Telerau ac Amodau

Polisi Preifatrwydd

Wrth gofnodi manylion megis enw a chyfeiriad e-bost yn y meysydd gofynnol, rydych yn galluogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’i ddarparwyr gwasanaeth i’ch darparu â’r gwasanaethau y detholwch. Pa bryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol o’r fath, byddwn yn trin yr wybodaeth honno yn unol â’n Polisi Preifatrwydd.

 

Cwcis (Cookies)

Mae newid yn y gyfraith yn golygu y byddwn angen eich caniatad o 26 Fai 2018 i achub cwcis oddi ar eich peiriant. Darllenwch ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth.

 

Yr hyn y caniateir i chi ei wneud

Cewch argraffu copïau o unrhyw dudalen unigol ar gyfer eich defnydd personol eich hunan neu at ddiben addysgol. Mae hyn yn cynnwys gwneud copïau er mwyn eu storio ar gof dros dro neu gopïau a wneir pan gaiff y ffeil ei lawrlwytho yn unig, ar yr amod na wnewch unrhyw rai o’r hyn a fanylir arnynt isod dan “Yr hyn na chewch ei wneud”.

 

Yr hyn na chewch ei wneud

Copïo (boed hynny trwy argraffu ar bapur, storio ar ddisg neu mewn unrhyw ffordd arall), dosbarthu (gan gynnwys dosbarthu copïau), ymyrryd â neu altro mewn unrhyw ffordd neu fel arall ddefnyddio unrhyw ddeunydd ar y wefan hon ac eithrio’r hyn a ddywedir uchod yn “Yr hyn y caniateir i chi ei wneud”.

Copïo unrhyw ddeunydd o’r wefan hon at unrhyw ddiben masnachol arall.

Tynnu unrhyw hysbysiadau hawlfraint, nod masnach neu unrhyw hysbysiadau eiddo deallusol eraill neu ddyfrnod a gynhwysir yn y deunydd gwreiddiol neu o unrhyw ddeunydd a gopïwyd neu a argraffwyd o’r wefan.

Defnyddio’r wefan ar gyfer unrhyw weithgareddau sy’n torri unrhyw gyfraith, torri ar hawliau unrhyw barti arall, neu dorri unrhyw safonau, anghenion cynnwys neu godau a gyhoeddwyd gan unrhyw awdurdod perthnasol.

Defnyddio’r safle mewn unrhyw ffordd sy’n ymyrryd â’n systemau, defnyddwyr eraill neu sy’n aflonyddu ar, bygwth neu’n niweidio unrhyw un. Byddwch yn ein digolledu rhag ac yn erbyn pob gweithrediadau, hawliad, cwynion, gorchmynion, atebolrwydd, costau neu dreuliau sy’n deillio o, neu’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd, â’r defnydd o’r safle gennych chi neu unrhyw berson arall sy’n defnyddio eich gwybodaeth mewngofnodi.

Defnyddio’r safle i wneud unrhyw neilltuad sbeciannol, ffug neu dwyllodrus neu unrhyw neilltuad mewn disgwyliad am alw.

 

Perchnogaeth, Hawlfreintiau a Nodau Masnach

Mae’r wefan hon yn cynnwys delweddau, testunau, fformatau ac arddulliau cyflwyno, meddalwedd (gan gynnwys côd HTML) a deunyddiau sy’n analogaidd iddo (“Deunydd”). Mae’r holl hawlfreintiau ac eiddo moesol, perchnogaeth a deallusol sy’n gallu ymgynnal yn y Deunydd neu’n ddeilliadol ohono o dro i dro fod yn eiddo cyfan gwbl neu’n drwyddedig i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Rydych yn cydnabod ein hawliau i’r Deunydd. Fel y’i darperir mewn man arall yn y Telerau hy, ni ddylech gopïo, addasu, trin, trosglwyddo, perfformio, cyhoeddi, arddangos trwydded na chreu gwaith deilliadol o’r Deunydd y ceir mynediad ato trwy’r wefan hon. Lle caniateir copïo neu drosglwyddo yn unig, rhaid i chi arddangos unrhyw athreuliad awdur neu hysbysiad hawlfraint.

