Polisi Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd APCAP – Cadw eich Gwybodaeth yn Ddiogel [Diweddarwyd ddiwethaf: 27/10/23]

Sut ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn edrych ar ôl eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Y wybodaeth y dywedwch wrthym am eich hunan.
  • Gwybodaeth a ddysgwn amdanoch drwy eich cael fel cwsmer neu gyflenwr, cyflogai, gwirfoddolwr, defnyddiwr gwasanaeth, cefnogwr neu wrth gyflawni ein dyletswyddau rheoleiddio fel awdurdod cyhoeddus
  • Y dewisiadau a rowch i ni ynghylch pa farchnata neu wybodaeth am yr Awdurdod y dymunwch i ni ei roi i chi.

Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut ydym yn gwneud hyn, ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn chi. Gall yr hysbysiad hwn newid o bryd i’w gilydd, felly cymerwch olwg ar ein gwefan o droi i dro er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau.

Pwy ydym ni
Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei greu yn awdurdod lleol annibynnol dibenion arbennig o dan y Ddeddf Amgylchedd 1995 (y Ddeddf).

Gallwch ddarganfod mwy amdanom ni yma .

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o fanylion am sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.

SDD@arfordirpenfro.org.uk

01646 624800

Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro, SA72 6DY

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi’i gofrestru yn Rheolwr Data gyda’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth. Rhif cofrestru: Z6910336.

Sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn chi
Mae eich preifatrwydd yn cael ei warchod yn ôl y gyfraith ac mae’r adran hon yn egluro sut mae hynny’n gweithio.

Rydym yn nodi sut ydym yn bodloni mesurau atebolrwydd yn y gyfraith a sut ydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel yn ein Polisi Diogelu Data.

Eich hawliau
O dan y rheoliadau diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  1. Yr hawl i gael gwybod
  2. Hawl mynediad
  3. Yr hawl i gywiro
  4. Yr hawl i ddileu
  5. Yr hawl i gyfyngu prosesu
  6. Yr hawl i ddata gael ei gludo
  7. Yr hawl i wrthwynebu
  8. Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae sail gyfreithlon prosesu yn dylanwadu ar ba hawliau sydd ar gael i’r unigolyn.

Rhesymau priodol (sail gyfreithlon) dros ddefnyddio’ch data personol
Mae’r gyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio gwybodaeth bersonol dim ond os oes gennym reswm priodol (sail gyfreithlon) dros wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth bersonol ag eraill y tu allan i’r Awdurdod.

Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i ni gael un neu fwy nag un o’r rhesymau hyn:

  • Mae angen y wybodaeth i gyflawni tasg sy’n ymwneud â dyletswyddau cyhoeddus a rheoleiddiol yr Awdurdod Parc Cenedlaethol.
  • I gyflawni contract sydd gennym gyda chi, neu
  • Pan yw yn ddyletswydd gyfreithiol arnom, neu
  • Pan yw yn fuddiant cyfreithlon i ni, neu
  • Pan fyddwch chi’n rhoi caniatâd i ni ddefnyddio’r wybodaeth bersonol.

Buddiant cyfreithlon yw pan fydd gennym reswm busnes neu fasnachol i ddefnyddio’ch gwybodaeth nad yw’n gysylltiedig â’n dyletswyddau cyhoeddus a rheoleiddiol fel Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Mae rhesymau ychwanegol (sail gyfreithlon) y mae’n rhaid i’r Awdurdod eu bodloni wrth brosesu data categori arbennig.

Y data a gasglwn
Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi neu eich busnes o’r ffynonellau hyn:

Y data a roddwch i ni:

  • Pan fyddwch yn llenwi ffurflen gais, megis cais am swydd, cais am wirfoddoli, cais am ganiatâd cynllunio.
  • Pan fyddwch yn gwneud cais am ein gwasanaethau, megis llogi lle i fynychu digwyddiad.
  • Pan fyddwch yn siarad â ni ar y ffôn, yn anfon e-bost neu yn anfon llythyr atom.
  • Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan
  • Mewn negeseuon e-bost a llythyron
  • Pan fyddwch yn prynu nwyddau neu yn ymrwymo i gontract gyda ni
  • Pan fyddwch yn cofrestru i ddod yn rhan o rwydwaith neu grŵp yr ydym yn ei hwyluso
  • Mewn hawliadau yswiriant neu ddogfennau eraill

Y data a gasglwn pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau:

