Prosiect Ynni Ynys Dewi

Mae bywyd bob dydd ar Ynys Dewi ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi gwella’n arw yn sgîl system newydd o ynni adnewyddol.

Mae’r RSPB wedi llwyddo i osod tyrbin gwynt 7.5 metr o uchder a rhesaid o baneli ffotofoltäig i gyflenwi ynni “gwyrdd” i adeiladau’r Warchodfa ar Ynys Dewi. Roedd y prosiect, a dderbyniodd gyfraniad ariannol oddi wrth Gronfa Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn golygu:

  • gosod system gwrthdröydd batri cwbl awtomatig a redir gan bŵer trydan o res o 4 panel PV, tyrbin gwynt (7.5m o uchder) a generadur newydd i bweru ffermdy (gan gynnwys siop ymwelwyr) ac adeiladau eraill y fferm.
  • gosod system gwrthdröydd batri awtomatig ar wahân a redir gan bŵer trydan o baneli haul a generadur newydd i bweru’r llety i wirfoddolwyr.

Renewable energy systems installed on Ramsey Island funded by Sustainable Development Fund (SDF)

Nid oes prif gyflenwad trydan ar yr ynys, a chyn hyn yr unig ffynhonnell ynni oedd un generadur disel deg oed.

Drwy sicrhau ffynhonnell mwy dibynadwy o bŵer o natur, mae’r RSPB wedi lleihau ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil a hefyd wedi lleihau eu costau tanwydd ac allyriadau carbon deuocsid, heb effeithio ar brydferthwch naturiol a bywyd gwyllt anhygoel yr ynys. Bydd yr arian a arbedir ar gostau tanwydd yn cael ei ail-fuddsoddi  mewn rheoli’r safle, gan gynnwys gwaith ar y cynefinoedd, croesawu ymwelwyr a gwaith cymunedol.

Mae’r prosiect hwn wedi dangos y gellir cyfuno technolegau adnewyddadwy priodol â thirwedd arbennig iawn a sensitif. Drwy eu gwaith esboniadol ac ennyn ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sy’n ymweld â’r ynys, bydd yr RSPB hefyd yn gallu ysbrydoli eraill tuag at ffordd o fyw mwy cynaliadwy.

Y gwersi a ddysgwyd:

  • Mae angen caniatáu digon o amser i gael caniatâd cynllunio, ac mae angen cael cyngor gan yr awdurdod cynllunio a thrafodaeth adeg y gwaith cynllunio.
  • Mae angen i’r contractwr fod yn rhan o’r trafodaethau o’r cychwyn cyntaf, a chaniatáu amser ar gyfer unrhyw beth annisgwyl a all godi.
  • Cymryd i ystyriaeth oedi oherwydd tywydd anffafriol.

Cyfanswm Gwerth y Prosiect: £38,697.12

Grant SDF: £18,998.56