Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corffora

Mae’r Pwyllgor hwn yn edrych ar risgiau a pherfformiad yn y meysydd canlynol:

  • Cyllid
  • Adnoddau Dynol
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Rheoli Perfformiad
  • Cyfathrebu

 

Mae hefyd yn:

  • monitro perfformiad yr Awdurdod yn erbyn Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol, Y Llythyr Grant Strategol blynyddol a Safonau Gwasanaeth a fabwysiadwyd
  • goruchwylio cynhyrchiad y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac yn monitro perfformiad yr Awdurdod yn erbyn y Cynllun Gweithredu cysylltiedig
  • ystyried adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru (e.e. Yr Adroddiad Blynyddol ar Welliant, y Llythyr Archwilio Blynyddol) ac yn monitro perfformiad yr Awdurdod mewn perthynas â hwy
  • ystyried adroddiadau gan yr Archwiliad Mewnol ar systemau a rheolyddion ariannol yr Awdurdod.

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys naw Aelod o’r Awdurdod ac yn cwrdd yn chwarterol.