adroddiad ar yr Ymgynghori Cychwynnol
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo drafft (Newydd) ar gyfer ymgynghori, ynghyd â’r Arfarniad o Gynaliadwyedd, yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, yr Asesiad o’r Rheoliadau Cynefinoedd a’r Adroddiad ar yr Ymgynghori Cychwynnol.

07/18 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 17/18
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2017/18

08/18 Cynllun Corfforaethol 18/19
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol 2018/19.

09/18 Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Sir Benfro.

10/18 Diweddariad ar waredu adeilad yr Awdurdod ar Stryd Hir, Trefdraeth
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar waredu adeilad yr Awdurdod ar Stryd Hir, Trefdraeth.

11/18 Dirprwyo awdurdod i swyddogion wneud Gorchmynion Creu Llwybr Cyhoeddus a Gorchmynion Diddymu Llwybr Cyhoeddus
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo bod uwch swyddogion yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn dirprwyo awdurdod i aelodau unigol o staff wneud Gorchmynion Creu Llwybr Cyhoeddus a Gorchmynion Diddymu Llwybr Cyhoeddus.

12/18 Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd: Tirweddau Dynodedig
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r datganiad ar Dirweddau Dynodedig gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd.

13/18 Caffi Castell Caeriw
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ac yn gofyn am gymeradwyo gwariant cyfalaf ychwanegol o gronfeydd wrth gefn yr APCAP ar gyfer caffi ar ei newydd wedd yng Nghastell Caeriw.

14/18 Partneriaeth Moroedd Glân Cymru
Mae’r adroddiad yn argymell bod yr Awdurdod yn llofnodi’r Adduned Moroedd Glân ac yn ymuno â’r Bartneriaeth Moroedd Glân.

15/18 Calendr Cyfarfodydd 2018/2019
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r calendr o gyfarfodydd am y flwyddyn sydd i ddod.

16/18 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.

17/18 Cydnabyddiaeth Ariannol i’r Aelodau 2018/19
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar Gyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy i Aelodau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol am y flwyddyn ariannol 2018/19, ac yn gofyn am farn yr Aelodau ar dalu’r cyfryw Gyflogau Uwch.

 

Dydd Mercher, 7 Chwefror2018

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:
a) 29 Tachwedd 2017 a
b) 13 Rhagfyr 2017

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017, 20 Tachwedd 2017 a 13 Rhagfyr 2017.

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2017

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2017

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2017

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Personėl a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2017

11. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2017

12. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2017

13. Penodi Aelod ar y Pwyllgor Adolygu Gweithredol, y Pwyllgor Cwynion, Fforwm y Gweithwyr ac ar y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau i lenwi’r swyddi gwag yn sgîl ymadawiad Ms C Gwyther.

14. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/18 Cynllunio’r Gyllideb Ddrafft 2018/19
Mae’r adroddiad yn cyflwyno:
Y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Drafft ar gyfer 2018/19 a’r rhagolygon 2019/20 i 2022/23; Yr Ardoll Ddrafft 2018/19 ar Gyngor Sir Penfro; Dangosyddion Darbodus ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf; a Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2018/19.

02/18 Adnewyddu Yswiriant 2018/19
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo ymestyn trefniant yswiriant cyfredol yr Awdurdod ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20.

03/18 Cynllun Corfforaethol 18/19
Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau ar Gynllun Corfforaethol drafft 2018/19.

04/18 Ymgynghoriad ar ddogfen Comisiwn y Gyfraith ar y Gyfraith Gynllunio yng Nghymru
Mae’r adroddiad yn dod â’r ymgynghoriad hwn i sylw’r Aelodau ac yn gofyn am awdurdod dirprwyedig i’r swyddogion gwblhau’r cyflwyniad ymgynghori gan APCAP a hefyd gyflwyniad ar ran y 3 Parc Cenedlaethol yng Nghymru.

05/18 Codi Arian
Gofynnir i’r Aelodau gytuno i sefydlu Elusennau ar lefel leol a chenedlaethol.

Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Ystyried argymhelliad Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau mewn perthynas ag apwyntiad Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau (Adroddiad 57/17)
O dan Reoliad 16(2) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001, a’r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2006 gwahoddir yr Aelodau i ystyried a thalu sylw i argymhelliad Panel Apwyntiadau’r Pwyllgor Safonau a chwblhau’r broses o benodi Mr John Daniels.

Dydd Mercher, 29 Tachwedd 2017

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodiony cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2017

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017.

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Personėl a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

48/17 Swyddfa Archwilio Cymru – Adroddiad Gwella Blynyddol 2016-17
Mae’n ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 gyflwyno adroddiad ar y gwaith archwilio ac asesu o ran a yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyflawni ei ddyletswyddau a bodloni gofynion y Mesur. Gofynnir am sylwadau’r Aelodau ar yr Adroddiad Gwella Blynyddol 2015-16 a’r adolygiad sylfaenol o lywodraethu ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a gynhaliwyd yn 2016/17 y cyfeirir ato yn yr adroddiad.

49/17 Tystysgrif Cydymffurfiaeth ar gyfer Archwilio Asesiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o Berfformiad 2016-17
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn a rhoi sylwadau ar y Llythyr Asesu Perfformiad a dderbyniwyd yn ddiweddar oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

50/17 Ymgynghoriad ar Gynllun Llesiant Sir Benfro a Goblygiadau’r Amcanion a’r Ffrydiau Gwaith ar Weithgareddau’r Awdurdod
Diben yr adroddiad yw gofyn i’r Aelodau am unrhyw sylwadau neu safbwyntiau ar y cynllun drafft Llesiant Sir Benfro a’r goblygiadau i’r Awdurdod, i’w fwydo’n ôl i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

51/17 Diweddariad ar gael gwared ar eiddo’r Awdurdod yn Stryd Hir, Trefdraeth
Gofynnir i’r Aelodau awdurdodi’r Swyddogion i fwrw ymlaen â chael gwared ar fudd cyfreithiol yr Awdurdod yn ei eiddo ar Stryd Hir, Trefdraeth.

52/17 Gosod llinellau pŵer dan ddaear ar Benrhyn y Castell, Llanismael
Gofynnir am gymeradwyaeth yr Aelodau i’r bwriad o osod dan ddaear y llinellau pŵer sydd ar hyn o bryd uwchben y ddaear ar Benrhyn y Castell, Llanismael.

53/17 Adolygiad Blynyddol o Weithredu a Rheoli Safleoedd Meysydd Parcio yr Awdurdod 2017
Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan y Swyddogion dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys crynodeb o’r modd y cafodd meysydd parcio yr Awdurdod eu rhedeg yn ystod tymor codi tâl 2017, ac amlinellu amcanion blaenoriaeth cyn tymhorau codi tâl yn 2018 a 2019.

54/17 Adolygiad o Ffin Ardal Gadwraeth Porth-gain
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn ffin bresennol Ardal Gadwraeth Porth-gain a ddynodwyd yn 1997.

55/17 Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am Adroddiad Blynyddol drafft ymgynghorol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ar y lefel arfaethedig o gyflogau Aelodau yn 2018/19 ac yn gofyn am eu barn ar hynny.

56/17 Drafft o Strategaeth Iaith 2017 – 2022
Gofynnir i’r Aelodau fabwysiadu’r drafft o Strategaeth Iaith 2017 – 2022 fel strategaeth yr Awdurdod ar gyfer hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y Parc Cenedlaethol dros y 5 mlynedd nesaf.

11. Derbyn diweddariad gan y Prif Weithredwr ynghylch penodi Swyddog Monitro.

Dydd Mercher, 27 Medi 2017

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Awst 2017.

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 9 Awst 2017.

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
40/17 Adroddiad Monitro Blynyddol 2017 ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2017.

41/17 Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Adroddiad Blynyddol am Berfformiad) 2016/17
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol (Adroddiad Blynyddol am Berfformiad) Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2016/17 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2017.

42/17 Canolfan Groeso Trefdraeth
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau benderfynu ar ddyfodol Canolfan Groeso Trefdraeth a’r gwasanaethau cysylltiedig i ymwelwyr a’r gymuned.

43/17 Cynigion Datblygu Gardd Furiog Castell Caeriw
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo gwariant Cyfalaf o gronfeydd wrth gefn APCAP i adeiladu caffi yn yr Ardd Furiog yng Nghastell Caeriw (Cam 1) ynghyd â chwblhau cynigion yr Ardd Furiog gan gynnwys tirweddu, storfa newydd i ysgolion, strwythur ar lun pabell ac ati (Cam 2) pe byddai’r cais presennol am grant Croeso Cymru yn cael ei wrthod.

44/17 Sarn a Melin Heli Caeriw – Atgyweiriadau Statudol o dan y Ddeddf Cronfeydd
Mae’r adroddiad yn gofyn am arian cyfalaf i fwrw ymlaen â gwaith trwsio brys ar Sarn a Melin Heli Caeriw yn unol ag argymhelliad yr adroddiad yn dilyn yr archwiliad blynyddol statudol (2016).

45/17 Adroddiad Blynyddol 2016-17 y Gronfa Datblygu Cynaliadwy
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am yr adroddiad blynyddol,a’r ffeithiau allweddol sy’n ymwneud â gweithredu’r gronfa ym mlwyddyn ariannol 2016-17.

8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

46/17 Y diweddaraf am werthu daliad tir yr Awdurdod, sef Safle Carafannau y Parc Cenedlaethol yn Sageston
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo camau gweithredu’r Swyddogion i gael gwared ar ddaliad tir yr Awdurdod yn Sageston.

47/17 Trafodaethau ynghylch adleoli Pencadlys Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o Ddoc Penfro i Hwlffordd.
Mae’r adroddiad yn ceisio barn yr Aelodau am y trafodaethau i adleoli Pencadlys Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o Ddoc Penfro i Hwlffordd.

Dydd Mercher, 9 Awst 2017

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
a) 14 Mehefin 2017 – Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol a’r
b) 14 Mehefin 2017 – Cyfarfod Cyffredin

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 10 Mai 2017, 14 Mehefin 2017, 21 Mehefin 2017 a 3 Gorffennaf 2017.

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 28 Mehfin 2017

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 28 Mehfin 2017

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2017

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2017

10. Penodi Aelod i wasanaethu ar Banel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

31/17 Adroddiad ISA260 i’r rheiny sydd â Chyfrifoldeb Llywodraethu
Gwneir cyflwyniad ar Adroddiad ISA260 Swyddfa Archwilio Cymru: Cyfathrebu Ynghylch Datganiadau Cyllidol i’r rheiny sydd â Chyfrifoldeb Llywodraethu. Bydd Datganiad Cyfrifon yr Awdurdod 2016/17 hefyd yn cael ei gyflwyno i’w gadarnhau a’i lofnodi.

32/17 Blaenoriaethau Awdurdodau Parc Cenedlaethol 2017-18
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am y blaenoriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u pennu ar gyfer yr Awdurdod.

33/17 Cynllun Gwella Rhan 2 a’r Adroddiad Blynyddol ar fodloni Amcanion Llesiant 2016/17

O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, mae’n ofynnol i’r Awdurdod gyhoeddi Cynllun Gwella Rhan 2 erbyn 31 Hydref. Mae hwn yn adrodd am y cynnydd ar sail y rhaglen waith a gynigir yng Nghynllun Gwella Rhan 1 ar gyfer y flwyddyn 2016/17

34/17 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy
Diben yr adroddiad yw ceisio awdurdod dirprwyedig i Brif Weithredwr a Chadeirydd yr Awdurdod gyfrannu at a chyflwyno ymateb ar ran y tri Pharc i’r ymgynghoriad uchod. Y dyddiad cau yw 13 Medi 2017.

35/17 Adroddiad Asesiad Cam 1 WelTAG Niwgwl (Gorffennaf 2017)
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am ganlyniad Asesiad Cam 1 WelTAG ar gyfer ail-alinio’r ffordd yn Niwgwl, a wnaed gan Atkins ar ran Cyngor Sir Penfro, ac mae’n ceisio cymeradwyaeth i’r adroddiad fel ymateb ffurfiol yr Awdurdod hwn.

36/17 Eiddo a elwir yn ‘Woodside’ ac ‘Avalon’, Freshwater East
Mae’r papur hwn yn cyflwyno’r achos dros drosglwyddo tir sy’n eiddo i APC i berchnogaeth breifat o dan bolisi presennol yr Awdurdod ar gyfer rheoleiddio llechfeddiant hanesyddol er budd rheoli’r ystâd yn dda.

37/17 Cynllun Tanddaearu yn y Parrog, Trefdraeth
Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar gyfer y bwriad i danddaearu’r seilwaith trydan a teleffon presennol yn y Parrog, Trefdraeth.

38/17 Aelodaeth Pwyllgor
Mae’r adroddiad yn chwennych cadarnhad o aelodaeth Pwyllgor Archwilio a Disgyblaeth; Pwyllgor Achwynion, a Phwyllgor Apeliadau’r Awdurdod.

39/17 Penodi Swyddog Monitro
Diben yr adroddiad yw cytuno ar y broses o benodi Swyddog Monitro newydd pan fydd Mr John Parsons yn ymddeol ym mis Tachwedd 2017.

Dydd Mercher, 14 Mehefin 2017

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:
a) 29 Mawrth 2017
b) 17 Mai 2017

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd a’r 8 Chwefror 2017, 27 Chwefror 2017 a’r 22 Mawrth 2017

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2017

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd a’r 11 Ebrill 2017

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Mai 2017

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

23/17 Tirweddau’r Dyfodol Cymru
Diben yr adroddiad yw rhoi copi o adroddiad terfynol y rhaglen Tirweddau’r Dyfodol Cymru i’r Aelodau.

24/17 Asesiad Llesiant Sir Benfro
Diben yr adroddiad yw cyflwyno Asesiad Llesiant Sir Benfro i’r Aelodau, a cheisio cyfarwyddyd ar y blaenoriaethau ar gyfer yr Awdurdod wrth ddatblygu Cynllun Llesiant Sir Benfro.

25/17 Cynllun Archwilio 2017 Swyddfa Archwilio Cymru
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn Cynllun Archwilio 2017 gan Swyddfa Archwilio Cymru.

26/17 Ardaloedd Gwarchodedig Morol
Rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am gyfrifoldebau Awdurdod y Parc Cenedlaethol o ran Ardaloedd Gwarchodedig Morol.

27/17 Adolygiad o Ffiniau Ardaloedd Cadwraeth
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cadarnhau ffiniau presennol Ardaloedd Cadwraeth Angle, Caerfarchell, Ynys Bŷr, Aber Bach, Maenorbŷr, Trefdraeth, Parrog, Porthclew, Tyddewi, Saundersfoot, Solfach a Thre-fin.

28/17 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.

29/17 Adolygu’r Rheolau Sefydlog
Gofynnir i’r Aelodau fabwysiadu’r Rheolau Sefydlog diwygiedig sy’n atodedig i’r adroddiad.

30/17 Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol
Ar 30 Medi 2015, cyflwynodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiad Cydymffurfio i’r Awdurdod a oedd yn nodi pa Safonau’r Gymraeg y byddai’n rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio â hwy wrth gynnal ei fusnes, ac erbyn pa bryd y byddai’n rhaid iddo gydymffurfio â’r Safonau hynny. Fel sy’n ofynnol gan yr Hysbysiad, rhaid i’r Awdurdod lunio Adroddiad Blynyddol, a gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol er mwyn i’r Awdurdod ei gyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg.

Dydd Mercher, 14 Mehefin 2017

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Mrs G Hayward

2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Mr AE Sangster

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

5. Ystyried adroddiad Rheolwr y Gwasanaethau Gweinyddol a Democrataidd ar Aelodaeth Pwyllgorau, Grwpiau a Chyrff Allanol
Mae’r adroddiad yn cadarnhau penodiad Aelodau i Bwyllgorau mewnol yr Awdurdod, Grwpiau a Chyrff Allanol.

Dydd Mercher, 17 May 2017

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
21/17 Creadigaeth cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi, cymeradwyaeth gwariant cyfalaf ychwanegol ar y Tai Crwn yng Nghastell Henllys, a throsglwyddiadau cyllideb dros £20,000
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo creu cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi fel y nodir yn yr adroddiad, gwariant cyfalaf ychwanegol ar y Tai Crwn yng Nghastell Henllys a throsglwyddiadau cyllideb dros £20,000

22/17 Y Strategaeth a Ffefrir (Dogfennau’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd Cyn-Adneuo), Arfarniad Drafft o Gynaliadwyedd, Asesiad Drafft o’r Effaith ar Gydraddoldeb, Cofrestr o’r Safleoedd Ymgeisiol
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r strategaeth drafft a ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd Cyn-Adneuo ar gyfer ymgynghori. Hefyd gofynnir am gymeradwyo’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer ymgynghori.

Crynodeb o Adroddiad Ymgynghoriadau y CDLl

Tudalen we Strategaeth a Ffefrir http://www.pembrokeshirecoast.org.uk/default.asp?pid=795&LangID=2

Dydd Mercher, 29 Mar 2017

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2017

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2016

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol ar 15 Chwefror 2017

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy ar 25 Ionawr 2017

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

09/17 Cylch Gorchwyl Partneriaeth Natur Sir Benfro
Mabwysiadu Cylch Gorchwyl Partneriaeth Natur Sir Benfro, a ddiweddarwyd, y mae APCAP yn aelod allweddol o’r Bartneriaeth.

10/17 Cynllun Corfforaethol 2017/18
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol 2017/18.

11/17 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 16/17
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016/17

12/17 Tyddewi yn Ddinas Diwylliant
Trosolwg o gefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro i gais Tyddewi am fod yn Ddinas Diwylliant yn 2021

13/17 Cymeradwyo Grantiau yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (a Ddiwygiwyd yn 2012)
Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (2012) i wneud taliadau sy’n uwch na £10,000 i Fforwm Arfordir Sir Benfro ac i Gyngor Sir Penfro fel cyfraniad tuag at Bartneriaeth Lonydd Glas Sir Benfro.

14/17 Diweddariad ar Adnewyddu Prydles Sgowtiaid San Ffraid
Mae’r adroddiad yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau ar y camau ymlaen dros y flwyddyn ddiwethaf ar adnewyddu prydles San Ffraid.

15/17 Strategaeth ddrafft ar yr Iaith Gymraeg 2017 – 2022
Gofynnir i’r Aelodau gyflwyno sylwadau ar y drafft o Strategaeth yr Iaith Gymraeg 2017 – 2022 cyn cyhoeddi’r strategaeth at ddibenion ymgynghori.

16/17 Adolygu a Diwygio Dogfennau Cyfeirio y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF)
Yn dilyn adolygu dogfennau cyfeirio y gronfa SDF, gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r diwygiadau a wnaed i ddiweddaru’r Polisi SDF; Cylch Gorchwyl y Pwyllgor SDF; ac Amodau Grantiau SDF.

17/17 Cydnabyddiaeth Ariannol i’r Aelodau 2017/18
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar Gyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy i Aelodau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol am y flwyddyn ariannol 2017/18, ac yn gofyn am farn yr Aelodau ar dalu’r cyfryw Gyflogau Uwch.

18/17 Calendr Cyfarfodydd 2017/2018
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r calendr o gyfarfodydd am y flwyddyn sydd i ddod.

19/17 Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr
Gofynnir i’r Aelodau adolygu’r trefniadau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr, a mabwysiadu’r cynnig a nodir yn yr adroddiad.

9. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

10. Derbyn diweddariad ar gael gwared ar ddaliad Tir yr Awdurdod a elwir yn Safle Carafanau’r Parc Cenedlaethol, Sageston (Adroddiad 20/17)

Dydd Mercher, 1 Chwefror2017

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2016

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2016

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016

7. Penodi Aelodau ar y Pwyllgor Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol ac ar y Pwyllgor Adolygu Gweithredol ac ar Gynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru i lenwi’r swyddi gwag yn sgîl ymadawiad Mr D Ellis a Mrs M Thomas

8. Cytuno i symud dyddiad y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol o dDydd Mercher, y 7fed o Fehefin 2017 i dDydd Mercher, y 14eg o Fehefin 2017

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/17 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2017/18
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r canlynol:
Cyllidebau drafft Refeniw a Chyfalaf ar gyfer 2017/18 a’r rhagamcanion ar gyfer 2018/19 i 2021/22; Yr Ardoll ddrafft am 2017/18 ar Gyngor Sir Penfro; Dangosyddion darbodus ar gyfer y rhaglen gyfalaf; Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2017/18.

