Dewch i fwynhau diwrnod cynhanesyddol yng Nghastell Henllys ac ymgollwch eich hun yn yr unig bentref Oes Haearn ym Mhrydain sydd wedi’u hailadeiladu yn y fan a’r lle y byddent wedi sefyll 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn eiddo i ac yn cael ei rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ein nod yw sicrhau bod eich ymweliad i’r gorffennol yn ysbrydoli dyfodol gwyrddach.

Y Pentref Oes Haearn

Yn ein tai crwn cewch gwrdd â’n pentrefwyr Oes Haearn cyfeillgarwrth iddynt rannu eu gwybodaeth am fywyd cynhanesyddol a byw mewn harmoni gyda’r tir drwy sgyrsiau ac arddangosiadau. Daw hanes y fryngaer yn fyw drwy gyfrwng tywyswyr mewn gwisgoedd sy’n cynrychioli aelodau o lwyth y Demetae, a oedd yn byw yn y gornel hon o Gymru cyn, yn ystod ac ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid.

 

 

Iron Age roundhouses at Castell Henllys Iron Age Village

Cyfleusterau a Gwybodaeth Bellach

Mae Castell Henllys hefyd yn gartref i fridiau hynafol o dda byw a choetir heddychlon llawn amrywiaeth o fywyd gwyllt.

GORCHUDDION WYNEB

Er nad yw’n hanfodol i wisgo gorchudd wyneb mwyach yng Nghymru, mae croeso i chi wisgo un os rydych yn teimlo’n fwy diogel trwy’i wneud.

HYGYRCHEDD A’R SGWTER SYMUDEDD

Mae gennym ddau sgwter symudedd pob tir ar gael i’w fenthyg. Ffoniwch 01239 891319 er mwyn eu harchebu.

GYFEILLGAR I GŴN

Roedd pobl ye Oes Haearn yn mwynhau cwmni eu cŵn. Mae croeso i’ch ci rannu yn eich antur gynhanesyddol hyd iddynt fod ar dennyn. Mae bagiau ar gyfer cwn ar gael yn y dderbynfa.