Twristiaeth Gynaliadwy

Mae Sir Benfro’n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Maen nhw’n cael eu denu gan y golygfeydd sydd heb eu difetha, y dirwedd drawiadol a’r bywyd gwyllt bendigedig a thoreithiog. Tra bod rhai yn dewis ymlacio ar y traethau tywodlyd hyfryd, mae eraill yn chwilio am antur ar dir a môr.

Efallai y byddan nhw am droi eu llaw at gaiacio i fyny dyfrffordd y Daugleddau neu roi tro ar arfordira ar hyd y morlin garw. Mae ymwelwyr eraill yn mwynhau concro Llwybr Arfordir Sir Benfro, neu’n cael pleser o weld aderyn neu anifail gwibiog.

Mae ymwelwyr o fantais sylweddol i Sir Benfro ac mae twristiaeth yn rhan bwysig o’r economi lleol. Mae’r arian y maen nhw’n ei wario yn gallu helpu gwarchod a gwella golygfeydd a bywyd gwyllt yr ardal, tra bod swyddi’n cael eu creu i ddarparu ar gyfer anghenion ymwelwyr.

Arfordira ym Mhorth Clais Arfordira ym Mhorth Clais

Ond, tra bod yna lawer o fanteision, nid yw popeth sy’n dod law yn llaw â thwristiaeth yn dda. Mae llawer o ymwelwyr mewn un neu dda leoliad pot mêl, yn gallu achosi problemau. Ym mhle mae pobol yn parcio eu ceir? Sut mae cymaint o draed yn effeithio ar fywyd gwyllt a Llwybr yr Arfordir?

Meysydd Carafan

Mae Arfordir Penfro yn ardal boblogaidd i bobl ddod ar eu gwyliau ac felly mae yna alw am feysydd carafán a gwersylla. Fe all y meysydd hyn ddod â manteision economaidd i’r ardal gan gynnwys cyflogaeth leol. Ond mae ardaloedd mawr o garafannau gwyn llachar a lliwgar yn gallu difetha harddwch naturiol ardal, fel ei bod yn llai deniadol ac apelgar i ymwelwyr. Dyma rai o’r dadleuon a geir ar y ddwy ochr.

Safle carafanau ar Arfordir Penfro< Maes carafanau ar Arfordir Penfro

Manteision meysydd carafan:

  • Dod ag arian i’r ardal
  • Darparu cyfleoedd cyflogaeth lleol
  • Darparu gwyliau cost isel i fwy o bob
  • Cymryd y pwysedd oddi ar dai lleol trwy ddarparu opsiwn arall am lety.

Anfanteision meysydd carafán:

  • Difetha harddwch naturiol yr ardal fel ei bod yn llai deniadol fel cyrchfan i dwristiaid
  • Cyfleoedd cyflogaeth yn dueddol o dalu cyflog isel ac yn waith tymhorol
  • Yn aml, mae pobl sy’n aros mewn meysydd carafán yn dod â’u bwyd gyda nhw ac felly nid ydynt yn gwario llawer mewn siopau a bwytai lleol
  • Mae llawer o’r heolydd mynediad at yr arfordir yn lonydd bach gwledig ac mae carafannau teithiol yn gallu achosi tagfeydd traffig difrifol
  • Ni adeiladwyd y strwythur mewnol lleol e.e. cyfleusterau carthffosaeth, i allu ymdopi gyda’r niferoedd ychwanegol o bobl yn yr haf.

Ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro mae yna nifer fawr o feysydd carafán a gwersylla yn barod ac nid ydyn nhw’n cael eu llenwi. O ystyried hyn, a’r anfanteision a restrir uchod, polisi Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw peidio â chaniatáu unrhyw feysydd carafán newydd.

