Daearyddiaeth

Dewch i archwilio daearyddiaeth drawiadol Arfordir Penfro. Wedi’r cyfan, dyma’r rheswm dros ddynodi Sir Benfro yn Barc Cenedlaethol.

Pan sefydlwyd y Parc Cenedlaethol ym 1952, y nod oedd gwarchod tirwedd neilltuol a phrydferth. Traethau tywodlyd heb eu difetha, golygfeydd arfordirol gwefreiddiol, llethrau coediog dyfrffordd ‘gudd’ y Cleddau, a swyn a chyfaredd Mynyddoedd y Preseli – dyma ambell em yng nghoron Sir Benfro.

Waeth a ydych chi’n athro, yn athrawes, yn fyfyriwr, neu, yn syml, yn chwilfrydig, mae’n siŵr y bydd yma rywbeth yma at eich dant chi, fel: