Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd

Cynllun Datblygu Lleol 2

Mae Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd yn gosod y materion arfarnu cynaliadwyedd a’r amcanion/meini prawf y bydd strategaethau, polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cael eu hasesu yn eu herbyn.

Tu ôl i hyn mae yna adolygiad o’r cynlluniau, rhaglenni a pholisïau sy’n berthnasol i ddatblygiad y Cynllun Datblygu Lleol newydd ynghyd â’r sylfaen dystiolaeth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ar gyfer yr arfarniad.

Dan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 mae gofyn i’r Awdurdod ymgynghori â’r cyrff ymgynghori ar gwmpas yr arfarniad cynaliadwyedd am gyfnod o 5 wythnos.  Dyma’r cyrff hynny: Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW.  Fodd bynnag, mae’r Awdurdod yn cynnig cyfle i’r cyhoedd, a grwpiau eraill sydd â diddordeb, gynnig sylwadau ehangach, am gyfnod o 8 wythnos. Cafodd yr Adroddiad Cwmpasu terfynol a gymeradwywyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym Mehefin 2016. Gellir lawrlwytho’r Adroddiad Cwmpasu a’r Atodiadau o’r dolenni isod.

Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd

Atodiad A: Adolygiad o Gynlluniau, Polisïau a Rhaglenni perthnasol

Atodiad B: Gwybodaeth Waelodlin

Adroddiad Ymgynghoriadau ar yr Adroddiad Cwmpasu

Am wybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â Gwasanaeth Cyfeiriad y Parc yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro. SA72 6DY. Ffoniwch 01646 624800. e-bostiwch devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.

Mwy am Gynllun Datblygu Lleol 2