Parcmyn Ifanc

Profiad ymarferol

Sefydlwyd cynllun Parcmyn Ifanc y Parc Cenedlaethol yn 2013 i roi cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ddatblygu sgiliau awyr agored a dysgu mwy am Arfordir Penfro a beth sy’n ei wneud mor anhygoel a gwneud gwahaniaeth go iawn ar yr un pryd.

Cynhelir sesiynau misol ar ddydd Sadwrn ac maen nhw’n cynnwys archwilio llefydd newydd, tasgau ymarferol, amser cymdeithasol ac fel arfer bwyd wedi’i goginio ar dân gwersyll. Weithiau bydd teithiau dros nos ac ymweliadau â Pharciau Cenedlaethol eraill hefyd!

“Rydyn ni’n grŵp ymarferol sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored a chymryd rhan!”

Dewch i gael gwybod beth mae bod yn barcmon ifanc yn ei olygu

Mwy o ffyrdd i gymryd rhan