Awyr Dywyll

Ar arfordir gwyllt a garw Sir Benfro ceir rhai o‘r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae‘n bosib gweld y Llwybr Llaethog neu ‘r cytserau fel Orion gyda‘r llygad noeth.

Bu Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i sefydlu mwclis o Safleoedd Canfod Awyr Dywyll o amgylch yr arfordir; dyma’r dynodiad a gydnabyddir yn genedlaethol fel y mannau gorau i Syllu ar y ser ar draws y DU.
Lle bynnag yr ydych yn Sir Benfro, nid ydych ymhell oddi wrth un o’r safleoedd hyn, sy’n cynnig awyr dywyll a mynediad hawdd. Mae rhai hefyd yn cynnal digwyddiadau awyr dywyll arbennig i roi gwell dealltwriaeth i chi i fyd Syllu ar y ser a gweithgareddau eraill ar ôl iddi dywyllu

Golyga lleoliad Arfordir Penfro ym mhen de-orllewinol Cymru ei fod mewn lle da i osgoi llawer o‘r llygredd golau sy’n difetha rhannau mawr o’r DU, ac mae‘n cynnig awyr sy’n sylweddol dywyllach na llawer o ardaloedd.

Ychwanegwch at hyn y dimensiwn ychwanegol o allu gweld awyr y nos wrth i chi edrych allan i‘r môr a byddwch yn gweld pam fod yr ardal yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy ‘n chwilio am awyr dywyll, llonyddwch a heddwch.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ymrwymo i leihau llygredd golau er mwyn helpu i leihau’r defnydd o ynni a diogelu ‘r amrywiaeth eang o fywyd gwyllt nosol rhyfeddol sy ‘n ffynnu dan yr awyr dywyll hon.

Map Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll