Ynys Bŷr

Mae’r ynys hudolus hon yn enwog am ei habaty Sistersaidd ac mae’n daith 20 munud hwylus ar y cwch o Ddinbych-y-pysgod. Dyma’r mwyaf coediog o ynysoedd Sir Benfro, mae yna naws glyd a chysurus i’w hardal bentref gysgodol ac mae’n cynnig arlwy dda ar gyfer ymwelwyr sy’n dod yma am y dydd.

Roedd pobl yn byw yn ogofau calchfaen Ynys Bŷr o Hen Oes y Cerrig, hyd nes oes y Rhufeiniaid. Cafwyd hyd i esgyrn cawrych ac arth ogof yno, yn ogystal â darnau arian Rhufeinig. Fe sefydlodd y Sant Pŷr gell meudwy ar yr ynys yn y 6ed ganrif, ac yn ddiweddarach tyfodd yn gymuned fynachaidd. Mae ei enw wedi parhau ar yr ynys hyd heddiw, ond enw’r Llychlynwyr ar yr ynys oedd ‘Caldey’ o’r gair ‘Cold’.

Ar ôl y goncwest Normanaidd, fe sefydlodd fynachod Benedictaidd briordy ar yr ynys. Fe newidiodd Ynys Bŷr ddwylo dro ar ôl tro ar ôl y Diwygiad, ond ym 1906 daeth yn gartref i urdd Fenedictaidd unwaith eto, a’r urdd hon a adeiladodd y fynachlog bresennol sydd mewn arddull Fediteranaidd. Ym 1928, gwerthwyd yr ynys i urdd Sistersaidd ac mae’n dal i fod yn gymuned fynachaidd weithiol.

Monastry on Caldey Island, Pembrokeshire Coast National Park, Wales UK

Mae yna drac wedi’i leinio â choed sy’n rhedeg tu ôl traethau euraidd Traeth y Priordy a’r twyni ac yn arwain at y pentref. Bythynnod teras yw canolbwynt maes y pentref, ond dominyddir yr olygfa gan yr abaty trawiadol gyda’i waliau calchfaen a’i do teracota, uwchlaw gardd greigiau serth.

I fyny’r bryn o’r pentref, mae’r heol yn pasio trwy goetir, ble mae yna welyau berwr y dŵr sydd ddim yn cael eu defnyddio mwyach. Dyma le da i weld adar y coetir, pili-palaod brith y coed a rhedyn prin yn yr hen waliau. Mae’r Hen Briordy hyfryd yn un o’r eglwysi hynaf yng Nghymru. Uwchben y fferm mae yna oleudy, gyda golygfeydd gwych dros Fae Caerfyrddin. Mae llwybrau eraill yn arwain trwy’r coed a’r prysg at y twyni neu’r pentiroedd calchfaen.

Mae daeareg Ynys Bŷr yn Hen Dywodfaen Coch ar un ochr o’r ynys a chalchfaen Carbonifferaidd ar y llall. Felly, ar yr ynys, mae yna briddoedd asid ac alcalin, sy’n cynhyrchu amrywiaeth anhygoel o flodau yn yr haf. Mae llygod mawr a draenogod yn bridio yma, ac felly mae yna brinder adar sy’n nythu ar y tir. Ond, ar Ynys Bŷr y mae’r gytref fwyaf o wylanod y penwaig sy’n nythu yn Sir Benfro.

Dewch o hyd i Ynys Bŷr

Ffeil Ffeithiau Ynys Bŷr

  • Eiddo i: Urdd y mynachod Sistersaidd.
  • Cyrraedd yno: Pasg i Hydref, taith cwch 20 munud o Ddinbych-y-pysgod. Mae'r Ynys ar gau ar ddydd Sul, ffoniwch 01834 844453 am fanylion.
  • Cyfleusterau: siopau ar gyfer persawrau, siocled a chofroddion a wnaed yn lleol, neuadd fideo’r abaty, caffi, toiledau, meinciau, swyddfa’r post, cardiau post ayb.
  • Ardal: De
  • Cyfeirnod Grid: SS140965