Cynefinoedd mewndirol

Am fod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi'i amgylchynu gan y môr ar dair ochr, mae yna ddylanwad morwrol ar ei hinsawdd, hyd yn oed yn yr ardaloedd sydd fwy tua'r tir.

Cedwir amgylcheddau tua’r tir yn gynnes yn y Gaeaf (ac yn oerach yn yr Haf) oherwydd Drifft Gogledd Iwerydd (cerrynt cynnes y môr) ac maen nhw’n cael eu cadw’n llaith gan y prif wyntoedd de-orllewinol oddi ar Foryd Gogledd Iwerydd.

Mae’r rhan fwyaf o dir fferm yn Sir Benfro o ansawdd da ac wedi cael ei ffermio’n ddwys ar gyfer cynnyrch llaeth, eidion, âr neu datws cynnar – ac mae’r patrwm hwn yn parhau. Ond, nid yw rhai rhannau o yn cael eu ffermio’n arferol, fel cloddiau, coetiroedd, ac ardaloedd corsiog neu brysgiog o briddoedd mwy tenau, llethrau garw, dyffrynnoedd afon cul a’r math yma o beth.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd y tir ymylol gwael hwn – prysg, dryslwyn, tir corsiog ac ymylon caeau – ei amaethu er mwyn tyfu mwy o fwyd i helpu’r ymdrech adeg y rhyfel. Roedd hyn yn golygu bod mwy o dir yn cael ei ffermio, ac felly roedd yna lai o arwynebedd tir ar gyfer bywyd gwyllt, ar ffurf cynefinoedd gwylltach heb eu trin.

Hyd yn oed o dan bwysedd adeg rhyfel, nid oedd modd ffermio rhai darnau o dir yn ardaloedd mwyaf anhygyrch y fferm. Y rhannau llai hygyrch oedd y rhain, gan gynnwys llethrau serth a charegog a ddyffrynnoedd dwfn a chul. Daeth yr ardaloedd hyn i fod yn lloches ar gyfer bywyd gwyllt, oherwydd nid oedd llawer o darfu – ac roedd digon o amrywiaeth o rywogaethau.

Ar ôl y rhyfel, gadawyd i’r tir ymylol fynd yn ôl at ei gyflwr ‘naturiol’ oherwydd nid oedd ei angen mwyach i gynhyrchu bwyd.

Rhannau mwy gwyllt a naturiol pob fferm sy’n darparu cartrefi ar gyfer yr amrywiaeth fwyaf o blanhigion a chreaduriaid gwyllt. Mae angen rheoli’r cynefinoedd hyn tua’r tir yn ofalus er mwyn cynnal eu hamrywiaeth. Mae rhai o’r cynefinoedd yn cynnwys rhywogaethau prin sydd angen ein hamddiffyniad ni os ydyn nhw am oroesi a ffynnu.

Fe fydd rheoli cynefinoedd penodol o ran cadwraeth hefyd yn helpu cynyddu’r fioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol ar y cyfan.

Minwear on the Daugleddau Estuary c

Fflatiau Llaid ac Aberoedd

Pam mae’r llefydd hyn yn bwysig?
Mae fflatiau llaid ac aberoedd yn edrych fel cynefinoedd brwnt, anaddawol, ond mewn gwirionedd mae eu cynhyrchiad biolegol yr un peth â chynhyrchiad fforest law drofannol. Mae ganddyn nhw fioamrywiaeth helaeth ac felly maen nhw’n nodweddion pwysig iawn yn y Parc Cenedlaethol.

Fe’u ffurfiwyd wrth i ddyffrynnoedd afonydd orlifo ar ôl yr Oes Iâ diwethaf. Mae’r mwd wedi bod yn cronni ers 8,000 o flynyddoedd. Yr aber fwyaf yw’r Daugleddau. Caiff ei bwydo gan afonydd Dwyrain a Gorllewin y Cleddau i fyny’r afon, ac mae’n ehangu i mewn i Ddyfrffordd Aberdaugleddau – un o’r porthladdoedd naturiol mwyaf yn y byd – i lawr yr afon. Mae’r ddyfrffordd hon mor bwysig ei bod wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae’n Warchodfa i Fywyd Gwyllt. Mae hyn yn golygu nad oes hawl saethu adar yn yr ardal hon. Mae’n arbennig o bwysig ar gyfer gwarchod y dyfrgi a rhywogaethau llai enwog fel pysgod Lamprai. Mae aberoedd yn lleoliadau llwyfannu pwysig ar gyfer adar sy’n mudo yn y Gaeaf oherwydd mae’r dŵr a’r mwd yn llawn o fwyd sy’n uchel o ran ynni, fel mwydon a physgod cregyn.