Ceir ar y Traethau

Polisi cyffredinol Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw na ddylid caniatáu ceir ar y traethau, oherwydd maen nhw’n gallu bod yn beryglus i ymdrochwyr, plant a phobl eraill sy’n ymlacio ac yn mwynhau’r traeth.  Mae yna berygl hefyd i’r ceir gael eu rhwystro yn y tywod meddal gan orfod cael eu llusgo i ffwrdd ac mae yna berygl iddynt ddioddef difrod oherwydd y dŵr hallt a’r tywod/cerrig crwn.  Maen nhw hefyd yn gallu difrodi strwythur y traeth, llystyfiant a bywyd morol.

Ar bob traeth, mae perchennog y blaendraeth a/neu’r cyngor lleol yn gallu cyflwyno is-ddeddfau i reoli’r hyn sy’n digwydd ar y traeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni chaniateir ceir ar y traeth.

Ond mewn rhai achosion, mae ceir yn cael mynd ar y traeth er mwyn lansio cychod o drelars – er enghraifft, mae hyn yn digwydd yn Aberllydan a Freshwater East. Mae rhai cymdeithasau ac unigolion yn gallu cael caniatâd neu drwydded i ddefnyddio cerbydau ar y traeth hefyd, fel gwasanaethau brys, glanhau’r traeth, a chasglu chwyn lafwr.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn prydlesu’r rhan fwyaf o’r blaendraeth (y rhan o’r traeth rhwng llanw uchel a llanw isel) ar hyd Arfordir Penfro gan Ystâd y Goron. Mae hyn yn golygu bod yr Awdurdod yn gallu rheoli’r hyn sy’n digwydd ar y darn yna o dir, a gellir gwahardd ceir os oes naill ai rhwystr corfforol neu ffordd o roi is-ddeddfau lleol mewn grym os oes angen.

Cars parking on the beach at Newport Sands in the Pembrokeshire Coast National Park Ceir ar Draeth Mawr, Trefdraeth

Mewn ychydig achosion (fel Traeth Mawr Trefdraeth) mae yna draddodiad o barcio ar y traeth ac mae yna gefnogaeth gref gan bobl leol. Mae hyn yn gallu bod yn broblem fawr i Awdurdod y Parc Cenedlaethol oherwydd mae’n anodd ei rheoli – gyda’r pryder sylfaenol y gallai un o’r ceir daro plentyn neu oedolyn a’u hanafu. Yn 2023, prynodd yr Awdurdod y tir a ddefnyddir yn draddodiadol ar gyfer parcio ar y traeth. I gael gwybod mwy ewch i’n tudalen ‘Troi’r Llanw ar Barcio ar Draeth Trefdraeth‘.

 

Dringo yn San Gofan

Yn aml, mae’n hawdd chwilio am broblemau a gwrthdaro yn lle dathlu’r achlysuron o lwyddiant. Mae’r astudiaeth achos hon, sy’n edrych ar y materion sy’n gysylltiedig â dringo ym Mhenrhyn San Gofan, yn un sy’n dangos, gydag amser a chyfathrebu effeithiol, bod modd datrys gwrthdaro a meithrin perthynas sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth.

Mae’r clogwyni calchfaen godidog yn ne-orllewin Sir Benfro yn atyniad i bob math o ddefnyddiwr. I rywogaethau adar prin fel y frân goesgoch a’r hebog tramor, maen nhw’n safleoedd nythu delfrydol, ac mae sawl math o aderyn y môr yn mynd yn ôl atynt bob blwyddyn i fagu eu rhai bach. Mae’r holltiadau, y cafnau a’r ogofau yn gynefin addas i’r ystlum, yn enwedig dros fisoedd yr haf. Mae’r clogwyni hefyd yn apelio at bobl sy’n dod yma ar eu gwyliau, a cherddwyr, gan gynnig golygfeydd gwych. Ond, mae’r clogwyni’n arbennig o ddeniadol i ddringwyr, ac yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd.

