Gall tanau gael effaith dinistriol dros ben ar gefn gwlad, ni weidio ein heconomi, ecoleg, amgylchedd, treftadaeth a chymunedau gwledig. Ond gellir lleihau ar y difrod.
Gallwn helpu, drwy addysg, i gyfyngu ar gychwyn tanau gwyllt, a thrwy reolaeth ymarferol o’r tir gallwn felly leihau ar y difrod posibl.
Mae Grŵp Tanau Gwyllt Sir Benfro yn grŵp a sefydlwyd yn 2013 i fod yn llais dros atal tanau gwyllt yn Sir Benfro.
Nid siop siarad fydd e; bydd y grŵp yn gweithio hefyd gyda pherchnogion tir a chymunedau gyda’r bwriad o gymryd camau cadarnhaol er mwyn gwarchod cefn gwlad Sir Benfro.
Gweinyddir y grŵp gan PLANED (fel rhan o Rwydwaith Amaethyddiaeth Cynaliadwy Sir Benfro).
Ein hamcanion cyffredinol yw:
- Cyfrannu at reolaeth cynaliadwy cefn gwlad Sir Benfro.
- Hyrwyddo atal tân ymhlith perchnogion tir, cymunedau lleol ac ymwelwyr.
- Lleihau maint ac effaith tanau gwyllt pan fo’n nhw’n digwydd.
- Gwella’r cysylltiadau rhwng cymunedau lleol â’r Gwasanaeth Tân ac Achub
- Adeiladu rhwydwaith gref sy’n annog cydweithio, ac sy’n caniatáu i gymunedau
gwledig ymgymryd â rôl gweithredol wrth warchod eu hamgylchedd a’u heconomi rhag effaith tanau gwyllt. - Bod yn lladmerydd ar faterion yn ymwneud â thanau gwyllt yn Sir Benfro.
Er mwyn i gyrraedd yr amcanion, bydd y grŵp yn:
- Addysgu a darparu cyngor ar faterion yn ymwneud â thanau gwyllt.
- Darparu Cynlluniau Rhag Tân a mapiau o ardaloedd gwledig a ddynodwyd yn arbennig.
- Trefnu hyfforddiant gyda phwyslais arbennig ar arferion gweithio’n ddiogel.
- Datblygu arferion gweithio ar y cyd ar gyfer holl aelodau’r grŵp.
- Creu grŵp sy’n ganolbwynt ar gyfer gweithredu fel lladmerydd ar faterion yn ymwneud â thanau gwyllt yn Sir Benfro.
- Datblygu gweithdrefnau ar y cyd er mwyn datblygu adwaith mwy effeithiol i danau gwyllt.
- Gweithredu rhaglen codi ymwybyddiaeth sy’n canolbwyntio’n arbennig ar bobl ifanc.
- Gweithio tuag at sicrhau cyllid lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd er mwyn cefnogi mentrau perthnasol.
Cysylltwch â'r Grŵp
Am ragor o fanylion, cysylltwch â'n Swyddog Gwarchodaeth FfermArwel Evans ar 01646 624948 neu ebostiwch arwele@pembrokeshirecoast.org.uk