Beth yw nodweddion aberoedd?
Caiff y fflatiau llaid eu ffurfio gan gydbwysedd perffaith yr afonydd sy’n gollwng eu gwaddod a’r erydiad sy’n digwydd oherwydd symudiad ysgafn y tonnau wrth i’r llanw godi a disgyn. Maen nhw’n cael eu golchi drwy’r amser gyda heli newydd wrth i’r llanw godi. Caiff yr heli ei wanedu gan lif cyson dŵr afon yr ardal. Rhaid bod planhigion ac anifeiliaid sy’n byw yma yn gallu ymdopi gydag amodau sy’n newid mor ddeinamig. Gelwir y planhigion a’r anifeiliaid hyn yn Haloffytau, sy’n golygu eu bod nhw’n gallu byw mewn amgylchedd hallt. Mae’r anifeiliaid wedi’u haddasu i guddio pan fydd y llanw’n mynd allan, naill ai’n syth o dan y creigiau neu trwy dyrchu yn y mwd. Er enghraifft, mae Sbonc y Glennydd (a elwir hefyd yn Chwannen Draeth neu Sand Hopper yn Saesneg) yn nofio yn y dŵr hallt (hanner heli, hanner croyw), ac yna’n cuddio o dan greigiau pan fydd y llanw’n isel. Daw mwydon fel Lygwn, and bifalfiau fel Cocos i’r wyneb pan fydd y llanw i mewn yn unig.

Mae planhigion wedi addasu yn yr un ffordd ag y mae planhigion yr anialwch yn addasu ar gyfer yr amgylchedd sych. Mae gan Llygwyn Ariannaidd (Sea Purslane) ddail tew a chennau arian arnynt. Mae’r dail tew yn cadw dŵr ac mae’r cennau sy’n amddiffyn y dail yn gwneud iddo edrych fel lliw arian. Mae’r Gwydrlys yn blanhigyn suddlon a ddefnyddiwyd i wneud y carbonad sodiwm sydd ei angen i wneud gwydr. Mae’r ddwy rywogaeth hon yn tyfu ar y mwd, gan wneud morfa heli. Dyma’r rhywogaethau cyntaf neu’r ‘arloeswyr’ sy’n galluogi’r morfa heli i newid yn raddol gydag amser.

Mae gan y planhigion hyn rôl bwysig o ran adeiladu’r gwaddod hyd nes bod y pridd yn ddigon dwfn i gynnal coed. Gelwir y broses hon yn olyniaeth. Yn raddol, caiff y mwd ei sefydlogi gan wreiddiau’r planhigion arloesol, y Llygwyn Ariannaidd a’r Gwydrlys, gan alluogi cordwellt i dyfu. Nesaf, mae’r brwyn yn tyfu, fel brwyn caled a brwyn y morfa, a hesg gan gynnwys hesg llygliw, ac yna prysgwydd fel eithin a helyg. Wrth i’r llystyfiant newid, mae’r anifeiliaid yn newid – maen nhw’n newid o fod yn rhai morol i rai sy’n byw ar y tir, er enghraifft o’r dyfrgi i’r cadno.

Beth yw’r bygythiadau i’r cynefin hwn?
Mae fflatiau llaid yn sensitif iawn i ddifrod ffisegol a chemegol. Fe all sathru ar y mwd meddal ddinistrio ei strwythur eiddil. Fe all rhuthr y tonnau oherwydd cychod cyflym hefyd niweidio strwythur y mwd.

Fe all gwrtaith o gaeau sydd wedi’u gwella gael ei gario i mewn i’r dŵr a newid cydbwysedd cemegol y mwd, ac mae hyn yn effeithio ar allu organebau sy’n byw yno i oroesi. Fe all llygredd olew o gychod ledaenu dros y mwd a suddo i mewn iddo pan fydd y llanw’n isel, gan niweidio’r organebau hefyd.

Fe all palu am abwyd hefyd achosi difrod sylweddol oherwydd mae’n gallu gostwng poblogaeth rhai rhywogaethau o fwydon; mae hefyd yn dinistrio cynefin y mwd trwy ddinistrio ei strwythur.

