Apeliadau Cynllunio

Rhaid apelio o fewn chwe mis i ddyddiad y penderfyniad ac eithrio yn achos apeliadau hysbysebu lle mae'n rhaid apelio o fewn un mis i'r penderfyniad.

Ystyrir apeliadau gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Gellir apelio am nifer o resymau:

  • Lle mae caniatâd cynllunio wedi’i wrthod
  • Lle mae caniatâd wedi’i roi ond gydag amodau
  • Lle gwrthodwyd manylion oedd eu hangen o dan ganiatâd cynllunio amlinellol blaenorol
  • Lle caniatawyd manylion oedd eu hangen o dan ganiatâd cynllunio amlinellol blaenorol ond gydag amodau
  • Lle gwrthodwyd unrhyw fater arall oedd yn ofynnol drwy amod ar ganiatâd blaenorol (yn hytrach na’r uchod)
  • Lle mae’r Awdurdod Cynllunio wedi methu â phenderfynu’r cais o fewn yr amser priodol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, penodir Arolygydd fydd yn ystyried barn pawb ac yn dod i benderfyniad annibynnol ar y mater.  Bydd yr Arolygydd yn gallu:

  • Dileu amodau
  • Gwrthdroi gwrthod y cais.

Drwy wneud hynny, bydd hefyd yn gallu:

  • Ychwanegu amodau
  • Dyfarnu costau i’r Apelydd neu i’r Awdurdod Cynllunio Lleol os gellir dangos bod yr apêl yn ddiangen

Gwneud apêl

Mae ffurflenni a dogfennau canllaw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Neu gallwch gysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio drwy’r manylion isod:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd   CF10 3NQ

Rhif ffôn: 0303 444 5940
E-bost: wales@pins.gsi.gov.uk

Am arweiniad, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Chwilio penderfyniadau apêl