Yn ôl ymchwil byd-eang, mae mwynhau gweithgareddau hamdden yn hanfodol i iechyd pobl, yn allweddol i ddatblygiad pobl, yn gostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn meithrin teuluoedd a chymunedau, yn gostwng cost gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a phlismona ac yn gynhyrchydd economaidd pwysig.
Yn adroddiad ‘Gwerthfawrogi Ein Hamgylchedd 2006’, nodwyd hamdden fel elfen sy’n darparu tua chwarter cyfanswm incwm Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae hamdden hefyd yn gyfrifol am bron i hanner allbwn economaidd yr ardal.
Helpu gyda’r broses gymhleth o reoli hamdden, a’i ddatblygu, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae nifer o brosiectau, partneriaethau a phrosesau ar waith.