Profwch yr Oes Haearn

Mae antur hynafol yn aros amdanoch!

Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 12.30pm a 1.30pm – 3pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad am 11.30am a 2.30pm.

Bore tawel Profwch yr Oes Haearn 

Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol o wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.

Dydd Sul 10am – 12 hanner dydd.

Bearded man in celtic dress holding burning leaves and grass near a campfire

Taith Tywys Cymraeg (addas i ddysgwyr)

Dydd Sadwrn 6 Ebrill

Er bod ein cynnig arferol yn ddwyiaethog, mae’r teithiau tywys byr yma wedi cal eu creu i fod yn uniaith Gymraeg.

GWEITHGAREDDAU TEULUOL

Hwyl yn Henllys

Dydd Mawrth a Dydd Iau yn ystod y Gwyliau Ysgol o 11am ymlaen

Profwch amrywiaeth o weithgareddau cyn-hanesyddol, holwch yn yr dderbynfa wrth i chi gyrraedd i ffeindio allan pwy sesiwn sydd yn cael ei chynnal yn ystod eich ymweliad. Tâl ychwanegol ar ben prisiau mynediad arferol.

Hud Derwydd

Dydd Mercher 29 Mawrth a 3 Ebrill 11am a 2.30pm. Archebu’n Hanfodol.

Roedd Derwyddion yr Oes Haearn yn wybodus, doeth ac yn gyfrinachol. Ymunwch â sesiwn ymarferol i geisio dysgu rhai o’u cyfrinachau, gan gynnwys dechrau tân, ceisio gwneud bara ac hefyd glasu’r wyneb. Oed 6+. £7 y plentyn ar ben y pris mynediad arferol.

Archebwch Nawr

Llwybr y Gwanwyn

Dydd Sadwrn 23 Mawrth – Dydd Sul 14 Ebrill

Mae’r gaeaf yn ymadael â ni, ac mae’r amser ar gyfer dechreuadau newydd wedi cyrraedd. Chwiliwch drwy’r coedwig am arwyddion y gwanwyn. Tynnwch lun neu ysgrifennwch nhw i lawr i ennill wobr.

£2 yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Ysgol Rhyfelwr

Dydd Sul 31 Mawrth o 11am ymlaen

People in Roman costume posing in front of a celtic rooundhouse

Codwch eich arfau a darganfod sut roedd pobl hanesyddol Cymru yn arfer ymladd yn Ysgol y Rhyfelwr. Dysgwch sut i drin cleddyf a tharian a defnyddiwch eich sgiliau newydd yn erbyn eich gwrthwynebydd. Oed 7+.

Ffi ychwanegol yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Dod yn Anturiaethwr Afon

Dydd Mawrth 2 Ebrill

Children river dipping with nets

Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn cynnal diwrnod “Anturiaethwyr Afon” hwyliog i’r teulu. Dewch a’ch sgidiau glaw, chwyddwydrau ac ysbienddrych wrth i ni ymchwilio am fywyd yn ein hafonydd. O infertebratau i ddyfrgwn, dysgwch am ecoleg afonydd wrth i chi ddod yn anturiaethwyr afonydd gwych.

DIGWYDDIADAU ARBENNIG

Taith Twyllo Cyntaf o Ebril

Dydd Llun 1 Ebrill 11am-12 hanner dydd

Iron Age roundhouses at Castell Henllys Iron Age Village

Mwynhewch daith chwerthinllyd o’r Oes Haearn ar 1 Ebrill! Llawn ffeithiau ffug a dyddiadau dychyminedol, bydd y daith hon yn dysgu popeth nad oeddech chi’n gwybod am yr Oes Haearn (am resymau da!). Bydd taith onest ar gael yn y prynhawn

Diwyrnod Addysg Cartref – Llychlynnaidd

Dydd Mercher 17 Ebrill 10.30am – 2pm

Cyfle i teuluoedd a grwpiau addysg gatref i profi yr Rhaglen Ysgolion Castell Henllys. Fe fydd y disgyblion yn cael y cyfle i deithio nôl mewn amser i’r amser am sesiwn a fydd yn cael ei arweinu gan un o’n dehonglwyr. Mae ein Rhaglen Ysgolion wedi’i chynllunio ar gyfer CA2 ac mae wedi’i hanelu at blant 7-11 oed. Mae ‘na croeso i blant hŷn i ddod gyda’u brodyr neu chwiorydd iau.

£8 y plentyn. Mae hyn yn cynnwys mynediad i un oedolyn am ddim ym mhob grwp teulu.

Archebwch Nawr