Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli oddeutu 40 o feysydd parcio ac ardaloedd parcio; rydyn ni’n codi tâl mewn 14 o'r rheini ac yn defnyddio'r incwm i gynnal a chadw meysydd parcio a llwybrau’r Parc. Mae'r cyfnod talu yn weithredol rhwng 15 Mawrth a 7 Tachwedd (cynwysedig). Yn ystod y cyfnod hwn bydd rhaid i bob cerbyd naill ai arddangos tocyn Talu ac Arddangos dilys , Tocyn Tymor wedi’i brynu ymlaen llaw neu brynu tocyn digidol 'PayByPhone'. Codir tâl rhwng 9am a 7pm ar bob safle.
Prisiau Talu ac Arddangos (arian parod yn unig)
- Hyd at 30 munud: £0 (dim dychwelyd cyn pen 4 awr)
- Hyd at awr: £1
- Hyd at ddwy awr: £2
- Hyd at dair awr: £3
- Dros dair awr: £5
- Saith diwrnod: £30
(mae’n rhaid i ddeiliaid Bathodynnau Glas dalu, ond byddant yn cael awr ychwanegol o barcio)
Talu di-arian
Gall pobl nad ydynt yn dymuno defnyddio’r peiriannau arian parod presennol ar y safleoedd ddefnyddio PayByPhone drwy ap, neges destun, galwad ffôn neu ar-lein.
Bydd angen i fodurwyr fod yn ymwybodol y bydd defnyddio PayByPhone o’n meysydd parcio yn dibynnu ar ddarpariaeth rhwydwaith, a fydd yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad a’ch darparwr. Er y byddwch efallai yn dymuno talu am docyn cyn teithio i’r maes parcio, nid yw hyn yn gwarantu y bydd lle ar gael.
Archebu tocynnau tymor ar-lein
Mae tocynnau tymor a thocynnau saith diwrnod ar gael i’w harchebu trwy ein siop ar-lein neu drwy glicio’r dolennau isod:
Cynlluniwch ymlaen llaw. Bydd eich tocyn tymor yn cael ei bostio atoch. Caniatewch 14 diwrnod ar gyfer danfon.
Map Meysydd Parcio talu Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Cliciwch ar yr eicon P i weld mwy o wybodaeth am bob lleoliad.
Nodwch
Bydd unrhyw gerbydau sydd ddim yn arddangos tocyn Talu ac Arddangos dilys, tocyn wedi’i brynu ymlaen llaw, neu brynu tocyn digidol ‘PayByPhone’ yn gymwys i gael hysbysiad cosb benodedig gan fod ein meysydd parcio yn cael eu monitro’n rheolaidd gan Swyddogion Gorfodaeth Parcio. Cyfeiriwch at yr arwyddion ar y safleoedd i weld y telerau ac amodau llawn.
Ni chaniateir cysgu dros nos mewn cerbyd ym meysydd parcio’r Awdurdod. Os byddwch yn gwneud hyn, efallai bydd yn rhaid i chi dalu hysbysiad cosb benodol. Os oes angen llety dros nos arnoch, defnyddiwch gyfleusterau llety lleol ac ystyried yr effaith ar yr amgylchedd ac ar y gymuned leol.
Lleolir y meysydd parcio talu ac arddangos a rheolir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
- Llanrhath
- Saundersfoot Regency
- Penalun
- Maenorbŷr
- Freshwater East
- Bae Gorllewin Angle
- Little Haven
- Aberllydan (Broad Haven North)
- Nolton Haven
- Niwgwl (Pebbles)
- Solfach
- Oriel y Parc, Tyddewi
- Traeth Mawr, Trefdraeth
- Traeth Poppit