Gweundiroedd​

Beth yw Gweundiroedd?
Mae gweundiroedd yn ardaloedd o gorlwyni, fel y grug cyffredin (ling), grug lludlwyd, grug y mêl ac eithin y gorllewin. Mae’r planhigion hyn yn tyfu’n dda ar bridd ble nad oes llawer o faeth. Mae’r math yma o lystyfiant yn nodweddiadol o benrhynau Tyddewi a Strwmbl ar yr arfordir a hefyd ardaloedd mawr o waun tua’r tir. Mae yna fwy o waun iseldir yn Sir Benfro nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. Mae gweundiroedd yn amrywio oherwydd mae’r planhigion sy’n byw ynddynt ychydig yn wahanol oherwydd y math o bridd a’r lleithder sydd ynddo.

Beth sy’n eu gwneud nhw mor arbennig a pham maen nhw dan fygythiad?
Mae gweundir yn edrych fel cynefin naturiol a gwyllt ond mae’n ganlyniad i waith clirio coedwigoedd ar gyfer amaethyddiaeth tua 5,000 mlynedd yn ôl. Roedd y ffermwyr yn defnyddio cylchoedd ailadroddus o bori a llosgi, gan greu’r rhandiroedd mawr o weundir a welwn ni heddiw.

Dros y 100 mlynedd diwethaf collwyd rhandiroedd mawr o weundir oherwydd newidiadau mewn dulliau ffermio a gwella tir, fel defnyddio gwrteithiau. Mae’r hyn sydd ar ôl dan fygythiad oherwydd esgeulustod. Roedd y rhan fwyaf o’r gweundiroedd tua’r tir a gollwyd yn wlyb iawn ac yn edrych fel glaswelltir corsiog gyda phrysg helyg. Gwellwyd yr ardaloedd hyn trwy ddraenio i wneud porfa garw. Nid yw gwelliannau mewn ardaloedd o’r fath yn creu glaswelltir gwerthfawr i bori ond mae wedi annog arferion ffermio traddodiadol fel llosgi, pori gydag amrywiaeth o anifeiliaid, torri a chloddio clai i fynd yn angof.

Yn fwy pwysig, gwlypter sylweddol yr ardaloedd hyn sy’n helpu creu cynefin mor werthfawr ac amrywiol. Maen nhw’n arbennig o dda o ran cynnal amrywiaeth gyfoethog o bryfed, fel Mursen brin y De, brith y gors, y chwilen deigr gwyrdd a lindys yr Ymerawdwr. Mae natur benodol y gweundir y maen nhw’n byw arno yn penderfynu ar allu’r rhywogaethau hyn i oroesi. Er enghraifft, planhigyn o’r enw Devils Bit Scabious yw planhigyn bwyd brith y gors, ac mae’n tyfu’n dda mewn gweundir gwlyb. Dim ond trwy ailgyflwyno hen arferion ffermio y gall gweundir barhau i fod yn rhan o Sir Benfro.

Sut mae’r ardaloedd hyn yn cael eu hamddiffyn?

Astudiaeth achos Coedwig Penlan
Cuddiwyd y gweundir yng Nghoedwig Penlan gan blanhigfa Sbriws Sitka ers 1970. Hyd yn oed fel monoddiwylliant arhosodd 30% o’r blanhigfa fel gwaun. Nawr mae’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac mae’n cael ei ailgreu i gyfuno’r waun yn gynefin o goetir derw yng Nghwm Gwaun islaw, gan greu brithwaith o weundir/coetir. Wrth i’r coed sbriws gael eu torri darganfuwyd bod digon o rhywogaethau gweundir o hadau o dan y nodwyddau i ailgreu’r cynefin yn naturiol. Mae’r coetir derw’n cael ei ailblannu gan ddefnyddio glasbrennau. Cymerir gofal yn y ddau gynefin i reoli’r glasbrennau sbriws. Mae’r prosiect wedi bod ar waith ers pum mlynedd ac mae’r canlyniadau’n addawol.

Astudiaeth achos Maes Awyr Tyddewi
Dechreuodd y gwaith o ailgreu’r gweundir gwlyb ym Maes Awyr Tyddewi trwy gael gwared ar yr holl adeiladau hen, ac yna rhoi clai naturiol yn lle’r uwchbridd. Yna trawsblannwyd tywarch gyda mathau addas o blanhigion i mewn i ardaloedd penodol a llenwyd y gofod rhyngddyn nhw gyda malurion o weundir aeddfed. Mae’r malurion hyn yn cario hadau grug ac eithin, sy’n egino’n naturiol yn yr ardal. Mae’r ardaloedd hyn nawr yn cael eu llosgi bob pum mlynedd a’u pori yn y Gaeaf gan gyfuniad o ddefaid a gwartheg.

