Cadw eich Gwybodaeth yn Ddiogel – Manylion Gwirfoddolwyr

Posted On : 21/09/2020

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ydym ni. Er mwyn gweithio’n ddiogel ac effeithiol, mae angen i ni gasglu gwybodaeth gan wirfoddolwyr unigol.

Pwy ydyn ni?

Pan fyddwch yn cysylltu â ni ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, bydd PCNPA yn casglu eich data personol a nhw sy’n gyfrifol am y ffordd rydym yn ei storio a’i ddefnyddio.

Mae Awdurdod APCAP wedi creu awdurdod lleol diben arbennig annibynnol dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (y Ddeddf). Cewch ddarllen rhagor amdanom ar y tudalen Awdurdod y Parc Cenedlaethol a gweld ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol.

Mae APCAP wedi cofrestru fel Rheolydd Data gyda’r ICO (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth). Rhif Cofrestru: Z6910336.

Pa ddata mae arnom ei angen

Yr wybodaeth sydd ei hangen Pam mae ei hangen
Manylion Cyswllt I gadw mewn cysylltiad â chi am y prosiect a chyfleoedd i wirfoddoli.
Mewn Argyfwng I gysylltu â nhw os bydd argyfwng yn digwydd pan fyddwch chi’n gwirfoddoli.
Sgiliau, Profiad a Diddordebau Arbennig I roi’r cyfleoedd cywir i chi, ac i helpu i wybod pa gymorth allai fod angen arnoch.
Diwallu eich Anghenion I roi cymorth neu offer, neu i deilwra sesiynau gwirfoddoli i ddiwallu eich anghenion chi.
Meddyginiaeth Rhag ofn bydd argyfwng yn ystod sesiwn wirfoddoli.
Lluniau a Chyhoeddusrwydd Rydym yn defnyddio lluniau o’n digwyddiadau gwirfoddoli ar gyfer cyhoeddusrwydd. Rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi’n hapus i fod yn y lluniau ar gyfer hyn.
Defnyddio’r Gymraeg Er mwyn gallu cysylltu â chi yn eich dewis iaith.
Oedran/Dyddiad Geni Mae angen i ni wybod eich dyddiad geni oherwydd mae rhai cyfleoedd i wirfoddoli ar gael i bobl 16 oed a throsodd yn unig.  Mae angen i ni wybod hefyd a ydych chi’n 18 oed a throsodd oherwydd mae hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r ffordd rydym ni’n rheoli eich amser fel gwirfoddolwr.
Geirda Mae’n bosibl y bydd angen i ni wirio a yw rhywun yn addas i weithio fel gwirfoddolwr.

Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth

Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. Dim ond i staff sy’n gysylltiedig â’r gwaith o reoli gwirfoddolwyr y bydd ar gael. Bydd gwybodaeth yn ymwneud ag argyfyngau a diwallu eich anghenion yn cael ei darparu pan fo’n berthnasol i’r rhai sy’n arwain sesiynau.

 

Am faint o amser byddwn ni’n cadw’r wybodaeth, a beth yw eich hawliau?

Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw ar gyfer adeg y prosiect a’r gwaith gwerthuso. Os bydd eich manylion yn newid tra byddwch yn gwirfoddoli gyda ni, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu newid ein cofnodion.

Os ydych chi’n pryderu am y modd y mae’r Awdurdod yn defnyddio eich data, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113 neu gallwch roi gwybod am bryder drwy wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth..

Os hoffech chi siarad â rhywun am unrhyw beth ar y daflen hon, cysylltwch â Mr Graham Peake drwy ebost neu ffoniwch 01646 624861.