Ein Hymrwymiad i Wasanaeth
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymrwymedig i ddarparu safon uchel o wasanaeth i’n holl gwsmeriaid – ond rydym am gael gwybod pan fydd pethau’n mynd o le. Ysgol dda yw ysgol brofiad – os credwch ein bod wedi methu â gwneud rhywbeth neu ein bod wedi gwneud rhywbeth yn wael, neu os oes gennych awgrym ar gyfer gwella’r gwasanaethau, yna mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym.
Rydym am i chi deimlo’n hapus i’n cysylltu gydag unrhyw sylwadau neu awgrymiadau. Trwy wneud hyn byddwch yn rhoi cyfle i ni wneud iawn am bethau a gwella’r gwasanaeth.
Ni fydd hyn yn effeithio ar hawliau statudol lle gall ymgeiswyr am ganiatâd cynllunio ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ystyried eu hachos os credant ein bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir neu os nad ydym wedi gwneud penderfyniad cyn pen cyfnod o 8 wythnos.
Safonau Gwasanaeth
Mae ein staff yn ymrwymedig i gynnig safonau uchel o wasanaeth i chi. Byddant yn delio â’ch ymholiadau yn gwrtais ac yn gyflym a byddant yn cwrdd â’r safonau a bennwyd yn ein Datganiad Safonau Gwasanaeth sydd ar gael mewn Canolfannau Hysbysrwydd, neu Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro. Ffôn 0845 345 7275.
Diffiniad o anfodlonrwydd
Gall unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fynegi anfodlonrwydd ynghylch y canlynol:
- ymddygiad/gweithgarwch aelodau o’r staff;
- safon y gwasanaeth a ddarparwyd neu’r modd y’i darparwyd;
- methiant i gymryd camau priodol neu i ddelio â mater yn ddigon cyflym.
Fel rheol, dim ond os byddwch yn rhoi gwybod i ni am eich pryderon o fewn 12 mis y byddwn ni’n gallu eu hystyried. Weithiau, mewn achosion eithriadol, byddwn ni’n gallu ystyried pryderon yn hwyrach na hynny, ond rhaid bod gennych reswm da am beidio â dweud wrthym ynghynt. Hefyd, bydd rhaid i ni gael digon o wybodaeth am y mater fel y gallwn ei ystyried yn briodol.
Beth i’w wneud
Cysylltwch â ni naill ai dros y ffôn neu trwy ymweld â Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, neu trwy ysgrifennu, neu anfon ebost atom.
Ffonio
Gallwch ffonio Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 01646 624800.
Os ydych eisoes wedi cysylltu â’r gwasanaeth ac wrthi’n gohebu â’r Parc gallwch ffonio’n uniongyrchol, gan ddyfynnu’r cyfeirnod ar y llythyr.
Os ydych yn dymuno peidio â siarad â’r swyddfa gallwch ffonio’r Cadeirydd neu unrhyw Aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol (gweler y rhestr o Aelodau).
Gallwch ofyn i ffrind, perthynas neu gynrychiolydd ffonio ar eich rhan.
Ymweld â Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Os dymunwch, gallwch ymweld â swyddfa’r Parc Cenedlaethol neu ofyn i ffrind, perthynas neu gynrychiolydd ymweld â ni ar eich rhan er mwyn gwneud y gŵyn neu’r awgrym.
Mae’r swyddfa ym Mharc Llanion, Doc Penfro. Os nad ydych yn gyfarwydd â’r ardal mae map y tu mewn i’r clawr o’n dogfen Safonau Gwasaneth i’ch helpu.
Ysgrifennu at y Parc Cenedlaethol
Gallwch ysgrifennu atom os dymunwch trwy ddisgrifio eich pryderon mewn llythyr, ebost i gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk, neu trwy lenwi’r ffurflen yn ein dogfen Safonau Gwasanaeth neu ar waelod y tudalen. Mae croeso i chi gysylltu yn Gymraeg neu yn Saesneg. Cofiwch mai dim ond cwynion ynghylch ein gwasanaethau a/neu ein Haelodau neu weithwyr neu gontractwyr y gallwn eu hystyried.
Mae pob croeso i chi awgrymu beth allwn ni ei wneud i ddatrys y broblem, a chofiwch ddweud wrthym sut i gysylltu â chi.
