Afonydd ac Aberoedd

Yma yn Sir Benfro, mae yna amrywiaeth wych o afonydd, o ysblander y Cleddau Ddu a'r Cleddau Wen i'r nentydd lleiaf sy'n byrlymu ar draws llethrau Bryniau'r Preseli.

Mae’r aberoedd yn cynnwys Dyfrffordd Aberdaugleddau (sy’n newid i’r Aber y Daugleddau uwchlaw Pont Cleddau), y ria yn Solfach a moryd y Teifi ar ffin y Sir ger Aberteifi.

Aber y Daugleddau
Mae’r fflatiau llaid a’r cilfachau llanwol gweddol gysgodol o fewn Aber y Daugleddau yn lloches i fywyd gwyllt, yn enwedig rhydwyr. Gellir ond teithio ar hyd y sianelau troellog cul mewn cychod bach fel dingis a chanŵod. Mae’r blaendraeth yn gyfuniad o greigiau a mwd, sy’n gynefin llym i oroesi ynddo, ac yn dioddef o lanw a sychder bob dydd. Mae rhywogaethau o wymon, mwsogl môr, chwistrellwyr môr a physgod cregyn yn byw yn y llaid ac yn ffynhonnell fwyd gyfoethog ar gyfer rhydwyr ac adar gwyllt.

Mae’r coetiroedd sy’n crogi dros y cilfachau wedi bod yma ers o leiaf pedwar can mlynedd. Yn wreiddiol, roedd y coetir yn cofleidio llethrau Aber y Daugleddau bob cam o’r ffordd ar hyd y Daugleddau. Yr hyn a erys heddiw yw cyfuniad o goetiroedd hŷn a thyfiant newydd sydd wedi blodeuo yn ystod y ganrif ddiwethaf, ers i’r diwydiannau a arferai fod ar hyd y Daugleddau, fel y pyllau glo, ddiflannu.

Minwear ar Aber y Daugleddau Minwear ar Aber y Daugleddau

Dominyddir coetiroedd Aber y Daugleddau gan dderi, onn a chyll. Mae angen i’r rhywogaethau hyn oroesi gwyntoedd cryfion, a gwrthsefyll halen. Maen nhw’n tyfu ar lethrau serth a charegog. Mewn mannau, fel Lawrenni, mae coed cerddin gwyllt hefyd yn tyfu.

Nid yw’r rhywogaeth hon yn hoff iawn o hinsawdd oerach Sir Benfro, ac yn wahanol i dde-ddwyrain Lloegr, nid ydynt yn cynhyrchu ffrwythau. Yn hytrach maen nhw’n anfon sugnwyr allan o sylfaen y boncyff, ac felly maen nhw’n rhywogaeth ddelfrydol ar gyfer bywyd ar glogwyni caregog ac ansefydlog.

O dan y canopi, mae coed celyn a cherdin yn tyfu, a charpedi o goedfrwyn. O ganlyniad i’r creigiau oddi tano, mae’r pridd yn asidig, ac mae rhywogaethau fel grug a’r llusen yn ffynnu. Ymddengys bod gan y coed hynaf farf o fwsogl a chennau, a chredir bod rhai o’r cennau hynaf ym Mhrydain yn tyfu yn y coetiroedd.

Mae coetiroedd Aber y Daugleddau yn darparu cynefin ar gyfer llawer o anifeiliaid, adar a phryfed. Yn gynnar yn y bore neu gyda’r hwyr, mae’n bosib gweld dyfrgwn a moch daear. Yn y cyfnos, chiliwch am ystlumod wrth iddynt chwilota am bryfed o dan y canopi. Mae Sir Benfro’n gartref i nifer o rywogaethau prin o ystlumod, gan gynnwys yr ystlum trwyn pedol.

Mae’r rhywogaethau adar yn cynnwys cnocell y cnau, y gwybedwr brith a’r tingoch. Mae’r adar hyn yn nythu mewn tyllau yn y coed, ac yn hela am bryfed ar ddail ac mewn pren sy’n pydru.

Afon Teifi
Mae’r ardal hon o forfa heli a thraethellau yn ymylu ar aber llanwol yr Afon Teifi. Mae’r forfa heli yn ardal sy’n gorwedd rhwng y tir a’r môr – mae wedi’i gorchuddio gan y llanw am rannau o’r dydd wrth i’r llanw symud ymlaen ac yn ôl ddwywaith y dydd.

Aber y Teifi ger draeth Poppit Aber y Teifi ger draeth Poppit

Mae’r forfa heli yn dangos camau o wladychiad gan laswelltau a phrysglwyni sy’n gallu dioddef halen. Dim ond y rhywogaethau hyn, sy’n gallu dioddef halen, sy’n gallu byw yma yn yr amgylchedd anarferol hwn. Mae pori cyfyngedig gan dda byw yn bosib rhwng y llanwau.

Mae’r aber yn ardal dda ar gyfer hwylio hamddenol a gwylio adar ac mae yma lwybrau troed â mynediad hwylus sy’n ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Penfro.

Cliciwch y dolenni isod i ddysgu mwy am ddwy o brif afonydd ac aberoedd Sir Benfro:

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol