Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Nod Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw diogelu’r Parc Cenedlaethol i genedlaethau’r dyfodol drwy wella’r ffordd mae’r tir yn cael ei reoli ar gyfer bywyd gwyllt, gweithio i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd, tynnu sylw at hanes a diwylliant yr ardal, a sicrhau bod y Parc yn hwylus i bawb.

Beth mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i sefydlu i’w wneud?

  • Diogelu beth sy’n arbennig
    Rydyn ni’n gweithio gydag arbenigwyr a gwirfoddolwyr i ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd pwysig, adeiladau hanesyddol a safleoedd archaeolegol y Parc Cenedlaethol.
  • Galluogi Pawb i wneud y mwyaf o’r Parc Cenedlaethol
    Mae ein hawyr agored ni’n anhygoel. Mae’n donic i’r meddwl, y corff a’r enaid ac rydyn ni am iddo fod yn hygyrch i bawb. Rydyn ni am helpu pobl i ddysgu amdano a gwirfoddoli i’w ddiogelu.
  • Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu Arfordir Penfro
    Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid, tirfeddianwyr, busnesau a sefydliadau cymunedol. Rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd; yn diogelu ein harfordir arbennig ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mwy gwybodaeth

  • Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian, a rhif cofrestru'r elusen yw 1179281.