Anfonwch eich llythyr at (Ysgrifennwch y cyfeiriad hwn â llaw ar eich amlen/label yn unig):
Rheolwr y Gwasanaethau Gweinyddol a Democrataidd
Rhadbost RTKR-GGRT-ESST
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
SA72 6DY
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn cydnabod eich gohebiaeth neu eich ymweliad cyn pen tri diwrnod gwaith gan nodi enw a rhif ffôn y person fydd yn delio â’r mater.
Rydyn ni’n ceisio datrys cwynion cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os yw eich cwyn yn gymhleth, byddwn yn dweud wrthych o fewn y cyfnod hwn pam fod angen rhagor o amser arnom. Ar ddiwedd yr ymchwiliad byddwn yn esbonio sut a pham y mae’r ymchwilydd wedi gwneud ei benderfyniad.
Beth os nad wyf yn fodlon â’r canlyniad?
Os credwch na thrafodwyd y mater yn briodol neu os ydych yn anhapus â’r ateb, gallwch ofyn i Swyddog Monitro Awdurdod y Parc Cenedlaethol ymchwilio i’ch achos (rhif ffôn 01646 624800 neu drwy ebostio swyddogmonitro@arfordirpenfro.org.uk).
Nid yw gwneud hynny yn effeithio ar eich hawl i fynd â’ch cwyn i’r Ombwdsmon os ydych yn dal yn anfodlon.
Dyfarnwr annibynnol fydd y Swyddog Monitro. Yr adeg hon byddwch yn cael cyfle i sôn am unrhyw faterion y credwch chi nad ydynt wedi cael eu trafod yn briodol.
Fe fydd y Swyddog Monitro yn gadael i chi gael copi o’i Adroddiad a fydd yn cynnwys manylion am ei benderfyniad ac unrhyw argymhellion. Hefyd bydd y Swyddog Monitro yn rhoi gwybod i’r Awdurdod/Pwyllgor Safonau o bryd i’w gilydd am fodolaeth a chynnwys ei Adroddiadau.
Os ydych am help i ddatgan eich cwyn neu eich pryderon wrth yr Awdurdod gallwch ffonio ein tîm Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01646 624800 a bydd y staff yn eich rhoi mewn cysylltiad ag uwch swyddog a fydd yn medru eich cynorthwyo.
Dod â chwyn gerbron Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”)
Mae’r gyfraith yn darparu y gall yr Ombwdsmon ymchwilio i fater pan fydd yn fodlon bod:
(a) y mater wedi cael ei ddwyn at sylw’r Awdurdod, a
(b) bod yr Awdurdod wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio i’r cwyn ac ymateb iddo.
Bydd y gofynion hyn wedi’u bodloni pan gewch ymateb ysgrifenedig gan yr Awdurdod yn ateb eich cwyn neu pan fydd yr Awdurdod wedi cael amser rhesymol i ymateb i’ch cwyn ac wedi methu â gwneud hynny. O’r adeg honno ymlaen mae gennych hawl i gysylltu’n uniongyrchol â’r Ombwdsmon.
Nodwch fod gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn i ymchwilio i gˆwyn hyd yn oed os na fodlonwyd y gofynion hyn, os yw’r Ombwdsmon yn fodlon y byddai’n rhesymol iddo wneud hynny dan yr amgylchiadau.
Os ydych yn awyddus i gysylltu â’r Ombwdsmon, a fyddech cystal â nodi’r canlynol:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed CF35 5LJ
Rhif ffôn ymholiadau: 0300 790 0203 (Codir y gyfradd llinell dir arferol ar bob galwad ni waeth o ba ran o’r wlad rydych yn ffonio, a hynny hyd yn oed os byddwch yn defnyddio ffôn symudol)
Rhif ffacs: 01656 641199
Ewch i wefan yr Ombwdsmon
Cofiwch ein hymrwymiad
Os credwch ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le neu wedi gwneud rhywbeth gwael neu os byddwn yn hir yn delio ag unrhyw fater, dywedwch wrthym. Dim ond trwy wneud hyn y gallwn ddatrys pethau a chydnabod unrhyw gamgymeriadau a wnaed gennym. Bydd hyn hefyd yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau er lles pawb.