St Govans Climber Dringo yn San Gofan

Os digwydd i chi ymweld â’r safle yn ystod y gwanwyn neu’r haf, fe welwch chi lawer o bobl yn mwynhau’r golygfeydd; cerddwyr, teuluoedd, dringwyr, gwylwyr adar. Ac eto, nid oedd y sefyllfa i ddringwyr wastad mor hapus. Pan grëwyd Llwybr yr Arfordir yn y 1970au cynnar, roedd mynediad at y clogwyni yn Sain Gofan yn gyfyngedig. Roedd y tir yn eiddo i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac roedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ymhlith grwpiau eraill, yn poeni y byddai unrhyw weithgarwch yn niweidiol i adar yr ardal.

Yr ateb oedd sefydlu grŵp Cofnodi ac Ymgynghori, a ddechreuwyd ym 1978. I ddechrau, roedd y grŵp hwn yn cynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn, Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Natur Gorllewin Cymru a Chyngor Mynydda Prydain, ond mae wedi tyfu gydag amser i gynnwys grwpiau diddordeb eraill, gan gynnwys y clwb dringo lleol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Chwaraeon Cymru. O’r grŵp, cynhyrchwyd taflen o ‘Gyfyngiadau Dringo y Cytunwyd Arnynt’. Nid oedd y daflen hon yn ceisio gwahardd unrhyw weithgarwch dringo, ond, yn hytrach, ei gyfyngu at ardaloedd penodol yn ystod adegau penodol o’r flwyddyn pan fyddai’r adar yn nythu. O’r dechrau hwn, mae mesurau pellach wedi datblygu.

  • Penodwyd Parcmon ar gyfer Castellmartin. Mae’r Parcmon hwn yn monitro’r amrediadau gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ond hefyd yn gweithio’n agos gyda dringwyr. Mae yna gyfathrebu dwy ffordd, ac mae hyn yn bwysig. Mae dringwyr yn gallu dysgu am gyfyngiadau, a sut mae eu symudiadau’n gallu effeithio ar yr adar. Ond, mae dringwyr hefyd yn gallu dweud wrth y parcmon ble mae’r rhywogaethau’n nythu, a dweud am beryglon posib ar y clogwyni.
  • Cyflwyno cynllun i farcio copaon y clogwyni. Roedd hyn yn golygu marcio’r mannau ble mae yna gyfyngiad ar ddringo. Mae Cyngor Mynydda Prydain wedi rhoi arian i adnewyddu’r marcwyr, gan weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Addaswyd marcwyr ac arwyddion mewn mannau belai, gan egluro ble roedd y cyfyngiadau ar waith. Roedd angen gwneud hyn oherwydd roedden nhw wedi sylwi, unwaith yr oeddent wedi cyrraedd gwaelod y clogwyni, nad oedd modd i’r dringwyr weld y marcwyr yn uchel i fyny.

Degawdau yn ddiweddarach a rhaid dathlu’r llwyddiannau. Maen nhw’n ganlyniad i gyfathrebu da, ac ymddiriedaeth. Gyda llygad ar y dyfodol, cydnabyddir erbyn hyn bod angen monitro’r nifer cynyddol o ddefnyddwyr hamdden gwahanol ym Mhenrhyn Sain Gofan, ac efallai y bydd y model a sefydlwyd gan y gymuned ddringo, y Parc Cenedlaethol a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn fan cychwyn effeithiol wrth wireddu hyn.

Erydu Llwybrau Troed

Mae Llwybr Arfordir Penfro’n atyniad pwysig. Mae pobl yn defnyddio Llwybr yr Arfordir i gerdded, ond maen nhw hefyd yn defnyddio’r llwybrau ar gyfer gweithgareddau eraill fe dringo a physgota. Effaith gyffredinol y traed hyn yw sathru’r llystyfiant a chywasgu’r haenen uchaf o bridd. Gydag amser, mae rhych fach yn ffurfio ar hyd llinell y llwybr. Yn y rhan fwyaf o achosion nid yw hyn yn broblem. Oherwydd hinsawdd gymedrol Sir Benfro a’r pridd ffrwythlon, mae yna dymor tyfu o naw mis, ac mae’r rhan fwyaf o lwybrau’n gallu adfer yn naturiol.

