Archwiliad

Cynllun Datblygu Lleol 2

Ar 13 Mai 2020 derbyniodd yr Awdurdod Adroddiad yr Arolygydd ar yr Archwiliad i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Canfu’r Arolygydd penodedig fod y CDLl Newydd, yn amodol ar y newidiadau a argymhellwyd, yn gadarn. Y bwriad yw y bydd Cynllun Datblygu Lleol 2 Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael ei fabwysiadu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar ddydd Mercher 30 Medi 2020.

Adroddiad Ymgynghori

Mabwysiadu

Gellir cael gwybodaeth bellach, gan gynnwys copïau o’r Rhestr o’r Newidiadau i’r Materion sy’n Codi, Atodiad Arfarniad o Gynaliadwyedd, Atodiad Rheoliadau Cynefinoedd, Atodiad Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a’r ffurflen sylwadau ar y dudalen we Newidiadau i’r Materion sy’n Codi.

Yn sesiwn derfynol y gwrandawiad ar y 1af o Hydref 2019, cyhoeddodd yr Arolygydd mai’r dyddiad tebygol y bydd hi’n cyflwyno’i hadroddiad i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol i wirio’r ffeithiau fydd yr 22ain o Ionawr 2020. Atgoffodd yr Awdurdod y byddai’r adroddiad hwn yn derfynol.

Cynhaliwyd Sesiynau’r Gwrandawiad yn Neuadd Pater, Stryd Dimond, Doc Penfro, SA72 6DD.

AMSERLEN SESIWN GWRANDAWIAD AR CDLl APCAP
Dyddiad 9.30AM 2.00PM
WYTHNOS 1
2 Gorffennaf 2019
Ystafell Warrior
Mater 1 – Agor, Paratoi’r Cynllun a Strategaeth y Cynllun
3 Gorffennaf 2019
Ystafell Warrior
Mater 2 – Nodweddion Arbennig y Parc Cenedlaethol Mater 3 – Datblygiad Mawr, y Potensial ar gyfer Twf
4 Gorffennaf 2019
Ystafell Warrior
Mater 4 – Newid Hinsawdd, Dylunio Cynaliadwy, Ynni Adnewyddadwy a Llifogydd Mater 5 – Economi Ymwelwyr, Cyflogaeth a Chyfleusterau Cymunedol
WYTHNOS 2
9 Gorffennaf 2019
Ystafell Warrior
Mater 6 – Darpariaeth a Dosbarthiad Tai
10 Gorffennaf 2019
Ystafell Warrior
Mater 7 – Tai Fforddiadwy, Llety Sipsiwn a Theithwyr
11 Gorffennaf 2019
Ystafell Warrior
Mater 8 – Safleoedd a Ddyrannwyd: Polisi 48 (HA3, HA4, HA5, HA6, HA10, HA11)
WYTHNOS 3
1 Hydref 2019
10.30am Ystafell Warrior
Mater 9: Preswylfa Preifat / Tai Cysylltiadau Lleol, Tai Fforddiadwy a Fframwaith Monitro

Bydd pob sesiwn Gwrandawiad yn dechrau am 9:30 y bore a 2:00 y prynhawn bob dydd, gydag egwyl i ginio tua 1.00 y prynhawn, ac yn gorffen tua 4:30 y prynhawn.

Bydd trafodaethau ar y Fframwaith Monitro yn cael eu cynnal yn ysgrifenedig oni bai bod yr Arolygydd o’r farn ei bod yn briodol cynnal sesiwn gwrandawiad.

Dim ond os yw’r Arolygydd yn ystyried bod angen gwneud hynny y cynhelir sesiynau gwrandawiad i drafod Safleoedd Amgen.


Cafodd y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad ei gynnal ddydd Mawrth y 7fed o Fai 2019. Mae nodiadau’r cyfarfod hwnnw i’w gweld yn Llyfrgell yr Archwiliad.


YR AROLYGYDD
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi penodi Mrs Nicola Gulley MA MRTPI o’r Arolygiaeth Gynllunio i gynnal yr Archwiliad annibynnol fydd yn asesu cadernid y Cynllun Datblygu Lleol. Ei swyddogaeth yw ystyried yr holl dystiolaeth a chynhyrchu adroddiad gan roi ei hargymhellion ar gyfer gweithredu. Bydd yr adroddiad yn rhwymo’r Awdurdod, gan fod rhaid iddo dderbyn y newidiadau a argymhellir gan yr Arolygydd.

Y SWYDDOG RHAGLEN
Gweinyddir proses yr Archwiliad gan y Swyddog Rhaglen Caroline Llewellyn, sy’n annibynnol ar yr Awdurdod, ac a fydd yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr Arolygydd. Dylid cyfeirio’r holl gyfathrebu/ymholiadau ynghylch yr Archwiliad (gan gynnwys gohebiaeth i’r Arolygydd) at y Swyddog Rhaglen gan ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol:

Manylion Cyswllt
Ffôn: 01646 624800
Gwe: https://www.arfordirpenfro.cymru/ldpexamination
Cyfeiriad: Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY

Sesiynau Gwrandawid CDLl2

Mwy gwybodaeth am CDLl2