Prosiect Dileu Jac y Neidiwr Pen Cemaes

Mae cefnogaeth gref, llawer iawn o waith caled a chyfraniad y gymuned wedi cymryd camau breision tuag at ddileu’r pla-blanhigyn ymledol Jac y Neidiwr (Himalayan Balsam) o safle 32 erw ar Pen Cemaes yng Ngogledd Sir Benfro.

Drwy adeiladu ar lwyddiant blaenorol o ymdrin â rhywogaeth planhigyn ymledol arall (Llysiau’r Dial – Japanese Knotweed), derbyniodd Cymdeithas Gymunedol Llandudoch £22,650 o gyllid y Gronfa Datblygu Cynaliadwy dros ddau dymor tyfu yn olynol i gael gwared, atal lledaenu a chyfyngu ar dwf aruthrol Jac y Neidiwr ar dirwedd heriol Pen Cemaes.

Roedd y technegau a ddefnyddiwyd yn ddibynnol ar y safle, ac yn eu plith roedd ffustio, llifio cadwyn, torri prysgwydd a thynnu â llaw yn ôl y galw. Mae’r holl waith caled a phenderfyniad diwyro wedi llwyddo i leihau nifer y planhigyn o ddwysedd o 350 o blanhigion fesul m2 mewn mannau i ddim ond ambell blanhigyn fan hyn a fan draw.

Gall pob planhigyn gynhyrchu unrhyw beth rhwng 600 a 2,500 o hadau. Efallai bod y planhigyn yn edrych yn bert, ond mae’n ymledu’n gyflym; gan ddisodli planhigion brodorol ac o ganlyniad yn cael effaith andwyol ar fioamrywiaeth, sefydlogrwydd y pridd ac ansawdd y dŵr.

Himalayan balsam Removal

Y dulliau a ddefnyddiwyd

  • Mapiwyd yr ardal yr effeithiwyd arni i weld beth yn union oedd maint a graddfa’r broblem.
  • Cafodd y technegau a’r dulliau mwyaf priodol i’w defnyddio eu clustnodi, a mabwysiadwyd dulliau oedd yn benodol addas i’r lleoliad.
  • Gofynnwyd am ganiatâd i gael mynediad ar y tir a chytunwyd i hynny gan y mwyafrif o’r tirfeddianwyr yn yr ardal yr effeithiwyd arni.Roedd hon yn dasg hynod bwysig ond yn dasg fyddai’n cymryd llawer o amser. Roedd angen i’r tirfeddianwyr nid yn unig ddeall y broblem, y camau arfaethedig o weithredu, potensial y tir yn y dyfodol a’r opsiynau cynaliadwy o reoli’r tir yn y tymor hir, ond hefyd i ganiatáu i wirfoddolwyr gael mynediad ar eu tir, ac yn ddelfrydol i gymryd rhan weithredol eu hunain yn y rhaglen waith. Er mwyn cefnogi’r prosiect roedd angen iddynt ddeall gwerth a manteision y prosiect.
  • Codwyd hysbysfyrddau ger safleoedd y prosiect er mwyn ennyn ymwybyddiaeth o’r prosiect, effaith Jac y Neidiwr ar fioamrywiaeth, a’r camau a argymhellwyd i’r cyhoedd eu cymryd petaent yn dod ar draws y planhigyn.
  • Roedd sgyrsiau, cyflwyniadau a mynychu cyfarfodydd yn ffyrdd eraill yr oedd y Rheolwr Prosiect wedi rhannu’r wybodaeth a’r profiad a gafwyd.
  • Roedd ymylon allanol yr ardal yr effeithiwyd arni wedi’u diffinio i greu llinell amddiffyn i atal unrhyw aildyfiant pellach ac i atal lledaenu.
  • Cyflogwyd contractwr arbenigol lleol oedd â pheiriannau priodol i wneud y gwaith cychwynnol o glirio.

Roedd angen gwneud hyn gan fod y dirwedd mewn mannau yn anodd iawn, gyda llethrau serth a degawdau o dyfiant drain a mieri.

  • Roedd gwirfoddolwyr oedd wedi’u hyfforddi gan y prosiect i ddefnyddio torrwr prysglwyni a llif gadwyn yn gweithio ar ardaloedd penodol
  • Ar ôl i’r peiriannau ffustio neu dorri’r prysglwyni roedd gwirfoddolwyr rheolaidd yn tynnu’r planhigion oedd yn weddill â llaw.
  • Cliriwyd yr ardal o’r ochr allanol i mewn.
  • Talwyd sylw arbennig i glirio’r planhigyn ger y nentydd (gan weithio i lawr yr afon), llwybrau troed, llwybrau ceffylau, ffyrdd a llwybrau anifeiliaid gan fod y rhain yn gyfrwng i ledaenu’r planhigyn.
  • Gwnaed y gwaith clirio yn systematig bob mis o fis Mehefin tan fis Hydref.
  • Gwelwyd bod chwistrellu chwynladdwr yn broses rhy gostus ar gyfer y math o dir a’r mannau lle’r oedd Jac y Neidiwr yn tyfu.