02/17 Canolfan Ymwelwyr Trefdraeth
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ymestyn y cyfnod o ymgysylltu â’r gymuned tan fis Awst 2017 ynglŷn â’r newidiadau posibl i ddarparu gwasanaethau i ymwelwyr yn Nhrefdraeth yn y dyfodol a chadw’r Ganolfan Ymwelwyr yn Nhrefdraeth ar agor am dymor 2017 ar ei hyd heb unrhyw newidiadau i’r lefelau presennol o wasanaeth a/neu i’r oriau agor.

03/17 System Rheoli Dogfennau – Caniatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i fynd ati i brynu system rheoli gwybodaeth i alluogi’r swyddogaeth gynllunio fod yn fwy effeithlon ac i ganiatáu i’r cyhoedd gael mynediad llawn ar-lein i geisiadau cynllunio.

04/17 Gweddarlledu
Mae’r Aelodau yn y gorffennol wedi gofyn i’r swyddogion ymchwilio i’r posibiliadau o weddarlledu cyfarfodydd yr Awdurdod. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r opsiynau sydd ar gael, ac yn ceisio barn yr Aelodau ynghylch a ddylai’r Awdurdod weddarlledu ei gyfarfodydd yn y dyfodol.

05/17 Agendâu Electronig
Gofynnir i’r Aelodau ystyried a ddylai papurau cyfarfodydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a’i Bwyllgorau barhau i gael eu darparu ar ffurf papur.

06/17 Adolygiad o Bwyllgorau yr Awdurdod Parc Cenedlaethol
Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i wneud sylwadau ar strwythur Pwyllgorau yr Awdurdod Parc Cenedlaethol.

07/17 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, ac yn ceisio awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr gymeradwyo Asesiad Llesiant a Chynllun Llesiant Sir Benfro a cheisio cymeradwyaeth yr Aelodau i gyfrannu tuag at gostau rhedeg y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

08/17 Prosiect Llwybrau Celtaidd INTERREG
Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb yr Aelodau bod yr Awdurdod yn cymryd rhan ac yn rhoi arian cyfatebol i brosiect Llwybrau Celtaidd INTERREG.

 

Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2016

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2016

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 7 Medi 2016

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2016

7. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd a 12 Hydref 2016 a 9 Tachwedd 2016

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2016

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol ar 9 Tachwedd 2016

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

59/16 Y Bartneriaeth Lonydd Glas – Adroddiad Blynyddol 2016
Mae’r adroddiad yn rhoi amlinelliad i’r Aelodau o ganlyniadau’r gwaith a wnaed gan Lonydd Glas Sir Benfro a nodwyd yn Adroddiad Blynyddol 2016.

60/16 Cynllun Corfforaethol 2017/18
Gofynnir i’r Aelodau roi eu sylwadau ar y Cynllun Corfforaethol drafft 2017/18.

61/16 Adolygu’r modd y mae Safleoedd Parcio Ceir yr Awdurdod yn cael eu Rhedeg a’u Rheoli
Adolygu’r modd y mae meysydd parcio yr Awdurdod yn cael eu rhedeg, a gwneud nifer o argymhellion gyda’r bwriad o wneud gwasanaethau parcio ceir yn gydnaws ag amcanion Cynllun Gwella yr Awdurdod.

62/16 Diweddariad ar y Cynlluniau ar gyfer Safle’r Parc Cenedlaethol yng Nghilrhedyn
Cyflwyno adroddiad ar y camau a gymerwyd i ffurfio partneriaeth rhwng Coed Cymru a Tir Coed i ymgymryd â’r gwaith o reoli Canolfan Goetir Cilrhedyn.

63/16 Arolwg o Farn Defnyddwyr y Llwybr Cefn Gwlad 2015-16
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am ganlyniadau’r arolwg o farn defnyddwyr y llwybr cefn gwlad a’r modd y defnyddir y wybodaeth hon i lywio’r modd y caiff Llwybr yr Arfordir a hawliau tramwy cyhoeddus yn y Parc Cenedlaethol eu datblygu a’u rheoli yn y dyfodol.

64/16 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol Drafft 2016/17
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ar y lefel arfaethedig o gyflogau’r Aelodau yn 2017/18 ac yn gofyn am eu barn ar hynny.

65/16 Adolygu’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy 2000-2016
Mae’r adroddiad yn adolygu’r cymorth ariannol a roddwyd i brosiectau rhwng 2000 a 2016. Gwnaed yr adolygiad yn dilyn cais gan y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol i ganfod a yw arian cyhoeddus wedi’i wario yn ddoeth ac a yw prosiectau a dderbyniodd gymorth ariannol yn dal i fodoli heddiw.

66/16 Darparu Gwybodaeth i Ymwelwyr (Trefdraeth a Dinbych-y-pysgod)
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad ar y broses ymgynghori ar newid y modd y caiff gwasanaethau gwybodaeth i dwristiaid eu cyflawni.

67/16 Adolygu’r Ardaloedd Dynodedig a’r Rhaglenni Gweithredu i fynd i’r afael â Llygredd Nitradau yng Nghymru
Cytuno ar ymateb yr APC i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr adolygiad uchod.

 

Dydd Mercher, 28 Medi 2016

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd a 10 Awst 2016

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2016

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2016

7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

49/16 Adroddiad Monitro Blynyddol 2016 ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Gofynnir am gymeradwyaeth i gyflwyno’r Adroddiad Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cymru. Dylai’r adroddiad asesu i ba raddau y mae strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu cyflawni.

50/16 Cynllun Datblygu Lleol: Canllawiau Cynllunio Atodol ar Rwymedigaethau Cynllunio
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau fabwysiadu dogfen newydd – Canllawiau Cynllunio Atodol ar Rwymedigaethau Cynllunio. Bydd y ddogfen hon yn disodli canllawiau cynllunio atodol cyfredol yr Awdurdod ar rwymedigaethau.

51/16 Cynllun Datblygu Lleol: Canllawiau Cynllunio Atodol ar Safleoedd Geoamrywiaeth Pwysig y Rhanbarth
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth i ychwanegu safle arall yn y canllawiau uchod a fabwysiadwyd yn wreiddiol fis Hydref 2011.

52/16 Darparu Gwybodaeth i Ymwelwyr (Trefdraeth a Dinbych-y-pysgod)
Gofynnir i’r Aelodau gytuno ar ffocws o’r newydd i waith yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gefnogi’r economi ymwelwyr yn Sir Benfro.

53/16 Amrywio Gorchmynion Sefydlog Contractau a Chreu Cronfa Wrth Gefn wedi’i neilltuo i wneud Cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer y Rhaglen Sgiliau ar Waith II
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo amrywio Gorchmynion Sefydlog yr Awdurdod ar Gontractau i ganiatáu allanoli’r ymarferiad caffael o ran y gwaith o atgyweirio wal gynnal y gilffordd ar lôn Point House, Angle. Hefyd gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo neilltuo cronfa wrth gefn o £15,000 i wneud cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer y cam nesaf o’r rhaglen Sgiliau ar Waith.

54/16 Adroddiad Blynyddol Cronfa Datblygu Cynaliadwy 2015-16
Mae Adroddiad Blynyddol Cronfa Datblygu Cynaliadwy yn rhoi gwybodaeth am hynt y Gronfa, gan gynnwys y Grant Bach Gwyrdd, yn ystod y cyfnod o Ebrill 2015 hyd at fis Mawrth 2016.

55/16 Ardal Gadwraeth Solfach – Cadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4(2)
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) o ran y tir yn ardal gadwraeth Solfach, a nodi’r Cyfarwyddyd ffurfiol.

56/16 St Justinian – Rheoli’r Cyfleusterau i Ymwelwyr yn y Dyfodol
Cyflwyno adroddiad i’r Aelodau ar ganlyniad y gwaith a wnaed gan Fforwm Arfordir Sir Benfro.

57/16 Tystysgrif Cydymffurfio ar gyfer Archwilio Cynllun Gwella Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2016-17
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn a gwneud sylwadau ar y Llythyr Asesu Gwelliant a dderbyniwyd yn ddiweddar oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

58/16 Swyddfa Archwilio Cymru – Adroddiad Gwelliant Blynyddol 2015-16
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn a gwneud sylwadau ar Adroddiad Gwelliant Blynyddol 2015-16 oddi wrth yr Archwilydd Cyffredinol.

8. Cytuno ar gymorth yn y dyfodol i Ironman Cymru.

Dydd Mercher, 10 Awst 2016

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
a) 15 Mehefin 2016 – Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol a’r
b) 15 Mehefin 2016 – Cyfarfod Cyffredin

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 ac 15 Mehefin 2016

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd a 25 Mai 2016

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 29 Mehfin 2016

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
37/16 Adroddiad ISA260 i’r rheiny sydd â Chyfrifoldeb Llywodraethu
Gwneir cyflwyniad ar Adroddiad ISA260 Swyddfa Archwilio Cymru: Cyfathrebu Ynghylch Datganiadau Cyllidol i’r rheiny sydd â Chyfrifoldeb Llywodraethu. Bydd Datganiad Cyfrifon yr Awdurdod 2015/16 hefyd yn cael ei gyflwyno i’w gadarnhau a’i lofnodi.

38/16 Cronfeydd Prosiectau Llwybrau a Rhywogaethau Goresgynnol
Amcan yr adroddiad yw sicrhau cymeradwyaeth i greu cronfeydd wedi’u clustnodi i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer prosiectau Llwybrau a Phwyth mewn Pryd yr Awdurdod.

39/16 Cynllun Datblygu Lleol: Safleoedd Cais
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo tair dogfen sy’n rhan o’r broses Safleoedd Cais ar gyfer Diwygio Cynllun Datblygu Lleol: ffurflen cyflwyno Safleoedd Cais, Nodiadau Cyfarwyddyd i gynorthwyo ymgeiswyr i lenwi’r ffurflen a Methodoleg Safleoedd Cais sy’n gosod allan sut fydd yr Awdurdod yn asesu’r safleoedd.

40/16 Newidiadau i’r cynllun dirprwyo – cynllunio
I ddiweddaru’r cynllun dirprwyo gyda golwg ar faterion cynllunio o ran swyddogion y rhoddir iddyn nhw awdurdod dirprwyo ac ystyriaeth o ddiwygiadau cais nad ydyn nhw’n berthnasol

41/16 Cynllunio – canlyniadau arolwg cwsmer
Mae’r adroddiad yn cynghori Aelodau o ganlyniad yr arolwg cwsmer cynllunio diweddar.

42/16 Estyniad i Dymor Penodiad Aelodau Ymgynghorol ar Bwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy
I ofyn i’r Aelodau i gytuno ar estyniad deuddeg mis i gyfnod penodiad yr Aelodau Ymgynghorol Presennol o’r Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF), a benodwyd ym mis Awst 2012 am gyfnod o bedair blynedd. Mae angen estyniad i ganiatáu adolygiad cynhwysfawr o’r Polisi a’r Cyfarwyddyd cyn ail-benodi’r Aelodau Ymgynghorol neu ddewis aelodau newydd am gyfnod penodiad i’w benderfynu gan yr Awdurdod wedi’r adolygiad.

43/16 Cynllun Tanddaearu Porthgain
Mae’r adroddiad yn gofyn am sêl bendith yr Aelodau ar gyfer y tanddaearu arfaethedig o’r llinellau pŵer presennol uwchben ym Mhorthgain.

44/16 Cytundeb Creu Llwybr Cyhoeddus, Solfa.
Mae’r adroddiad yn chwennych cymeradwyaeth yr Aelodau i dalu iawndal i’r tirfeddiannwr sydd wedi neilltuo’r hawl dramwy gyhoeddus, gan fod y tirfeddiannwr, mewn gwirionedd, yn aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cynghorydd Lyn Jenkins.

45/16 Archwiliad Sgiliau Aelodau
I gynnal archwiliad sgiliau Aelodau er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru yn ystod yn broses o benodi Aelodau maes o law.

46/16 Aelodaeth o’r Pwyllgor Safonau
Mae’r adroddiad hwn yn deisyf i’r Aelodau benodi Aelod a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i’r Pwyllgor Safonau i olynu Mrs Gwyneth Hayward.

47/16 Aelodaeth Pwyllgor
Mae’r adroddiad yn chwennych cadarnhad o aelodaeth Pwyllgor Archwilio a Disgyblaeth; Pwyllgor Achwynion, a Phwyllgor Apeliadau’r Awdurdod.

48/16 Diweddariad ar Gynlluniau gogyfer Safle’r Parc Cenedlaethol yng Nghilrhedyn
Fe gofia’r Aelodau fod Cyfarfod yr Awdurdod ym mis Chwefror 2016 wedi cytuno i barhau i gydweithio mewn partneriaeth â Choed Cymru a Thir Coed i ganfod ffordd newydd o ddefnyddio’r ganolfan ac i ostwng costau i’r Awdurdod. Mae’r bartneriaeth wedi symud mlân o ran datblygu cynlluniau a chanfod grantiau i gynorthwyo datblygiad eu gwaith ac wedi cyflwyno adroddiad dros dro.

Dydd Mercher, 15 Mehefin 2016

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2016

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2016 a’r 9 Mai 2016

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2016

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Mai 2016

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

25/16 Adroddiad Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol a’r Cytundeb Cyflawni
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo dwy ddogfen, yr Adroddiad Adolygu a’r Cytundeb Cyflawni. Bydd y Cytundeb Cyflawni yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. Mae’r ddwy ddogfen wedi bod yn destun ymgysylltu ac ymgynghoriad o wyth wythnos. Ynghlwm wrth yr adroddiad mae’r sylwadau a gafwyd am bob dogfen, a’r camau gweithredu a gynigir.

26/16 Adroddiad Cwmpasu drafft yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol newydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Cwmpasu terfynol yr Arfarniad o Gynaliadwyedd sy’n atodedig. Ynghlwm wrth yr adroddiad mae’r sylwadau a gafwyd ar Adroddiad Cwmpasu drafft yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r camau gweithredu a gynigir.

27/16 Cynllun Corfforaethol 2016/17
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2016/17

28/16 Cynllun Gwella Rhan 2
O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, mae’n ofynnol i’r Awdurdod gyhoeddi Cynllun Gwella Rhan 2 erbyn 31 Hydref. Mae hwn yn adrodd am y cynnydd ar sail y rhaglen waith a gynigir yng Nghynllun Gwella Rhan 1 ar gyfer y flwyddyn 2015/16.

29/16 Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 – 2020
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 – 2020

30/16 Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol yr Awdurdod a gafodd ei adolygu gan yr Aelodau yn y Pwyllgorau Adolygu Gwasanaethau Archwilio a Chorfforaethol ym mis Mai a mis Mehefin 2016.

31/16 Cyllid ychwanegol ar gyfer Prosiectau Datblygu Cynaliadwy
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo rhyddhau £21,390.50 o’r gronfa SDF i gefnogi dau brosiect SDF newydd a Grant Bach Gwyrdd ychwanegol.

32/16 Newidiadau i God Ymddygiad yr Aelodau
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am y newidiadau arfaethedig i God Ymddygiad yr Aelodau, sydd eu hangen yn sgil Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016. Argymhellir bod yr Awdurdod yn gwneud newidiadau i God Ymddygiad yr Aelodau yn unol ag adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a bydd angen i’r Awdurdod eu mabwysiadu erbyn 26 Gorffennaf 2016.

33/16 Rheoleiddio Llechfeddiant dros dir sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym Mhoppit.
Mae’r adroddiad yn gofyn am benderfyniad yr Aelodau ynghylch trosglwyddo tir sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol i berchnogaeth leol o dan ein polisi presennol ar gyfer rheoleiddio llechfeddiant hanesyddol ar sail rheoli ystadau yn dda.

34/16 Adolygiad o Ardaloedd Cadwraeth ac Ystyried Cyfarwyddydau Erthygl 4 i Leihau Hawliau Datblygu Penodol a Ganiateir sy’n effeitho ar Ansawdd Ardaloedd Cadwraeth.
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i wneud Cyfarwyddydau yn unol ag Erthygl 4(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 fel y’i diwygiwyd (‘y Gorchymyn’) o ran Ardal Gadwraeth Solfach.

35/16 Strategaeth Datblygu Economaidd ddrafft Sir Benfro a Chynllun Gweithredu 2016-2021
Gwahoddir yr Aelodau i roi sylwadau ar y Cynllun uchod sy’n cael ei baratoi gan Gyngor Sir Penfro.

36/16 Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol
Ar 30 Medi 2015, cyflwynodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiad Cydymffurfio i’r Awdurdod a oedd yn nodi pa Safonau’r Gymraeg y byddai’n rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio â hwy wrth gynnal ei fusnes, ac erbyn pa bryd y byddai’n rhaid iddo gydymffurfio â’r Safonau hynny. Fel sy’n ofynnol gan yr Hysbysiad, rhaid i’r Awdurdod lunio Adroddiad Blynyddol, a gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol er mwyn i’r Awdurdod ei gyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg.

Dydd Mercher, 15 Mehefin 2016

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiadau derbyniedig: Cynghorydd M James
Mr AE Sangster

2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Mrs G Hayward

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

5. Ystyried adroddiad Rheolwr y Gwasanaethau Gweinyddol a Democrataidd ar Aelodaeth Pwyllgorau, Grwpiau a Chyrff Allanol
Mae’r adroddiad yn adolygu penodiad Aelodau i Bwyllgorau mewnol yr Awdurdod, Grwpiau a Chyrff Allanol ac yn galw am gadarnhad o’r penodiadau hynny

Dydd Mercher, 27 Apr 2016

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2016

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

19/16 Y Cynllun Datblygu Lleol: Canllawiau Cynllunio Atodol Rhwymedigaethau Cynllunio
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno Canllawiau Cynllunio Atodol Rhwymedigaethau Cynllunio i’w hystyried gan yr Awdurdod. Mae’n ceisio cymeradwyaeth o’r cynnwys cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mai.

20/16 Y Cynllun Datblygu Lleol: Canllawiau Cynllunio Atodol Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwys Rhanbarthol
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth i ychwanegu safle arall at y canllawiau uchod a fabwysiadwyd ym mis Hydref 2011, ac i gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig i ymgynghori yn eu cylch.

21/16 Trosglwyddiadau dros £20,000 ym mlwyddyn ariannol 2015 /16
Gofynnir i’r aelodau gymeradwyo’r trosglwyddiadau’r uchod a wnaed ym mlwyddyn ariannol 2015/16 yn unol â’r rhestrau atodedig

22/16 Cymeradwyaethau Grant yn unol ag adran 78 o’r Safonau Ariannol (Diwygiwyd 2012)
Mae angen cymeradwyaeth yn unol ag adran 78 o’r Safonau Ariannol (2012) sy’n datgan, pan fo cyfanswm gwerth grant a nawdd mewn unrhyw un cytundeb dros £10,000, bod yn rhaid cael caniatâd Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

23/16 APCAP a hynt gosodiadau ynni adnewyddadwy
Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg i’r Aelodau o’r modd y mae’r gwaith o ddarparu gosodiadau ynni adnewyddadwy yn dod ymlaen ar dir yr Awdurdod ac yn ei adeiladau, a hefyd i ddangos y modd y gallai ynni adnewyddadwy ar eiddo’r Parc gynhyrchu incwm.

24/16 Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio 2014-2015
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw’r Aelodau at berfformiad adran gynllunio Awdurdod y Parc Cenedlaethol o gymharu ag awdurdodau cynllunio eraill yn ystod y cyfnod 2014-2015.

Dydd Mercher, 16 Mar 2016

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2016

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2016 a’r 2 Mawrth 2016

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2016

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2016

8. Cadarnhau cyfansoddiad Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr am y flwyddyn 2016

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
09/16 Adroddiad Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol a’r Cytundeb Cyflawni
Gofynnir i’r Aelodau nodi dwy ddogfen, sef yr Adroddiad drafft o’r Adolygiad, a’r Cytundeb Cyflawni drafft, a gaiff eu dosbarthu’n fwy eang ar gyfer cael sylwadau a mewnbwn.

10/16 Adroddiad Cwmpasu drafft yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol newydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Cwmpasu drafft ar gyfer ymgynghori.

11/16 Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 – 2020
Gofyn i’r Aelodau fynegi barn am Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 – 2020 cyn i’r cynllun gael ei gyhoeddi i ymgynghori yn ei gylch.

12/16 Ffioedd cyn ymgeisio a chodi tâl
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw’r Aelodau at y gofynion am wasanaeth cyn ymgeisio statudol fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n argymell dechrau codi tâl am y gwasanaeth cyn ymgeisio o 1 Ebrill 2016 ymlaen.