  • Data talu a thrafodion.
  • Data proffil ar-lein a defnydd ar-lein. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cwcis pan fyddwch yn cael mynediad i’n gwefan.
  • Data defnyddio ac ymgysylltu ar gyfer gwasanaethau
  • Data Cais Cynllunio
  • Nodiadau ffeiliau achos o gyfarfodydd

Data gan drydydd partïon yr ydym yn gweithio gyda hwy:

  • Sefydliadau sy’n eich cyfeirio chi atom ni
  • Partneriaid prosiect
  • Yswirwyr
  • Cyngor Sir Caerfyrddin – Gwasanaethau Cyflogres
  • Pensiynau Dyfed
  • Rhwydweithiau cymdeithasol
  • Asiantaethau atal twyll
  • Asiantau tir
  • Ffynonellau gwybodaeth gyhoeddus megis Tŷ’r Cwmnïau
  • Asiantau sy’n gweithio ar ein rhan
  • Ymarferwyr Meddygol* Iechyd Galwedigaethol
  • Asiantaethau gorfodaeth y Llywodraeth a’r gyfraith.

Y wybodaeth a gasglwn oddi wrthych a’r hyn y mae’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer

Gweithwyr ac Ymgeiswyr am Swydd

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Prosesu Cais am Swydd

Cyflawni contractau
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol

Prosesu ceisiadau am brofiad gwaith/ lleoliad myfyrwyr

Buddiant cyfreithlon

Gall pobl fynd ar brofiad gwaith a lleoliadau myfyrwyr gyda’r Awdurdod

Cyflawni’ch Contract Cyflogaeth

Cyflawni contractau
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Gweinyddu Adnoddau Dynol a’r Gyflogres yn Effeithiol yn yr Awdurdod

Cadw mewn Cysylltiad â chi neu’ch Cyswllt mewn Argyfwng

Cyflawni contractau
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon
Caniatâd – Cyswllt mewn Argyfwng

Rhoi gwybod i staff ac i gysylltiadau mewn argyfwng

Iechyd a Diogelwch

Ein rhwymedigaethau cyfreithiol

Gwneud Addasiadau Rhesymol Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol

Cyflawni gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Data Monitro Cydraddoldeb

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol

Cyflawni gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

 

Aelodau

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Cadw mewn cysylltiad â chi a rhoi gwybodaeth i chi i gyflawni eich rôl

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Darparu llywodraethu effeithiol i’r Awdurdod

Prosesu Taliadau Treuliau

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Cydnabyddiaeth Aelodau

 

Gwirfoddolwyr

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Prosesu eich cais i wirfoddoli

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Gweithio gyda gwirfoddolwyr i gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol

Cadw mewn cysylltiad â chi

Buddiant cyfreithlon

Gwirfoddolwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd

Teilwrio profiadau gwirfoddoli a gwneud addasiadau rhesymol

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon
Caniatâd – mewn perthynas â data iechyd

Cynyddu mynediad i gyfleoedd gwirfoddoli. Cyflawni gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Iechyd a Diogelwch

Ein rhwymedigaethau cyfreithiol

Monitro Cydraddoldeb

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol

Cyflawni gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Prosesu Taliadau Treuliau

Buddiant cyfreithlon

Prosesu treuliau gwirfoddolwyr

 

Defnyddwyr Gwasanaethau, Cwsmeriaid a Phartneriaid – Cynllunio

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Prosesu ceisiadau cynllunio

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Cyflawni dyletswyddau’r Awdurdod cynllunio.

Cadw mewn cysylltiad a cheisio adborth am y gwasanaethau a ddarparwn

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Rheoli perthynas a gwella gwasanaethau yn barhaus

Gofyn am sylwadau am resymau Polisi Cynllunio, megis y Cynllun Datblygu Lleol

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Y cyhoedd yn cael cyfle i ddylanwadu ar bolisi cynllunio lleol. Cyflawni rhwymedigaethau cytundeb

Ymchwilio toriadau honedig o reloaeth cynllunio

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Ymchwilio toriadau honedig o reloaeth cynllunio

Recordio sgyrsiau ffôn i’r tîm gwasanaethau ceriaid at ddibenion monitro a hyfforddi. Mae hyn yn berthnasowsl i alwadau sy’n mynd allan a/neu alwadau sy’n dod i mewn. Bydd recordio galwadau yn cael ei ddiffodd pan roddir manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd.

