Cyfle i fwynhau’r golygfeydd godidog o’r comins a phenderfynu pam fod y maen hir wedi'i osod yma yn eich barn chi.
Bedd Morris
Ydi’r maen hir ar ochr y ffordd ar Gomin Carn Ingli yn dynodi bedd carwr mewn galar neu leidr pen ffordd dieflig?
Bedd Morris yw enw’r maen hir ar yr hen ffordd rhwng Cwm Gwaun a Threfdraeth. Ond pwy oedd Morris? Ai cariad anlwcus ydoedd neu ddihiryn ffiaidd?
Nifer o flynyddoedd yn ôl, yn ôl un stori, roedd gŵr ifanc o’r enw Morris yn byw yn Nhrefdraeth. Roedd dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â merch hardd o Bontfaen, anheddiad bychan wedi’i nythu ynghanol harddwch Cwm Gwaun. Rhwng y ddau gariad hyn roedd ucheldir gwyllt a chreigiog Comin Carningli.
Yn drist iawn, doedd tad y ferch ddim yn cymeradwyo’r cariad rhwng Morris a’i ferch. Roedd Morris yn ei farn ef islaw’r hyn a haeddai ei ferch. Felly, yn lle, fe drefnodd briodas fwy addas iddi yn ei farn ef.
Doedd ei ferch, serch hynny, ddim yn fodlon derbyn dymuniad y tad yn dawel. Erfyniodd arno dro ar ôl tro i newid ei feddwl. Bob tro yr erfyniodd arno, fe wrthododd ac fe arweiniodd hyn y pâr ifanc i benderfynu sortio pethau allan eu hunain yn y dirgel.
Heriodd Morris y cariadfab arall i ornest yn y man uchaf ar y ffordd greigiog uwchben Comin Carn Ingli. Yno fe gwrddon nhw ac ymladd hyd at farwolaeth.
Felly dyna sut y collodd Morris ei frwydr, ac yn ôl y stori arbennig hon, mae’r maen hir, Bedd Morris, yn nodi maes ei frwydr.
Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn ôl y stori eto, bu farw’r ferch ifanc a’i carodd hefyd- o dor calon.
Ond ai dyma be ddigwyddodd mewn gwirionedd? Neu a ydyw’r maen, Bedd Morris, yn nodi bedd lleidr pen ffordd ofnadwy?
Yn ôl chwedl arall, ar y llwybr diarffordd uchel hwn trigai un tro ddihiryn a’i enw oedd Morris.
Trigai mewn ogof gyda’i ffrind gorau (a’i unig ffrind)- ci bach gwyn. Roedd yn rhoi braw i’r holl ardal a phawb a basiai heibio ar y mynydd yn ofni’n ddirfawr.
Ar ôl blynyddoedd lawer o ddioddef ei ladrata pen ffordd digywilydd, o’r diwedd roedd y trigolion lleol wedi cael digon. Dyma nhw’n dod at ei gilydd a ffurfio grŵp arfog mawr a sleifio i fyny at yr ogof lle trigai Morris.
Yno, fe ymosodon nhw arno ef a’i gi ac ar ôl ei lusgo allan i ymyl y ffordd, fe’i crogon nhw ef yn y fan a’r lle- a gadael y maen hir hwn, Bedd Morris, i atgoffa pawb nad oedd lladrata pen ffordd yn talu ffordd.