Mae’r ynys hon, sy’n olygfa ogoneddus, yn wynebu penrhyn Tyddewi, ar draws dyfroedd byrlymog Swnt Dewi, a fwy na thebyg mai dyma’r lle gorau i wylio morloi llwyd a llamhidyddion.
Mae enw Cymraeg yr ynys wedi cadw’r cysylltiad at Ddewi a Thyddewi, ond dywedir i’r enw Saesneg ar yr ynys, ‘Ramsey’, darddu o enw person yn yr iaith Norseg, sef “Hrafn”.
O ganlyniad i ddau begwn Carn Ysgubor a Charn Llundain, mae gan Ynys Dewi amlinelliad nodedig iawn. Roedd yn dirnod i bererinion cynnar a deithiai i’r ardal ar y môr, ar eu ffordd i Dyddewi.
Roedd meudwyaid yn ceisio lloches yma, ac yn eu plith roedd Sant Stinian, cyfaill a chyffeswr Dewi. Roedd yna ddau gapel Cristnogol cynnar ar yr ynys, a ffynnon sanctaidd a oedd yn enwog am ei phwerau iachau.
Erbyn y 13eg ganrif, roedd Ynys Dewi’n eiddo i Esgobion Tyddewi, ac am dros 600 mlynedd ffermiwyd yr ynys, gyda graddau amrywiol o lwyddiant.
Cynhyrchwyd menyn, caws a gwlân yma ac fe’u gwerthwyd ar y prif dir ac, mewn blynyddoedd diweddarach, tyfwyd ŷd a chnydau eraill yma.
Y tro diwethaf i unrhyw un ffermio Ynys Dewi oedd diwedd y 1960au, ac mae bellach yn warchodfa natur sy’n eiddo i Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar (yr RSPB).
Mae Ynys Dewi yn gadarnle i’r frân goesgoch sy’n bridio, aelod prin o deulu’r frân. Dyma’r unig safle yn Sir Benfro, hefyd, ble mae cornicyllod yn ceisio bridio.
Caiff ŷd ei dyfu yn y caeau canolog i ddenu adar mudol sy’n bwyta hadau yn hwyr yn yr haf ac yn yr hydref. Mae yna glogwyn mawr ar gyfer adar y môr ar ochr orllewin yr ynys, a gellir gweld mulfrain gwynion yn plymio oddi arno i bysgota oddi ar y lan.
Ynys Dewi sydd â’r gytref fwyaf o forloi llwyd yn ne Prydain. Mae modd eu gweld o ddiwedd mis Awst hyd nes mis Hydref, pan ddaw’r morloi benywaidd i’r traethau bridio i eni eu rhai bach. Caiff dros 600 o forloi bach eu geni yma bob blwyddyn. Mae yna doreth o lamhidyddion harbwr yn y dyfroedd o amgylch Ynys Dewi, a gwelir dolffiniaid cyffredin, trwynbwl a llwyd yma bob blwyddyn.
Ar y tir, mae yna geirw coch, a gyflwynwyd i’r ynys yn ystod y cyfnod pan yr oedd yn cael ei ffermio, a llygod coch.
Mae yma blanhigion sy’n brin yn lleol ac yn genedlaethol. O ddechrau’r gwanwyn, ceir ysgeintiad o flodau o bob lliw a llun ar y clogwyni, ac ym mis Awst y grug porffor yw’r enghraifft orau o weundir morol ar ein hynysoedd oddi ar y lan.
I’r de o’r brif ynys, mae yna dair ynysig serth: Ynys Gwelltog, Cantwr a Beri. Mae’r rhain yn safleoedd bridio ar gyfer gwylanod cefnddu bach, ac yn y gwanwyn maen nhw’n frith o flodau’r serennyn glas golau.
Dod o hyd i Ynys Dewi
Ffeil Ffeithiau Ynys Dewi
- Eiddo i’r: RSPB. Ffi i lanio onid ydych yn dangos cerdyn aelodaeth RSPB dilys.
- Cyrraedd: Pasg tan fis Hydref, teithiau sy’n glanio o Borth Stinian, a hefyd teithiau cylch. Fe allwch ein helpu ni i wella anawsterau mynediad yn y lleoliad anghysbell ac annwyl hwn trwy deithio i Borthstinian ar y bws gwennol y Gwibiwr Celtaidd. Mae parcio ar gael yn wahanol leoliadau yn Nhyddewi, gan gynnwys Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.
- Cyfleusterau: Toiledau, lluniaeth, teithiau tywys y Parc Cenedlaethol.
- Ardal y Parc: Gorllewin
- Cyfeirnod Grid:SM705240