Datblygiad a Ganiateir

Gallwch wneud rhai mathau o fân-waith adeiladu heb fod angen gofyn am ganiatâd cynllunio – gelwir y math hwn o waith yn ddatblygiad a ganiateir. Gall y rheolau ar ddatblygiad a ganiateir newid o bryd i'w gilydd ac mae bob amser yn syniad da gofyn am gyngor cyn gwneud unrhyw waith o'r fath.

Nid oes gan fflatiau a meisonéts hawliau a ganiateir o’r fath a bydd yr hawliau hyn efallai wedi cael eu tynnu’n ôl o rai tai, yn enwedig tai newydd bach neu dai a gafodd eu creu drwy drosi adeiladau o ddefnyddiau eraill.  Yn yr achosion hyn bydd angen caniatâd cynllunio ffurfiol ar BOB datblygiad.

Y Rheol 28 Diwrnod a safleoedd Carafanau a Gwersylla Ardystiedig

  • Mae’r Rheol 28 Diwrnod yn caniatáu i dirfeddiannwr ddefnyddio tir ar gyfer pebyll yn unig, heb ganiatâd cynllunio ffurfiol, am 28 diwrnod mewn blwyddyn galendr.
  • Mae tystysgrif eithrio carafán deithiol neu wersylla’n caniatáu i fudiad hamdden wersylla neu garafanio ar dir heb drwydded safle neu orfod gofyn am ganiatâd cynllunio.
  • Mae ein taflen Rheol 28 Diwrnod yn ganllaw byr i’r hyn a ganiateir o dan y gyfraith gynllunio ar gyfer y Rheol 28 Diwrnod a safleoedd carafanau a gwersylla ardystiedig. Ei fwriad yw bod yn ganllaw defnyddiol a syml ac ni ddylid edrych arno fel dehongliad llawn o’r gyfraith. Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â’r tîm Rheoli Datblygu.

Ceisiadau gan Ddeiliaid Tai am Newidiadau ac Estyniadau

Gallwch wneud rhai mân-newidiadau a chodi estyniadau bach ar dai heb ganiatâd.

Yn y Parc Cenedlaethol mae angen caniatâd ar unrhyw newid sy’n effeithio ar linell y to, gan gynnwys ychwanegu ffenestri dormer.

Mân-Waith

Mae rhai mathau o ddatblygiad y gellir eu cyflawni ar unrhyw adeilad neu dir.

Waliau, ffensys a dulliau eraill o gau

  • Gallwch godi waliau, ffensys a mathau eraill o amgáu tir er y bydd angen cyd-fynd ag amodau’n ymwneud â’u huchder.
  • Bydd angen caniatâd ar gyfer unrhyw waith amgáu, gerllaw ffordd a ddefnyddir gan gerbydau, sy’n uwch nag un fetr yn unrhyw le ar ei hyd.
  • Bydd angen caniatâd ar gyfer unrhyw waith amgau arall sy’n uwch na dwy fetr yn unrhyw le ar ei hyd.
  • Bydd angen caniatâd ffurfiol ar unrhyw waith amgau o gwmpas adeilad rhestredig.

Creu mynediad

  • Ar yr amod nad yw’r mynediad yn cael ei ystyried i fod yn beryglus, nid oes angen caniatâd i greu mynediad allan i ffordd ddi-ddosbarth lle mae angen y mynediad mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad a ganiateir arall.
  • Bydd angen caniatâd i greu mynediad allan i gefnffordd neu ffordd ddosbarthiadol.

Peintio y tu allan i adeilad

  • Nid oes angen caniatâd i beintio’r tu allan i adeilad oni bai ei fod yn cynnwys hysbyseb, cyhoeddiad neu gyfarwyddyd neu os oes cyfarwyddyd ardal yn gwahardd peintio adeiladau
  • Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig i beintio adeilad rhestredig na chafodd ei beintio o’r blaen.

Newid Defnydd

  • Fel gyda gwaith adeiladau, ni fydd angen caniatâd cynllunio ar rai mathau o newid defnydd.
  • Fel arfer ni fydd angen caniatâd i newid un defnydd i ddefnydd arall sydd yn yr un Dosbarth Defnyddiau.  Er enghraifft:   gallai siop yn gweithredu fel popty newid i fod yn siop deganau heb fod angen gofyn am ganiatâd.
  • Dylid bob amser gofyn am gyngor i weld a ganiateir newid neu beidio.

Dymchwel

  • Mae angen caniatâd ffurfiol i ddymchwel mewn rhai amgylchiadau.
  • Lle mae’r gwaith dymchwel yn rhan o gais cynllunio i ailddatblygu safle, dylid cynnwys manylion y gwaith dymchwel yn y cais.

Adeiladau Rhestredig

  • Mae bob amser angen caniatâd i ddymchwel adeilad rhestredig neu strwythur ynghlwm wrth adeilad rhestredig.

Ardaloedd Cadwraeth

  • Mae angen caniatâd i ddymchwel wal sy’n uwch na 2 fetr, ac i ddymchwel unrhyw adeilad sy’n uwch na 115m3.

Camerâu CCTV

  • Caniateir codi un camera i bwrpas diogelwch, er bod angen cyd-fynd ag amodau’n ymwneud â maint y camera a’i leoliad. Dylid gofyn am gyngor i gadarnhau bod eich camera’n cyd-fynd â’r amodau hyn.
  • Bydd angen caniatâd bob amser i godi camera ar adeilad rhestredig (Caniatâd Adeilad Rhestredig) neu ar heneb gofrestredig (Caniatâd Heneb Gofrestredig gan Cadw).

Cyngor Cynllunio