Yn amodau tywydd eithafol edrychwch ar amseroedd y llanw cyn ymweld â thraethau, cymerwch ofal arbennig os ydych chi’n defnyddio Llwybr yr Arfordir, a cheisiwch ddewis llwybrau mwy cysgodol. Am y wybodaeth ddiweddaraf a chyngor ar gyfer tywydd garw a rhybuddion gwasanaethau, ewch i wefan Cyngor Sir Penfro.
Gallwch hefyd weld rhybuddion llifogydd cyfredol ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Gallwch weld rhybuddion tywydd garw ar wefan y Swyddfa Dywydd.
- Mae Llwybr yr Arfordir yn cael ei gynnal yn rheolaidd ond mae’n arbennig o bwysig eich bod yn ofalus wrth ddefnyddio’r Llwybr heriol ac agored hwn.
- Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio rhannau o’r Llwybr gydag elfennau llanwol – gwnewch yn siŵr nad yw’r llanw’n rhwystro eich ffordd yn ôl.
- Cadwch draw o wynebau llethr y twyni, oherwydd y gallant fod yn ansefydlog ac mewn perygl o gwympo. Peidiwch â gadael plant i gloddio mewn i wynebau’r twyni.
- Ceisiwch osgoi eistedd neu dorheulo yn syth o dan glogwyni ar draethau – mae perygl o’r clogwyn yn syrthio bob amser, a gallai hyn fod wedi ei gynyddu gan stormydd yn ystod y gaeaf.
- Mae dillad addas – gwrth-ddŵr a gwrthwynt ac esgidiau â gwaelodion cryf yn hanfodol yn y gaeaf – dylech ddisgwyl y bydd yn fwdlyd. Mae un neu ddwy ffon gerdded yn cynnig sefydlogrwydd.