Cynnal a Chadw Llwybr Arfordir Penfro

Mae Sir Benfro'n unigryw, oherwydd mae yma forlin mor arbennig fod Parc Cenedlaethol a Llwybr Cenedlaethol wedi eu creu yma.

Tîm Rheoli Cefn Gwlad Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n gyfrifol am wella a chynnal a chadw Llwybr yr Arfordir. Mae Swyddog y Llwybr Cenedlaethol yn cerdded y cyfan o Lwybr yr Arfordir bob blwyddyn ac yn nodi unrhyw waith sydd angen ei wneud ar gyfer y Gaeaf canlynol.

Mae’r tri Rheolwyr Wardeniad yn cydlynu’r gwaith gyda ffermwyr a thimau o Wardeiniaid. Mae pedwar Tîm o Wardeiniaid yn gwneud y gwaith ar Lwybr yr Arfordir fel rhan o’u rôl hawliau tramwy ehangach. Defnyddir staff ychwanegol yn ystod yr Haf i helpu torri’r isdyfiant yn ôl.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu 100% o’r nawdd ar gyfer Swyddog y Llwybr Cenedlaethol ac mae’n ariannu gwaith gwella y cytunir arno. Ariennir y gwaith cynnal a chadw bob dydd gan CNC hyd at 75% a daw 25% gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Mae’r gwaith o gynnal a chadw Llwybr yr Arfordir ar waith trwy gydol y flwyddyn. Yn ystod gwaith yr Haf rydyn ni’n torri’r borfa a llystyfiant arall, efallai y bydd angen torri rhai ardaloedd tri neu hyd yn oed pedair gwaith y flwyddyn (Mae rhedyn yn gallu tyfu hyd at pum troedfedd o uchder gan flocio’r Llwybr).

National Park Authority Warden near Aberhescwm

Rydyn ni hefyd yn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol yn yr Haf. Rydyn ni’n gwneud gwaith atgyweirio bob dydd ac adnewyddu sticlau, giatiau a strwythurau eraill y llwybr yn ystod y Gaeaf. Bob blwyddyn, mae rhannau o’r Llwybr yn mynd yn beryglus am fod darnau o glogwyni yn syrthio a rhaid eu symud tua’r tir.

Trwy ddefnyddio ein staff ni ein hunain sy’n adnabod y Llwybr yn dda a thrwy broses asesu risg, rydyn ni’n ceisio rhagweld problemau erydiad ac weithiau’n symud llinell y Llwybr, gyda chytundeb y perchennog tir, cyn i’r broblem ddod yn amlwg.

Rydyn ni’n anelu at wella mynediad hwylus ble’n bosib. Ym 1995, roedd yna 536 o sticlau i’w croesi; erbyn 2010 roedd lai na 100. Gosodwyd giatiau yn lle 400 o sticlau, neu cawsant eu gwaredu’n gyfan gwbl.

Ein nod ni yw cadw Llwybr yr Arfordir mor naturiol â phosib. Rydyn ni hefyd yn ceisio darparu amrywiaeth o heriau a phrofiadau at ddant pawb.

Defnyddir grisiau (cyfanswm o 4,830) ble mae’n hanfodol yn unig, mae yna risiau ar lethrau yn agos at bwyntiau mynediad ac ar y llethrau mwyaf serth ble mae eu hangen i ostwng erydiad, ond mewn ardaloedd mwy anghysbell nid oes grisiau ar lethrau tebyg.

Cynlluniwyd yr arwydd derw a ddefnyddir ar hyd Llwybr yr Arfordir i fod mor anymwthiol â phosib tra’n dal i fod yn amlwg (tipyn o gamp os allwch chi ei gyflawni).

Anfonwch eich adborth i ni

Rydyn ni wastad yn falch i glywed am yr agweddau gorau a'r gwaethaf o'ch taith. Fe allwch gysylltu â Swyddog y Llwybr Cenedlaethol drwy e-bost neu dros y ffôn ar 01646 624800.