Mae Castell Henllys yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys anturiaethau Oes yr Haearn, ailberfformiadau Rhufeinig a gweithdai ymarferol. Gweler isod am fwy o wybodaeth ac archebwch ar-lein nawr!
Mae taith tywys o’r pentref yn gynwysedig yn y pris mynediad a bydd aelod cyfeillgar o’n llwyth yn siarad â chi am fywyd yn yr Oes Haearn.
Digwyddiadau sydd i ddod
I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau y gellir eu harchebu, ewch i’n gwefan archebu (yn agor mewn ffenestr newydd).
Gweithdy Brethyn Hynafol
Dydd Sul 30 Ebrill 11am-4pm. ARCHEBU’N HANFODOL
Dysgwch am dechnegau creu brethyn roedd ein cyndeidiau (a chynmamau!) yn eu defnyddio i greu darn o frethyn hynafol eich hun. Yn ystod y gweithdy cewch eich cyflwyno i dechnegau sylfaenol nyddu, gwehyddu a gweithio gyda llifion. Tocyn yn cynnwys mynediad i’r Pentref Oes Haearn a’r holl ddeunyddiau. Addas ar gyfer oed 12+. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu.
Ni ellir ad-dalu’r tocynnau. £25 y person.
Archebwch docynnau ar gyfer y Gweithdy Brethyn Hynafol (yn agor mewn ffenestr newydd)