Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yma yn Oriel y Parc i helpu ymwelwyr i fanteisio ar eu harhosiad yn Sir Benfro.

Gallwn gynnig cyngor ar bethau i’w gwneud a lleoedd i aros yn yr ardal.

Byddwn ni wrth ein bodd i awgrymu teithiau cerdded i chi sy’n amrywio o deithiau cerdded byr i’r 186 milltir o’r Llwybr Cenedlaethol.

Siop Anrhegion

Mae siop Oriel y Parc yn cynnwys amrywiaeth eang o gynhyrchion, o eitemau gwaith llaw, fel powlenni a llestri crochenwaith, i emwaith arian cain wedi’i ddylunio’n arbennig, deunyddiau celf, cardiau, jam a siytni lleol, teganau plant ac amrywiaeth eang o lyfrau.

Mae gennym ni ddetholiad o eitemau â brand Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro hefyd os hoffech gael cofrodd o’ch ymweliad, gan gynnwys cotiau fleece, piniau ysgrifennu a phensiliau a bathodynnau.

Mae’r posteri retro boblogaidd hefyd ar gael, gyda chwe dyluniad gwahanol, bob un yn cynrychioli’r arfordir a thirwedd y Parc Cenedlaethol. Gellir eu prynu yn Gymraeg neu Saesneg.

Shop Interior at Oriel y Parc