Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Menter gan Lywodraeth Cymru yw’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy sydd â’r nod, drwy bartneriaeth, o ddatblygu a phrofi ffyrdd i gyflawni datblygu cynaliadwy mewn ardal cefn gwlad o harddwch ac amrywiaeth mawr, lle caiff nodweddion lleol o ran diwylliant, bywyd gwyllt, tirwedd, defnydd tir a chymuned eu cadw a’u gwella.

Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am weinyddu’r cynllun yn ei ardal yn unol â chanllawiau gweithrediadol a bennir gan Lywodraeth Cymru.

Er mwyn darparu proses effeithiol, effeithlon, teg a thryloyw, mae Pwyllgor y Gronfa Datblygu yn cyfarfod fel bo’r angen i asesu ceisiadau i’r gronfa. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys chwe Aelod o’r Awdurdod a chwe aelod nad ydynt o’r Awdurdod (dau yr un o’r sectorau preifat, cyhoeddus a chymunedol).

Mae’r chwe aelod nad ydynt o’r Awdurdod yn aelodau o’r Pwyllgor mewn rhinwedd ymgynghorol a gwneir y penderfyniadau gan Aelodau’r Awdurdod.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Gronfa ar dudalennau Cronfa Datblygu Cynaliadwy y wefan.

Sustainable Development Fund SDF logo