Mae’r Llwybr Cenedlaethol yn dilyn ffermydd a chaeau, yn dringo stiglau, ar hyd clogwynni uchel a olion hen rheilffyrdd sydd wedi suddo i’r ddaear. Mae gan bob rhan fach ei stori ei hun i ddweud, a gall astudiaethau archeolegol ein helpu ni heddiw i ddarganfod rhai ohonynt. Gwelir pentyrau a thwmpathau yn aml o’r llwybr, ond gall archeolegwyr ddweud llawer wrthom am fywyd ein cyndeidiau fu’n byw yma yn y gorffennol, wrth edrych yn fwy manwl.

r enghreifftiau mwyaf amlwg a welir yw’r caerau sy’n dilyn llinellau’r arfordir, ac yn dyddio’n ôl tua 2,000 o flynyddoedd. Adeiladodd y bobl caeau i amddiffyn eu tir, ac i ddangos eu cyfoeth, nerth a’u statws. Creuwyd y caeau o gerrig a phridd, a ffurfiwyd yn dwmpathau enfawr, gyda’r pentir o gwmpas yn arwain allan i’r môr.

Efallai bod gwrthgloddiau o goed ar gopa’r pentir a cherrig ar y blaen – edrychent yn frawychus o bellter. Dros y canrifoedd mae rhai o’r twmpathau pridd wedi syrthio i’r ffosydd, gyda phorfa a blodau gwyllt hyfryd wedi tyfu drostynt, gan roi golwg fwynach a thawelach i’r safleoedd.

Mae’r Llwybr Cenedlaethol yn pasio drwy bron 60 o gaerau Oes Yr Haearn.Y rhai mwyaf amlwg yw, Greenala, ger Stangwbwll a Phorth y Rhaw ger Solfach. Fan yma, mae’r twmpathau’n hongian uwchben y cerddwyr, yn rhoi syniad i ni pa mor fawr oedd caerau yma pan gawson nhw eu hadeiladu.

Mewn rhannau eraill o’r llwybr mae olion archeolegol amlycach, Er engraifft, yn St Brides a West Angle mae erydiad arfordirol yn dangos mannau claddu yn dyddio nôl i oes y Cristnogion cynnar, rhwng 400 i 1000 AD. Yn Nhrefdraeth mae’r llwybr yn pasio drwy olion cloddwaith a enwir yn “ The Old Castle.” Credir bod hwn tua 200 mlynedd yn hyn na Chastell o’r Oesoedd Canol Trefdraeth, ond ychydig o’r cerddwyr sy’n aros i gymryd unrhyw sylw ohono heddiw.

Mae olion amlwg o’r gorffennol i’w gweld ar hyd y Llwybr Cenedlaethol, ar adegau yn dyddio nôol cyn hanes a rhai ond ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae rhyfeloedd, ffermio, adeiladu, diwydiant, crefydd a bywyd pob dydd pobl yr ardal wedi gadael eu marc.

Looking towards Grernala Point near Stackpole

DARGANFYDDWCH FWY AM LWYBR YR ARFORDIR