Canlyniadau

Ar ôl blwyddyn gyntaf y prosiect, roedd arolwg o’r ardal yn dangos bod dwysedd Jac y Neidiwr wedi lleihau yn sylweddol fesul m2 o arwynebedd tir, o ddwysedd rhwng 249-350 o blanhigion fesul m2 fis Mehefin 2012 i ddwysedd planhigion rhwng 4 -10 fesul m2 fis Mehefin 2013. Roedd hyn wedi gwella eto fyth yn yr ail flwyddyn i adael ond ambell blanhigyn fan hyn a fan draw fydd angen sylw pellach yn 2014.

Mae’r canlyniadau cadarnhaol a welwyd dros y ddwy flynedd wedi dangos pa mor effeithiol oedd defnyddio cyfuniad o wahanol ddulliau yn dibynnu ar y gwahanol gynefinoedd, llethr y tir, dwysedd Jac y Neidiwr a’r tyfiant mieri, y ddraenen ddu a rhedyn.

Hyfforddiant Sgiliau

Yn ystod y ddwy flynedd o gyllido, hyfforddwyd pobl leol a phobl ifanc yn y gwaith ymarferol o reoli rhywogaethau ymledol, ond hefyd mewn defnyddio torrwr prysglwyni (wyth o bobl), gwaith llif gadwyn (dau o bobl), cymorth cyntaf (deg o bobl). Yn gyfnewid am hyn rhoddodd yr unigolion a hyfforddwyd oriau lawer o amser gwirfoddol i’r prosiect. Roedd yr agwedd hon o’r prosiect wedi arwain at fanteision economaidd-gymdeithasol annisgwyl yn ogystal â’r manteision amgylcheddol a ragwelwyd. Roedd wedi gwella hyder, lles a chyfleon y cyfranogwyr i gael gwaith ac wedi arwain at dri o’r gwirfoddolwyr yn sicrhau gwaith llawn amser yn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt yn ystod y prosiect.

Gwersi a Ddysgwyd

  • Peidiwch â chael eich llethu gan faint y broblem ond ewch ati i ymdrin â’r dasg mewn modd pwyllog a threfnus.
  • Cymerwch unrhyw gyfleoedd sy’n codi i sicrhau manteision ychwanegol megis manteision economaidd-gymdeithasol yn ogystal â manteision amgylcheddol
  • Mae’r chwilio am wirfoddolwyr newydd yn broses barhaus
  • Ni ddylai’r llwyth gwaith o reoli’r prosiect, delio â’r gofynion gweinyddol, trefnu gwirfoddolwyr, darparu goruchwyliaeth a gwasanaeth cymorth cyntaf a chwrdd a thrafod gyda thirfeddianwyr gael ei ddiystyru. Mae’n cymryd llawer iawn o amser, ymdrech ac ymroddiad.
  • Mae gwybodaeth leol am yr ardal a’r tir yn ogystal â gwybodaeth arolwg ordnans yn hanfodol bwysig.
  • Mae codi ymwybyddiaeth ac addysg yn elfennau cwbl hanfodol ar gyfer prosiect llwyddiannus.
  • Mae angen bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion a cheisiadau pawb sy’n ymwneud â’r prosiect.
  • Y gallu i ddygymod â thywydd gwael!

Beth nesaf?

Y nod yn y tymor hir yw cael gwared yn llwyr â’r rhywogaeth o’r ardal. Fodd bynnag, bydd hyn yn gofyn am waith dilynol pellach a gwaith ymestyn i gynnwys perchnogion tir yn mabwysiadu arferion tir cadwraeth. Mae angen gwaith dilynol i glirio hadau oedd yn hwyr yn egino yn ogystal â phlanhigion oedd wedi gwahanu a phlanhigion ynysig na chafodd eu difa gan y prosiect. Y gobaith yw y bydd rhai tirfeddianwyr yn ymrwymo i gytundebau rheoli tir gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn y pen draw bydd y tir a gliriwyd naill ai yn cael ei ddychwelyd i dir amaethyddol cynhyrchiol neu’n cael ei adael i aildyfu i gynefin mwy naturiol sy’n cynnal rhywogaethau brodorol o blanhigion gyda llawer gwell bioamrywiaeth.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn parhau i rannu arferion gorau a gobeithio, yn ysbrydoli eraill i weithredu.