Mae golygfeydd godidog, morlin dramatig a thraethau tywodlyd naturiol Sir Benfro wedi ymddangos tu ôl i sêr y sgrîn arian dro ar ôl tro yn ffilmiau.
Mae llawer o’r ffilmiau hyn wedi bod yn amrywiol ac yn enwog yn rhyngwladol. O Vanity Fair (Traeth Dinbych-y-pysgod) i Round Ireland with a Fridge (Maenorbŷr) ac wrth gwrs Robin Hood a Harry Potter and the Deathly Hallows Part One (Freshwater West), mae Arfordir Penfro wedi chwarae sawl rhan bwysig.
I dirwedd Sir Benfro, daeth sawl actor ac actores enwog fel Russell Crowe, Cate Blanchet, Helena Bonham Carter, Emma Watson, Gregory Peck, Anthony Hopkins, Peter O’Toole, Richard Burton…mae’r rhestr yn un faith!
ISOD, CEIR RHESTR O’R FFILMIAU SYDD WEDI EU GOSOD YN RHANNOL YN SIR BENFRO:
- Moby Dick (1956) – Wdig a Abergwaun
- Fury at Smugglers’ Bay (1961) – Abereiddi
- The Lion in Winter (1968) – Castell Penfro a Marloes
- Under Milk Wood (1972) – Cwm Abergwaun
- Jabberwocky (1977) – Castell Penfro
- The Lion, The Witch and The Wardrobe (BBC adaptation) (1988) – Castell Maenorbŷr
- Vanity Fair (BBC drama) (1998) – Dinbych-y-pysgod
- I Capture the Castle (2003) – Maenorbŷr
- I’ll Sleep when I’m Dead (2003) – Abergwaun a Fryniau’r Preseli
- Round Ireland with a Fridge (2010) – Maenorbŷr a Fryniau’r Preseli
- The Edge of Love (2008) – Dinbych-y-pysgod
- Robin Hood (2010) – Freshwater West
- Third Star (2010) – Barafundle
- Harry Potter and the Deathly Hallows (part one and part two) (2010/2011) – Freshwater West
- Richard II (2014) – Marloes, Castell Caeriw a Phorthmawr
- Snow White and the Huntsman (2012) – Marloes
- Under Milk Wood/Dan y Wenallt (2014) – Solfach
- Their Finest (2017) – Freshwater West, Cei Cresswell a Phorthgain