13/16 Adnewyddu Prydles Sgowtiaid Sain Ffraid
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo bod y Sgowtiaid yn parhau i ddefnyddio tir ac adeiladau yn Sain Ffraid drwy adnewyddu eu prydles ar delerau cyfoes a fyddai’n cynnwys darpariaeth i’r Sgowtiaid ymestyn ôl troed y bythynnod ar eu traul eu hunain, ar yr amod eu bod yn cael pob caniatâd statudol angenrheidiol.

14/16 Ymgyngoriadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru/y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddar ynghylch materion llywodraethu
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybdaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch ymgyngoriadau “technegol” ar fuddiant Aelodau o dan y Cod Ymddygiad ac ar ddiwygiadau i bwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru drwy gyfrwng Bil newydd yr Ombwdsmon.

15/16 Calendr Cyfarfodydd 2016/2017
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo calendr o gyfarfodydd am y flwyddyn sydd ar ddod.

16/16 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.

17/16 Cyflogau’r Aelodau 2016/17
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am benderfyniadau Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Annibynnol Cymru o ran y cyflogau i’w talu i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol am y flwyddyn ariannol 2016/17 ac i ofyn barn yr Aelodau am dalu’r fath Gyflogau uwch.

10. Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am dendr caffi Oriel y Parc

11. Derbyn cyflwyniad gan Visit Pembrokeshire

12. Derbyn cyflwyniad gan Gyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Dydd Mercher, 3 Chwefror2016

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2015

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2015, 11 Tachwedd 2015 a 16 Rhagfyr 2015
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2015

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2015

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2015

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/16 Swyddfa Archwilio Cymru: Cyflawni â Llai: Gwasanaethau Cynllunio
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am yr adroddiad terfynol a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ar yr archwiliad ar wasanaethau Cynllunio APCAP. Mae’r awdur, Mr Rob Hathaway o’r Swyddfa Archwilio, wedi’i wahodd i fynychu’r cyfarfod hwn i siarad ar yr eitem.

02/16 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2016/17
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r canlynol:
 Cyllidebau drafft Refeniw a Chyfalaf ar gyfer 2016/17 a’r goblygiadau o ran y cronfeydd wrth gefn.
 Yr Ardoll ddrafft am 2016/17 ar Gyngor Sir Penfro.
 Dangosyddion darbodus ar gyfer y rhaglen gyfalaf.
 Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2016/17.

03/16 Diweddariad ar y Safonau Ariannol
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Safonau Ariannol a ddiweddarwyd ac sy’n cael eu hadolygu bob pedair blynedd.

04/16 Canllawiau’r Cyngor Sir ar Weithredu Premiwm Treth y Cyngor ar Gartrefi Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi
Mae Cyngor Sir Penfro wedi gofyn am farn yr Awdurdod hwn ar gyflwyno premiwm treth y cyngor, a gofynnir i’r Aelodau drafod a chytuno ar ymateb yr Awdurdod.

05/16 Cynllun Corfforaethol 2016/17
Gofynnir i’r Aelodau roi sylwadau ar y copi drafft o Gynllun Corfforaethol 2016/17.

06/16 Cynllun Gweithredu i gyflawni Argymhellion y Cyd Bwyllgor Craffu ar effaith polisïau a gwaith yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ar weithgaredd economaidd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Eryri
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Gweithredu.

07/16 Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wasanaethau Cynnal
Mae’r papur hwn yn argymell sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyflawni Gwasanaethau Cynnal.

10. Derbyn diweddariad ar Gilrhedyn.

Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2015

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 23 Medi 2015

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 12 Awst 2015, 24 Awst 2015 a 30 Medi 2015
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 9 Medi 2015

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2015

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

46/15 Defnyddio Safle’r Parc Cenedlaethol yng Nghilrhedyn, Llanychâr yn y dyfodol
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â chynnig bod partneriaeth rhwng Coed Cymru a Tyr Coed yn prydlesu rhan o safle’r Parc Cenedlaethol yng Nghilrhedyn a bod y Parc yn torri nôl ymhellach ar y gweithrediadau yn y ganolfan goetir.

47/15 Gweithrediadau o ran Meysydd Parcio
Mae’r adroddiad yn cyflwyno canlyniadau gwaith y grŵp Gorchwyl a Gorffen o Aelodau ar feysydd Parcio o ran newidiadau i’r modd y rheolir meysydd parcio yr Awdurdod.

48/15 Safle Hostel Ieuenctid yn Skrinkle Haven: Gwaredu’r Rhyddfraint
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i werthu rhyddfraint safle’r Hostel Ieuenctid a’r ffordd fynediad i Skrinkle Haven i’r Gymdeithas Hostelau Ieuenctid.

49/15 Safle’r Clwb Carafanau yn Freshwater East: Adnewyddu Prydles a Gwaith Uwchraddio’r Safle
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ildio ac adnewyddu prydles y Clwb Carafanau i gynnwys caniatâd y Landlord i’r Clwb Carafanau wneud gwaith uwchraddio cyfleusterau’r safle ar gost o £1.2m yn ystod misoedd y gaeaf hwn.

50/15 Polisi Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Polisi Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo.

51/15 Adolygu Tirweddau Dynodedig
Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad uchod, gwahoddir yr Aelodau i roi adborth ac i drafod y camau nesaf.

52/15 Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2016/17
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynglŷn â’r lefel arfaethedig o gyflogau’r Aelodau ar gyfer 2016/17.

Dydd Mercher, 23 Medi 2015

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 29 Gorffennaf 2015

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2015
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2015

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodaua gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2015

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

46/15 Swyddfa Archwilio Cymru – Cynllun Gwella Blynyddol
Mae’r adroddiad hwn ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru i adrodd am y gwaith archwilio ac asesu ynghylch a yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyflawni ei ddyletswyddau ac wedi bodloni gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

47/15 Cynllun Gwella 2014/15 Rhan 2
O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, mae’n ofynnol i’r Awdurdod gyhoeddi Cynllun Gwella Rhan 2 erbyn yr 31ain o Hydref. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r camau ymlaen a gymerwyd yn erbyn y rhaglen waith a gynigiwyd yn y Cynllun Gwella Rhan 1 am y flwyddyn 2014/15

48/15 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Canllawiau Statudol
Gofynnir i’r Aelodau gyflwyno sylwadau ar y canllawiau drafft hyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru

49/15 Adroddiad Monitro Blynyddol 2014 ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol sydd ynghlwm ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn yr 31ain o Hydref 2015

50/15 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyrdd; Gwella’r Cyfleoedd i gael Mynediad i’r Awyr Agored ar gyfer Gweithgareddau Hamdden Cyfrifol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad y mae copi drafft ohono ynghlwm wrth yr adroddiad hwn

51/15 Gwerthuso’r Treialu o Gynnal Cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu bob 6 wythnos yn hytrach na bob mis
Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso canfyddiadau’r cyfnod treialu o gynnal cyfarfodydd y pwyllgor rheoli datblygu bob 6 wythnos yn hytrach na bob mis. Casgliad yr adroddiad yw bod y treialu, i bob golwg, wedi bod yn llwyddiant ac felly argymhellir parhau yn barhaol i gynnal cyfarfodydd y pwyllgor rheoli datblygu bob 6 wythnos

52/15 Cyfarwyddyd Erthygl 4 i Leihau Hawliau Datblygu Penodol a Ganiateir sy’n Effeithio ar Ansawdd Ardal Gadwraeth Little Haven
Gofynnir i’r Aelodau gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) o ran tir o fewn Ardal Gadwraeth Little Haven

53/15 Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau
O dan Reoliad 16(2) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001, a’r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2006 gwahoddir yr Aelodau i ystyried a thalu sylw i argymhelliad Panel Apwyntiadau’r Pwyllgor Safonau a chwblhau’r broses o benodi Mrs Victoria Tomlinson

54/15 Adolygiadau o Ddatblygiad Personol yr Aelodau: Adolygu’r Broses
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo proses ddiwygiedig o glustnodi anghenion yr Aelodau o ran cymorth a datblygiad

55/15 Proffil Economaidd Sir Benfro
Roedd Cyngor Sir Penfro wedi comisiynu Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol i lunio Proffil Economaidd o Sir Benfro. Mae copi o’u hadroddiad terfynol wedi’i gynnwys fel Atodiad i’r adroddiad

56/15 Polisi Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Polisi Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn

57/15 Adroddiad ISA260 i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu
Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud cyflwyniad ynghylch ei Hadroddiad ISA260: Gohebiaeth ynghylch datganiadau ariannol i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu

Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2015

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr:
a) 17 Mehefin 2015 (CBC)
b) 17 Mehefin 2015 (Cyfarfod Cyffredin)

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 27 Mai 2015 a 17 Mehefin 2015
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar:
a) 6 Mai 2015, a
b) 8 Gorffennaf 2015

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2015

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

36/15 Datganiad Cyfrifon Drafft 2014/15
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon Drafft am y flwyddyn 2014/15. Er gwybodaeth yn unig y mae’r datganiad, a gofynnir i’r Aelodau nodi’r cynnwys.

37/15 Adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol – Diweddariad o’r Rheoliadau
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddi’r rheoliadau a’r canllawiau diwygiedig ar yr adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol fel y gofynnwyd yn y Pwyllgor Adolygu Gweithredol ar y 1af o Orffennaf 2015.

38/15 Melin Caeriw – To Newydd
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth i fwrw ymlaen â’r gwaith o osod to newydd ar Felin Caeriw. Amcangyfrif o’r gost yw rhyw £65,000.

39/15 Buddsoddwyr mewn Pobl
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau benderfynu a ddylai’r Awdurdod geisio cadw ei achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl o eleni ymlaen.

40/15 Ymgynghori ar Bapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru; Gwella’r Cyfleoedd i gael Mynediad i’r Awyr Agored ar gyfer Gweithgareddau Hamdden Cyfrifol
Mae’r adroddiad hwn yn dwyn y Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar i sylw’r Aelodau, ac yn gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i baratoi ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad.

41/15 Fferm Treginnis, Tyddewi: y bwriad i roi’r gwifrau pŵer uwchben presennol dan ddaear
Gofynnir am gymeradwyaeth yr Aelodau i’r bwriad i roi’r gwifrau pŵer uwchben presennol dan ddaear ar Fferm Treginnis, Tyddewi

42/15 Pen Dinas: y bwriad i roi’r gwifrau pŵer uwchben presennol dan ddaear
Gofynnir am gymeradwyaeth yr Aelodau i’r bwriad i roi’r gwifrau pŵer uwchben presennol dan ddaear yn y Cwm rhwng Cwmyreglwys a Phwllgwaelod, Pen Dinas

43/15 Adroddiad terfynol ar y prosiect Mosaic Cymru
Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r adroddiad terfynol ar werthuso’r prosiect tair blynedd Mosaic Cymru a ariannwyd gan y Loteri Fawr.

44/15 Aelodaeth Pwyllgorau
Diben yr adroddiad hwn yw cadarnhau aelodaeth o’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu, y Pwyllgor Cwynion, a’r Pwyllgor Apeliadau.

45/15 Safonau’r Gymraeg: Ymgynghori ar Hysbysiad Cydymffurfio
Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau ar yr hysbysiad cydymffurfio drafft a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn unol ag Adran 47 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011

9.Ystyried adroddiad terfynol a chanfyddiadau Cyd Grŵp Craffu y Parciau Cenedlaethol ar yr Economi.

Dydd Mercher, 17 Mehefin 2015

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 06 Mai 2015

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2015

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2015

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2015

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 20 Mai 2015

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2015

11. Cyflwyno Siarter Aelodau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan Sarah Titcombe, Cynghorydd Datblygu Sefydliadol a Phersonol, CLlLC

12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

27/15 Y Bwriad i werthu Bwthyn y Ceidwad Calch, Y Parrog, Trefdraeth
Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i werthu rhyddfraint Bwthyn y Ceidwad Calch ar y Parrog, Trefdraeth i Gymdeithas Cychod Afon Nyfer AC Harbwr Trefdraeth i ategu eu gwaith parhaus o reoli angori yn yr harbwr.

28/15 Erthygl 4 Cyfarwyddiadau i Leihau Hawliau Datblygu Penodol a Ganiateir sy’n effeithio ar Ansawdd Ardaloedd Cadwraeth Trefdraeth a Dinbych-y-pysgod
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i gadarnhau Cyfarwyddiadau yn ôl Erthygl 4(2) o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 fel y’i diwygiwyd (‘y Gorchymyn’) mewn perthynas ag Ardaloedd Cadwraeth Trefdraeth a Dinbych-y-pysgod.

29/15 Adolygiad o Ardaloedd Cadwraeth ac Ystyried Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Aber Bach i Leihau Hawliau Datblygu Penodol a Ganiateir sy’n effeithio ar Ansawdd yr Ardal Gadwraeth
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i wneud Cyfarwyddiadau yn ôl Erthygl 4(2) o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 fel y’i diwygiwyd (‘y Gorchymyn’) mewn perthynas ag Ardal Gadwraeth Aber Bach.

30/15 Llythyr sy’n amlinellu Blaenoriaethau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn 2015-2016 oddi wrth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru.
Hysbysu’r Aelodau am y blaenoriaethau ar gyfer yr Awdurdod a glustnodwyd gan Lywodraeth Cymru.

31/15 Cofrestr Risg
Gofyn i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf

32/15 Cynllun Iaith Gymraeg: Adroddiad Monitro Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau gadarnhau Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Iaith Gymraeg.

33/15 Protocol Gwneud Penderfyniadau Lleol gan Aelodau
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r trefniadau ar gyfer gwneud arolwg o’r Protocol Gwneud Penderfyniadau Lleol gan Aelodau

34/15 Cymeradwyo Grantiau yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (Diwygiwyd 2012)
Mae’n ofynnol cael caniatâd yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (2012) sy’n nodi lle mae taliad o ‘Gyfanswm gwerth y Grant a’r Nawdd o dan un cytundeb yn fwy na £10,000’, bod rhaid cael cymeradwyaeth yr Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Yn y flwyddyn ariannol gyfredol mae dau daliad yn dod o fewn y categori hwn: taliad o £14,033 i Fforwm Arfordir Sir Benfro i helpu i integreiddio a rheoli gweithgaredd arfordirol, ac yn ail, taliad o rhyw £72k i Gyngor Sir Penfro fel cyfraniad tuag at Bartneriaeth Lonydd Glas Sir Benfro.

35/15 Adolygu Cyrchfan Sir Benfro
Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau ar yr opsiynau ar gyfer rheoli dyfodol Cyrchfan Sir Benfro ac awgrymu unrhyw faterion all fod angen mynd i’r afael â hwy fel rhan o drafodaethau parhaus y bartneriaeth ynglŷn â darparu’r gwasanaethau twristiaeth yn y dyfodol yn Sir Benfro.

13. Derbyn cyflwyniad ar y llun gan Constable sydd i’w arddangos yn Oriel y Parc y flwyddyn nesaf.

14. Derbyn diweddariad ar Adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar Welliant Blynyddol a Chyflawni â Llai (Gwasanaethau Cynllunio)

Dydd Mercher, 17 Mehefin 2015

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiadau derbyniedig: Cynghorydd M James
Mr AE Sangster

2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Mr D Ellis

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

5. Ystyried adroddiad y Rheolwr Gweinyddol a Gwasanaethau Aelodau ar Aelodaeth Pwyllgorau, Grwpiau a Chyrff Allanol
Mae’r adroddiad yn adolygu penodiad Aelodau i Bwyllgorau mewnol yr Awdurdod, Grwpiau a Chyrff Allanol ac yn galw am gadarnhad o’r penodiadau hynny

Dydd Mercher, 6 May 2015

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2015

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

23/15 Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft ar gyfer 2014/15
Y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw’r cyfrwng i ddangos llwyddiant yr Awdurdod o ran cyflawni gwelliant parhaus mewn perfformiad, clustnodi systemau a phrosesau rheoli, ac amlygu materion o bwys o ran llywodraethu sydd i dderbyn sylw. Dyma gyfle i’r Aelodau gyfrannu at gynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2014/15, a’i drafod.

24/15 Strategaeth Grwpiau Gorchwyl a Gorffen
Mae’r papur hwn yn argymell Cylch Gwaith Grwpiau Gorchwyl a Gorffen ac yn cynnig sefydlu dau grŵp.

25/15 Cyfoeth Naturiol Cymru – Ymgynghori ar Ddiweddariadau i’r Cynlluniau Rheoli Basn Afon
Mae’r adroddiad hwn, sydd er gwybodaeth i’r Aelodau, yn nodi ymateb yr Awdurdod i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddiweddariadau i’r Cynlluniau Rheoli Basn Afon.

26/15 Arolwg o Ansawdd Awyr y Nos, 2015 – Drafft Terfynol
Mae’r adroddiad yn cyflwyno arolwg o Ansawdd Awyr y Nos yn y Parc Cenedlaethol i’r Aelodau ei gadarnhau, ac yn cynnig y camau nesaf,.

7. Trafod yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig gyda Mr John Lloyd Jones, Aelod o’r Panel sy’n gwneud yr adolygiad.

8. Derbyn diweddariad ar y sefyllfa staffio.

Dydd Mercher, 25 Mar 2015

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:
a) 4 Chwefror 2015
b) 4 Mawrth 2015

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2015 a 2 Chwefror 2015
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2015

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2015

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar yr 30 Ionawr 2015

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Chwefror, 2015

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2015

11. Cadarnhau cyfansoddiad Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr am y flwyddyn 2015

12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

08/15 Archwiliad Mewnol 2014/15
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion am yr Archwiliad Mewnol o Wasanaethau’r Awdurdod a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Gyngor Sir Penfro.

09/15 Trwyddedau a Gymeradwywyd yn unol ag Adran 78 ac Amrywiad i Adran 72 yn unol ag Adran 73 o’r Safonau Ariannol (Diwygiedig 2012)
Gofynnir am ganiatâd yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (2012) sy’n nodi lle bo taliad o drwydded o dan gytundeb y mae cyfanswm y gwerth dros £10,000 rhaid cael cymeradwyaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

10/15 Trosglwyddiadau dros £20,000 yn 2014/15 a 2015/16 a’r Cynnydd o ran Sicrhau Arbedion Strategol yn y Gyllideb
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r trosglwyddiadau ym mlwyddyn ariannol 2014/15 a’r rhai hyd yn hyn ar gyfer 2015/16

11/15 Cynllun Gwella 2015/16 – Rhan 1
Gofyn i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Gwella 2015/16 Rhan 1.

12/15 Polisi Iechyd a Diogelwch Diwygiedig
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Polisi Iechyd a Diogelwch diwygiedig fel y’i cymeradwywyd gan y Pwyllgor Personél

13/15 Cyflog Byw
Yn eu cyfarfodydd yn ddiweddar trafodwyd y mater hwn gan y Fforwm Gweithwyr a’r Pwyllgor Personél a chymeradwywyd y cynnig i’r Aelodau ei drafod a’i gymeradwyo.

14/15 Dogfen Cyd-ganllawiau Cynllunio Atodol: Galluogi Datblygu Cynaliadwy ym Mharciau Cenedlaethol Cymru
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus uchod, ac yn argymell bod yr Aelodau yn mabwysiadu’r dogfennau canllaw at ddibenion rheoli datblygu.

15/15 Yr Adolygiad o Ardaloedd Cadwraeth ac ystyried Cyfarwyddydau Erthygl 4 i Leihau Hawliau Datblygu a Ganiateir Penodol sy’n Effeithio ar Ansawdd Ardaloedd Cadwraeth.
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am ganiatâd i wneud Cyfarwyddydau yn unol ag Erthygl 4(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 fel y’i diwygiwyd (‘y Gorchymyn’) mewn perthynas ag Ardaloedd Cadwraeth Dinbych-y-pysgod a Threfdraeth.

16/15 Grwpiau Gorchwyl a Gorffen Strategaeth yr Aelodau
Papur trafod yw hwn sy’n argymell creu un neu ragor o Grwpiau Gorchwyl a Gorffen Strategaeth yr Aelodau i lywio cyfeiriad gwasanaethau’r Awdurdod yn y dyfodol.

17/15 Adolygiad o Dirweddau Dynodedig
Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am Adolygiad Llywodraeth Cymru o Dirweddau Dynodedig.

18/15 Calendr Cyfarfodydd 2015/2016
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo calendr o gyfarfodydd am y flwyddyn sydd ar ddod.

