Mae gan Gastell Roch (Castell y Garn), a adeiladwyd gan farchog Normanaidd o’r enw Adam de Rupe gysylltiadau hanesyddol â’r teulu brenhinol. Y dyddiau yma, gyda’i olygfeydd panoramig dros Fae Sain Ffraid, mae'n cael ei osod ar gyfer gwyliau ac encilion.
Adam a’r Neidr
Roedd Adam de la Roche yn rheolwr cyfoethog a phwerus a lywodraethai’r tir o gwmpas Roch. Fe adeiladodd Gastell Roch, yn uchel i fyny ar y graig, gyda golygfeydd godidog dros Fae Sain Ffraid.
Credai y byddai’n ddiogel yma petai’r Cymry afreolus rheiny yn meddwl am ymosod arno. Ond nid y Cymry afreolus y dylai Adam fod wedi eu hofni.
Oherwydd roedd hen wraig, oedd yn cael ei hadnabod fel gwrach, yn byw gerllaw a doedd hi ddim yn hapus iawn gydag Adam.
Un diwrnod yn y gaeaf fe gynhyrfodd ef hi yn ddirfawr.
O ganlyniad, fe’i melltithiodd “Gwyla di fy ngeiriau, Adam de la Roche”, chwythodd, “Mae yna felltith arnat, a chyn y bydd blwyddyn wedi mynd heibio, fe fyddi di farw o frathiad gwiber!”
Chwarddodd Adam a’i gyrru i ffwrdd. Ond roedd ei geiriau wedi glynu yn ei feddwl a chan fod gwiberod yn gyffredin yn y mannau sych o gwmpas y castell, fe ddaeth yn fwy a mwy pryderus y byddai’r broffwydoliaeth yn dod yn wir.
Yn fuan cafodd y felltith gymaint o effaith arno nes iddo gau ei hun yn yr ystafell uchaf yn nhŵr y castell, gan wrthod dod i lawr hyd yn oed pan oedd y tywydd mor wael fel na fyddai siawns o gwbl iddo ddod ar draws gwiber.
Roedd yn rhaid cludo ei holl fwyd a dillad a choed tân i fyny ato gan ei weision.
Ac felly bu’n byw fel meudwy. Aeth y gwanwyn heibio, yna’r haf ac wedyn yr hydref. Yn raddol dechreuodd ymlacio.
Ac eto hyd yn oed ar ôl y Nadolig a stormydd y gaeaf yn curo yn erbyn y castell, gwrthododd ddod i lawr o’r tŵr.
Yna, gydag un diwrnod i fynd i ddiwedd y felltith, mynegodd Adam fod y wrach yn ddim byd ond hen wraig ffôl oedd yn mwynhau dychryn pobol.
Roedd hi’n noson ddychrynllyd o oer, ac wrth i’r golau bylu gorchmynnodd i’w hen forwyn ddod â bwndel o goed tân o’r storfa goed er mwyn iddo gynnau tanllwyth o dân ar ei aelwyd dros nos.
Fe wnaeth yr hen forwyn hyn ac ar ôl tanio symudodd Adam ei wely yn agosach at y cynhesrwydd.
Roedd mewn hwyliau da ac fe yfodd gobled o win. Yna setlodd i lawr i gysgu.
Ond heb yn wybod iddo ef a’r hen forwyn roedd gwiber wedi dewis gaeafgysgu yn y bwndeli o goed tân yn y storfa goed, ac fe’i cariwyd i’r ystafell ynghanol y coed roedd yr hen forwyn wedi eu cludo i fyny.
Wrth i wres y tân ledu i’r ystafell, dihunodd y wiber o’i gaeafgwsg.
A phan ddaeth y gweision i fyny i stafell Adam fore trannoeth, fe gawsant eu meistr yn farw ac yn oer yn ei wely, wedi’i wenwyno gan frathiad gwiber yn union fel y proffwydodd yr hen wrach.
Stori gan – Brian John