Mae yna ddôl organig wedi ei hadfer o fewn y maes awyr. Yn yr ardal hon caiff y borfa ei thorri unwaith y tymor ym mis Gorffennaf fel y gall blodau gwyllt osod eu hadau. Ni ddefnyddir unrhyw gemegau i wella’r tyfiant. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant, ar gyfer y cynefinoedd gweundir a dolydd, oherwydd mae bioamrywiaeth y ddau gynefin yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Astudiaeth Achos Comin Dowrog
Mae yna ddatblygiadau wedi bod ar waith yng Nghomin Dowrog ger Tyddewi ers y 30 mlynedd diwethaf. Cafodd ei adfer trwy gael gwared ar rywogaethau ymledol fel rhedyn, prysg a rhododendrons. Hyd nes 1990 gwnaethpwyd hyn trwy losgi pob Gaeaf. Ers 1990 rheolwyd y safle trwy bori. O ganlyniad i’r cyfnod hir hwn o reolaeth, mae gennym boblogaethau sefydlog o rai rhywogaethau prin, fel y ganrhi felen, crinllys y goedwig, cennau Cladonia pezizformis a Mursennod Coch ac amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd brithwaith gweundir.

Dyfrffyrdd​

Beth yw dyfrffordd?
Mae dyfrffordd yn dramwyfa o ddŵr croyw o afon neu nant, o’r tir i’r môr. Mae dyfrffyrdd yn arbennig am eu bod nhw’n llefydd tawel ble y gallwch chi gerdded a gwylio’r bywyd gwyllt neu fwynhau chwaraeon fel pysgota neu ganŵio. Maen nhw’n gynefinoedd deinamig oherwydd mae’r dŵr yn symud trwyddyn nhw ac yn newid y tir wrth iddo lifo. Yn y Parc, nid yw dyn wedi newid rhyw lawer ar y dyfrffyrdd, ac felly mae yna gynefin gyfoethog sy’n gartref i rywogaethau fel y dyfrgi, glas y dorlan, trochwyr ac ystlumod. Mae’r rhywogaethau hyn ond yn byw mewn dŵr llonydd di-lygredd, neu yn agos ato.

Pam mae dyfrffyrdd mor bwysig?
Mae dyfrffyrdd yn bwysig oherwydd maen nhw’n cysylltu cynefinoedd at ei gilydd ac yn darparu ffynonellau cyfoethog ac amrywiol o fwyd – fel archfarchnadoedd! Pryfed yw un o’r bwydydd ‘pwysig’ sydd i’w gweld yma.

Mae dyfrffyrdd yn gynefin ‘brithwaith’ sydd wedi’i rhannu yn bedair ardal: dyfrol, ymylol, ochrau’r glannau a dyffryn. Mae gan bob cynefin ei organebau ei hun sy’n byw ynddo, er enghraifft planhigion dyfrol fel Gellesgen Felen y Gerddi, pryfed – gan gynnwys Gwas y Neidr – sy’n byw yng ngwaelod yr afon fel nymff ac yn hedfan uwchben fel oedolyn, a mamaliaid fel y Dyfrgi sy’n hela yn y dŵr ac yn byw ar lannau’r afon. Un peth sy’n rhaid ei gael mewn cynefin dŵr croyw da yw dŵr clir, di-lygredd.

Mae ardal fewndirol y Parc yn doreth o afonydd a nentydd sy’n amrywio o ran eu maint a’u math. Y dalgylchoedd mwyaf yw Dwyrain a Gorllewin y Cleddau, y Daugleddau a Dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae dalgylchoedd llai yn cynnwys dalgylchoedd afonydd y Nyfer, Gwaun, Solfach, Alun a Ritec. Gwneir yr holl waith o amddiffyn a monitro’r afonydd hyn fel adnodd dŵr gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ond mae’n ddyletswydd ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol i amddiffyn a chynnal lefelau ansawdd dŵr uchel ac i warchod rhywogaethau sy’n byw yno. Caiff pob dyfrffordd ei chategoreiddio fel Ecosystem Afon Dosbarth 1 a 2. Mae hyn yn golygu bod ansawdd y dŵr yn dda neu’n dda iawn ar gyfer yr holl rywogaethau o bysgod, h.y. yn glir ac yn rhydd o lygredd.

