Mae hanes cyfoethog Castell a Melin Heli Caeriw’n ymestyn dros 2,000 o flynyddoedd ac yn sôn am farchogion y deyrnas, gorseddwyr brenhinoedd, cynllwynion oes Elisabeth a chwalfa Rhyfel Cartref.
Saif y Castell mewn lleoliad anhygoel yn edrych dros Lyn y Felin sy’n mesur 23 cyfer, ac mae’n un o’r cestyll mwyaf amrywiol ei bensaernïaeth yng Nghymru; yn gaer Normanaidd o’r ochr orllewinol, ac eto’n blasty Elisabethaidd gwych o’r gogledd.
Ar y safle hefyd ceir yr unig Felin Heli sydd wedi’i hadfer yng Nghymru, croes Geltaidd o’r 11eg ganrif, pont ganoloesol a llecyn picnic, i gyd wedi’u cysylltu gan lwybr cylch sy’n filltir o hyd, addas ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn, gyda golygfeydd godidog dros Lyn y Felin.
Digwyddiadau
Gweler ein tudalen digwyddiadau i ddarganfod beth sydd ymlaen ac archebwch ar-lein heddiw.
Bwyd a Diod
Ewch i’r adran Siopa a Bwyta i ddarganfod mwy am y dewis gwych o luniaeth sydd ar gael o Ystafell De Nest a’r Felin Heli.
Teithiau Tywys
Oherwydd Covid 19 dyn ni ddim yn cynnig teithiau tywys dyddiol ar hyn o bryd. Sut bynnag, cynhelir fflach sgyrsiau drwy’r dydd ac mae ein tywyswyr ar gael i ateb cwestiynau.
Mae gyda ni hefyd raglen o deithiau arbenigol yn ystod y tymor gan gynnwys Teithiau’r Ardd, Teithiau Cymraeg, Cyfrinachau Codi Cestyll, Teithiau Ysbrydion a Theithiau Gyda’r Hwyr ynghyd ag eraill. Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau.
Hygyrchedd
Gellir mynd â chadeiriau olwyn i lawr gwaelod y Castell a’r Felin, y ddwy siop ac Ystafell De Nest. Mae’r llwybr milltir yn addas i gadeiriau olwyn hefyd.
Mae dau dŷ-bach i’r anabl yng Nghanolfan Ymwelwyr y Castell ac yn Lôn y Felin (bydd angen allwedd RADA i’w hagor; holwch yn y Felin). Mae sgwter anabledd ar gael i’w llogi ar gais o Ganolfan Ymwelwyr y Castell.
Polisi mynediad i ofalwyr ac ymwelwyr ag anableddau
Mae Castell a Melin Heli Caeriw yn cynnig 25% oddi ar brisiau mynediad diwrnod safonol i ymwelwyr ag anableddau.
Mae defnyddwyr cadeiriau olwyn yn cael mynediad am ddim.
Bydd un gofalwr cynorthwyol yn cael mynediad am ddim.
Dewch ag un o’r dogfennau canlynol gyda chi:
- Llythyr Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Llythyr Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Llythyr yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Bathodyn Glas (angen ID â llun arno)
- Llythyr wedi’i lofnodi gan Feddyg Teulu (angen ID â llun arno)
- Cerdyn Gofalwr/llythyr gan sefydliad Gofalwyr neu Gyngor Sir.

Toiledau
Mae tŷ bach yng Nghanolfan Ymwelwyr y Castell (Sylwer: does dim tai bach cyhoeddus ym Melin Heli Caeriw).
Parcio
Mae digonedd o le parcio di-dâl i geir a bysus ym mhrif faes parcio’r Castell. Mae yna ail faes parcio ar gyfer ceir ar ochr ogleddol Pwll y Felin gyda golygfeydd ysblennydd draw i’r Castell. Mae yna dri man parcio i’r anabl ym mhrif faes parcio’r Castell a pharcio cyfyngedig i bobl anabl yn unig ochr y Felin.
Safle Picnic
Mae safle picnic ar lan ogleddol Llyn y Felin gyda golygfeydd godidog o’r Castell.
Cyfeillgar i gŵn
Mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ym mhob man ar y safle ac eithrio’r tu mewn i Ystafell De Nest; cadwch nhw ar dennyn byr os gwelwch yn dda.