Mae digon o bethau i’w gweld a’u gwneud ar Benrhyn Tyddewi. Beth am ymweld â rhai o’r atyniadau lleol hyn?

Dinas Tyddewi

Tarddiad yr enw wrth gwrs yw nawddsant Cymru, Dewi Sant, ac mae wedi bod yn gyrchfan i bererinion ers 1120 pan gafodd Dewi ei gydnabod yn swyddogol fel sant Catholig a daeth yr Eglwys Gadeiriol yn gyrchfan pererindod swyddogol. Er gwaethaf ei statws fel dinas, prin 2,000 o bobl sy’n byw yno. Ewch am dro o Oriel y Parc i ganol hanesyddol y ddinas gyda’i horielau celf, siopau anrhegion a chaffis hyfryd, ac yna ymlaen i’r Eglwys Gadeiriol ganoloesol odidog a Llys yr Esgob.

Dilynwch y dolenni i ddarganfod mwy am daith gerdded fer hanesyddol o amgylch Dinas Tyddewi, teithiau byr o amgylch Dinas Tyddewi (Meidr Dywyll/Carn Warpool), taith fer 3 milltir o amgylch Dinas Tyddewi a thaith fer Tyddewi/Porth Clais.

Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy am chwedl genedigaeth Dewi Sant.

St Davids Cathedral

Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro

Un o’r ffyrdd gorau o weld yr arfordir godidog yw ar Lwybr Arfordir Sir Benfro sy’n ymestyn 186 milltir ar hyd lan y môr. Manteisiwch ar un o’n bysiau arfordirol – y Gwibiwr Celtaidd i deithio yna ac yn ôl.

Group of walkers on St David's Head

Cerddwyr ger Penmaendewi

Porth Mawr

Traeth tywodlyd euraidd, milltir o hyd sy’n wynebu’r gorllewin. Yn ôl y farn gyffredinol, dyma un o’r traethau gorau yn y wlad. Yng nghysgod Ynys Dewi, mae’r Porth Mawr yn llecyn perffaith ar gyfer syrffwyr egnïol neu ar gyfer ymdrochi yn y môr. Pan fo’r llanw’n isel iawn, gellir gweld olion coedwig hynafol, sy’n cynnwys llawer o goed bedw, pinwydd, cyll a derw. Mae llefydd parcio wrth ymyl y traeth ac mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd yn ystod misoedd yr haf.

 

Carn Llidi

I weld y golygfeydd godidog, gall cerddwyr profiadol grwydro i gopa Carn Llidi (595 troedfedd; 181m) – un o’r bryniau gorau yn Sir Benfro. O’r fan hon gallwch weld cromlin arfordir ysgubol Sir Benfro ac ar ddiwrnod clir gellir hyd yn oed gweld Bryniau Wicklow yn Iwerddon. Ar eich taith yna, mae’n werth ymweld â siambr gladdu 5000 mlwydd oed Carreg Coetan Arthur, gyda’r gromlech 8 troedfedd o uchder.

Dilynwch y dolenni i ddarganfod mwy am daith gerdded hanner dydd o amgylch Penmaendewi a Charn Llidi a daith fer o amglych Penmaendewi a Charn Llidi.

View north across Whitesands Bay, St Davids, Pembrokeshire

Maes Awyr Tyddewi

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Maes Awyr Tyddewi yn fwrlwm o weithgarwch gyda Chanolfan Arfordirol yr RAF yn cyfarwyddo Brwydr yr Iwerydd. Heddiw, mae Maes Awyr Tyddewi yn lle heddychlon. Yn y gwanwyn, yr unig sŵn sy’n torri ar y tawelwch yw canu parhaus yr ehedwyr.

Yng nghanol y 1990au prynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol y rhan fwyaf o’r maes awyr segur gan ddechrau gweithio ar brosiect tirlunio mawr i adfer ac ail-greu cynefinoedd bywyd gwyllt fel bod y cyhoedd yn gallu mynd yno i fwynhau. Bellach mae gweddill y maes awyr yn dir amaethyddol.

Dilynwch y dolenni i ddarganfod mwy am lwybr mynediad hawdd ar Faes Awyr Tyddewi a thaith gerdded fer ar Faes Awyr Tyddewi.