Sut mae dyfrffyrdd dan fygythiad?

Mae yna sawl ffordd o ddifrodi cwrs dŵr a gostwng ansawdd y cynefin:

  • Mae llygredd trwy garthffosiaeth a gollyngfeydd diwydiannol wedi gostwng yn sylweddol dros y 30 mlynedd diwethaf. Ond, mae llygredd “tryledol” yn dod yn fater mwy bob dydd. Ceir llygredd tryledol pan fydd cemegau a ddefnyddir gan ffermwyr, e.e. dip defaid neu wrtaith, yn symud yn araf trwy’r pridd i mewn i’r dŵr, gan achosi difrod uniongyrchol i’r organebau neu niweidio ansawdd y dŵr trwy broses Gorfaethu. Mae’r dŵr sy’n rhedeg oddi ar heolydd hefyd yn ychwanegu at y llygredd tryledol, yn enwedig pan fydd halen ar yr heolydd yn y Gaeaf.
  • Mae “tyniad” yn golygu cael gwared ar ddŵr – e.e. i’w ddefnyddio gan bobl neu oherwydd sychder. Os oes gormod o ddŵr yn cael ei dynnu mae’r llygrwyr yn mynd yn fwy crynodedig a’r lefelau ocsigen yn gostwng. Mae’r ddau beth yn gallu niweidio organebau sy’n byw yn y dŵr.
  • Fe all newidiadau yn y ffordd y mae afon yn llifo’n naturiol, trwy sefydlogi glannau neu balu pyllau, effeithio ar gydbwysedd y cynefin a gwneud iddo newid. Os yw hyn yn arwain at ddifrod, yna fel arfer gwelir llai o fioamrywiaeth yn yr ardal sydd wedi’i heffeithio.
  • Mae siltio’n digwydd os oes dŵr yn rhedeg oddi ar gae neu ardaloedd o bridd noeth, oherwydd mae’r dŵr yn gallu cludo darnau bach iawn o bridd ac yn gallu anafu neu dagu pysgod yn y ddyfrffordd. Mae hefyd yn gallu difrodi gwelyau claddu wyau ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn yng ngwely’r afon. Er mwyn atal hyn, mae’n well cael ardal o lystyfiant rhwng y pridd noeth a’r dŵr. Gelwir hyn yn glustogfa.
  • Mae rhywogaethau planhigion estron, h.y. y rheiny sydd ddim yn frodorol i Brydain, yn gallu meddiannu ac ymledu ar hyd dyfrffordd – gan or-gystadlu yn erbyn y planhigion brodorol a gostwng y fioamrywiaeth i fonoddiwylliant. Enghreifftiau o’r planhigion estron hyn yw llysiau’r dial (Japanese knotweed) a’r ffromlys chwarennog (Himalayan balsam). Er mwyn atal difrod i’r cynefin, rhaid rheoli’r planhigion hyn trwy eu chwistrellu gyda chwynladdwr.

Sut mae dyfrffyrdd yn cael eu hamddiffyn?

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddylanwad:

  • Hybu defnydd dŵr mwy cynaliadwy, trwy ddefnyddio ei fesurau rheoli cynllunio i sicrhau nad yw defnydd dŵr yn ddiangen neu’n niweidiol i’r cynefin.
  • Dod i gyswllt gyda ffermwyr a gweithio gyda nhw i’w helpu i ddefnyddio dŵr mewn ffyrdd sy’n addas i’r cynefin ac felly gostwng llygredd uniongyrchol.

Coetiroedd​

Beth yw coetir?
Mae cynefin goetir yn gyfuniad o haenau o rywogaethau coed a phrysglwyni, o’r canopi uchaf i lawr i’r llawr. Mae yna dair haenen mewn coedwig. Yr haenen uchaf (canopi) yw’r haenen fawr o goed, yn aml yn Sir Benfro deri digoes yw’r rhain. Mae’r haenen ganol yn cynnwys coed llai fel y gerdinen, y gollen a’r gelynnen, a phrysglwyni fel mieri. Mae iorwg a gwyddfid yn tyfu trwy’r haenen ganol ac yn gweithredu fel pont rhwng y llawr a’r canopi. Yn olaf, mae yna blanhigion ar yr haenen waelod fel clychau’r gog, rhedyn, anemone’r coed, suran y coed a fioledau.

