Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Gwybodaeth am yr Awdurdod

Dynodwyd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym 1952 ac mae’n un o dri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru – y ddau arall yw Eryri (1951) a Bannau Brycheiniog (1957) - ac mae’n un o 15 Parc Cenedlaethol ym Mhrydain.

Mae angen gofal ar yr ardal hyfryd hon o Sir Benfro, i’w gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac felly, o ganlyniad i Ddeddf yr Amgylchedd 1995, crëwyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym 1996 i ddarparu’r union warchodaeth honno.

Sefydlwyd deg Parc Cenedlaethol cyntaf Cymru a Lloegr rhwng 1951 a 1957. Crëwyd y Parciau i warchod tirweddau trawiadol ac i ddarparu cyfleoedd hamdden ar gyfer y cyhoedd.

Nod a Dibenion

Wrth reoli’r Parc Cenedlaethol, mae gan yr Awdurdod ddau ddiben statudol:

  • gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol, a
  • hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau ei nodweddion arbennig a’u deall.

Wrth fynd ar drywydd y ddau ddiben hyn, mae hefyd yn ddyletswydd ar yr Awdurdod i feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau sy’n byw o fewn y Parc.

Nid yw Parciau Cenedlaethol yn eiddo cyhoeddus. Mae mwyafrif y tir – dros 95% yn achos Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – yn eiddo preifat.

Awdurdod y Parc sy’n rheoli’r Parc ac mae ganddo tua 150 aelod o staff a phwyllgor o 18 Aelod. Porwch drwy’r adran hon i gwrdd â’r Aelodau a i gael gwybod mwy am y gwaith a wneir gan ei staff.

The Pembrokeshire Coast National Park Authority's Llanion Park headquarters.

Safonau Gwasanaeth

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon uchel ar gyfer pob un o’n cwsmeriaid. Fe fyddai’n dda cael gwybod beth yw eich barn chi amdanom ni a/neu’r gwasanaeth a ddarperir gennym.

Os ydych chi’n teimlo bod gwasanaeth penodol a gawsoch o safon uchel, neu os ydych yn teimlo bod aelod o staff wedi gwneud rhywbeth yn arbennig o dda, fe fyddai’n braf cael gwybod amdano.

Yn yr un modd, rydyn hi hefyd angen gwybod os nad ydyn ni wedi cael rhywbeth yn iawn. Mae ein staff yn gweithio’n galed ac wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth da, ond efallai y bydd yna adeg pan yr ydych yn teimlo ein bod wedi methu â chwrdd â’ch disgwyliadau, neu ein bod wedi ymddwyn mewn ffordd anaddas. Neu, efallai eich bod yn teimlo nad ydym wedi ymddwyn mewn ffordd addas.

Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael cam mewn unrhyw ffordd, cofiwch eich bod yn dweud wrthym – does dim gobaith i ni wella os na ddywedwch chi. Felly, cysylltwch â ni gyda manylion os oes gennych unrhyw gwynion neu ganmoliaethau.

Cliciwch ar y ddolen i lawrlwytho ein dogfen Safonau Gwasanaeth

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro,
SA72 6DY

Ffôn: 01646 624800

Ebost: gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk

 

Castle by a lake

Yswiriant yr Awdurdod

Yswirwyr yr Awdurdod yw Zurich Municipal.

Rhif polisi XAO-272045-3433.

Mwy am Awdurdod y Parc Cenedlaethol