19/15 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.

20/15 Cyflogau’r Aelodau 2015/16
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am benderfyniadau Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Annibynnol Cymru o ran y cyflogau i’w talu i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol am y flwyddyn ariannol 2015/16 ac i ofyn barn yr Aelodau am dalu’r fath Gyflogau uwch.

21/15 Cynllun Mentora Aelodau
Mae’r adroddiad yn gofyn am farn yr Aelodau ynghylch cyflwyno Cynllun Mentora Aelodau i annog grwpiau a dangynrychiolir i gymryd rhan mewn llywodraeth leol.

22/15 Gorchymyn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Parcio Oddi ar y Stryd) 2015
I ystyried y gwrthwynebiadau a ddaeth i law a chymeradwyo’r camau nesaf.

Dydd Mercher, 4 Mar 2015

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Deryn adroddiad ar hynt a helynt y trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Solfach ynglŷn â diwygio telerau’r cytundeb rheoli ar gyfer maes parcio Solfach Isaf.

Dydd Mercher, 4 Chwefror2015

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2014

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 3 Rhagfyr 2014 a 7 Ionawr 2015
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Cyflwyno Siarter Aelodau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan Sarah Titcombe, Cynghorydd Datblygu Sefydliadol a Phersonol, CLlLC

7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/15 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2015/16
Mae’r adroddiad (i ddilyn) yn cyflwyno’r canlynol:
 Cyllidebau drafft Refeniw a Chyfalaf ar gyfer 2015/16 a’r goblygiadau o ran y cronfeydd wrth gefn.
 Yr Ardoll ddrafft am 2015/16 ar Gyngor Sir Penfro.
 Dangosyddion darbodus ar gyfer y rhaglen gyfalaf.
 Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2015/16.

02/15 Trefniadau Meysydd Parcio ar gyfer 2015
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r trefniadau ynglŷn â meysydd parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan ofyn am benderfyniadau ar nifer o newidiadau posibl.

03/15 Tystysgrif Cydymffurfio â’r Mesur Llywodraeth Leol
Gofynnir i’r Aelodau nodi derbyn y Dystysgrif Cydymffurfio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â’r Awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Mesur Llywodraeth Leol a hynny yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyflawni ei ddyletswyddau.

04/15 Cyfamodau Cadwraeth
Mae’r adroddiad yn gofyn am i’r Aelodau gytuno mewn egwyddor y gall swyddogion drafod cyflwyno Cyfamodau Cadwraeth yn wirfoddol gyda thirfeddianwyr fyddai â diddordeb i ddiogelu safleoedd o ansawdd uchel yn y tymor hir. Byddai unrhyw gynnig unigol i gael cymeradwyaeth y Tîm Rheoli a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol.

05/15 Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Drafft 2015 – Ymateb i’r Ymgynghori
Gofynnir i’r Aelodau gytuno i ymateb yr Awdurdod i Lywodraeth Cymru ar yr ymgynghori ar Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Drafft 2015.

06/15 Rhaglen Buddsoddi mewn Llifogydd a’r Arfordir
Mae’r adroddiad yn gofyn am i’r Aelodau gytuno ar ymateb yr Awdurdod i Lywodraeth Cymru ar yr ymgynghori ar y Rhaglen Buddsoddi mewn Llifogydd a’r Arfordir.

07/15 Erthygl 4 Cyfarwyddiadau i Leihau Hawliau Datblygu Penodol a Ganiateir sy’n effeithio ar Ansawdd Ardal Gadwraeth Tyddewi
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth i gadarnhau Cyfarwyddiadau yn unol ag Erthygl 4(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (‘y Gorchymyn’ fel y’i diwygiwyd yn 2013) mewn perthynas ag Ardal Gadwraeth Tyddewi, fel cynllun peilot.

Dydd Mercher, 17 Rhagfyr 2014

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 5ed o Dachwedd 2014

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 22ain o Hydref 2014
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 12fed o Dachwedd, 2014

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar y 12fed o Dachwedd, 2014

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y PPwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar yr 19eg o Dachwedd, 2014

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

65/14 Cynllun Gwella 2015/16 – Rhan 1
Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau ar y Cynllun Gwella 2015/16 Rhan 1.

66/14 Fframwaith Llywodraeth Cymru ar Berfformiad Cynllunio
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r fframwaith newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ar berfformiad cynllunio fydd yn dod i rym fis Ionawr 2015.

67/14 Ymgynghoriadau ynghylch Bil Cynllunio (Cymru)
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r ymateb hwn gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i gyfres o ymgynghoriadau ar y Bil Cynllunio (Cymru) a’r is-ddeddfwriaeth arfaethedig. Mae’r ymatebion drafft wedi’u paratoi ar ran y tri Awdurdod Parc Cenedlaethol.

68/14 Diwygio’r trefniadau o ddirprwyo swyddogaethau i swyddogion i ymgorffori proses gynllunio newydd – Cymeradwyo Diwygiadau Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio sy’n Bod Eisoes
Mae’r adroddiad yn cynnig darpariaethau newydd / diwygiedig yn y trefniadau presennol o ddirprwyo i swyddogion i sicrhau bod y broses a’r weithdrefn sy’n ymwneud â chymeradwyo ‘diwygiadau ansylweddol’ yn dod o fewn cylch gwaith y cynllun a gymeradwywyd.

69/14 Cynllun Rheoli Drafft Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2015-19 – Adroddiad ar yr Ymgynghori
Cyflwyno adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghori yn ddiweddar ar Gynllun Rheoli drafft y Parc Cenedlaethol 2015-19 a cheisio cymeradwyaeth i’r newidiadau a argymhellir.

70/14 Adroddiad Blynyddol y Swyddog Monitro
Mae’r adroddiad yn nodi natur a chefndir yr adroddiadau a wnaed gan y Swyddog Monitro yn ystod y flwyddyn.

71/14 Ymgynghori â’r Gymuned
Cyflwyno diweddariad i’r Aelodau ar ganlyniadau’r gweithgareddau yn ddiweddar ar yr ymgynghori â’r cyhoedd a wnaed gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i lywio blaenoriaethau’r gyllideb a’r gwasanaethau yn y dyfodol.

72/14 Adroddiad ar Strategaeth a Chynllun Gweithredu Parciau Cenedlaethol Cymru ar Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant – Diwygio Cynllun Gweithredu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Gweithredu diwygiedig Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant 2014-16.

Dydd Mercher, 5 Tachwedd 2014

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 24ain o Fedi 2014

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 10fed a ‘r 22ain o Fedi 2014
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar y 17eg o Fedi, 2014

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar y 17eg o Fedi, 2014

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar yr 15fed o Hydref, 2014

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar yr 22ain o Hydref, 2014

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

55/14 Gorchymyn Parcio Oddi ar y Stryd
Gofynnir i’r Aelodau gadarnhau mai Cyngor Sir Penfro sy’n gwneud y Gorchymyn Parcio Oddi ar y Stryd newydd ar ran yr Awdurdod hwn.

56/14 Cenedlaethau’r Dyfodol – Mabwysiadwyr Cynnar
Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y prosiect ‘Mabwysiadwyr Cynnar’ sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a fydd yn cynorthwyo nifer o awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer y Bil Cenedlaethau’r Dyfodol.

57/14 Cynrychioli’r Awdurdod ar Gyrff Allanol
Mae’r adroddiad yn cynnig disgrifiad o’r rôl a’r protocol perthnasol ar gyfer Aelodau a benodwyd i gynrychioli’r Awdurdod ar gyrff allanol.

58/14 Adroddiad Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynghylch lefel arfaethedig cyflogau’r Aelodau ar gyfer 2015/16.

59/14 Adolygu gweithdrefnau pan fydd Aelodau yn gwneud penderfyniadau cynllunio yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu sy’n groes i argymhellion swyddogion
Mae’r adroddiad yn cynnig proses newydd sy’n ymwneud â’r Pwyllgor Rheoli Datblygu pan fydd yr Aelodau’n glir am ganlyniadau eu penderfyniadau. Nid yw hyn yn ymwneud â phenderfyniadau gan Aelodau ynghylch paratoi ac adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol. Os cyfyd materion tebyg, yna byddai angen cytuno ar ddull o weithredu sydd wedi’i deilwra ar gyfer yr amgylchiadau.

60/14 Newidiadau i Ran 24 Hawliau Datblygu a Ganiateir (Telathrebu)
Mae’r adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau i Ran 24 hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gweithredwyr Codau Cyfathrebu Electronig gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014.

61/14 Dogfen Canllawiau Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy (Canllawiau Diwygiedig)
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am yr ymatebion a ddaeth i law ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus uchod, ac yn argymell bod yr Aelodau’n mabwysiadu’r canllawiau at ddibenion rheoli datblygu. Mae’r canllawiau yn disodli’r canllawiau presennol a fabwysiadwyd ar 30 Mawrth 2011. Mae’r canllawiau wedi bod mewn grym at ddibenion rheoli datblygu ers 1 Gorffennaf 2014, fel canllawiau dros dro i helpu i ddarparu tai fforddiadwy.

62/14 Bil Cynllunio (Cymru)
Cynorthwyo’r Aelodau i werthfawrogi a deall y Bil Cynllunio (Cymru), a’r is-ddeddfwriaeth arfaethedig sy’n gysylltiedig ag ef.

63/14 Y Bil Cynllunio – Galwad am Dystiolaeth
Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ymgynghori ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru) fel rhan o’r broses graffu yng Nghyfnod 1. Mae’r Bil yn ceisio pwerau i’r Gweinidog eu gweithredu drwy is-ddeddfwriaeth a pholisi. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys ymateb arfaethedig gan y tri Awdurdod Parc Cenedlaethol i’r Aelodau gytuno arno.

64/14 Adolygiad o dirweddau dynodedig
Cytuno ar ymateb Parc Cenedlaethol Cymru.

Dydd Mercher, 24 Medi 2014

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 6fed o Awst 2014

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 30ian o Orffennaf 2014
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau Cynaliadwy a gynhaliwyd ar yr 22ain o Awst, 2014

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

44/14 Adroddiad ISA260 i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu
Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud cyflwyniad ynghylch ei Hadroddiad ISA260: Gohebiaeth ynghylch datganiadau ariannol i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu.

45/14 Ymateb y tri Awdurdod Parc Cenedlaethol i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch Nodyn Cyngor Technegol Drafft 1: Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai
Pwrpas yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i’r ymateb atodedig i Lywodraeth Cymru ynghylch ei hymgynghoriad ar y fersiwn ddiwygiedig o Nodyn Cyngor Technegol 1 sy’n ymwneud â Chyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai.

46/14 Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft
Pwrpas yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ymgynghori ynghylch y canllawiau cynllunio atodol drafft “Galluogi Datblygiadau Cynaliadwy ym Mharciau Cenedlaethol Cymru” a luniwyd i gefnogi polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol.
Adroddiad tystiolaeth

47/14 Adroddiad Monitro Blynyddol 2014 ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r Awdurdod yn llunio’r Adroddiad Monitro Blynyddol bob mis Hydref. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar y flwyddyn ariannol flaenorol, rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth, ac mae’n asesu i ba raddau y mae strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu cyflawni.

48/14 Ymdrin â Chwynion
Mae’r adroddiad yn awgrymu newidiadau i lyfryn Safonau Gwasanaeth yr Awdurdod.

49/14 Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau
Mae’r adroddiad yn argymell penodi Ms Judith Wainwright yn Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau.

50/14 Strategaeth a Chynllun Gweithredu ar gyfer Gwirfoddolwyr
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r fersiwn ddiwygiedig o Strategaeth a Chynllun Gweithredu APCAP ar gyfer Gwirfoddolwyr.

51/14 Adolygiad o Ardaloedd Cadwraeth ac ystyried Cyfarwyddiadau Erthygl 4 i leihau Hawliau Datblygu Penodol a Ganiateir sy’n effeithio ar ansawdd yr Ardal Gadwraeth.
Mae’r adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i wneud Cyfarwyddiadau yn unol ag Erthygl 4(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (y ‘Gorchymyn’ fel y’i diwygiwyd yn 2013) mewn perthynas ag Ardal Gadwraeth Tyddewi, fel peilot.

52/14 Cymeradwyaeth Grantiau yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (a Ddiwygiwyd yn 2012)
Gofynnir am gymeradwyaeth yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (2012) sy’n nodi lle telir ‘Grant a Nawdd sy’n dod i gyfanswm o dan unrhyw un cytundeb o fwy na £10,000’, bod rhaid cael cymeradwyaeth yr Awdurdod Parc Cenedlaethol.

53/14 Rheoliadau Pensiwn a Digolledu
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r fersiwn ddiwygiedig o’r polisi ynghylch pensiynau a digolledu.

54/14 Datganiad Polisi Tirweddau Gwarchodedig
Hysbysu’r Aelodau am y Datganiad Polisi ar gyfer Tirweddau Gwarchodedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar (i ddilyn).

Dydd Mercher, 6 Awst 2014

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr:

a) 11eg o Fehefin 2014 (CBC)

b) 11eg o Fehefin 2014 (Cyfarfod Cyffredin)

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 21ian o Fai 2014, 9fed o Fehefin 2014, 11fed o fehefin 2014 and 18fed o Fehefin 2014

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr Cynaliadwy a gynhaliwyd ar y 29ain o Fai, 2014

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar y 9fed o Orffennaf, 2014

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar yr 16eg o Orffennaf, 2014

37/14 ISA260 Adroddiad i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethiant (adroddiad i ddilyn)
Bydd cyflwyniad yn cael ei wneud gan Swyddfa Archwilio Cymru am ei Adroddiad

38/14 Cynllun Gwella 2013/14 Rhan 2
Diben yr adroddiad hwn yw monitro’r cynnydd ar sail y rhaglen waith a gynigir yn Rhan 1 y Cynllun Gwella ar gyfer blwyddyn 2013/14

39/14 Deddfwriaeth i gymeradwyo gwelliannau amherthnasol i Ganiatâd Cynllunio presennol
Diben yr adroddiad hwn yw hysbysu’r Aelodau am ddeddfwriaeth newydd sy’n cyflwyno gweithdrefn ffurfiol ar gyfer cymeradwyo gwelliannau amherthnasol i ganiatâd cynllunio presennol.

40/14 Diogelu Plant ac Oedolion Agored i Niwed
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Datganiad Diogelu.

41/14 Adroddiad am y diweddaraf o ran sut y mae’r Awdurdod yn gweithio gydag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eraill i sicrhau nawdd masnachol
Diben yr adroddiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y trafodaethau yn y 15 Awdurdod Parc Cenedlaethol ynghylch sut i gydweithio i sicrhau nawdd masnachol.

42/14 Aelodau’r Pwyllgorau
Diben yr adroddiad hwn yw cadarnhau aelodaeth Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu’r Awdurdod; y Pwyllgor Cwynion; y Pwyllgor Apelau a’r Grŵp Gwelliant Parhaus.

43/14 Is-brydles Blaendraeth Harbwr Abercastell
Ceisio penderfyniad yr Aelodau i roi prydles y blaendraeth yn Abercastell i Gwmni Buddiant Cymdeithasol Perchnogion Cychod Abercastell i ddarparu ar gyfer rheoli gweithgareddau angori yn yr harbwr.

Dydd Mercher, 11 Mehefin 2014

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
a) y 2ail o Ebrill, 2014, a’r
b) 16eg o Ebrill 2014

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 16eg o Ebrill 2014
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar yr 21ain o Ebrill, 2014

7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

29/14 Swyddfa Archwilio Cymru – Cynllun Gwella Blynyddol
Mae’r adroddiad hwn ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru i adrodd am y gwaith archwilio ac asesu ynghylch a yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyflawni ei ddyletswyddau ac wedi bodloni gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

30/14 Adolygiad o Gynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer fersiwn ddrafft o Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2015-19, a’i asesiadau effaith cysylltiedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

31/14 Diweddariadau Technegol i Gynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2009-13: Adroddiad am Ymgynghoriadau 2014.
Adrodd am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y diweddariadau technegol i Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol (2009-13).

32/14 Ymgynghori ar Strategaeth Ddŵr i Gymru
Cytuno ar ymateb y Parciau Cenedlaethol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Strategaeth Ddŵr i Gymru.

33/14 Canllawiau Cynllunio Atodol y Cynllun Datblygu Lleol: Drafft Newydd ar gyfer Ymgynghori – Tai Fforddiadwy
Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ymgynghori ar ganllawiau cynllunio atodol newydd ar dai fforddiadwy i gefnogi polisiau’r Cynllun Datblygu Lleol.

34/14 Cynllun Ymgysylltu Cymunedol
Rhoi Strategaeth Ymgysylltu Cymunedol diweddaraf i’r Aelodau a thynnu sylw at waith a wnaed i adolygu dull gweithredu’r sefydliad o ran ymgysylltu cymunedol yn y tymor hir.

35/14 Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Iaith Gymraeg
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r adroddiad fel cyflwyniad yr Awdurdod i Gomisiynydd y Gymraeg.

36/14 Adolygu Pwyllgorau: Cylch Gorchwyl
Gwahoddir yr Aelodau i gytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Adolygu Gwasanaethau Archwilio a Chorfforaethol a’r Pwyllgor Adolygu Gweithredol.

8. Cael y diweddaraf am Brosiect Cynllunio Llywodraeth Cymru: Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Cydweithio ym maes Cynllunio.

Dydd Mercher, 11 Mehefin 2014

Lawrlwythwch y cofnodion

CYFARFOD BLYNYDDOL CYFFREDINOL

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd M James

2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Mr AE Sangster

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

5. Ystyried adroddiad y Rheolwr Gweinyddol a Gwasanaethau Aelodau ar Aelodaeth Pwyllgorau, Grwpiau a Chyrff Allanol
Mae’r adroddiad yn adolygu penodiad Aelodau i Bwyllgorau mewnol yr Awdurdod, Grwpiau a Chyrff Allanol ac yn galw am gadarnhad o’r penodiadau hynny

Dydd Mercher, 16 Apr 2014

Lawrlwythwch y cofnodion

  1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
  2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
  3. Ystyried adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu ar gynnig Budd Cymunedol ynglŷn â Chynllun Gwres a Phŵer Cyfunedig South Hook LNG

Dydd Mercher, 2 Apr 2014

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 5ed o Chwefror, 2014

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 13eg o Ionawr 2014, 22ain o Ionawr 2014, 19eg o Chwefror 2014 a 10fed o Fawrth 2014 (Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar y 29ain o Ionawr, 2014

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 12fed o Chwefror, 2014

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio a gynhaliwyd ar y 19eg o Chwefror, 2014

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Craffu a gynhaliwyd ar yr 21ain o Chwefror, 2014

10. Cadarnhau cyfansoddiad Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr am y flwyddyn 2014

11.Ystyried yr adroddiadau canlynol:

17/14 Archwiliad Mewnol 2013/14
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion am yr Archwiliad Mewnol o Wasanaethau’r Awdurdod a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Gyngor Sir Penfro.

18/14 Cynllun Gwella 2014/15 – Rhan 1
Gofyn i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Gwella 2014/15 Rhan 1.

19/14 Origins yng Nghastell Henllys
Cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am y camau a gymerwyd ar y prosiect Amgylchedd ar gyfer Twf hwn a ariennir yn allanol, a cheisio cymeradwyaeth i drosglwyddo arian i’r prosiect fel trefniant wrth gefn.

20/14 Adolygu Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cytuno ar amserlen ddiwygiedig o ran paratoi Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol am y cyfnod 2015-19.

21/14 Iechyd a Lles a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol
Dogfen drafod sy’n ymwneud â rôl ddatblygol ac arwyddocaol yr Awdurdod mewn perthynas â iechyd a lles cymunedau lleol a chenedlaethol. Cynigir datganiad sefyllfa ar iechyd a lles ynghyd â chamau sy’n flaenoriaeth i’r Awdurdod.

22/14 Newidiadau a Gynigir i’r Bil Treftadaeth Drafft
Mae’r adroddiad yn rhoi’r manylion diweddaraf i’r Aelodau am y cynigion i ddiwygio Deddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979, ac yn ceisio caniatâd i’r Awdurdod ymateb i’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru sy’n gofyn am farn ar y cynigion hyn.

23/14 Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru: Defnyddio Amodau Cynllunio ar gyfer Rheoli Datblygu
Gofyn am ddirprwyo’r gwaith o ystyried y ddogfen uchod i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

24/14 Gwaith Gwres a Phŵer Cyfunedig ger terfynell LNG South Hook, Herbandston
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr Ymchwiliad i’r cynllun arfaethedig hwn.