Mae’r wefan hon hefyd yn cynnwys nodau masnach penodol (gyda chaniatâd neu wedi gwneud cais amdano), graffig, logos ac enwau gwasanaeth (“Dyfeisiau”). Ni chaniateir copïo’r Dyfeisiau na’u hatgynhyrchu mewn unrhyw fformat (cedwir fel yr hyn a ddarperir mewn man arall yn y Termau), neu eu defnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch neu wasanaeth heb ganiatâd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu mewn unrhyw ffordd sy’n debygol o beri dryswch ymysg y cyhoedd, sy’n amharchu neu’n difrïo Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel is-gwmni. Mae pob nod masnach arall nad ydynt yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu sy’n gysylltiedig a ymddengys ar y safle hwn yn eiddo i’w perchnogion unigol, a all fod neu all beidio â bod yn gysylltiedig â, yn gysylltiol â, neu wedi eu noddi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu rai cysylltiedig.

 

Newidiadau i’r Telerau ac Amodau Hyn

Gallwn ar unrhyw adeg newid neu addasu’r Termau cyfan hyn neu rannau ohonynt. Wrth bori’r wefan hon rydych yn derbyn eich bod yn rhwym i’r amodau a’r telerau a’r ymwadiadau sy’n gyfredol ar yr adeg hynny, felly dylech wirio’r rhain bob tro y byddwch yn ymweld â’r safle.

 

Ymwadiadau Atebolrwydd

Rydym wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir gennym ar y wefan hon yn gywir ar yr adeg y byddwch yn edrych arno. Fodd bynnag, ni allwn ac nid ydym wedi gwirio cywirdeb yr holl wybodaeth a ddarparwyd gan ffynonellau allanol na chan ddarparwyr gwybodaeth eraill neu bartïon eraill sydd â chyswllt i neu o’r wefan.

Mae’r holl wybodaeth o’r fath wedi ei ddarparu mewn ysbryd da ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n gwrthod atebolrwydd am unrhyw wallau, esgeulustra neu wybodaeth gamarweiniol (oni bai y’i gwneir yn fyrbwyll neu drwy dwyll) i’r graddau mwyaf posib a ganiateir gan y gyfraith, ynghyd â’r holl warantau ymhlyg sy’n gysylltiedig â gwybodaeth o’r fath.

Mae’r wefan hon yn cynnwys hypergysylltiadau i wefannau eraill e.e. safleoedd a gyhoeddwyd gan bartïon amgenach nag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Darperir hypergysylltiadau o’r fath er eich cyfeiriad yn unig. Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryi’n gweithredu safleoedd o’r fath ac felly nid yw’n gyfrifol am eu cynnwys. Hefyd, nid yw cynnwys yr hypergysylltiadau’n awgrymu cefnogaeth i ddeunyddiau ar wefannau o’r fath neu unrhyw gydgysylltiad â’u gweithredwyr.

Os dymunwch sefydlu hypergysylltiad o’ch gwefan i’r wefan hon, neu’n dymuno fframio’r wefan hon neu ran ohono, byddwch angen caniatâd ysgrifenedig gennym. Cysylltwch â’r Awdurdod drwy e-bostio gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk.

Nid ydym yn gwarantu neu’n gwneud unrhyw gynrychiolaeth mewn perthynas ag argaeledd y wefan hon ac nid oes gennym unrhyw atebolrwydd i chi os na fydd y wefan hon ar gael ar eich cyfer am unrhyw reswm.

Ni fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dan unrhyw amgylchiadau’n atebol am unrhyw anaf, colled, hawliad, difrod neu unrhyw ddifrodau damweiniol neu ôl-ddilynol, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i golled mewn elw neu gynilion, sy’n deillio o, neu mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â’r defnydd o unrhyw ddata neu wasanaethau gwybodaeth a arddangosir ar y safle hwn. Ni fydd hyn yn berthnasol i niwed personol neu farwolaeth uniongyrchol.

Bydd y defnydd o’r wefan hon a’r Termau hyn yn amodol ar gyfreithiau Cymru ac awdurdodaeth llysoedd Cymru.

Os penderfynir bod unrhyw rai o’r termau hyn yn anghyfreithlon, annilys neu fel arall yn anrhagweledig trwy gyfreithiau unrhyw dalaith neu wlad y bwriedir i’r termau hyn fod mewn grym, yna i’r graddau ac o fewn yr awdurdodaeth y bydd y term hwnnw’n anghyfreithlon, annilys neu’n anrhagweledig, bydd yn cael ei wahanu a’i ddileu o’r termau hyn a bydd y termau sy’n weddill yn goroesi, yn parhau mewn grym ac effaith llawn ac yn parhau i fod yn rhwymyn a gorfodol.