Noder: Bydd pob recordiad yn cael ei ddileu ar ôl 30 diwrnod. Fodd bynnag, gellir ymestyn hyn mewn amgylchiadau lle mae angen y recordiad i ategu’r ymchwiliad i ddigwyddiad neu’n ofynnol fel tystiolaeth. Bydd neges yn egluro y gall yr alwad gael ei recordio yn cael ei chwarae ar ddechrau pob galwad ffôn a dderbyniwn. Os yw Swyddog yn gwneud galwad sy’n mynd allan ac sy’n cael ei recordio, bydd yn rhoi gwybod i’r derbynnydd ar ddechrau’r alwad.

Buddiant cyfreithlon

Sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth o safon gennym ni;
Ymchwilio i gŵyn a’i datrys;
Diogelu lles a diogelwch personol ein staff e.e. oddi wrth y galwyr difrïol;
Hyfforddi Staff Gwasanaethau Cwsmeriaid.

 

Aelodau Rhwydweithiau neu Grwpiau a hwylusir gennym

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Ar gyfer trefnu cyfarfodydd ac anfon gwybodaeth sy’n ymwneud â gwaith y grŵp

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Gweithio gydag eraill i gyflawni Dibenion y Parc Cenedlaethol

Prosesu Taliadau Treuliau

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Taliadau cydnabyddiaeth i Aelodau’r Fforwm Mynediad Lleol

 

Defnyddwyr y Gwasanaeth a Phartneriaid – Ar draws Gwasanaethau

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Cysylltu â chysylltiadau perthnasol ar gyfer hawliau tramwy a rheoli cadwraeth

Ein tasg gyhoeddus
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Cyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol. Darparu gwasanaethau yn effeithiol.

 

 Cwsmeriaid, Cyflenwyr a Chontractwyr

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Prosesu Taliadau – gan gynnwys cysylltu â chi am hyn os oes angen

Cyflawni contractau
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Prosesu Taliadau yn Effeithiol

Prosesu archebu digwyddiadau – gan gynnwys cysylltu â chi ynglŷn â hyn os oes angen

Buddiant cyfreithlon

Prosesu archebu lle mewn digwyddiadau sy’n hyrwyddo dibenion y Parc Cenedlaethol yn effeithiol

Rheoli ein perthynas â chi neu â’ch busnes

Buddiant cyfreithlon
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Perthynas effeithiol â chyflenwyr, cwsmeriaid a chontractwyr

Asesu Tendrau

Ein rhwymedigaethau cyfreithiol

Cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gontractau a wneir rhyngoch chi a ni

Cyflawni contractau

Gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gofynion archwilio ariannol

Ein rhwymedigaethau cyfreithiol

Recordio sgyrsiau ffôn i’r tîm gwasanaethau cwsmeriaid at ddibenion monitro a hyfforddi. Mae hyn yn berthnasol i alwadau sy’n mynd allan a/neu alwadau sy’n dod i mewn. Bydd recordio galwadau yn cael ei ddiffodd pan roddir manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd.

Noder: Bydd pob recordiad yn cael ei ddileu ar ôl 30 diwrnod. Fodd bynnag, gellir ymestyn hyn mewn amgylchiadau lle mae angen y recordiad i ategu’r ymchwiliad i ddigwyddiad neu’n ofynnol fel tystiolaeth. Bydd neges yn egluro y gall yr alwad gael ei recordio yn cael ei chwarae ar ddechrau pob galwad ffôn a dderbyniwn. Os yw Swyddog yn gwneud galwad sy’n mynd allan ac sy’n cael ei recordio, bydd yn rhoi gwybod i’r derbynnydd ar ddechrau’r alwad.

Buddiant cyfreithlon

Sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth o safon gennym ni;
Ymchwilio i gŵyn a’i datrys;
Diogelu lles a diogelwch personol ein staff e.e. oddi wrth y galwyr difrïol;
Hyfforddi Staff Gwasanaethau Cwsmeriaid.

 

Rentu a defnyddio E-Feiciau

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Cadw mewn cysylltiad a chael adborth am y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu

Buddiant cyfreithlon

Rheoli perthnasoedd presennol a gwella gwasanaethau

Cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o’r contract rhentu

Cyflawni contractau

Cyflawni dyletswyddau’r Awdurdod

Prosesu Taliadau – gan gynnwys cysylltu â chi yn ei gylch os bydd angen

Cyflawni contractau
Ein rhwymedigaethau cyfreithiol

Prosesu taliadau’n effeithiol

Prosesu ymholiadau, sylwadau, adborth, a chwynion a gyflwynir gennych

Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon

Cyflawni safonau gwasanaeth Parc Cenedlaethol yr Awdurdod

 