Cerddwyr ar lwybr yr Arfordir. Cerddwyr ar Llwybr yr Arfordir.

Ond, weithiau, mae problemau’n codi:

  • Mewn safleoedd pot mêl. Dyma rannau mwyaf poblogaidd Llwybr yr Arfordir ac, fel arfer, maen nhw’n agos at feysydd parcio, traethau a golygfannau. Ym Mhont Werdd Cymru ger Castellmartin, mae’r tir wedi cael ei erydu wrth fynediad yr olygfan ac o amgylch y sylfaen am fod pobl am fwynhau’r olygfa o’r bwa naturiol.
  • Ble mae’r pridd yn denau mae’n gallu treulio a dadorchuddio’r creigwely. Mae hyn yn anghyffyrddus i gerdded arno. Mae cerddwyr yn dueddol o gerdded ar y naill ochr neu’r llall o ardal sydd wedi dioddef erydiad, gan ledaenu’r llwybr a sathru ar lystyfiant.
  • Ar Lwybr yr Arfordir, ble mae yna olygfeydd arbennig o hardd o’r clogwyni neu fynediad at silffoedd i bysgota. Mae llwybrau’n ffurfio o’r prif Lwybr at ymyl y clogwyni. Mae hyn yn gallu bod yn beryglus o ran diogelwch a chadwraeth.
  • Ar lethrau. Mae problemau’n digwydd pan fydd y rhychau sy’n cael eu treulio gan gerddwyr yn dod yn sianelu ar gyfer dŵr glaw.
  • Mewn safleoedd archeolegol. Mae Llwybr yr Arfordir yn pasio’n agos at nifer o dirweddau hanesyddol, a thrwyddynt, gan gynnwys sawl Bryngaer o’r Oes Haearn. Mae’r safleoedd diddorol hyn yn agored i gael eu niweidio gan erydiad. Ym Mhenrhyn Sain Gofan, mae ffiniau cae canoloesol a lleiniau tyfu wedi cael eu herydu o ymyl y clogwyni, oherwydd gweithgarwch dringo yn rhannol.

Ble mae erydiad yn digwydd mae yna sawl ateb:

  • Ble mae’r creigwely wedi cael ei ddatgelu, mae’n bosib torri carreg i ffwrdd i greu arwyneb llyfn, gan annog cerddwyr i aros ar y llwybr.
  • Ailosod tywarch a llystyfiant i rwystro pobl rhag defnyddio llwybrau bob ochr. Fe ddigwyddodd hyn yn Freshwater East ble roedd y twyni tywod wedi cael eu herydu’n sylweddol dros lawer o flynyddoedd. Fe gafodd yr ardal, yn yr achos hwn, ei ffensio i ganiatáu adfywiad. Erbyn hyn, mae wedi ail agor ac mae yna lwybr dynodedig trwy’r twyni.
  • Torri gylïau a chyflwyno gwyryddion i ddargyfeirio a rheoli dŵr glaw a dŵr ffo.
  • Ffensio ardaloedd sy’n fwy sensitif, er enghraifft safleoedd archeolegol neu ardaloedd ble mae yna flodau a ffawna prin. Ble mae hyn yn digwydd, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn arddangos gwybodaeth i ddweud wrth ddefnyddwyr y Llwybr.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli Llwybr yr Arfordir i sicrhau’r mynediad a’r mwynhad gorau posib. Ond, rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng effeithiau defnyddwyr ac amddiffyn ansawdd y dirwedd a gwarchod natur.

Hamdden ym Mhorth Clais

Mae Porth Clais yn gilfach lanw fechan ar Benrhyn Tyddewi. Mae’r clogwyni o dywodfaen yn cynnig cyfleoedd i ddringo a physgota, tra bod yr harbwr bach yn lle diogel i lansio cychod bach, canwod a chaiacau. Yn bennaf, mae’r dirwedd arfordirol yn weundir clogwyni môr, ond mae’n gynefin pwysig i anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac i adar sy’n bridio, fel pibydd y graig. Mae’r arfordir danheddog iawn, sy’n frith o ogofau, yn gynefin da i forloi, gan gynnig cysgod a diogelwch rhag llygaid busneslyd ar y clogwyni uwchben. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar yr ardal ac yn ei rheoli, ac mae’n darparu maes parcio a thoiledau.