Mae yna ddau fath o goetir i’w gweld yn Sir Benfro: coetir derw iseldir a llwyn onn. Y math mwyaf cyffredin yw’r coetir derw iseldir, ac yn y coetir hwn y derw digoes yw’r rhywogaeth fwyaf blaenllaw. Mae’r math hwn o gynefin yn nodweddiadol o hinsawdd forol fwyn. Gwelir yr enghreifftiau gorau o goetir derw lled-naturiol yng Nghymoedd Gwaun a Nyfer ac yn rhan uchaf y Daugleddau. Gwelir llwyni onn mewn priddoedd sydd â sylfaen gyfoethog yn ne’r sir yn unig.
Diolch i’r amodau mwyn, llaith, ceir amgylchedd da ar gyfer rhywogaethau o gennau. Yn rhai o goed y Waun mae yna 750 gwahanol fath o gennau yn tyfu ar y coed ac ar lawr y coetir. Ceir amrywiaeth eang o redyn hefyd, rhai cyffredin, a rhai prin, fel y rhedynach prin a’r farchredynen.
Sut mae’r cynefin hwn yn cael ei warchod?
Mae gwarchod ac ymestyn coetir yn Sir Benfro yn flaenoriaeth uchel i Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i fudiadau partner.

Dim ond tua 6% o Sir Benfro yw’r coetiroedd, ac maen nhw’n gorchuddio’r sir mewn ffordd ddarniog iawn. Ble maen nhw’n bodoli, maen nhw ar ymyl tir fferm. Cyn 1600 roedd tua 30% o’r tir yn goetir, ac felly fel cynefin mae wedi bod yn dirywio ers o leiaf 400 mlynedd. Yn y 100 mlynedd diwethaf, collwyd y coetiroedd yn bennaf oherwydd plannu planhigfeydd coniffer.

Ers y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r broses o reoli coetiroedd wedi dirywio oherwydd collwyd y sgiliau ar gyfer y math hwn o reolaeth. Hefyd, cyflwynwyd rhywogaethau anfrodorol ac maen nhw’n meddiannu ardaloedd mawr o goetir.

Y nod yn y tymor hir yw adfer yr ardaloedd sydd wedi eu hesgeuluso ac ymestyn ardaloedd trwy gynlluniau plannu. Rhaid bod unrhyw goed newydd sy’n cael eu plannu yn rhai brodorol a rhaid eu bod yn addas ar gyfer coetir yn Sir Benfro, felly caiff hen blanhigfeydd coniffer, er enghraifft yng Nghoedwig Penlan, eu hailblannu gyda choed brodorol. Mae yna broses o reoli rhywogaethau anfrodorol hefyd, fel y sycamorwydden a’r ffawydden, fel eu bod nhw’n llai na 10% o’r canopi. Yn yr isdyfiant rheolir chwyn anfrodorol fel llysiau’r dial (Japanese knotweed), llawryf a rhododendrons. Rheolir y coedwigoedd sydd wedi eu hesgeuluso yn iawn i gael gwared ar bren marw fel sy’n berthnasol er mwyn eu galluogi i adfywio’n naturiol. Caiff coed eu cwympo i sicrhau bod y strwythur oed yn well; hynny yw, mae 10% o’r goedwig yn goed sy’n iau nag 20 mlwydd oed a 10% yn goed aeddfed, gyda phrysglwyni’n cael eu gadael i heneiddio.

Gellir ond gwireddu’r gwelliannau hyn os yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda chyrff eraill sydd â diddordeb fel y Comisiwn Coedwigaeth, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

Mae gan yr Awdurdod Swyddog Coed a Thirwedd sy’n rhan o’r tim Rheoli Datblygu. Mae coed yn elfen annatod o dirwedd y Parc Cenedlaethol ac maen nhw angen sylw penodol wrth ystyried cais cynllunio, yn ogystal â rheolaeth gyffredinol coed a pherthi.

Mae hefyd gan yr Awdurdod canolfan goetir yng Nghilrhedyn ger Abergwaun. Mae’n gwneud cynnyrch pren yr Awdurdod, gan gynnwys arwyddion, sticlau, meinciau, hyd yn oed blychau adar a giatiau fferm.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld gwybodaeth am y gwahanol fathau o gynefinoedd arfordirol:​

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol