Yma yn Oriel y Parc mae amrywiaeth o arddangosfeydd gan artistiaid a chrefftwyr o Sir Benfro i’w gweld drwy'r Ganolfan Ymwelwyr cyfan.

Mae yna Oriel Tirlun o’r radd flaenaf hefyd, sy’n arddangos celf ac arteffactau o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Yn aml mae’n cynnwys gwaith Graham Sutherland, a adawodd gorff o’i waith celf i Sir Benfro.

Mae Oriel y Parc yn gydweithrediad unigryw rhwng Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro lle mae gwasanaethau i ymwelwyr yn dod law yn llaw ag arddangosfeydd o gasgliadau cenedlaethol i ddathlu’r tirlun.

Gan ddefnyddio gwrthrychau o gasgliadau celf, hanes naturiol a diwydiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae ymwelwyr yn gallu gweld rhaglen o arddangosfeydd gwahanol.

Yn y Ystafell Tyddewi ceir arddangosfa o baentiadau, printiau ac ysgythriadau, tra bo’r Ystafell Ddarganfod yn cynnwys gofod arddangos ar gyfer gweithiau celf 3D, gan gynnwys cerameg, gemwaith, gwydr a cherfluniau.

Darganfyddwch fwy am Oriel y Parc