Ar brynhawn heulog braf ym mis Mehefin yn 2008, roedd Porthclais yn bot mêl a’r maes parcio dan ei sang, ac fe fu llawer o ymwelwyr yn mwynhau gwres y dydd. Yn y filltir o siwrnai o’r harbwr i Gapel y Santes Non, roedd yna bedwar grŵp yn arfordiro, dau bâr o bysgotwyr yn pysgota o’r silffoedd tywodfaen, tri grŵp o ddringwyr, dau gwch pysgota bach, un yn edrych ar y potiau cimwch, dau grŵp yn hwylio caiacau a chanwod, chwe grwpiau o gerddwyr, tri theulu’n cael picnic ac un teulu’n dal crancod oddi ar wal yr harbwr.

Kayakers at Porth Clais harbour near St Davids in the Pembrokeshire Coast National Park Porthladd Porth Clais

Ond, a oedd y lefel yma o ddefnydd hamdden yn dda i’r rhan yna o’r arfordir? Yn yr un siwrnai o filltir prin iawn oedd y bywyd gwyllt a welwyd, dim ond ambell wylan yn hofran uwchben, yn llygadu’r bwyd picnic a oedd wedi cael ei daflu i ffwrdd. Mae gormod o bobl mewn un man yn dod â chyfres newydd o broblemau, sy’n cynnwys tensiwn rhwng defnyddwyr gwahanol. Ar y prynhawn hwn, roedd un cerddwr a oedd yn chwilio am dawelwch a golygfeydd hardd yn cystadlu gydag arfordirwyr ifanc cyffrous ac egnïol. Ar y môr islaw, roedd un grŵp o gaiacwyr yn llwybr cwch pysgota, ac fe arweiniodd hyn at gweryl.

Gall hefyd arwain at golli cynefin i fywyd gwyllt. Mae’n well gan forloi leoliadau diarffordd, tawel, ond dyma’r union fannau yr oedd hwylwyr ac arfordirwyr yn eu harchwilio.

Mae erydiad yn broblem mewn mannau poblogaidd, ac ym Mhorth Clais y llwybr mynediad o’r harbwr i’r clogwyni oedd yn cael ei dreulio waethaf. Mae hefyd y broblem o sbwriel a mwy o alw ar y seilwaith, sef y meysydd parcio, y toiledau, y llithrffordd, a’r lôn wledig gul i Borth Clais.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda darparwyr hamdden, perchnogion tir a grwpiau cadwraeth lleol. Mae yna godau ymddygiad mewn lle, fel y Cod Morol a’r Cytundeb i Ddringwyr, sy’n annog defnyddwyr i ymddwyn yn ystyriol ac yn gyfrifol, ac i osgoi difrod a tharfu. Ond, yn yr achos hwn, a oedd gormod o bobl mewn un lle ar yr un pryd, a beth yw’r ateb? Mae bron yn amhosib darogan faint o bobl fydd yn defnyddio un lle ar un diwrnod. Ai’r ateb yw cyfyngu ar weithgareddau penodol mewn mannau penodol? A yw hynny’n gwthio’r broblem ymhellach i fyny’r arfordir?

Pa ateb fyddech chi’n ei awgrymu i’r broblem? A sut fyddech chi’n sicrhau cytundeb? Dyma faterion sy’n effeithio ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol bob blwyddyn ac mae’r Awdurdod yn gweithio’n galed i’w rheoli. Ond maen nhw’n faterion sydd angen eu datrys mewn partneriaeth ag eraill.

Cliciwch y dolennau isod i archwilio rhai o’r materion sy’n gysylltiedig â thwristiaeth:

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol