Maenorbŷr

Sir Benfro: Gwlad y Chwedlau

Gyda hanes, natur, a golygfeydd ysblennydd, mae Maenorbŷr yn rhywbeth i bawb. Ewch am dro ar y traeth, archwiliwch y pyllau glan mor, cerddwch y Llwybr Arfordir ysblennydd ac edrychwch ar y castell hanesyddol, yr eglwys a'r siambr gladdu.

Jack Furze o Faenorbŷr

Mae’r smyglwr cyfrwys Capten Jack Furze yn cael dihangfa gyfyng o’r llongau treth!

 

Kings Quoit, Manorbier

Mae arfordir y de yn llawn traethau tywodlyd hir, clogwyni serth, a chilfachau bach, cysgodol.  Roedd y cilfachau hyn arfer bod yn llefydd prysur iawn – nid yn ystod y dydd tra oedd pobl yn chwarae yn y tywod ac yn chwilota yn y pyllau glan môr, ond dan lenni’r nos…

Mor bell yn ôl a’r 17eg ganrif, roedd smyglwyr yn defnyddio’r cilfachau bach hyn i smyglo nwyddau fel gwin a brandi i Sir Benfro.

Mae stori enwog iawn wedi’i lleoli yma yng Nghastell Maenorbŷr.  Ar ddechrau’r 19eg ganrif, glaniodd morwr o’r enw Capten Jack Furze, neu Jolly Jack Furze.

Dywedodd wrth y trigolion lleol ei fod wedi cynilo dipyn o arian a’i fod eisiau newid cynefin.  Penderfynodd brydlesu rhywfaint o dir y castell a rhoi cynnig ar ffermio a chloddio glo.

Roedd yn gyfeillgar â’r pentrefwyr ac roedd pawb i weld yn fodlon yng nghwmni ei gilydd.  Ond doedd Jack ddim wedi newid bywyd ar y môr am fywyd ar y tir yn gyfan gwbl.

Roedd ganddo long ddeufast fach a oedd ar fynd ganddo ar hyd yr arfordir, gan stopio ym Mae Swanlake a Freshwater East, a daeth i’r amlwg yn y pen draw mai dyma oedd ei brif waith.

Roedd ei nwyddau’n gwerthu fel slecs! Roedd yn defnyddio seleri’r castell fel ei fan storio, a dim ond ffug-esgus oedd ei waith ffermio a chloddio.

Ni chafodd unrhyw drafferth nes un diwrnod, wrth iddo fynd tua’r arfordir yn ei long, gwelodd longau cyllid y Brenin ar y gorwel.

Wedyn, bu gornest – un llong ddeufast fach yn erbyn llongau’r Brenin. Roedd llongau’r Brenin ar ei gynffon, yn saethu ac yn ymosod yn ddi-baid.

I ffwrdd â Jolly Jack igam-ogam yn ei long llawn tyllau.  Yn ôl y sôn, anfonodd Jack ei ddynion i’r bwrdd isaf a rheoli’r llong ei hun.

Diolch i’w forwriaeth ardderchog ac ychydig o lwc efallai, llwyddodd i osgoi ei ymosodwyr nes iddi nosi, a dianc.

Dianc â chroen ei ddannedd wnaeth e a dyna ddiwedd ei yrfa smyglo, a ffermio, ym Maenorbŷr!

Darganfyddwch fwy o chwedlau Sir Benfro