Mynediad i dir agored

Ar Mai 28 2005, fe gyflwynodd ‘Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000’ hawl mynediad newydd ar droed i ardaloedd gwledig sylweddol yng Nghymru. Yr enw a roddwyd ar yr Hawl Mynediad Newydd hwn yw’r hawl i grwydro”, oherwydd mae cerddwyr nawr yn gallu crwydro’n rhydd o fewn ardaloedd gwledig dynodedig, yn hytrach nag aros ar y llwybrau.

Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i gerdded ar “dir agored” (a ddiffinnir fel rhos, mynydd a gwaun) yn ogystal ag ar dir comin cofrestredig. Gyda’i gilydd, yr enw ar y rhain yw Tir Mynediad, ac fel arfer mae’n dir sydd ddim yn gaeedig nac wedi ei drin, fel Mynyddoedd y Preseli a’r gweundir ar Benrhyn Tyddewi. Mae’r hawl mynediad newydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gerdded y rhannau o’r Parc Cenedlaethol sy’n llai adnabyddus ac yn cael llai o ymwelwyr, ac i archwilio’r ardaloedd hyn. Nodwedd o’r ardaloedd hyn yw tirwedd sydd, i bob pwrpas, heb ei chyffwrdd gan amaethyddiaeth ddwys ac sy’n gyfoeth o olion archeolegol.

Efallai bod yr “Hawl i Grwydro” yn awgrymu bod pobl yn gallu cerdded i unrhyw le y maen nhw’n dymuno yng nghefn gwlad. Ond, nid yw hyn yn wir, oherwydd dim ond 10% o’r Parc Cenedlaethol sy’n Dir Mynediad. Nid oes unrhyw hawl mynediad i gefn gwlad yn gyffredinol. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i ardaloedd sydd â llawer o adeiladau, closydd fferm, gerddi, coetiroedd na chaeau wedi eu trin. Er mwyn egluro’n union ble mae pobl yn gallu cerdded, mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cynhyrchu mapiau o dir agored a thir comin. I weld map o’r tir agored yn Sir Benfro, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cwestiynnau Cyffredin

Beth mae’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy wedi ei wneud?
Mae wedi rhoi’r hawl i bobl gerdded ar draws milltiroedd o rostir a gweundir sy’n eiddo preifat, a thir comin, a elwir yn Dir Mynediad.

Nodwedd o ardaloedd o’r fath yw’r brigiadau creigiog a rhostir â grug, eithin, rhedyn a glaswelltir garw.

Ydi hyn yn golygu ein bod ni’n gallu cerdded ble bynnag yr ydyn ni’n dymuno?
Mae croeso i chi gerdded ar Dir Mynediad, ond nid oes “hawl i grwydro” ar draws cefn gwlad yn gyffredinol.

Nid yw’r hawliau mynediad newydd yn effeithio ar fwyafrif cefn gwlad y Parc Cenedlaethol, ac felly fe fydd angen i gerddwyr gadw at lwybrau cyhoeddus.

Open access symbol denoting 'open access land'

Sut ydyn ni’n darganfod pa ardaloedd a ddynodwyd yn Dir Mynediad?
Dangosir y tir mewn lliw melyn golau ar y mapiau Arolwg Ordnans 1:25000 diweddaraf (cyfres Explorer).

Mae’r mapiau diweddaraf o Dir Mynediad ar gael mewn Canolfannau Gwybodaeth ac o swyddfeydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Cyngor; mae map sy’n dangos tir mynediad ar gael wrth fynd i wefan MapDataCymru.

Ble ydyn ni’n gallu cerdded?
Ble bynnag welwch chi’r symbol mynediad agored – cerddwr mewn brown tywyll ar gefndir gwyn (gwelwch isod).

Mae yna 6,000 hectar o Dir Mynediad yn y Parc Cenedlaethol (ac mae hyn yn 10% o’r Parc Cenedlaethol). Mae i’w weld yn bennaf yng ngogledd Sir Benfro, mewn ardaloedd fel Mynyddoedd y Preseli.

Photograph of the Pembrokeshire Coast looking south from Penberi towards St David's Head.

Beth allwn ni ei wneud ar Dir Mynediad?
Unrhyw beth ar droed – cerdded, rhedeg, dringo, cael picnic (ond dim gwersylla, cynnau tannau na gadael sbwriel), tynnu lluniau, paentio, archwilio olion hanesyddol, gwylio bywyd gwyllt – ac, yn anad dim, gwerthfawrogi’r golygfeydd gwych o’r dirwedd drawiadol hon. Ni ddylid gyrru cerbydau na beiciau modur ar Dir Mynediad.

Ydyn ni’n gallu mynd â’r ci?
Ydych, mewn llawer o ardaloedd, o dan reolaeth agos – er, o 1 Mawrth tan ddiwedd mis Gorffennaf, rhaid cadw cŵn ar dennyn byr i sicrhau na fyddan nhw’n tarfu ar anifeiliaid ac adar sy’n nythu ar y tir. Cofiwch, efallai y bydd rhai ardaloedd ar gau dros dro i gŵn – fe fydd arwyddion ar y safle yn dweud wrthych.

A yw’r Tir Mynediad ar gael i gerddwyr drwy’r amser?
Efallai y bydd tir mynediad ar gau dros dro neu efallai y bydd cyfyngiad ar fynediad i lwybrau penodol er mwyn rheoli’r tir, gwarchod natur neu atal y perygl o dân. Mae yna arwyddion i gynghori cerddwyr, a rhaid cadw at unrhyw gyfyngiadau gan eu bod wedi eu cynllunio, yn gyffredinol, i warchod adar sy’n nythu ar y tir a defaid sydd efallai’n dod ag ŵyn. Mae cyfyngiadau o’r fath yn brin iawn.