25/14 Cynllun Peilot i ymchwilio i ddarparu cylch 6 wythnos o Bwyllgorau Rheoli Datblygu
Cynnig cyflwyno cylch bob 6 wythnos o gyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu fel cynllun peilot (i gyd-fynd â chalendr 2014/15) gyda’r nod o gynorthwyo i wella effeithlonrwydd y tîm Rheoli Datblygu ac i fodloni a rhagori ar dargedau Llywodraeth Cymru a chynyddu bodlonrwydd cwsmeriaid.

26/14 Calendr Cyfarfodydd 2014/2015
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r calendr o gyfarfodydd am y flwyddyn sydd i ddod.

27/14 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu ac awdurdodi lefel y gynrychiolaeth mewn digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.

28/14 Cyflogau Aelodau 2014/15
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran y cyflogau sy’n daladwy i Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol am y flwyddyn ariannol 2014/15, ac yn ceisio’u barn ar dalu Cyflogau Uwch-swyddogion.

12. Ystyried adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr ar ddarparu Gwasanaethau Cyfreithiol.

Dydd Mercher, 5 Chwefror2014

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 11eg o Ragfyr, 2013

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 20fed o Dachwedd 2013 a 18fed o Ragfyr 2013
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar yr 20fed o Dachwedd, 2013

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar y 27ain o Dachwedd, 2013

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar y 18fed o Ragfyr, 2013

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/14 Diweddariad ar Brosiect Mosaic Cymru
Diben yr adroddiad yw rhoi diweddariad i’r Aelodau ar weithredu prosiect Mosaic Cymru ar hyd a lled Cymru.

02/14 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2014/15
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r:

Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf drafft ar gyfer 2014/15 a’r goblygiadau o ran y cronfeydd wrth gefn. Yr Ardoll ddrafft ar gyfer 2014/15 ar Gyngor Sir Penfro. Dangosyddion Materion Ariannol ar gyfer y rhaglen gyfalaf. Strategaeth Fuddsoddi a Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2014/15

03/14 Llythyr Gweinidogol ynglŷn â’r Prosiectau Ynni Adnewyddadwy Cymunedol
Dod â’r llythyr uchod i sylw’r Aelodau ac egluro pa gamau y bydd cynllunwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn eu cymryd. Llythyr

04/14 Cynllunio Cadarnhaol – Cynigion i ddiwygio’r system gynllunio yng Nghymru. Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru
Mae’r adroddiad yn dwyn dogfen ymgynghori gan Lywodraeth Cymru i sylw’r Aelodau – Cynllunio Cadarnhaol, yn argymell bod yr Awdurdod yn ymateb i’r ddogfen ymgynghori ond oherwydd yr amseru bod y mater yn cael ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ar y 19eg o Chwefror 2014 i ystyried yr ymateb arfaethedig yn fanwl. Hefyd mae cais am ddirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr a Chadeirydd yr Awdurdod i gyflwyno ymateb pellach ar ran Parciau Cenedlaethol Cymru.

05/14 Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft Cyngor Sir Penfro – Bioamrywiaeth
Mae’r adroddiad yn rhoi gwybod i’r Aelodau am yr ymgynghoriad yn ddiweddar gan Gyngor Sir Penfro ar y drafft uchod o’r Canllawiau Cynllunio Atodol, ac yn gofyn am gymeradwyo pwerau i ddirprwyo awdurdod i’r Swyddogion gyflwyno sylwadau ar ran yr Awdurdod, os ystyrir bod angen, cyn belled ag y ceir cymeradwyaeth gan Gadeirydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

06/14 Cymeradwyo’r Adolygiad Cyntaf o’r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau
Gofynnir i’r Aelodau gytuno i ddirprwyo pwerau i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu i gymeradwyo ymateb terfynol yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a chymeradwyo’r Adolygiad 1af o’r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau.

07/14 Dirprwyo Materion sy’n ymwneud â Gosod Amodau Cynllunio (ac eraill) mewn perthynas â Cheisiadau Swyddog/ Aelod/ Awdurdod
Diben yr adroddiad hwn yw argymell newidiadau i Gynllun yr Awdurdod ar Ddirprwyo o ran gosod amodau.

08/14 Cynllun Gwella Drafft 2014/15 Rhan 1
Gofyn i’r Aelodau gyflwyno sylwadau ar y Cynllun Gwella drafft 2014/15 Rhan 1.

09/14 Ail-brydlesu Is-brydles Blaendraeth Harbwr Trefdraeth
Ceisio penderfyniad yr Aelodau i ganiatáu adnewyddu prydles Cymdeithas Cychod Afon Nyfer AC Harbwr Trefdraeth ar flaendraeth Harbwr Trefdraeth i ymestyn eu gwaith o barhau i reoli gweithgaredd angori yn yr harbwr.

10/14 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Strwythurau Partneriaeth Ymgysylltu Rhanbarthol yn y Sector Twristiaeth
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio caniatâd i’r Prif Weithredwr a Chadeirydd yr Awdurdod gyflwyno sylwadau ar ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth Cymru ar strwythurau partneriaeth ymgysylltu rhanbarthol yn y sector twristiaeth.

11/14 Y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae’r adroddiad yn amlinellu argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus – y Comisiwn Williams.

12/14 Y Pwyllgor Safonau – Ail-benodi Aelod Annibynnol
Cadarnhau ail-benodi Mr Roger Barrett-Evans yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Safonau yr Awdurdod.

13/14 Adolygu’r Pwyllgorau Adolygu
Mae’r papur hwn yn gwahodd Aelodau i gyflwyno sylwadau ar strwythur Pwyllgorau Adolygu yr Awdurdod.

14/14 Datblygu’r Aelodau – Disgrifiadau Rôl a’r Rhaglen Hyfforddiant yn y Dyfodol
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau fabwysiadu cyfres o ddisgrifiadau rôl Aelodau a manylebau person, ac i gytuno ar Gynllun Datblygu a Hyfforddi Aelodau yn ystod 2014/15.

15/14 Safonau Arfaethedig mewn perthynas â’r Gymraeg
Cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar y safonau arfaethedig mewn perthynas â’r Gymraeg.

16/14 Difrod storm i Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac i Eiddo’r Awdurdod Parc Cenedlaethol, Ionawr 2014
Dod â graddau difrod y storm ddechrau Ionawr 2014 i sylw’r Aelodau; ymateb yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a’r goblygiadau o ran gwaith yr Awdurdod.

Dydd Mercher, 11 Rhagfyr 2013

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 23ain o Hydref, 2013

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 16eg o Hydref, 2013 a 11eg o Dachwedd 2013
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio a gynhaliwyd ar yr 16eg o Hydref, 2013

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth a gynhaliwyd ar y 13eg o Dachwedd, 2013

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

66/13 Ymgynghoriad ynghylch Bil yr Amgylchedd (Cymru) – Papur Gwyn
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Cymru), a gwahoddir yr Aelodau i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

67/13 Fferm Wynt Forol Atlantic Array
Mae’r adroddiad hwn yn nodi penderfyniad RWE Npower Renewables Ltd i beidio â bwrw ymlaen â’r cynnig i greu Fferm Wynt Forol Atlantic Array.

68/13 Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol
Mae’r adroddiad hwn yn gwahodd yr Aelodau i ystyried diweddariadau technegol i Gynllun Rheoli cyfredol y Parc Cenedlaethol (2009-13), a’u cymeradwyo ar gyfer ymgynghori.

69/13 Dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol:
• Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt ar y Dirwedd a’r Amwynder Gweledol (Newydd)
• Morweddau (Canllawiau Newydd)
• Dylunio Cynaliadwy (diweddariad)
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am yr ymatebion a ddaeth i law ar gyfer yr ymgynghoriad uchod, ac i argymell bod yr Aelodau yn mabwysiadu’r canllawiau at ddibenion rheoli datblygu.

70/13 Ymateb i’r Ymgynghoriad ynghylch Adolygiad Cyntaf y Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo pwerau dirprwyedig i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu i gytuno ar ymateb Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’r ymgynghoriad uchod gan Lywodraeth Cymru.

71/13 Cais gan yr RNLI i Ymestyn eu Gweithgareddau Codi Arian Presennol ar Draethau’r Parc Cenedlaethol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo gweithgareddau codi arian yr RNLI ar dri thraeth sy’n eiddo i Awdurdod y Parc, ac ymestyn y cyfnod amser sydd ar gael i’r RNLI godi arian.

72/13 Rheoleiddio Llechfeddiant ar Dir sy’n Eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Nhraeth Poppit
Ceisio caniatâd yr Aelodau i drosglwyddo tir sy’n eiddo i APC i berchnogaeth breifat o dan ein polisi presennol o reoleiddio llechfeddiant hanesyddol er mwyn rheoli’r ystad yn dda.

73/13 Y Trefniadau Rheoli ar gyfer Meysydd Parcio Solfach a Saundersfoot
Penderfynu ar y trefniadau rheoli ar gyfer meysydd parcio Solfach a Saundersfoot.

74/13 Adolygu Pwyllgorau
Mae’r adroddiad hwn yn gwahodd yr Aelodau i fynegi barn am strwythur Pwyllgorau Adolygu Perfformiad yr Awdurdod.

75/13 Polisi Teithio
Mabwysiadu Polisi Teithio ar gyfer Aelodau sy’n mynychu cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau a awdurdodwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

76/13 Ymgynghoriad gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Gwahoddir yr Aelodau i ystyried ymgynghoriad gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynghylch tâl cydnabyddiaeth i Aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru.

77/13 Datrys Anghydfodau Lleol
Mae’r adroddiad yn argymell mabwysiadu’r Protocol Datrys Anghydfodau Lleol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

78/13 Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
Er gwybodaeth. I dynnu sylw’r Aelodau at y Ddeddf Teithio Llesol, a’i goblygiadau i waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Dydd Mercher, 23 Hydref 2013

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 18fed o Fedi, 2013

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 18fed o Fedi, 2013 (Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar yr 11eg o Fedi, 2013

7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

53/13 Llythyr Asesu Gwelliant
Bydd Mr John Roberts o Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno’r adroddiad ac ateb unrhyw gwestiwn gan yr Aelodau.

54/13 Cynllun Gwella 2012/13 Rhan 2:
Mae Rhan 2 yn rhoi manylion am y camau ymlaen a gymerwyd yn erbyn y rhaglen waith a gynigiwyd yn y Cynllun Gwella Rhan 1 am y flwyddyn 2012/13.

55/13 Parc Cychod Little Haven
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am benderfyniad yr Aelodau ynglŷn â chaniatáu adnewyddu prydles tir y Parc Cenedlaethol a elwir yn Barc Cychod Little Haven i Gymdeithas Perchnogion Cychod Little Haven.

56/13 Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol
Mae’r adroddiad hwn yn gwahodd yr Aelodau i gadarnhau cynnig ein bod yn paratoi diweddariad cynderfynol (technegol) i Gynllun Rheoli cyfredol y Parc Cenedlaethol (2009-13).

57/13 Sylwadau perthnasol a gyflwynwyd o ran Aráe’r Iwerydd
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r Sylwadau Perthnasol a wnaed gan yr Awdurdod ar y cynigion i godi fferm wynt ar y môr, Aráe’r Iwerydd (yr ‘Atlantic Array’). Hefyd mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau nesaf yn y broses o wneud cais.

58/13 Sylwadau perthnasol a gyflwynwyd o ran Gwaith Pŵer South Hook
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r Sylwadau Perthnasol a wnaed gan yr Awdurdod ar y cynigion ar gyfer gwaith gwres a phŵer cyfunedig ger terfynell LNG South Hook. Hefyd mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau nesaf yn y broses o wneud cais.

59/13 Ymgynghoriad – Hawliau Datblygu a Ganiateir (electronig)
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r bwriad i ganiatáu hawliau datblygu ychwanegol i weithredwyr cod cyfathrebu electronig, a chadarnhau’r ymateb a argymhellir.

60/13 Terfyn Gwirfoddol ar Indemniadau
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig gweithredu trefn wirfoddol o ffrwyno indemniadau i Aelodau’r Awdurdod sy’n amddiffyn honiad eu bod wedi torri Cod Ymddygiad Aelodau.

61/13 Adroddiad gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am y drafft ymgynghorol o Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar y lefel a gynigir o gyflogau’r Aelodau yn 2014/15.

62/13 Pwyllgor Cwynion
Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r drefn o sefydlu a mabwysiadu cylch gwaith y Pwyllgorau Disgyblu a Chwynion.

63/13 Craffu – Adroddiad Terfynol
Mae’r adroddiad hwn i ystyried adroddiad terfynol a chanfyddiadau’r Pwyllgor Craffu ar dai fforddiadwy. Adroddiad

64/13 Adroddiad ar Fonitro’r Cynllun Datblygu Lleol yn Flynyddol
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno’r Adroddiad Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol

8. Ystyried gohebiaeth oddi wrth y Cyngh. R Owen ynglŷn â gwerthu tir yr Awdurdod yn Sageston

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

8. Ystyried gohebiaeth oddi wrth y Cyngh. R Owen ynglŷn â gwerthu tir yr Awdurdod yn SagestonMae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno’r Adroddiad Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol64/13 Adroddiad ar Fonitro’r Cynllun Datblygu Lleol yn Flynyddol Mae’r adroddiad hwn i ystyried adroddiad terfynol a chanfyddiadau’r Pwyllgor Craffu ar dai fforddiadwy63/13 Craffu – Adroddiad TerfynolMae’r adroddiad hwn yn nodi’r drefn o sefydlu a mabwysiadu cylch gwaith y Pwyllgorau Disgyblu a Chwynion.62/13 Pwyllgor Cwynion Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am y drafft ymgynghorol o Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar y lefel a gynigir o gyflogau’r Aelodau yn 2014/15.61/13 Adroddiad gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth AriannolMae’r adroddiad hwn yn cynnig gweithredu trefn wirfoddol o ffrwyno indemniadau i Aelodau’r Awdurdod sy’n amddiffyn honiad eu bod wedi torri Cod Ymddygiad Aelodau. 60/13 Terfyn Gwirfoddol ar Indemniadau Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r bwriad i ganiatáu hawliau datblygu ychwanegol i weithredwyr cod cyfathrebu electronig, a chadarnhau’r ymateb a argymhellir. 59/13 Ymgynghoriad – Hawliau Datblygu a Ganiateir (electronig)Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r Sylwadau Perthnasol a wnaed gan yr Awdurdod ar y cynigion ar gyfer gwaith gwres a phŵer cyfunedig ger terfynell LNG South Hook. Hefyd mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau nesaf yn y broses o wneud cais.58/13 Sylwadau perthnasol a gyflwynwyd o ran Gwaith Pŵer South Hook Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r Sylwadau Perthnasol a wnaed gan yr Awdurdod ar y cynigion i godi fferm wynt ar y môr, Aráe’r Iwerydd (yr ‘Atlantic Array’). Hefyd mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau nesaf yn y broses o wneud cais.57/13 Sylwadau perthnasol a gyflwynwyd o ran Aráe’r Iwerydd Mae’r adroddiad hwn yn gwahodd yr Aelodau i gadarnhau cynnig ein bod yn paratoi diweddariad cynderfynol (technegol) i Gynllun Rheoli cyfredol y Parc Cenedlaethol (2009-13).56/13 Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am benderfyniad yr Aelodau ynglŷn â chaniatáu adnewyddu prydles tir y Parc Cenedlaethol a elwir yn Barc Cychod Little Haven i Gymdeithas Perchnogion Cychod Little Haven.55/13 Parc Cychod Little Haven Mae Rhan 2 yn rhoi manylion am y camau ymlaen a gymerwyd yn erbyn y rhaglen waith a gynigiwyd yn y Cynllun Gwella Rhan 1 am y flwyddyn 2012/13.54/13 Cynllun Gwella 2012/13 Rhan 2: Bydd Mr John Roberts o Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno’r adroddiad ac ateb unrhyw gwestiwn gan yr Aelodau.53/13 Llythyr Asesu Gwelliant 7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar yr 11eg o Fedi, 20135. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 18fed o Fedi, 2013adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun 20133. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 18fed o Fedi, neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau 1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

Dydd Mercher, 18 Medi 2013

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 7fed o Awst 2013

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 17eg o Orffennaf, 2013 (Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 7fed o Awst, 2013

7. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 21ain o Awst 2013

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

50/13 Adroddiad ISA260 i’r Rhai sydd â Chyfrifoldeb Llywodraethu
Mae’r cyflwyniad hwn yn gofyn i’r Aelodau ystyried a derbyn yr Adroddiad ISA260 o Swyddfa Archwilio Cymru

51/13 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ‘Golwg ar y Dyfodol: Datganiad Polisi drafft ar gyfer Tirweddau Gwarchodedig yng Nghymru’
Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ymateb arfaethedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ‘Golwg ar y Dyfodol: Datganiad Polisi drafft ar gyfer Tirweddau Gwarchodedig yng Nghymru’.

52/13 Ymateb i Ymgynghoriad Llywdoraeth Cymru ar y Bil Treftadaeth Arfaethedig i Gymru (Dyfodol ein Gorffennol)
Diben yr adroddiad yw ystyried a chymeradwyo ymateb yr Awdurdod i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Bil Treftadaeth arfaethedig i Gymru.

Dydd Mercher, 7 Awst 2013

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr:
a) 26ain o Fehefin 2013 (CBC)
b) 26ain o Fehefin 2013 (Cyfarfod Cyffredin)

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 3ydd o Fehefin, 2013, 19eg o Fehefin 2013 a’r 26ain o Fehefin, 2013
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar yr 8fed o Fai, 2013

7. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio a gynhaliwyd ar y 19eg o Fehefin 2013 a’r 26ain o Fehefin 2013

8.Ystyried adroddiad cyfarfod Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar yr 26ain o Fehefin, 2013

9 Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth a gynhaliwyd ar y 26ain o Fehefin 2013 a’r 17eg o Orffennaf, 2013

Dydd Mercher, 26 Mehefin 2013

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 24ain o Ebrill, 2013

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 20fed o Fawrth, 2013, 8fed o Ebrill 2013, 17eg o Ebrill, 2013, a 22ain o Fai 2013

(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar y 10fed o Ebrill, 2013

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar y 8fed o Fai, 2013

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 15fed o Fai, 2013

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar y 15fed o Fai, 2013

10. Cadarnhau bod Mrs Gwyneth Hayward wedi dirprwyo Mr Ted Sangster yn y cyfarfod o’r Pwyllgor SDF a gynhaliwyd ar yr 8fed o Fai, a Mr Allan Archer yn y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar y 15fed o Fai 2013

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

27/13 Llythyr Grant Strategol 2013-14
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau dderbyn y llythyr grant strategol am y flwyddyn gyfredol.

28/13 Strategaeth Rheoli Risg
Cyflwynir copi drafft o’r Strategaeth Rheoli Risg, sy’n nodi’r rolau a’r cyfrifoldebau, cyflwyno adroddiadau a monitro, i sylw’r Aelodau i’w ystyried a gwneud sylwadau cyn mabwysiadu’r Strategaeth yn ffurfiol.

29/13 Ymateb i Ddigwyddiadau Mawr
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gadarnhau’r gweithdrefnau ymateb.

30/13 Datganiad Blynyddol ar Lywodraethu ar gyfer 2012/13
Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno Datganiad Blynyddol yr Awdurdod ar Lywodraethu ar gyfer 2012/13 i’r Aelodau.

31/13 Strategaeth Masnachu
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Strategaeth Masnachu am y blynyddoedd 2013 i 2018.

32/13 Cymeradwyaeth Grantiau yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (a Ddiwygiwyd yn 2012)
Gofynnir am gymeradwyaeth yn unol ag Adran 78 o’r Safonau Ariannol (2012) sy’n nodi lle telir ‘Grant a Nawdd sy’n dod i gyfanswm o dan unrhyw un cytundeb o fwy na £10,000’, bod rhaid cael cymeradwyaeth yr Awdurdod Parc Cenedlaethol.

33/13 Canllawiau Cynllunio Atodol – Datblygiadau Hygyrchedd a Bach eu Heffaith sy’n Gwneud Cyfraniad Cadarnhaol (Datblygiad Cenedl Un Blaned)
Hysbysu’r Aelodau am yr ymateb a dderbyniwyd i’r ymgynghori ar yr uchod a gofyn i’r Aelodau fabwysiadu’r canllawiau at ddibenion rheoli datblygu.

