Tocyn Tymor (Pob Maes Parcio)

£140.00 inc. VAT

Yn ddilys yn ystod y tymor mewn unrhyw un o’r 14 meysydd parcio a reolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ewch i’n tudalen gwybodaeth parcio i’w gweld ar fap.

Cynlluniwch ymlaen llaw. Bydd eich tocyn tymor yn cael ei bostio atoch. Gwiriwch fanylion eich cyfeiriad danfon yn ofalus cyn i chi gyflwyno’ch archeb a chaniatewch 14 diwrnod ar gyfer danfon.

Mae’r cyfnod talu yn weithredol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. Codir tâl rhwng 9am a 7pm ar bob safle.

Meysydd Parcio

Mae’r tocyn yn ddilys i’w ddefnyddio gan un car mewn unrhyw faes parcio a redir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Lleolir y meysydd parcio talu ac arddangos a rheolir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

  • Llanrath
  • Saundersfoot Regency
  • Penalun
  • Maenorbŷr
  • Freshwater East
  • Bae Gorllewin Angle
  • Little Haven
  • Aberllydan (Broad Haven North)
  • Nolton Haven
  • Niwgwl (Pebbles)
  • Solfach
  • Oriel y Parc, Tyddewi
  • Traeth Mawr, Trefdraeth
  • Traeth Poppit

Telerau ac Amodau

Mae’r tocyn yn ddilys i’w ddefnyddio gan un car mewn unrhyw faes parcio a redir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Nid yw prynu’r tocyn hwn yn gwarantu bod lle parcio ar gael na chael blaenoriaeth i ddefnyddio unrhyw le parcio.

Rhaid arddangos y tocyn ar ddashfwrdd y cerbyd mewn lle y gellir ei weld yn glir bob amser drwy sgrin wynt y cerbyd. Gall methu ag arddangos y tocyn olygu talu dirwy.

Ni roddir tocynnau newydd yn lle tocynnau a gollwyd neu a ddifrodwyd ac ni ad-delir y gost.

Ni fydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golli neu ddifrod i gerbydau na’u cynnwys. Mae perchnogion a gyrwyr sy’n gadael eu cerbydau a’u cynnwys mewn maes parcio a redir gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gwneud hynny ar eu cyfrifoldeb eu hunain.

Cofestrif TAW: 618 3858 13

Postio

Bydd archebion gwerth llai na £100 yn cael eu hanfon trwy Ddosbarth 1af y Post Brenhinol am gost o £1.06.

Bydd archebion gwerth mwy na £100 yn cael eu hanfon trwy Ddosbarth 1af y Post Brenhinol (wedi’i recordio) am gost o £2.76.