Ffurflenni Cais a Ffioedd

Gallwch wneud eich cais ar-lein drwy'r Porth Cynllunio neu drwy e-bost neu bost yn defnyddio'r ffurflenni cais perthnasol.

Cyngor Cyn-Gwneud-Cais

Cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol, gallwch ofyn i’r tîm Rheoli Datblygu am farn anffurfiol am y gwaith sydd gennych mewn golwg. Rydym yn annog trafodaethau cyn-gwneud-cais oherwydd yn aml medrant gyflymu’r broses o wneud cais, annog a chefnogi cynlluniau da ac efallai helpu i leihau costau. Am fwy o wybodaeth ewch i’r adran Cyngor Cynllunio.

Gwybodaeth Ategol

Bydd angen i chi gynnwys yr holl wybodaeth ategol angenrheidiol gyda’ch cais i’w wneud yn ‘ddilys’. Bydd hyn yn cynnwys ffurflen gais wedi’i llenwi’n llawn, y ffi gynllunio (manylion isod), darluniau / cynlluniau i raddfa fetrig gydnabyddedig, ac unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r cais. Am fwy o wybodaeth am faint a’r math o wybodaeth fydd angen ei chynnwys gyda’ch cais, darllenwch drwy’r Llawlyfr Rheoli Datblygu ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ffioedd Cais a Chyn-Gwneud-Cais

Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu’r ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio a chyngor cyn-gwneud-cais.

Er mwyn gweithio allan y ffi gywir, ewch i’r Cyfrifydd Ffioedd neu darllenwch y taflenni ffioedd perthnasol isod:

Dyma rai mathau cyffredin o geisiadau y mae’r Awdurdod yn delio â nhw a’r ffi gynllunio ar eu cyfer:

Cais gan ddeiliad tŷ £230
Cais gan ddeiliad tŷ i wneud diwygiad ansylweddol £35
Ffi deiliad tŷ i weithredu amodau £35
Tai newydd (hyd at ac yn cynnwys 50) £460
Newid defnydd adeilad neu dir £460
Codi adeilad (ar gyfer amaethyddiaeth) (heb fod dros 465 metr ciwbig) £100
Tystysgrif datblygiad cyfreithlon – ar gyfer defnydd neu waith presennol Yr un fath â’r ffi lawn
Tystysgrif datblygiad cyfreithlon – ar gyfer defnydd neu waith arfaethedig Hanner y ffi arferol
Cais am hysbyseb (ar gyfer arwyddion busnes neu arwyddion cyn cyrraedd) £120
Hysbysebion eraill £460
Cais i wneud diwygiad ansylweddol £115
Gweithredu amod £115

Gallwch weld a lawrllwytho'r ffurflenni a'r nodiadau cyfarwyddyd cysylltiedig trwy ddilyn y dolenni isod.

Hysbysebion

Cais am Ganiatâd Cynllunio a chaniatâd i arddangos hysbyseb(ion).

Nodiadau Cyngor

Cais am ganiatâd i arddangos hysbyseb(ion).

Nodiadau Cyngor

Hysbysiad Ymlaen Llaw: Amaethyddiaeth, Goedwigaeth a Thelathrebu

Cais blaen-hysbysu datblygiad amaethyddol neu goedwigaeth – adeilad arfaethedig

Nodiadau Cyngor

Cais blaen-hysbysu datblygiad amaethyddol neu goedwigaeth – ffordd arfaethedig.

Nodiadau Cyngor

Cais blaen-hysbysu datblygiad amaethyddol neu goedwigaeth – deunydd gwastraff / cloddio.

Nodiadau Cyngor

Cais blaen-hysbysu datblygiad amaethyddol neu goedwigaeth – tanc pysgod arfaethedig (cawell).

Nodiadau Cyngor

Cais blaen-hysbysu datblygiad arfaethedig gan weithredwyr systemau cod telathrebu.

Nodiadau Cyngor

Tystysgrifau Cyfreithlondeb

Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer defnydd, gwaith neu weithgaredd presennol gan gynnwys rhai sy’n torri amod gynllunio.

Nodiadau Cyngor

Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer defnydd neu ddatblygiad arfaethedig.

Nodiadau Cyngor

Ardal Gadwraeth

Cais gan Ddeiliad Tŷ am Ganiatâd Cynllunio ar gyfer gwaith neu estyniad ar dŷ a chaniatâd Ardal Gadwraeth.

Nodiadau Cyngor

Cais am Ganiatâd Cynllunio a chaniatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel mewn Ardal Gadwraeth.

Nodiadau Cyngor

Cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel mewn Ardal Gadwraeth.

Nodiadau Cyngor

Amodau

Cais i gymeradwyo manylion wedi eu cadw’n ôl gan amod.

Nodiadau Cyngor

Dymchwel

Cais blaen-hysbysu gwaith dymchwel arfaethedig.

Nodiadau Cyngor

Caniatâd Cynllunio Llawn

Cais am Ganiatâd Cynllunio.

Nodiadau Cyngor

Cais am Ganiatâd Cynllunio a Chaniatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel mewn Ardal Gadwraeth.

Nodiadau Cyngor

Cais am Ganiatâd Cynllunio a Chaniatâd Adeilad Rhestredig i wneud addasiadau, i godi estyniad ar, neu i ddymchwel adeilad rhestredig.

Nodiadau Cyngor

Cais am Ganiatâd Cynllunio a chaniatâd i arddangos hysbyseb(ion).

Nodiadau Cyngor

Cais i ddileu neu amrywio amod yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio (cais Adran 73).

Nodiadau Cyngor

Gwrychoedd a Choeded

Cais am hysbysiad tynnu gwrych.

Nodiadau Cyngor

Cais i wneud gwaith coed: gwaith ar goed gyda Gorchymyn Diogelu Coed (TPO) arnynt a / neu hysbysiad o waith arfaethedig i goed mewn Ardal Gadwraeth.

Nodiadau Cyngor

Deiliad Tŷ

Cais gan Ddeiliad Tŷ am Ganiatâd Cynllunio i wneud gwaith neu i godi estyniad ar dŷ.

Nodiadau Cyngor

Cais gan Ddeiliad Tŷ am Ganiatâd Cynllunio i wneud gwaith neu godi estyniad ar dŷ a chaniatâd Ardal Gadwraeth.

Nodiadau Cyngor

Cais gan Ddeiliad Tŷ am Ganiatâd Cynllunio i wneud gwaith neu godi estyniad ar dŷ a chaniatâd adeilad rhestredig.

Nodiadau Cyngor

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Cais gan Ddeiliad Tŷ am Ganiatâd Cynllunio i wneud gwaith neu godi estyniad ar dŷ a chaniatâd adeilad rhestredig.

Nodiadau Cyngor

Cais am Ganiatâd Cynllunio a Chaniatâd Adeilad Rhestredig i wneud addasiadau, i godi estyniad ar, neu i ddymchwel adeilad rhestredig.

Nodiadau Cyngor

Cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig i wneud addasiadau, i godi estyniad ar, neu i ddymchwel adeilad rhestredig.

Nodiadau Cyngor

 

Diwygiadau Ansylweddol

Cais am ddiwygiad ansylweddol yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio.

Nodiadau Cyngor

Cais Cynllunio Amlinellol

Cais am Ganiatâd Cynllunio Amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl.

Nodiadau Cyngor

Cais am Ganiatâd Cynllunio Amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl.

Nodiadau Cyngor

Cais i gymeradwyo materion wedi eu cadw’n ôl yn dilyn rhoi caniatâd amlinellol.

Nodiadau Cyngor