Y Parc Cenedlaethol

CASGLIAD O DRYSORAU CUDD

Nid yw Arfordir Penfro'r hyn y byddwch chi efallai yn ei ddisgwyl fel arfer gan Barc Cenedlaethol. Yn ogystal â bod yr unig un sy’n bodoli yn bennaf oherwydd ei arfordir, mae wedi cael ei rannu yn bedair rhan hefyd, pob rhan gyda’i hynodrwydd a’i nodweddion ei hun.

Tra mai’r arfordir efallai yw’r brif olygfa, mae’n cael ei gefnogi gan nodweddion gwych eraill ac er nad oes unman yn y Parc Cenedlaethol mwy na deng milltir o’r môr, mae llawer mwy i’w archwilio nag y byddwch chi’n ei feddwl.

Mae Arfordir Penfro yn un o’r Parciau Cenedlaethol lleiaf yn y DU, ond peidiwch â gadael i’r maint eich twyllo chi, rydych chi wrth y fynedfa i amrediad o dirweddau rhyfeddol. Mae gan yr arfordir o ansawdd gefndir o fryniau, aberoedd, dyffrynnoedd a choetiroedd sy’n eich galluogi chi i ddarganfod rhywbeth gwahanol.

MILLTIROEDD O DRAETHAU EURAID

Mae Sir Benfro yn gartref i fwy o draethau’r faner las nag unrhyw sir arall yn y wlad, ond twriwch ychydig yn ddyfnach a byddwch chi’n gweld nad ydyn nhw i gyd yn fannau bwced a rhaw traddodiadol.

Mae llawer o’r baeau a’r traethau bychain llai adnabyddus yn cynnig ffordd wylltach o fod wrth lan y môr.  Mae dwsinau ohonyn nhw hefyd yn ennill Gwobrau’r Arfordir Gwyrdd a Glan Môr bob blwyddyn.

Rhoddwyd gwobr y Faner Las i 11 o draethau yn 2019: Llanrhath, Neigwl, Llanusyllt, Dale, Porth Mawr, Coppet Hall, Gogledd Dinbych-y-pysgod, Castell Dinbych-y-pysgod, Traeth Poppit a Lydstep.

Derbyniodd 12 o draethau Wobrau’r Arfordir Gwyrdd a derbyniodd 16 o draethau Wobr Glan Môr, a derbyniodd wyth traeth ddau o’r gwobrau hyn.  Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r gwobrau traeth, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

View north across Whitesands Bay, St Davids, Pembrokeshire

AWYR AGORED ANHYGOEL

Y ffordd orau i gael profiad o’r arfordir yw ar droed.  Drwy ddilyn Llwybr Arfordir Penfro, byddwch chi’n gweld 186 milltir o olygfeydd arfordirol, sy’n amrywio o gerrig brig folcanig ysgythrog yn y gogledd at glogwyni calchfaen uchel yn y de.

Dim ond un allan o’r 15 Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr yw Llwybr yr Arfordir ac mae yn rhan bwysig hefyd o Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr Rhyngwladol yr Apalachiaid.

Yn ystod 2020, bydd Llwybr Arfordir Penfro yn dathlu pen-blwydd arian ei agoriad swyddogol a oedd ar 16 Mai, 1970.

Family walking on Pembrokeshire Coast Path near Marloes

Mwy nag EVEREST

Mae cerdded y llwybr cyfan yn dipyn o dasg – mewn gwirionedd, mae Llwybr yr Arfordir yn esgyn ac yn disgyn cyfanswm o 35,000 troedfedd – mwy nag uchder Mynydd Everest ei hun.

Er hynny, nid oes unrhyw reol yn dweud bod yn rhaid i chi ei gerdded i gyd.  Mewn gwirionedd, ceir llawer o wahanol ffyrdd y gallwch chi ddefnyddio’r Llwybr i ddarganfod y Parc.

Gallwch chi rannu’r llwybr yn gyfres o adrannau er mwyn gweddu i’ch nodau a’ch gallu.

Ar gyfer cerddwyr profiadol, mae 15 o adrannau yn ei wneud yn haws i’w drin, ond mae Llwybr  yr Arfordir i’w weld mewn llawer o’r 200 cylchdaith a restrir ar y wefan hon.

DECHREUWCH CHWILIO AM EICH TAITH CHI AR LWYBR YR ARFORDIR

Beth sy'n gwneud Arfordir Penfro yn arbennig?