Mae’r dyraniadau tir wedi’u nodi yn y Cynllun Adneuo lle mae’r trefniadau ymgynghori hefyd wedi’u nodi.
I wneud y gwaith o baratoi’r Cynllun hwnnw mae’r Awdurdod wedi gwahodd unrhyw un sydd â budd mewn tir i gyflwyno safleoedd i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y cynllun datblygu lleol. Mae’r Awdurdod hefyd wedi cynnwys rhai safleoedd i’w hystyried yn sgîl astudiaethau a wnaed ar ran yr Awdurdod.
Roedd asesiad wedi’i wneud gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i weld pa safleoedd oedd yn cyd-fynd â’r Strategaeth drafft a Ffefrir a pha rai nad oeddent yn cyd-fynd, ac ymgynghorwyd ar hynny fel rhan o’r ymgynghori ar y Strategaeth drafft a Ffefrir.
Yr ymgynghoriad ar y Papur Cefndir ar Fethodoleg Safleoedd Ymgeisiol oedd y cam cyntaf yn y broses Safleoedd Ymgeisiol, oedd yn rhoi’r cyfle i’r rhanddeiliaid allweddol gymryd rhan a helpu i lywio’r broses.
Mae’r Gofrestr isod yn gosod safleoedd mewn grwpiau yn ôl ardal Cyngor Cymuned, ac mae’n cynnwys yr asesiad cyfredol (Cam y Cynllun Adnau) a’r casgliadau y daeth yr Awdurdod iddynt o ran pob safle unigol, a map o bob safle.