34/13 Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt a Chymeriad Morwedd, a Diweddariad i’r Canllawiau ar Ddylunio Cynaliadwy a Fabwysiadwyd
Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ymgynghori ar y canllawiau cynllunio atodol drafft ar effaith gronnol tyrbinau a chymeriad morwedd, a diweddariad i’r canllawiau cynllunio atodol a fabwysiadwyd ar ddylunio cynaliadwy. Mae pob dogfen canllawiau wedi’u paratoi i ategu polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol.
Chymeriad Morwedd

35/13 Dirprwyo Materion sy’n ymwneud â Phrosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd
Diben yr adroddiad hwn yw argymell newidiadau i Gynllun yr Awdurdod o Ddirprwyo o ran ceisiadau ar gyfer prosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd a gyflwynir i’r Arolygiaeth Gynllunio, a nodi’r ymatebion a anfonwyd ynglŷn â’r gwaith Gwres a Phŵer Cyfunedig, South Hook, Herbrandston.

36/13 Strategaeth Datblygu Aelodau
Mabwysiadu’r Strategaeth ddiwygiedig ar Ddatblygu Aelodau a’r Rhaglen Cynorthwyo a Datblygu Aelodau, a chytuno ar ddull o adolygu’r strategaeth a’r rhaglen yn y dyfodol.

37/13 Cynllun Iaith Gymraeg: Adroddiad Monitro Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau gadarnhau’r adroddiad fel cyflwyniad yr Awdurdod i Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.

38/13 Adroddiad Cryno Blynyddol – Prosiect Mosaic Cymru
Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y Project Mosaic; menter dan arweiniad Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol i gynyddu nifer y bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy’n ymweld â’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.

12. Ystyried y Polisi Drafft ar Dirweddau Gwarchodedig oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Dydd Mercher, 26 Mehefin 2013

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd M James

2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Mr EA Sangster

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

5. Ystyried adroddiad y Rheolwr Gweinyddol a Gwasanaethau Aelodau ar Aelodaeth Pwyllgorau, Grwpiau a Chyrff Allanol
Mae’r adroddiad yn adolygu penodiad Aelodau i Bwyllgorau mewnol yr Awdurdod, Grwpiau a Chyrff Allanol ac yn galw am gadarnhad o’r penodiadau hynny

Dydd Mercher, 24 Apr 2013

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 6fed o Chwefror, 2013

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 9fed o Ionawr, 2013, 23ain o Ionawr 2013, yr 20fed o Chwefror 2013, a 4ydd o Fawrth, 2013
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 18fed o Ragfyr 2012

7. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar y 23ain o Ionawr, 2013 a 6fed o Fawrth, 2013

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio a gynhaliwyd ar y 6fed o Chwefror, 2013

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 27ain o Chwefror, 2013

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar y 27ain o Chwefror, 2013

11. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth a gynhaliwyd ar y 13eg o Fawrth, 2013

12. Cadarnhau bod y Cyngh R Lewis wedi’i ddirprwyo gan y Cyngh M James yn y cyfarfod o’r Fforwm Cyflogeion a gynhaliwyd ar yr 13eg o Fawrth 2013

13. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

14/13 Adroddiad Blynyddol ar Welliannau
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau dderbyn Adroddiad Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar Welliannau.

15/13 Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft Cyngor Sir Penfro
Mae’r Adroddiad hwn i ystyried cynnwys pedair dogfen ddrafft ar Ganllawiau Cynllunio Atodol i’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd yn ddiweddar gan Gyngor Sir Penfro.

16/13 Strategaeth Datblygu Economaidd De Orllewin Cymru
Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth gefndir i’r Aelodau ar y strategaeth economaidd a’r cynllun gweithredu sydd ar y gweill ar gyfer De Orllewin Cymru, ac yn cynnig cynnal adolygiad craffu o ddulliau’r Awdurdod o ddiwallu ei ddyletswydd economaidd-gymdeithasol fel y’i diffinnir o dan Adran 62 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

17/13 Adroddiad ar Deithio Llesol
Mae’r adroddiad yn dwyn y Bil Teithio Llesol i sylw’r Aelodau a goblygiadau’r Bil o ran gwaith yr Awdurdod Parc Cenedlaethol.

18/13 Ymchwilio i’r posibiliadau o wneud cais am Statws Geoparc
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gadarnhau na ddylid cymryd camau pellach ar hyn o bryd ar y mater hwn.

19/13 Adroddiad ar Archwiliad Mewnol 2012/13
Mae’r adroddiad hwn yn hysbysu’r Aelodau o ganfyddiadau’r Archwiliad Mewnol a’r camau gweithredu arfaethedig yn sgîl yr archwiliad.

20/13 Cynllun Gwella 2013/14 – Rhan 1
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau fabwysiadu Cynllun Gwella 2013/14 Rhan 1.

21/13 Cofrestr Risg
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gadarnhau’r Gofrestr Risg.

22/13 Amrywio Rheol Sefydlog Contractau Mawr Rhif 13
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gadarnhau defnyddio Rheol Sefydlog Contractau Mawr yr Awdurdod Rhif 13 ar gyfer y contract i drwsio’r ffordd yn Skrinkle Haven.

23/13 Adolygu Polisi’r Awdurdod ar Reoli Asedau Portffolio Eiddo yr Awdurdod
Mae’r papur hwn yn cyflwyno Polisi’r Awdurdod a ddiwygiwyd ac a ddiweddarwyd ar Reoli Asedau Portffolio Eiddo i’r Aelodau ei ystyried.

24/13 Arolwg Aelodau
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi dadansoddiad i’r Aelodau o’r arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar ymhlith yr Aelodau o’u barn ynghylch cyfarfodydd a phapurau cyfarfodydd, a gofyn am farn yr Aelodau ynglŷn â’r materion a godwyd yn yr arolwg.

25/13 Calendr Cyfarfodydd 2013/2014
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r calendr o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

26/13 Digwyddiadau Corfforaethol
Mae’r adroddiad hwn i’r Aelodau benderfynu ac awdurdodi’r lefel o gynrychiolaeth mewn digwyddiadau corfforaethol.

14. Ystyried Adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr ar ddarparu Gwasanaethau Cyfreithiol i’r Awdurdod.

15. Ystyried y Polisi Drafft ar Dirweddau Gwarchodedig oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Dydd Mercher, 6 Chwefror2013

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 12fed o Ragfyr 2012

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 21ain o Dachwedd 2012 a’r 19eg o Ragfyr 2012
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth a gynhaliwyd ar yr 21ain o Dachwedd 2012

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar yr 28ain o Dachwedd 2012

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar yr 16eg o Ionawr 2013

9. Cadarnhau presenoldeb Ms C Gwyther yng nghyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy ar yr 16eg o Ionawr 2013 yn lle Mrs M Thomas

10 Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/13 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2013/14-2015/16

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r cyllidebau Refeniw a Chyfalaf drafft ar gyfer 2013/14 a’r goblygiadau ar y cronfeydd wrth gefn, yr Ardoll ddrafft ar Gyngor Sir Penfro yn 2014/15, dangosyddion darbodus ar gyfer y rhaglen gyfalaf, a Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi ar Reoli’r Trysorlys yn 2013/14

02/13 Cynllun Corfforaethol 2013/14
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i’r Strategaeth Gorfforaethol 2013/14

03/13 Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Benfro 2013-2018
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am i’r Aelodau fabwysiadu ‘Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Benfro 2013 – 2018’ yn ffurfiol fel y ddogfen allweddol i lywio darparu gwasanaethau mewn perthynas â thwristiaeth yn y sir.

04/13 Cynllun Integredig Sengl Drafft 2013-2018
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i’r ymateb a gynigir i’r ymgynghoriad uchod.

05/13 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – Diwygiadau Ansylweddol i Ganiatadau Cynllunio
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i gyflwyno gweithdrefn statudol ar gymeradwyo diwygiadau ansylweddol i ganiatadau cynllunio presennol, ac yn ceisio eu cefnogaeth i’r ymateb arfaethedig i’r ddogfen ymgynghori.

06/13 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cynigion i gael Mesur Datblygu Cynaliadwy: Papur Gwyn – Cymru Gynaliadwy – Dewis Dyfodol Gwell
Diben yr adroddiad hwn yw hysbysu’r Aelodau am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn ar gynigion ar gyfer Mesur Datblygu Cynaliadwy, a cheisio cefnogaeth i’r ymateb a gynigir i’r ddogfen ymgynghori.

07/13 Dilysu Ceisiadau Cynllunio
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau am y rhesymau pam nad yw nifer o geisiadau’n cael eu dilysu gan swyddogion.

08/13 Rheoli Meysydd Parcio Saundersfoot a Solfach
Ystyried trefniadau ar gyfer rheoli Maes Parcio’r Regency Saundersfoot a Maes Parcio Solfach yn ystod tymor 2013.

09/13 Cofrestr Risg
Rhoi canllawiau i’r Aelodau ar eu rôl yn monitro Cofrestr Risg yr Awdurdod.

10/13 Diweddariad – Rheolaeth APCAP o’r Meysydd Parcio
Diweddaru’r Aelodau ar y camau ymlaen o ran trafodaethau’r swyddogion gyda Chyngor Sir Penfro i ehangu cwmpas pwerau gorfodaeth cyfreithiol presennol Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro ar gyfer meysydd parcio y mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn eu rheoli ar hyn o bryd (fel perchnogion neu fel prydleswyr).

11/13 Y bwriad i osod rhwydwaith llinellau uwchben y cyflenwadau cyfleustodau dan ddaear yn Ardal Gadwraeth Caerfarchell
Ystyried y bwriad i osod rhwydwaith llinellau uwchben y cyflenwadau cyfleustodau dan ddaear yn ardal Gadwraeth ddynodedig Caerfarchell.

12/13 Ymateb i’r Ymgynghoriad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y Ffioedd Archwilio ac Arolygu Llywodraeth Leol Arfaethedig yn 2013-2014
Hysbysu’r Aelodau o’r ymateb a gyflwynwyd gan yr Awdurdod i’r ymgynghoriad hwn.

13/13 Siarter Cymru ar gyfer Cynorthwyo a Datblygu Aelodau
Mae’r adroddiad yn ceisio awdurdod i wneud cais i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ail-asesu Statws Siarter yr Awdurdod, ac yn gofyn i’r Aelodau gytuno ar Feini Prawf a Phroses Asesu diwygiedig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Cynorthwyo a Datblygu Aelodau.

11. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

12. Trwydded Caffi Oriel y Parc
Cytuno ar adnewyddu trwydded caffi Oriel y Parc.

Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2012

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y:
a) 26ain o Fedi, 2012
b) 21ain o Dachwedd 2012

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 22 Awst 2012, 3 Medi 2012, 26 Medi 2012 a 24 Hydref 2012
(Dosbarthwyd copï o’r adroddiad uchod mewn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar yr 22ain Awst, 2012 a 12 Medi 2012

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar y 3 Hydref, 2012

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio a gynhaliwyd ar y 17 Hydref, 2012

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar y 24 Hydref, 2012

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar y 7 Tachwedd, 2012

11. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 7 Tachwedd, 2012

12. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 14 Tachwedd, 2012

13. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

53/12 Asesiad o Welliant a Llythyr Archwiliad Blynyddol
Derbyn cyflwyniad gan Mr John Roberts, Swyddfa Archwilio Cymru

54/12 Prosiect Seilwaith Symudol
Diben yr adroddiad hwn a’r cyflwyniad gan Lionel Spencer o’r Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar ddiwrnod y cyfarfod yw rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y prosiect uchod a’i oblygiadau posibl ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwn.

55/12 Canllawiau Cynllunio Atodol: Hamdden – Adroddiad am yr Ymgynghoriad
Diben yr adroddiad hwn yw hysbysu’r Aelodau am yr ymateb i’r ymgynghoriad uchod a gofyn iddynt fabwysiadu’r canllawiau at ddibenion rheoli datblygu.

56/12 Ymgynghoriad ynghylch Polisi Dyrannu CartrefiDewisiedig@SirBenfro (Drafft)
Diben yr adroddiad yw cymeradwyo ymateb Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’r ymgynghoriad uchod.

57/12 Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ynghylch Datblygiadau Effaith Isel yn Gwneud Cyfraniad Positif (Datblygiadau Un Blaned)
Diben yr adroddiad yw gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i ymgynghori ynghylch canllawiau cynllunio atodol drafft ar fater datblygiadau effaith isel sydd wedi’u llunio i ategu polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol.

58/12 Polisi Coetiroedd
Mae’r adroddiad yn cyflwyno rôl a blaenoriaethau cyfredol Awdurdod y Parc Cendlaethol o ran rheoli coetiroedd.

59/12 Y Gofrestr Risg
Ystyried neilltuo’r cofnodion ar Gofrestr Risg yr Awdurdod i Aelodau unigol.

60/12 Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2013/14
Diben yr adroddiad yw galluogi’r Aelodau i ystyried a mynegi barn am y Strategaeth Gorfforaethol ddrafft.

61/12 Gweinyddu Grantiau Ardaloedd Cadwraeth
Mae’r adroddiad hwn yn argymell nifer o newidiadau i’r modd y caiff y Grantiau Ardaloedd Cadwraeth eu gweinyddu, gan gynnwys cynllun dirprwyo.

62/12 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – Newidiadau Arfaethedig i Hawliau Datblygu a Ganiateir Annomestig
Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i’r ymateb i’r ymgynghoriad.

63/12 Cadw Achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch llwyddiant yr Awdurdod yn cadw ei achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn sgil yr adolygiad yn ddiweddar, ac mae’n gwahodd unrhyw ystyriaethau sy’n deillio o adroddiad yr asesydd.

64/12 Y Cynllun Iaith Gymraeg: Adroddiad Monitro Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol fel cyflwyniad yr Awdurdod i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

14. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

15. Y Posibilrwydd o Brynu Canolfan Waith Newydd
Gofynnir i’r Aelodau awdurdodi’r Swyddog Ystadau i ystyried y posibilrwydd o brynu canolfan waith newydd yn lle’r hen un ar gyfer un o’r timau ardal.

Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2012

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Ystyried adroddiad gan y Swyddog Ystadau ar ran y Grŵp Prosiectau ac Eiddo ar Waredu rhyw 0.05 erw o dir sy’n rhan o’r tir y mae’r Awdurdod yn berchen arno yn y Blanhigfa Coetir yn Saundersfoot yn unol â’r Polisi Llechfeddiant a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod. (Adroddiad 52/12).

Dydd Mercher, 26 Medi 2012

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 8fed o Awst, 2012

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 18fed o Orffennaf, 2012 (Dosbarthwyd copï o’r adroddiad uchod mewn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 5ed o Fedi, 2012

7. Cadarnhau presenoldeb y Cynghorydd M James yng nghyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol ar y 5ed o Fedi, 2012 yn lle’r Cynghorydd RM Lewis

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

41/12 Adroddiad ar Asesu Gwelliannau
Derbyn cyflwyniad ar Asesu Gwelliannau gan Mr John Roberts – Swyddfa Archwilio Cymru

42/12 Cynllun Gwella Rhan 2
Cymeradwyo Cynllun Gwella Rhan 2

43/12 Cofrestr Risg
Adroddiad yw hwn i gymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r Gofrestr Risg

44/12 Adroddiad ISA260 i’r Rhai sydd â Chyfrifoldeb Llywodraethu
Mae’r cyflwyniad hwn yn gofyn i’r Aelodau ystyried a derbyn yr Adroddiad ISA260 o Swyddfa Archwilio Cymru

45/12 Diweddariad ar Safonau Ariannol
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Safonau Ariannol a ddiweddarwyd ac sy’n cael eu hadolygu bob pedair blynedd

46/12 Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) Drafft – Oriel y Parc
Adroddiad yw hwn i geisio cymeradwyaeth i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

47/12 Adroddiad Monitro Blynyddol 2012 ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Adroddiad yw hwn sy’n asesu’r graddau y llwyddir i wireddu Strategaeth a Pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol

48/12 Adolygu Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cytuno ar amserlen paratoi’r adolygiad o’r Cynllun Rheoli a chytuno ar y modd o’i baratoi

49/12 Adroddiad y Swyddog Monitro
Adroddiad blynyddol yw hwn sy’n nodi natur a chefndir Adroddiadau’r Swyddog Monitro

50/12 Adroddiad ar Ddaliad Tir yr Awdurdod yn Sageston
Adroddiad yw hwn sy’n rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y camau a gymerwyd o ran y datblygiad preswyl ar dir yn Sageston

51/12 Adroddiad ar y Trafodaethau ar Feysydd Parcio gyda Chyngor Sir Penfro
Adroddiad cryno yw hwn sy’n gofyn am ganiatâd yr Awdurdod i gynnal trafodaethau gydag amrywiol asiantaethau ynglŷn â rheoli safleoedd parcio ar y cyd. Yn arbennig, mae’r papur yn gofyn am ganiatâd i’r Awdurdod ofyn am Orchymyn Parcio diwygiedig oddi wrth Gyngor Sir Penfro

9. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraffau 12, 13, 14 a 16 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

10. Diweddariad ar Risgiau Allweddol
Derbyn diweddariad ar lafar ynglŷn ag achosion llys sydd yn yr arfaeth

Dydd Mercher, 8 Awst 2012

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr:
a) 13eg o Fehefin 2012 (CBC)
b) 13eg o Fehefin 2012 (Cyfarfod Cyffredin)

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 16eg o Fai, 2012 a’r 20fed o Fehefin, 2012 (Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio a gynhaliwyd ar yr 16eg o Fai, 2012

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth a gynhaliwyd ar y 18fed o Orffennaf, 2012

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

33/12 Datganiad drafft o Gyfrifon 2011/12
Datganiad drafft o Gyfrifon 2011/12 yw’r adroddiad hwn er gwybodaeth yn unig, a gofynnir i’r Aelodau nodi cynnwys yr adroddiad.

34/12 Adolygu’r gweithdrefnau o drwyddedu gweithgareddau Trydydd Parti ar Dir a Reolir gan y Parc Cenedlaethol
Adroddiad yw hwn i’r Aelodau gymeradwyo’r dulliau o drwyddedu gweithgareddau trydydd parti ar dir a Reolir gan y Parc Cenedlaethol.

35/12 Y bwriad i brynu a gwaredu tir yr Awdurdod ym Maes Parcio Solfach
Adroddiad yw hwn i’r Aelodau awdurdodi Swyddogion i gario ymlaen i brynu a gwaredu tir ym Maes Parcio Solfach.

36/12 Papur Gwyn Llywodraeth Cymru; Ymgynghori ar Fesur Teithio Llesol (Cymru)
Diben yr adroddiad hwn yw dwyn sylw’r Aelodau at oblygiadau’r Papur Gwyn ar waith yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a cheisio cymeradwyaeth yr Aelodau bod swyddogion yn ymateb i’r ymgynghoriad.

37/12 Papur Gwyn ar Dai: Cartrefi i Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell
Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth ffurfiol yr Aelodau i ymateb yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i’r papur uchod. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar faterion cynllunio sy’n deillio o’r papur.

38/12 Cymorth Grant Ardal Gadwraeth
Penderfynu ar y dulliau o dderbyn gwybodaeth ynglŷn â dosbarthu arian Grant Ardal Gadwraeth.

39/12 Craffu
Penderfynu ar raglen waith yr Awdurdod o ran craffu.

40/12 Ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Hybu Democratiaeth Leol
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau wneud sylwadau ar ymateb drafft y swyddogion i’r Ymgynghoriad ar Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Hybu Democratiaeth Leol.

