Saesneg Sir Benfro

Wrth i anheddwyr newydd wladychu De Sir Benfro, gan arfer eu masnachau, sefydlu trefi a phentrefi a chau caeau i mewn, arhosodd y Cymry brodorol yng ngogledd y sir, tu hwnt i ‘gyffindir’ a labelwyd yn ‘Linell y Landsger’ yn yr 20fed ganrif gynnar. Daw enw’r ‘cyffindir’ hwn o’r gair Norseg am ffin, sef ‘sker’.

Mae’r rhaniad hwn yn dal i fod yn amlwg i radd heddiw, gyda Saesneg De Sir Benfro i’w chlywed yn Arberth a’r Gymraeg dair milltir i fyny’r heol yng Nghlunderwen.

Mae’r rhaniad hwn yn dal i fod yn amlwg i radd heddiw, gyda Saesneg De Sir Benfro i’w chlywed yn Arberth a’r Gymraeg dair milltir i fyny’r heol yng Nghlunderwen.

Dyma ambell air a chymal hyfryd sydd efallai’n unigryw i’r ardal:

Gair Ystyr
all to clush/in a caffle wedi drysu
all beleejers hamddenol
all for heat diwrnod diflas yn yr haf
all front person sy’n gwneud pethau er mwyn dangos eu hun
angletwitch  pryf genwair
apple-flap cacen ‘apple turnover’
ba bachgen
babaloobies copinau cerrig hindreuliedig/o gerrig mân
balshag persog bratiog
bittie tamaid bach
brangel menyw haerllug
cackty person llwfr (‘cachgi’)
cack-handed lletchwith, trwsgl
cadge crafu am arian/pethau
chopsy siarad gormod
capswabble celwydd, lol
cobnobble ceryddu, taro ar y pen
cockalorum wand a ddefnyddir gan swynwyr/iachawyr ffydd
drapsy person diog
dicky sâl, ansicr
dimp person syml, gwirionyn
empting arllwys y glaw
en, un ef, hwnna
enough blue sky to make a pair of drawers arwydd fod y tywydd yn clirio
fantaddling ffwdanu
funkin person angharedig
furrable person haerllug
furren estron, dramor
scaddly pluck sgramblo e.e. ar gyfer losin
tammat llwyth bach

…a llawer iawn mwy, sy’n llawer rhy lliwgar i’r dudalen hon!

Mae ambell air wedi goroesi o’r dafodiaith Gymraeg hefyd, gan gynnwys:

Gair Ystyr
cardydwyn person bach
clegyr carreg fawr
cluster bonclust
heck / hercan cloffi

O’r Llychlynwyr

A fu’n trallodi’r ardal o’r nawfed ganrif i’r unfed ganrif ar ddeg, mae gennym:

Gair

Ystyr

sker ffin cae
haggard ydlan
hagglestone cenllysg

O ganlyniad i’r amser a dreuliodd y Fflemwyr yn Lloegr cyn cyrraedd Sir Benfro

A rhyng-briodi, dirywiodd eu hiaith yn gynnar. Ond, rydyn ni’n dal i glywed ambell air:

Gair

Ystyr

droppel trothwy
hadridge mwstard gwyllt
slop bwlch yn y clawdd

Ymhlith nifer o eiriau sydd â’u tarddiad yng Ngorllewin Lloegr, mae:

Gair

Ystyr

sker glo bach
evil fforch gwellt
drang llwybr
pill culfach lanwol
lake nant