Ysgrifennir y rhan fwyaf o'r canllawiau fel petaech yn cerdded o Llandudoch i Lanrhath, ac mae yna rifau ar y sticlau a'r giatiau gyda rhif 1 ger Pen Cemaes yn y gogledd. Os ydych yn cerdded y ffordd yma rydych chi'n cael ymdeimlad o gydymffurfiaeth.
Os yw nofio’n bwysig i chi yna mae’r traethau gorau yn dwy ran o dair olaf y daith yn y de. Ac, er bod yr haul, yn amlwg, yn symud o gwmpas drwy’r dydd ac mae’r llwybr yn newid cyfeiriad yn aml, wrth i chi gerdded o Poppit y bydd yr haul a’r gwynt o’r de-orllewin ar eich wyneb amlaf.
Felly, fe allai cerdded o’r gogledd i’r de olygu bod mwy o haul arnoch yn ystod yr Haf a mwy o wynt yn ystod y Gwanwyn, yr Hydref a’r Gaeaf. Cofiwch, hyd yn oed yn ystod misoedd Mawrth a Hydref, mae’r môr yn cryfhau cryfder yr haul. Hyd yn oed ar ddiwrnodau oer, cymylog fe allwch chi losgi ar daith dwy awr, felly mae’n bwysig amddiffyn eich hun rhag yr haul.
Llandudoch i Lanrath
Wrth gerdded o’r gogledd i’r de, mae’r daith ar gyfer y diwrnod cyntaf o Landudoch i Drefdraeth tua 16 milltir ac yn cynnwys tua 3,000 troedfedd o godi a disgyn.
Nid oes unrhyw luniaeth na gwasanaethau yn agos at y llwybr rhwng y gwasanaethau (tymhorol yn unig) ar Draeth Poppit a Thraeth Trefdraeth.
Dyma adran fwyaf heriol Llwybr yr Arfordir ac nid yw’n daith addas i’r rheiny sydd ddim yn ffit. Cynghorir cerddwyr newydd i archebu llety ymlaen llaw yn Nhrewyddel a rhannu’r daith hon yn ddwy ran wyth-milltir.
Llanrath i Landudoch
Os ydych yn cerdded o Lanrath i Poppit, mae yna sawl cyfle yn ystod y diwrnod cyntaf i gael lluniaeth a llety.
Mae’r adran 16 milltir o Lanrath i Skrinkle yn ddiwrnod eithaf heriol yn ei hun, gyda sawl tyle serth, ond mae yna dafarn bob 4 milltir o leiaf, ambell gaffi, ac mae yna sawl opsiwn yn nhref Dinbych-y-pysgod i aros dros nos yn gynnar os yw’r corff neu’r offer yn dioddef.
Cyfyngiadau dros dro i’w hystyried wrth gynllunio pa gyfeiriad i gerdded
Mynediad i feysydd milwrol (gweler adran 13: Freshwater West i Broad Haven South)
Mae dwy ardal hyfforddi filwrol ar hyd arfordir y de, un ym Mhenalun a’r llall yng Nghastellmartin a allai gyfyngu ar fynediad pan fydd tanio yn digwydd. Mae Maes Penalun yn ddargyfeiriad bychan, ychydig yn hirach ar adegau o lanw uchel iawn neu stormydd. Nid yw’r dargyfeiriad hwn yn werth ei gynllunio, dilynwch y gwyriad pan fydd y baneri coch yn chwifio.
Mae Maes Tanio Castellmartin yn agwedd fach ar gynllunio cyfeiriad teithio ond os ydych yn awyddus i aros mor agos at y clogwyni â phosibl, efallai y byddai’n werth amseru’r rhan hon ar gyfer amser pan fydd y maestir ar agor.
Mae’r Maes wedi’i rannu’n dair rhan y gallwch chi ond croesi Maes Tanio’r Gorllewin (nid yw yn dilyn llwybr swyddogol Llwybr yr Arfordir) fel rhan o daith gerdded wedi’i harwain gan arweinwyr hyfforddedig. Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chymdeithas y Cerddwyr sy’n arwain y teithiau hyn. Mae’r teithiau cerdded hyn fel arfer yn mynd o’r dwyrain i’r gorllewin sy’n cyd-fynd yn dda â cherdded Llwybr yr Arfordir o’r de i’r gogledd, ond dim ond am nifer cyfyngedig o ddiwrnodau trwy’r haf y maent ar gael ac mae’r rhan fwyaf o gerddwyr Llwybr yr Arfordir yn dilyn y llwybr swyddogol o amgylch y maes. I gael gwybod am deithiau cerdded tywysedig Maes Tanio’r Gorllewin, ffoniwch Awdurdod y Parc Cenedlaethol (01646 624800) neu ewch i’n wefan digwyddiadau (agor mewn ffenest newydd). Sylwch: bydd y rhan fwyaf o deithiau tywys yn cael eu harchebu misoedd ymlaen llaw felly mae angen i chi cynllunio o ymlaen llaw.
Mae Maes y Dwyrain ar agor fel arfer trwy gydol mis Awst, ar benwythnosau, gwyliau banc a bron bob nos ar ôl tua 4.30pm, ond mae’n well gwirio’r amseroedd gyda’r wybodaeth a gofnodwyd ar 01646 662367 neu ewch i dudalen Tanio Castellmartin (agor mewn ffenest newydd). Mae Maes y Dwyrain wedi’i rannu’n ddwy ran. Weithiau gall y rhan o Staciau’r Heligog (Pont Werdd Cymru) i San Gofan fod ar gau ond efallai y bydd y rhan o Gapel San Gofan i Broad Haven South ar agor ac mae’n werth amseru’ch taith gerdded er mwyn i chi gyrraedd o leiaf un rhan o Faes y Dwyrain.
Os nad yw’r maes ar agor, mae llwybr caniataol a gynhelir gan yr Ystâd Amddiffyn, o’r enw Llwybr Maes Tanio Castellmartin, yn dilyn perimedr y maestir. Mae gan Lwybr Maes Tanio Castellmartin olygfeydd gwych ar draws y maes tanio, ac efallai fod gyrroedd o wartheg mawr, ond mae arfordir Castellmartin yn wledd i’w gynnwys os yn bosibl.