Dydd Mercher, 13 Mehefin 2012

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 28ain o Fawrth 2012

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 21ain o Fawrth 2012 a’r 2ail o Ebrill 2012 (Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth a gynhaliwyd ar yr 28ain o Fawrth 2012

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 9fed o Fai 2012

8. Ystyried adroddiad cyfarfod Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar yr 21ain o Fawrth 2012 ac a gafodd ei hailgynnull ar y 9fed o Fai 2012

9. Cadarnhau presenoldeb y Cynghorydd PJ Morgan yng nghyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol ar y 9fed o Fai 2012 yn lle’r Cynghorydd RM Lewis

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

24/12 Cynllun Gwella 2012/13 Rhan 1

Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i’r Cynllun Gwella 2012-13 (Rhan 1)

25/12 Rhaglen Rheoleiddio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Archwilio Perfformiad 2012-13

Gofynnir i’r Aelodau dderbyn Rhaglen Rheoleiddio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Archwilio Perfformiad 2012-13

26/12 Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft

Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ymgynghori ar y canllawiau cynllunio atodol drafft pellach a baratowyd i ategu’r polisïau a’r cynigion yn y Cynllun Datblygu Lleol

27/12 Ymateb i’r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft i Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Diben yr adroddiad hwn yw hysbysu’r Aelodau am yr ymateb a dderbyniwyd ar yr ymgynghoriad uchod a gofyn i’r Aelodau fabwysiadu’r canllawiau at ddibenion rheoli datblygu yn unol â’r newidiadau a argymhellir gan y swyddogion

28/12 Adnewyddu Prydles Parc Cychod Freshwater East

Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am awdurdod i ganiatáu adnewyddu prydles i Gymdeithas Cychwyr a Physgotwyr Freshwater East

29/12 Parthau Cadwraeth Morol – Opsiynau Safleoedd Posibl ar gyfer Dyfroedd Cymru

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio ymgynghoriad cyfredol Llywodraeth Cymru ar 10 posibl o Barthau Cadwraeth Morol Gwarchodedig Iawn yn nyfroedd Cymru, ac yn gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i amlinelliad o ymateb i’r ymgynghoriad

30/12 Digwyddiadau corfforaethol

Gofynnir i’r Aelodau benderfynu ar lefel y gynrychiolaeth mewn gwahanol ddigwyddiadau corfforaethol y mae’r Awdurdod wedi derbyn gwahoddiad iddynt

31/12 Cyflogau Aelodau 2012/13

Diben yr adroddiad hwn yw atgoffa’r Aelodau sydd wedi hen ymsefydlu a hysbysu’r rhai sydd newydd eu penodi am y trefniant newydd o ran cyflogau Aelodau yn sgîl cylch gwaith a phwerau estynedig Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a roddwyd gan y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, a hefyd i geisio barn yr Aelodau am dalu Cyflogau Uwch-swyddogion

32/12 Craffu

Cyflwyno fframwaith mwy ffurfiol a chadarn i alluogi’r Awdurdod i graffu’n well ar agweddau o’i waith

Dydd Mercher, 13 Mehefin 2012

Lawrlwythwch y cofnodion

CYFARFOD BLYNYDDOL CYFFREDINOL

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

3. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

4. Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddol a Democrataidd ar Aelodaeth Pwyllgorau, Grwpiau a Chyrff Allanol

Mae’r adroddiad yn adolygu penodiad Aelodau i Bwyllgorau mewnol yr Awdurdod, Grwpiau a Chyrff Allanol ac yn galw am gadarnhad o’r penodiadau hynny

Dydd Mercher, 28 Mar 2012

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 1af Chwefror, 2012

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 14eg Rhagfyr, 2011, 25ain Ionawr, 2012 a’r 22ain Chwefror, 2012 (Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio a gynhaliwyd ar y 25ain Ionawr, 2012

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 1af Chwefror, 2012

8. Ystyried adroddiad cyfarfod Panel Asesu Grantiau o’r GDC a gynhaliwyd ar y 24ain Chwefror, 2012

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Grŵp Gwelliant Parhaus a gynhaliwyd ar yr 16eg o Dachwedd 2011

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

08/12 Amrywiadau i’r Ffioedd Parcio
Diben yr adroddiad hwn yw ystyried adolygu’r ffioedd parcio yn y Pebbles, Niwgwl

09/12 Y Cynllun Cydraddoldeb
Diben yr adroddiad hwn yw cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb

10/12 Strategaeth Gorfforaethol 2012 – 2014
Diben yr adroddiad hwn yw cymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol 2012/14

11/12 Y Strategaeth Pobl 2012-2015
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo’r Strategaeth Pobl am y cyfnod rhwng mis Ebrill 2012 a mis Mawrth 2015.

12/12 Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol – Adroddiad Interim am Newidiadau
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r cynnydd a’r newid mewn perthynas â Chynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2009-2013, gan gynnwys diweddariadau i’r wybodaeth am ‘gyflwr y Parc’.

13/12 Cynnal Cymru Fyw – Ymateb i’r Papur Gwyrdd
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys ymateb arfaethedig gan APCAP i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Cynnal Cymru Fyw: Papur Gwyrdd ar ddull newydd o reoli adnoddau naturiol Cymru.

14/12 Cynllunio ar gyfer Cynaliadwyedd – ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn am ganiatâd i drafod y mater hwn yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

15/12 Bwriad i werthu tir sy’n eiddo i’r Parc Cenedlaethol ar Fferm Blockett, Aber Bach
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn i’r Aelodau roi caniatâd i werthu tir ar Fferm Blockett.

16/12 Cynnal a Chadw Hawliau Tramwy: Awdurdod i fynd ar dir
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn i’r Aelodau awdurdodi’r Prif Weithredwr (Swyddog y Parc Cenedlaethol) i roi caniatâd i aelodau unigol o staff fynd ar dir at y diben o reoli hawliau tramwy cyhoeddus.

17/12 Calendar Cyfarfodydd 2012/13
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r calendr o gyfarfodydd ar gyfer 2012/13

18/12 Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2011-2012 i’r Aelodau.

19/12 Llywodraethu’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn i’r Aelodau ystyried yr opsiynau a’r cynnig ar gyfer ystyried ceisiadau yn y dyfodol i’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy a’r Grant Bach Gwyrdd.

20/12 Cyflwyno’r Adroddiad Gwella Blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru
Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r Adroddiad Gwella Blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru.

21/12 Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro: Ymgynghoriad ar Newidiadau â Ffocws
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn am ganiatâd i Brif Weithredwr, Cadeirydd ac Is-gadeirydd yr Awdurdod gyflwyno unrhyw sylwadau sy’n deillio o’r Newidiadau â Ffocws i’r Cynllun Datblygu Lleol y mae Cyngor Sir Penfro wedi’i gyhoeddi i ymgynghori yn ei gylch.

22/12 Prydles Castell Caeriw
Diben yr adroddiad hwn yw cymeradwyo’r trefniadau prydles.

23/12 Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ‘Cydamcanu – Cydymdrechu’
Cytuno ar ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru “Cydamcanu – Cydymdrechu”

11. Derbyn adroddiad llafar ar ddarparu Gwasanaethau Cyfreithiol yn y dyfodol.

12. Derbyn adroddiad llafar ar Seminar Aelodau Cymru.

Dydd Mercher, 1 Chwefror2012

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu
Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 7fed o Ragfyr, 2011.

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun
adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda.

5. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 16eg o Dachwedd, 2011 (Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth
ar 14eg o Ragfyr
.

7. Ethol Aelod Arweiniol ar gyfer Bioamrywiaeth.

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/12 Yr alwad am dystiolaeth ar gyfer ‘Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol’
Gofyn i’r Aelodau awdurdodi ymateb i holiadur Llywodraeth Cymru ar y mater uchod.

02/12 Dirprwyo Materion Gorfodaeth
Diben yr adroddiad hwn yw ceisio caniatâd i ddirprwyo rhai materion gorfodaeth.

03/12 Cyllidebau Drafft 2012/13-2014/15
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno cyllidebau Refeniw a Chyfalaf drafft ar gyfer 2012/13 a’r goblygiadau i’r cronfeydd wrth gefn, ardoll drafft 2013/14 ar Gyngor Sir Penfro, y dangosyddion darbodus ar gyfer y rhaglen gyfalaf a Datganiad ynghylch y Strategaeth Fuddsoddi a Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2012/13.

04/12 Cynllun Gweithredu ar Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant
Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ‘Strategaeth a Chynllun Gweithredu Interim Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol 2011-2014′ cyn i APCAP ddechrau ar broses o ymgynghori gyda grwpiau lleol i sicrhau cymeradwyaeth ehangach i ddull yr Awdurdod o weithredu yn achos cynhwysiant cymdeithasol.

05/12 Cynigion ar gyfer Prosiectau a Gweithgareddau – Gwybodaeth am y Mosaic, “Gwreiddiau”, “Eich Parc, Eich Dyfodol” a’r Astudiaeth Ddichonolrwydd arfaethedig ynghylch dynodi’r Parc Cenedlaethol yn Geoparc.
Rhoi gwybodaeth i’r Aelodau a chael eu cymeradwyaeth i brosiectau newydd i ymgymryd â hwy neu eu cefnogi o 2012 ymlaen.

06/12 Pen-blwydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 60
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y rhaglen weithgareddau i ddathlu pen-blwydd y Parc yn 60 oed.

07/12 Dirprwyo Awdurdod i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ar Ymgynghori
Gofyn am ganiatâd i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ystyried ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Diwygiadau i Bennod 7 o Bolisi Cynllunio Cymru – Cefnogi’r Economi, ac ymateb iddynt.

Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 2011

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd (papurau gwyrdd) a gynhaliwyd ar yr:
a) 12fed Hydref, 2011
b) 16eg o Dachwedd (Cyfarfod Anghyffredin)

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 21ain o Fedi, 2011, y 19eg Hydref, 2011 a’r 31ain o Hydref, 2011
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio a gynhaliwyd ar yr 28ain o Fedi, 2011

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar yr 28ain o Fedi, 2011

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 26ain o Hydref, 2011

9. Ystyried adroddiad cyfarfod Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar y 26ain Hydref, 2011

10. Estyn croeso a chadarnhau penodiad Mrs Melinda Thomas a Mr Allan Archer yn aelodau o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol

11. Llenwi’r swyddi gwag ar y Pwyllgorau a enwir isod yn sgîl y ffaith bod tymor gwasanaeth Mrs Fiona Lanc a Mr Richard Howells yn dod i ben:

Pwyllgor Rheoli Datblygu (dau swydd wag)
Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol (un swydd wag)
Pwyllgor Hamdden a Thwristiaeth (un swydd wag)
Pwyllgor Personél (un swydd wag)
Fforwm Cyflogeion (un swydd wag)

12. Cadarnhau Mrs G Hayward yn gynrychiolydd yr Awdurdod ar Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol yn lle Mr D Ellis

13. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

62/11 Rheoli’r Llefydd Parcio a Neilltuwyd ym Maes Parcio Aber Bach
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i godi tâl am y llefydd parcio a neilltuwyd ym Maes Parcio Aber Bach

63/11 Adolygu’r Cynllun Cyfranogiad y Cyhoedd mewn Cyfarfodydd o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ac Arolygiadau Safle, a’r drefn o gyflwyno dogfennau ar eitemau’r Pwyllgor
Mae’r adroddiad hwn yn argymell newidiadau i’r cynllun cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ac arolygiadau safle, y protocol o ran ceisiadau’r Aelodau am i eitemau gael eu hystyried gan y Pwyllgor, a’r drefn o gyflwyno gohebiaeth ynglŷn ag eitemau’r Pwyllgor

64/11 Cytundeb Ironman
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth bod yr Awdurdod yn parhau i roi cymorth ariannol i gystadleuaeth Ironman Cymru am 2 flynedd arall

65/11 Seminar Aelodau Cymru
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar weithgareddau sydd i’w trefnu ar gyfer Seminar Blynyddol Aelodau Parciau Cenedlaethol Cymru

Dydd Mercher, 12 Hydref 2011

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd (papurau gwyrdd) a gynhaliwyd ar:
a) 10fed o Awst 2011
b) 21ain o Fedi 2011 (Cyfarfod Anghyffredin)

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 20fed o Orffennaf a’r 24ain o Awst 2011
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 3ydd o Awst 2011

7. Derbyn adroddiad cyfarfod (papurau gwyrdd) y Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth a gynhaliwyd ar y 24ain o Awst 2011

8. Dirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd i ymateb i bapur ymgynghori Llywodraeth Cymru: ‘Gwella’r Broses Apeliadau Cynllunio’. Mae swyddogion wrthi’n paratoi ymateb drafft. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad yw 17 Tachwedd 2011.

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

52/11 Ymateb i’r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Diben yr adroddiad yw rhoi gwybod i’r Aelodau am yr ymateb a gafwyd i’r ymgynghoriad uchod a gofyn i’r Aelodau fabwysiadu’r canllawiau at ddibenion rheoli datblygu yn amodol ar y newidiadau a argymhellir gan swyddogion. Y pynciau yw Cynigion Ardaloedd Cadwraeth ar gyfer 13 Ardal Gadwraeth, Safleoedd Geoamrywiaeth Rhanbarthol Pwysig, Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ynni Adnewyddadwy a Chynllunio Ffrynt Siopau.

53/11 Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Ymgynghori
Diben yr adroddiad yw cael cymeradwyaeth yr Aelodau i ymgynghori ar ganllawiau cynllunio atodol ychwanegol sydd wedi’u paratoi i ategu polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol. Y pynciau yw Paneli Solar ar Raddfa Maes, Lleoli a Chynllunio Adeiladau Fferm a Gweithgareddau Hamdden.

54/11 Adroddiad Monitro Blynyddol 2011 ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Yn yr adroddiad hwn gofynnir am gymeradwyaeth yr Aelodau ar gyfer Adroddiad Monitro Blynyddol Cyntaf y Cynllun Datblygu Lleol. Rhaid cyflwyno Adroddiad Monitro i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn a dylai asesu i ba raddau y mae strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu cyflawni.

55/11 Adroddiad Blynyddol y Swyddog Monitro
Diben yr adroddiad hwn yw rhoi gwybod i’r Aelodau am yr adroddiadau a luniwyd ers mis Tachwedd 2010.

56/11 Monitro a Chamau Gweithredu yn dilyn argymhelliad y Swyddog Monitro i gwynion yn erbyn APCAP 2011 (gan gynnwys Bettws Newydd).
Mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd argymhellion a wnaed gan y Swyddog Monitro yn dilyn ei ymchwiliad i gwynion a wnaed yn erbyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol y llynedd. Mae’n nodi pa gamau sydd wedi’u cymryd neu a ddylai gael eu cymryd gan yr Awdurdod, mewn ymateb i’r argymhellion hyn.

57/11 Adroddiad craffu ar gynlluniau Cronfeydd Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn yr adroddiad mae tystiolaeth ar gyfer yr Aelodau am y cyfraniad a wnaeth cynlluniau Cronfeydd Datblygu Cynaliadwy yr amryfal Barciau i ddatblygu cymunedau isel eu carbon ac mae’n helpu’r Aelodau i ystyried sut orau i fwrw ymlaen â’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

10. Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am Drwydded Caffi Oriel y Parc.

11. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraffau 12, 14 a 16 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

58/11 Materion sy’n ymwneud â Chastell Caeriw
Mae’r papur hwn yn amlinellu asesiad ac argymhellion swyddogion mewn perthynas â thri mater sy’n ymwneud â safle Castell Caeriw:
1. Y bwriad i godi adeilad parhaol yn lle’r cabanau symudol presennol, gyda chymorth grant a fyddai hefyd yn cynnwys gwaith ychwanegol.
2. Awdurdodi gwaith trwsio brys i Sarn Caeriw.
3. Penderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol i fynegiant o ddiddordeb, nas gofynnwyd amdano, gan drydydd parti mewn gweithredu a rhedeg (dan amodau) safle Castell Caeriw.

59/11 Amrywio Rheol Sefydlog Contractau Mawr Rhif 13
Cael cymeradwyaeth i benderfyniad i roi cyfarwyddyd, fel mater o frys, i gyfreithwyr allanol mewn perthynas ag achos llys arfaethedig.Amrywio Rheol Sefydlog Contractau Mawr Rhif 13

 

Dydd Mercher, 21 Medi 2011

Dydd Mercher, 10 Awst 2011

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod (papurau gwyrdd) a gynhaliwyd ar yr:
a) 22ain o Fehefin 2011 (CBC)
b) 22ain o Fehefin 2011 (Cyfarfod Cyffredin)

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 15fed o Fehefin 2011 a 27ain o Fehefin 2011
(Dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar y 15fed o Fehefin 2011

7. Derbyn adroddiad cyfarfod y:
a) Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 22ain o Fehefin 2011; a
b) Cyfarfodydd canlynol a gynhaliwyd ar yr 20fed o Orffennaf 2011
i) Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol
ii) Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth
iii) Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio
iv) Pwyllgor Personél

8. Penderfynu ar nifer y cynrychiolwyr i fynychu Cynhadledd Safonau Cymru a gynhelir gan Gyngor Sir Powys ar 5 Hydref 2011. Gwahoddir yr Awdurdod i anfon hyd at 6 chynrychiolydd am dâl o £60 yr un.

9. Dirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn ei gyfarfod ym mis Medi i ymateb i bapur ymgynghori Llywodraeth Cymru: ‘Gwireddu potensial trafodaethau cyn ymgeisio’. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn paratoi ymateb drafft. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 28 Medi 2011.

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

42/11 Y Diweddaraf am yr Asesiad Corfforaethol
Derbyn adroddiad am yr Asesiad Corfforaethol

43/11 Y Cynllun Gwella Rhan 2
Cymeradwyo y Cynllun Gwella (Rhan 2)
am 2010/11

44/11 Cynllun Datblygu Lleol wedi’i Adneuo Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i wneud sylwadau ar Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin gan ofyn am gyfeirio’n briodol yn y Cynllun at y Parc Cenedlaethol cyfagos ac at ei Ddibenion.

45/11 Bwriad i gael gwared â darn bach o dir sy’n eiddo i’r Parc Cenedlaethol yn Freshwater East a elwir ‘y Man Troi’
Mae’r adroddiad yn cynnig cael gwared â darn bach o dir sy’n eiddo i’r Parc Cenedlaethol yn Freshwater East yn ymyl Jason Road a enwir ’y Man Troi’

46/11 Cod Morol Sir Benfro
Papur er gwybodaeth i’r aelodau yw hwn ac mae’n ymwneud â newidiadau yn rôl a chymhwysiad Cod Morol Sir Benfro y mae APC yn bartner ariannu ynddo. Caiff y cod ei reoli gan Fforwm Arfordirol Sir Benfro ar y cyd â Siarter Awyr Agored Sir Benfro. Mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar hyrwyddo aelodaeth grŵp y cod yn enwedig ymhlith cwmnïau teithiau cychod i weld byd natur. Cafwyd anawsterau i gyfryngu yn achos torri’r cod a phroblemau ariannu rôl y swyddog sy’n cydlynu’r gwaith, ac oherwydd hynny cytunodd y grŵp ariannu i ailffocysu gwaith y cod ar ddarparu gwybodaeth arfer dda ar gyfer amrywiaeth ehangach o ddefnyddwyr dŵr a lleihau’r agwedd aelodaeth a hyrwyddo’r cod.

47/11 Strategaeth Gymunedol Sir Benfro – Adolygiad Blynyddol
Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybodaeth ddiweddar i’r Aelodau am waith y Strategaeth Gymunedol a’r Bartneriaeth Arweinyddiaeth o ran cyflawni’r camau yng Nghynllun Cymunedol Sir Benfro 2010-2025.

48/11 Deddf Llwgrwobrwyo 2010
Mae’r adroddiad hwn yn hysbysu’r Aelodau am Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010 ac yn gofyn iddynt nodi’r camau a gymerwyd gan Swyddogion i sicrhau bod gan yr Awdurdod bolisïau/gweithdrefnau cadarn i rwystro unrhyw lwgrwobrwyo posibl gan neu ar ran yr Awdurdod.

11. Ystyried unrhyw fater arall y dylid ei ystyried ym marn y Cadeirydd yn fater brys oherwydd amgylchiadau arbennig yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

49/11 Drafft o Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Mae’r adroddiad hwn yn cyfeirio at Adroddiad Blynyddol cyntaf y Panel i’w seilio ar ei bwerau a swyddogaethau estynedig yn dilyn pasio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae’r adroddiad yn gosod lefel lwfansau’r Aelodau ar gyfer 2012/13, a gynigiwyd gan y Panel, ac am hynny, fe ofynnir am sylwadau Aelodau.

Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

2. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd JA Brinsden

3. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiadau derbyniedig: Cynghorydd RM Lewis
Cynghorydd M Williams
4. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

5. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

6. Ystyried adroddiad y Rheolwr Gweinyddol a Gwasanaethau Aelodau ar Aelodaeth Pwyllgorau, Cyrff Allanol a.y.y.b. a phenodi Aelodau Arweiniol
Mae’r adroddiad hwn yn galw am adolygu penodiad Aelodau i Bwyllgorau a Grwpiau mewnol yr Awdurdod, cyrff allanol a phenodiad Aelodau Arweiniol

Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 11eg o Fai 2011

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 20fed o Ebrill 2011 ar y 18fed o Fai 2011
(dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Oriel y Parc a gynhaliwyd ar yr 20fed o Ebrill 2011

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Perfformiad a gynhaliwyd ar y 4ydd o Fai 2011

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

31/11 Ymateb i’r Polisi Drafft Gorfodi Cynllunio a Chydymffurfio
Mae’r adroddiad yn cynghori ynghylch yr ymateb i’r ymgynghoriad uchod ac yn gofyn i’r Aelodau fabwysiadu’r polisi at ddibenion rheoli datblygu yn amodol ar y newidiadau a argymhellir gan y swyddogion.

