Mae Oriel y Parc yn adeilad anhygoel ac arloesol sydd wedi ei chuddio yn y tirlun.

Mae’r adeilad yn rhywbeth byw sy’n anadlu ac mae’n cyfrannu at y tirlun mewn ffordd esthetaidd ac ymarferol.

Dan gochl ei cheinder y mae’r dechnoleg wyrdd ddiweddaraf yn gweithio’n galed i ddarparu amgylchedd cyfforddus a chynaliadwy.

Defnyddiau Adeiladu

Pren Cymreig​: Pren yw un o brif ddeunyddiau’r strwythur hwn. O’r fframwaith pren sy’n cynnal yr adeilad i risiau’r oriel, cafwyd hyd i’r holl bren mewn modd cynaliadwy.

Carreg​: Gwnaed y colofnau sy’n cynnal to Oriel y Parc a’r blociau sy’n capio’r waliau amgylchynol o lwch carreg. Fe’i gwneir trwy falu gwastraff carreg, ei gymysgu gyda cement a’i fowldio i mewn i siapiau clo ar gyfer adeiladu. Er ei fod mor gadarn â charreg, mae’n haws a rhatach i’w fowldio.​ Daeth y cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu’r tŵr a’r estyniad o hen adeiladau adfeiliedig lleol.
Inswleiddio Gwlân:​ Deunydd naturiol yw gwlân a ddaw o adnodd adnewyddadwy ac mae’n fwy ynni-effeithlon i’w gynhyrchu fel deunydd inswleiddio na deunyddiau synthetig.​ Mae llawer iawn o ddeunyddiau inswleiddio wedi’u gosod yn sylfeini a waliau Oriel y Parc er mwyn gwarchod ynni.​ Mae gwlân hefyd yn helpu i reoli lefelau lleithder yr adeilad, gan ei helpu i oeri yn yr haf a gwresogi yn y gaeaf.

Adeiladu

Dechreuwyd y gwaith adeiladu yn 2007 ac agorodd y canolfan ei ddrysau yng Ngorffennaf 2008. Mae’r datblygiad newydd yn cyfuno hen ganolfan ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, a adeiladwyd ym 1999, ac adeilad llawer mwy o faint sy’n cynnwys dwy oriel newydd.

Nodweddion Dylunio

Dyluniwyd Oriel y Parc i ddefnyddio ein hadnoddau naturiol, sef yr haul, y glaw a’r llystyfiant brodorol, i ostwng ein defnydd o bŵer a dŵr wedi ei brosesu.

Casglu Dŵr Glaw

Er mwyn lleihau defnyddio dŵr y prif gyflenwad a helpu i leihau’r straen ar adnoddau dŵr, rydyn ni wedi gosod tanc storio enfawr sy’n dal 18,000 litr o dan y clos yn y blaen. Pan mae’n bwrw glaw, mae’r dŵr glaw yn cael ei sianelu i mewn i’r tanc a chaiff ei ddefnyddio i fflysio’r toiledau.

Mae hyn hefyd yn atal dŵr ffo o’r adeilad rhag gorlethu’r cwteri lleol ac achosi llifogydd storm.

Aerial image of Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre, St Davids, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Gorweddiad

Mae gorweddiad yr adeilad, ynghyd â’i mas thermol enfawr, yn sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar wres yr haul. Mae siâp crwm yr adeilad wedi’i ddylunio i ddal yr haul fel ei fod yn cynhesu’r wal fewnol o doriad gwawr hyd at fachlud haul ac felly mae’n rhyddhau’r gwres gan bwyll drwy gydol y dydd.

Awyru Naturiol

Mae ochr ddeheuol yr adeilad yn uchel ac yng ngolwg yr haul. Mae’r ochr ogleddol yn isel gyda bondo llydan ac felly mae’n ardal oerach a chysgodlyd sy’n darparu cartref delfrydol i wennoliaid sy’n nythu. Gan ddefnyddio awyrellau lwfer, mae aer naturiol yn gallu llifo trwy’r adeilad os dymunir.

Goleuo

Mae’r defnydd o olau naturiol, bylbiau golau ynni isel a botymau synhwyro symudiadau yn sicrhau bod y defnydd o ynni yn lleihau.

To Porfa a Bywlys

Mae’r rhan fwyaf o doeau yn dywyll ac yn amsugno gwres sy’n achosi dosbarthu gwres anwastad. Mae toeau gwyrdd yn torri lawr ar yr amsugno gwres ac yn hytrach, yn darparu inswleiddio effeithiol oddi wrth yr oer yn y gaeaf a gwres yr haul yn yr haf. Mae dŵr glaw yn trylifo yn araf drwy’r pridd, ac felly yn atal dŵr ffo o’r adeilad i orlwytho’r draeniau lleol ac achosi fflachlifoedd.

Ynni Adnewyddadwy

Er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar ffynonellau ynni anadnewyddadwy a’n allyriadau carbon deuocsid, mae’r adeilad yn dibynnu ar dair ffynhonnell ynni adnewyddadwy i gyflawni eu gofynion ynni. Mae pwmp yn codi gwres yr haul o’r ddaear. Mae celloedd ffotofoltaidd yn trosi golau ddydd i mewn i drydan. Yn ogystal â chelloedd ffotofoltaidd, mae paneli solar sydd wedi’u gosod ar y to yn generadu dŵr twym trwy harneisio pŵer yr haul.

Darganfyddwch fwy am Oriel y Parc