Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gweithio’n galed er mwyn cynnal y cynefinoedd bywyd gwyllt ar safle Castell Henllys.

Mae’r cynefinoedd hyn – coetir, dolydd, prysg a nentydd – yn bwysig er mwyn i’r creaduriaid hyn allu goroesi.

Mae’r bioamrywiaeth yr ardal yn wych i chi, ein hymwelwyr, sy’n cael mwynhau lwybrau bywyd gwyllt yn ogystal â llwybrau hanesyddol.

Mae bywyd gwyllt Castell Henllys yn amrywiol iawn.

Mae’r coetir hynafol, y nentydd a’r dolydd ar lan afon yn darparu cynefinoedd i greaduriaid o bob math.

Mae’r creaduriaid sydd wedi cartrefu yng Nghastell Henllys yn cynnwys:

  • Pathewod sy’n byw yn y coetiroedd cyll sy’n cael eu bondocio
  • Ystlumod lleiaf sy’n byw yn nho’r siop
  • Dyfrgwn sydd wedi cartrefu yn nentydd Duad a Hafren
  • Trochwyr sy’n byw ar greaduriaid sy’n byw yn y nant.
Close up of Nocturnal Pipistrelle bat (Pipistrellus pipistrellus) flying in urban setting on attic of church in darkness at night