32/11 Ymateb i’r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Diben yr adroddiad hwn yw cynghori ynghylch yr ymateb i’r ymgynghoriad uchod ac i ofyn i’r Aelodau fabwysiadu’r polisi at ddibenion rheoli datblygu yn amodol ar y newidiadau a argymhellir gan y swyddogion.
Atodiad D parhad

33/11 Trafodion gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynghylch Meysydd Parcio Garn Fawr, Maidenhall a Thraeth Marloes
Adroddiad i ystyried gwerthu rhydd-ddaliad meysydd parcio Garn Fawr a Maidenhall a rhoi prydles alwedigaethol newydd ar gyfer maes parcio Traeth Marloes i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

34/11 Rheoli Llithrfa Freshwater East
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau ystyried dull o reoli’r llithrfa ar draeth Freshwater East yn y dyfodol er mwyn cynnal y gwasanaeth a’r cyfleusterau a ddarperir yno.

35/11 Cynllun Rheoli Hamdden Drafft
Diben yr adroddiad yw amlinellu’r broses a’r ymatebion o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Hamdden drafft y Parc Cenedlaethol, a gofyn am ganiatâd yr Aelodau i gwblhau’r cynllun, paratoi cynllun gweithredu, a chyhoeddi’r naill a’r llall.

36/11 Digwyddiadau corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu ar lefel y gynrychiolaeth mewn gwahanol ddigwyddiadau corfforaethol y mae’r Awdurdod wedi derbyn gwahoddiad iddynt.

37/11 Lwfansau Aelodau
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau ystyried a ddylid mabwysiadu:

– cyfradd deithio ddiwygiedig Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a
– thalu Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig i Gadeiryddion y Pwyllgorau Adolygu sydd newydd eu sefydlu ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

38/11 Y Cynllun Iaith Gymraeg: Adroddiad Monitro Blynyddol 2010/11
Yn yr adroddiad hwn mae Adroddiad Monitro Blynyddol yr Awdurdod ar gyfer 2010/11 y mae’n ofynnol i’r Awdurdod ei gyflwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 7 o’i Gynllun Iaith Gymraeg (Adroddiad I ddilyn)

39/11 Rhagair Esboniadol i Gyfrifon 2010/2011
Yr adroddiad hwn yw’r Rhagair Esboniadol i’r Datganiad drafft o Gyfrifon 2010/11. Er gwybodaeth yn unig y mae hyn a gofynnir i’r aelodau nodi’r cynnwys.

40/11 Adolygu Canolfannau
Adroddiad manwl sy’n trafod y gweithgareddau yn y 5 canolfan ymwelwyr a’r atyniadau sy’n eiddo i APCAP ac a reolir ganddo. Mae’r adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i amryw o gamau gyda’r nod o leihau’r costau rhedeg hirdymor dros gyfnod o 2-3 blynedd.

41/11 Y bwriad i osod dan ddaear y gwifrau trydan uwchben ym Martins Haven
Adroddiad gan y Grŵp Rheoli Asedau i ystyried y cyfleon bod y rhwydwaith o wifrau trydan uwchben yn cael ei osod dan ddaear ym Martins Haven mewn partneriaeth â’r Cwmni Trydan Western Power

9. Ystyried unrhyw fater arall y dylid ei ystyried ym marn y Cadeirydd yn fater brys oherwydd amgylchiadau arbennig yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Dydd Mercher, 11 May 2011

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

3. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

4. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 30ain o Fawrth 2011

5. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 23ain o Fawrth 2011
(dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar y 30ain o Fawrth 2011

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Grantiau’r Ardal Gadwraeth a gynhaliwyd ar yr 8fed o Ebrill 2011

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

25/11 Cwynion am Weithdrefn (a materion eraill) Ceisiadau Cynllunio Betws Newydd a’r Apêl Ddilynol
Diben yr adroddiad yw ymateb i’r cwynion a godwyd gan Gyngor Tref Trefdraeth, Grŵp Gwrthwynebu Betws Newydd ac aelodau eraill o’r cyhoedd; mynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n codi o benderfyniad yr Arolygydd i ganiatáu’r apêl; clustnodi pwyntiau y gallai Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddysgu ohonynt a chyflwyno prosesau gweinyddol neu brosesau eraill a allai helpu i ddarparu gwasanaeth cynllunio cadarn yn y tymor hwy.
Adroddiad
Attodiad 1
Attodiad 2
Attodiad 3
Attodiad 4
Attodiad 5

26/11 Datganiad Blynyddol ar Lywodraethu
Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno Datganiad Blynyddol yr Awdurdod ar Lywodraethu ar gyfer 2010/11.

27/11 Taliadau a godir yn y Gaeaf am barcio yn Oriel y Parc
Ystyried rhoi dewis yn ystod misoedd y gaeaf o roi rhodd yn lle codi tâl am barcio ym maes parcio Oriel y Parc.

28/11 Cylch Gwaith y Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol, y Pwyllgor Adolygu Hamdden a Thwristiaeth a’r Pwyllgor Adolygu Cadwraeth a Chynllunio
Diben yr adroddiad yw cael cytundeb ar Gylch Gwaith y pwyllgorau sydd newydd eu sefydlu, sef Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol, Adolygu Cadwraeth a Chynllunio, ac Adolygu Hamdden a Thwristiaeth.

29/11 Y Weithdrefn o enwebu Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion yr Awdurdod a’i Bwyllgorau
Diben yr adroddiad yw cytuno’n ffurfiol ar y weithdrefn o enwebu Aelodau yn Gadeirydd ac Is-gadeirydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a’i Bwyllgorau ac i amlygu’r weithdrefn hon yng Ngorchmynion Sefydlog yr Awdurdod.

30/11 Adolygu’r Cyrff Allanol y penodir Aelodau arnynt i Gynrychioli’r Awdurdod Parc Cenedlaethol
Mae’r adroddiad yn adolygu’r cyrff allanol hynny y penodir Aelodau arnynt i gynrychioli’r Awdurdod.

10. Ystyried unrhyw fater arall y dylid ei ystyried ym marn y Cadeirydd yn fater brys oherwydd amgylchiadau arbennig yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Dydd Mercher, 30 Mar 2011

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

3. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

4. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:
(a) yr 2ail o Chwefror 2011
(b) y 23ain o Chwefror 2011 (Cyfarfod Arbennig)

5. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 26ain o Ionawr 2011 a’r 23ain o Chwefror 2011
(dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod Panel Asesu Grantiau o’r GDC a gynhaliwyd ar y 19eg o Ionawr 2011

8. Ystyried adroddiad cyfarfod Pwyllgor Oriel y Parc a gynhaliwyd ar y 26ain o Ionawr 2011

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Perfformiad a gynhaliwyd ar y 9fed o Chwefror 2011

10. Ystyried lefel y presenoldeb yng Ngweithdy Cymdeithas yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a gynhelir ar 24 a 25 Mai 2011 yng Ngwesty’r Royal York, Efrog ar fater ‘Gwerth Parciau Cenedlaethol’

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol (papurau gwyn):

13/11 Strategaeth Gorfforaethol 2011-2014
Cymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol 2011-2014

14/11 Rheoli’r lleoedd cadw ym Maes Parcio Aber-bach
Awdurdodi bod y broses o neilltuo lleoedd parcio cadw yn cael ei dirprwyo i’r grŵp cymunedol.

15/11 Ymgynghori ar y Cynigion i Foderneiddio Gwylwyr y Glannau EM 2010
Mae Gwylwyr y Glannau EM wedi paratoi papur yn ymwneud ag ad-drefnu gwasanaethau Gwylwyr y Glannau yn y DU. Y prif fater ar gyfer Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw’r cynnig i gau’r Ganolfan Cydlynu Gwasanaethau Achub Morol yn Aberdaugleddau ac israddio canolfan Abertawe fel rhan o broses o gwtogi nifer y canolfannau i ddwy Ganolfan Gweithrediadau Morol cysylltiedig yn Southampton ac Aberdeen. Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r ymateb er mwyn ei gyflwyno cyn y dyddiad cau ar 5 Mai.

16/11 Cais gan yr RNLI am ragor o amser i godi arian ar draethau
Am y tair blynedd diwethaf mae’r RNLI wedi cael caniatâd gan yr Awdurdod i gynnal gweithgareddau codi arian am gyfnod cyfyngedig ar y traethau a berchnogir neu a brydlesir gan y Parc. Maent yn gofyn yn awr am gyfnod hirach i gynnal gweithgareddau codi arian. Gan mai dyma’r unig grŵp a ganiateir gennym i godi arian yn y modd hwn, gofynnwn i’r Awdurdod ystyried eu cais.

17/11 Adroddiad am Wella’r Rhwydwaith Cyfrifiadurol
Gofynnir am ganiatâd i wario i wella’r rhwydwaith cyfrifiadurol.

18/11 Canllawiau Cynllunio Atodol y Cynllun Datblygu Lleol – Drafftiau ar gyfer Ymgynghori
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i ymgynghori ar amryw o ganllawiau cynllunio atodol a luniwyd i ategu polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol.

19/11 Adroddiad am yr Ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy
Diben yr adroddiad hwn yw rhannu gyda’r Aelodau y sylwadau a gafwyd am yr ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy; cytuno ar ymateb yr Awdurdod i’r sylwadau hyn a chwblhau’r canllawiau.

20/11 Cytundeb Partneriaeth arfaethedig gyda pherchenogion Grŵp Allt Pontfaen
Gofynnir am ganiatâd i fwrw ymlaen â Chytundeb Partneriaeth gyda pherchenogion Grŵp Allt Pontfaen yng Nghwm Gwaun. Bydd hyn yn galluogi APCAP i wneud cais am gymorth grant gan y Comisiwn Coedwigaeth, a gweinyddu a hawlio’r grant, er mwyn parhau i reoli’r safle.

21/11 Cais Arfaethedig i Cadw am Bwerau Dirprwyedig i Brosesu Ceisiadau am Ganiatâd Adeilad Rhestredig
Rhoi gwybod i’r Aelodau am wahoddiad i’r Awdurdod hwn gan Cadw i wneud achos dros ddirprwyo penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar gyfer adeiladau rhestredig, ac argymell fod yr Awdurdod yn mynd ati i gael statws dirprwyedig.

22/11 Amserlen Cyfarfodydd 2011 – 2012
Mae’r adroddiad yn cynnig amserlen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn sy’n dod.

23/11 Cwynion am Weithdrefn (a materion eraill) Ceisiadau Cynllunio Betws Newydd a’r Apêl Ddilynol
Diben yr adroddiad yw ymateb i’r cwynion a godwyd gan Gyngor Tref Trefdraeth, Grŵp Gwrthwynebu Betws Newydd ac aelodau eraill o’r cyhoedd; mynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n codi o benderfyniad yr Arolygydd i ganiatáu’r apêl; clustnodi pwyntiau y gallai Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddysgu ohonynt a chyflwyno prosesau gweinyddol neu brosesau eraill a allai helpu i ddarparu gwasanaeth cynllunio cadarn yn y tymor hwy.

12. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraffau 14 a 12 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

13. Ystyried adroddiad ar Gyfleoedd ar gyfer Canolfannau Parciau Cenedlaethol yn y dyfodol (Adroddiad 24/11)

14. Derbyn adroddiad gan y Prif Weithredwr ar faterion Gweithlu

15. Ystyried unrhyw fater arall y dylid ei ystyried ym marn y Cadeirydd yn fater brys oherwydd amgylchiadau arbennig yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Dydd Mercher, 23 Chwefror2011

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

4. Ystyried adroddiad ar ran yr Uwch-dîm Rheoli ynglŷn â gwaredu tir sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Bonvilles Court, Saundersfoot

Dydd Mercher, 2 Chwefror2011

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

3. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

4. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 8fed o Ragfyr 2010 (papurau gwyrdd)

5. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar yr 17eg o Dachwedd 2010 a’r 15fed o Ragfyr 2010
(dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Gweithgor Strategaeth Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar y 15fed o Ragfyr 2010

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol :

Rhif yr Adroddiad Testun a chrynodeb Swyddog

 

01/11 Ymgysylltu Cymunedol

Adolygiad o’r gwaith a wnaed yn ddiweddar gan APCAP ar ymgysylltu â chymunedau lleol yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r brif ddogfen adolygu (sydd ynghlwm), a luniwyd gan Datblygu Cymunedol Cymru, ynghyd ag argymhellion penodol sy’n ymwneud â gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol. Caiff y papur ei gyflwyno ar y cyd gan James Parkin, Cyfarwyddwr Hamdden, Marchnata a Chyfathrebu APCAP a Derith Powell, Prif Weithredwr Datblygu Cymunedol Cymru

Cyfarwyddwr Hamdden, Marchnata a Chyfathrebu
02/11 Cynllunio’r Gyllideb2011/12-2013/14

Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau wneud penderfyniadau ynghylch cyllideb gymeradwy ar gyfer 2011/12 a materion cysylltiedig, ac yn rhoi gwybodaeth am gyllidebau mynegiannol 2012/13 a 2013/14

Prif Weithredwr a’r Brif Swyddog Cyllid
03/11 Digolledu am Ddiswyddiadau a Chynllun Diogelu Ymddeoliad/Cyflogau

Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo’r Polisi Ad-drefnu/Diswyddiadau a chymeradwyo’r trefniadau a argymhellir ar gyfer diogelu cyflogau

Rheolwr Personél
04/11 Y Strategaeth Pobl

Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo’r Strategaeth Pobl am y cyfnod Ionawr 2011 i Fawrth 2012. Workforce Plan

Rheolwr Personél
05/11 Cyfansoddiad Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr

Mae’r adroddiad hwn yn anelu at benderfynu ar aelodaeth y panel ar gyfer 2011-12

Rheolwr Personél
06/11 Sageston Northside

Gofyn am ganiatâd i fwrw ymlaen â datblygiad preswyl ar y safle hwn yn Sageston

Uwch-Dîm Rheoli
07/11 Taliadau Parcio

Ystyried cynyddu’r taliadau parcio

Pennaeth Rheoli Busnes
08/11 Ymateb i Gynllun Datblygu Lleol wedi’i Adneuo Cyngor Sir Ceredigion

Diben yr adroddiad hwn yw hysbysu’r Aelodau am yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Datblygu Lleol wedi’i Adneuo Cyngor Sir Ceredigion a gofyn am gymeradwyaeth yr Awdurdod i anfon ymateb o’r Awdurdod hwn

Swyddog Cynllunio

(Cynlluniau Datblygu)

09/11 Cyfarwyddiadau Erthygl 4

Hysbysu’r aelodau am y camau a ddefnyddir i sicrhau fod ein hamgylchedd hanesyddol yn cael ei warchod at y dyfodol, ac ystyried yr angen am ddefnyddio Cyfarwyddiadau Erthygl 4 fel rhan o’r dulliau gwarchod hyn

Cyfarwyddwr Cadwraeth a Chynllunio
10/11 Caffi Traeth Poppit

Diben y papur yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau a gofyn am ganiatâd i baratoi dogfennau prydles newydd a fydd yn gyfle i ddarparu cyfleuster arlwyo yn adeilad presennol y caffi yn Nhraeth Poppit am y 10 mlynedd nesaf

Uwch-Dîm Rheoli
11/11 Ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru – Newidiadau Arfaethedig i’r Hawliau Datblygu a Ganiateir i Ddeiliaid Tai

Rhoi gwybod i’r aelodau am ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ymwneud â newidiadau arfaethedig i hawliau datblygu a ganiateir i ddeiliaid tai a cheisio’u cefnogaeth i’r ymateb arfaethedig i’r ddogfen ymgynghori

Pennaeth Rheoli Datblygu
12/11 Adolygiad o’r Gwasanaethau Cynllunio

Derbyn adroddiad PriceWaterhouseCoopers am Wasanaethau Cynllunio tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru

Pennaeth Rheoli Busnes
9.

 

Ystyried unrhyw fater arall y dylid ei ystyried ym marn y Cadeirydd yn fater brys oherwydd amgylchiadau arbennig yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Dydd Mercher, 8 Rhagfyr 2010

Lawrlwythwch y cofnodion

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

3. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

4. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y:
a) 29ain o Fedi 2010
b) 20fed o Hydref 2010 (Cyfarfod Arbennig)

5. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar y 15fed o Fedi 2010 a’r 20fed o Hydref 2010
(dosbarthwyd copïau o’r adroddiadau uchod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu)

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwllgor Adolygu Pefformiad a gynhaliwyd ar y 10fed o Dachwedd 2010

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar yr 20fed o Hydref 2010

9. Ystyried adroddiad cyfarfod Pwyllgor Oriel y Parc a gynhaliwyd ar y 27ain o Hydref 2010

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 29ain o Hydref 2010

11. Ystyried adroddiad cyfarfod Panel Asesu Grantiau o’r GDC a gynhaliwyd ar yr 17eg o Dachwedd 2010

12. Ystyried adroddiad cyfarfod Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar y 23ain o Dachwedd 2010

13. Ystyried adroddiad cyfarfod Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 6fed o Ragfyr 2010

14. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

46/10 Ymgysylltu Cymunedol
Adolygiad o’r gwaith a wnaed yn ddiweddar gan APCAP ar ymgysylltu â chymunedau lleol yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r brif ddogfen adolygu (sydd ynghlwm), a luniwyd gan Datblygu Cymunedol Cymru, ynghyd ag argymhellion penodol sy’n ymwneud â gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol. Caiff y papur ei gyflwyno ar y cyd gan James Parkin, Cyfarwyddwr Hamdden, Marchnata a Chyfathrebu APCAP a Derith Powell, Prif Weithredwr Datblygu Cymunedol Cymru.

47/10 Y Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2011/12 – 2013/14
Mae’r adroddiad hwn yn gyfle i’r Aelodau ystyried a rhoi sylwadau ar y Strategaeth Gorfforaethol ddrafft 2011-2014 a chytuno hefyd i ymgynghori ar ei chynnwys gyda’r prif randdeiliaid.

48/10 Polisi Gorfodi Cynllunio
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am y gwaith a wnaed hyd yma ar yr adolygiad o’r swyddogaeth gorfodi cynllunio ac mae’n gofyn am eu cefnogaeth i’r polisi gorfodi arfaethedig.

49/10 Ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru – ‘Cymru Fyw’ (Y Fframwaith Amgylchedd Naturiol)
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth Aelodau APCAP i ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth, ‘Cymru Fyw’, ar y cyd â Pharciau eraill Cymru.

50/10 Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft i’r Cynllun Datblygu Lleol
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i ymgynghori ar amryw o ganllawiau cynllunio atodol a luniwyd i ategu polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol.

51/10 Strwythur Pwyllgorau
Nod y papur yw cynnig newidiadau i Strwythur Pwyllgorau’r Awdurdod.

52/10 Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau: Meini Prawf Uwch
Gofynnir i’r Aelodau fabwysiadu’r meini prawf drafft sydd ynghlwm wrth yr adroddiad a pharatoi Cynllun Gweithredu i weithio tuag at y Lefel Uwch.

53/10 Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau: Trafodaethau Datblygiad Parhaus
Gofynnir i’r Aelodau ymrwymo i gyflwyno Trafodaethau Datblygiad Parhaus fel ffordd o helpu’r Aelodau gyflawni eu rôl yn effeithiol.

54/10 Y Strategaeth Rheoli Newid
Mae’r adroddiad hwn yn anelu at esbonio ar ba lefel yn yr awdurdod y caiff penderfyniadau sy’n ymwneud â newidiadau mewn personél a ffyrdd o weithio eu gwneud.

55/10 Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau
Bydd yr adroddiad yn ystyried argymhelliad Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau mewn perthynas â’r swyddi gwag ar gyfer Aelodau annibynnol o’r Pwyllgor Safonau

15. Ystyried unrhyw fater arall y dylid ei ystyried ym marn y Cadeirydd yn fater brys oherwydd amgylchiadau arbennig yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972