Ymgysylltu (gan gynnwys ar-lein) a Marchnata

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Cadw mewn cysylltiad drwy roi gwybodaeth am ddigwyddiadau yn ein canolfannau

Ein tasg gyhoeddus
Caniatâd – pan fyddwch chi’n cofrestru ar restr bostio

Hyrwyddo Rhinweddau Arbennig y Parc

Rheoli cyfleoedd yn y Canolfannau neu yn Coast to Coast ar gyfer busnesau a deiliaid stondinau

Buddiant cyfreithlon – Perthynas barhaus
Caniatâd – Cyswllt Newydd

Rheoli perthynas barhaus yn effeithiol fel bod pobl yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael

Delio â cheisiadau i gystadlaethau.

Buddiant cyfreithlon

Galluogi cynnal cystadlaethau yn effeithiol

Dadansoddi ymweliadau â’n gwefan

Caniatâd – Cwcis Trydydd Parti

Nodyn: Mae’r cwcis parti cyntaf yn angenrheidiol gan fwyaf er mwyn i’r wefan weithio’n gywir, a dydyn nhw ddim yn casglu data a fydd golygu bod modd eich adnabod yn bersonol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Cwcis.

Ein galluogi i ddadansoddi a gwella’r profiad o ymweld â’n gwefan

Lluniau

Buddiant cyfreithlon
Caniatâd

Ein galluogi i roi cyhoeddusrwydd a chynnwys pobl yn y gwaith a wneir gan yr Awdurdod

Gweinyddu cylchlythyrau’r Awdurdod

Caniatâd – pan fyddwch yn ymuno â rhestr bostio

 

Cefnogwyr

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Prosesu eich rhodd Ein rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon
Cyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol. Darparu gwasanaethau yn effeithiol.
Cadw mewn cysylltiad â chi am gyfleoedd i gefnogi’r Awdurdod Caniatâd

 

Llywodraethu ac Atebolrwydd

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Prosesu ymholiadau, sylwadau, adborth a chwynion a gyflwynir gennych Tasg gyhoeddus
Rhwymedigaethau cyfreithiol
Buddiant cyfreithlon
Cyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol, safonau gwasanaeth a gofynion Rhyddid Gwybodaeth, Rheoleiddio Amgylcheddol a Chais Gwrthrych am Wybodaeth.

Fideo CCTV
Mae Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) ar waith mewn lleoliadau amrywiol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Mae ein CCTV yn recordio delweddau gweledol byw yn unig (nid yw’n recordio sain), a bydd unrhyw recordiadau’n cael eu cadw am 30 diwrnod. Fodd bynnag, gellid ehangu hyn mewn amgylchiadau lle mae’r recordiad CCTV yn angenrheidiol er mwyn cefnogi ymchwiliad i ddigwyddiad neu fel tystiolaeth.

Sylwch fod arwyddion clir ar waith mewn ardaloedd PCNPA sy’n cael eu monitro gan CCTV.

Mae lleoliadau’r camerâu yn cael eu hadolygu bob blwyddyn i sicrhau eu bod nhw’n addas at y diben. Lle nad oes modd cyfiawnhau’r pwrpas mwyach yn erbyn tarfu ar breifatrwydd personol, byddant yn cael eu gwaredu neu eu diffodd.

Bydd yr Awdurdod yn monitro ac yn ymateb i unrhyw bryderon neu gwynion a ddaw i law ynghylch lleoliad y camerâu a’u meysydd gwelededd. Lle nad oes modd cyfiawnhau’r lleoliad a’r pwrpas mwyach yn erbyn tarfu ar breifatrwydd neu eiddo personol, byddant yn cael eu gwaredu neu eu diffodd.

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Amddiffyn staff, aelodau, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ac aelodau’r cyhoedd o ran eu diogelwch personol.

Atal ymddygiad treisgar neu ymosodol tuag at staff PCNPA.

Amddiffyn adeiladau ac offer yr Awdurdod ac eiddo personol staff, aelodau, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ac aelodau’r cyhoedd.

Atal a chanfod troseddau yn ei safleoedd a’i gyfleusterau manwerthu a helpu i adnabod a dal troseddwyr.

Darparu tystiolaeth o niwed neu golled i gwmni yswiriant yr Awdurdod.

Budd gwirioneddol

Os bydd data troseddol yn cael ei gipio fel delwedd, yn yr achosion hyn, byddai recordio’r ddelwedd yn berthnasol i fudd cyhoeddus sylweddol a phrawf 10, atal a chanfod gweithredoedd anghyfreithlon ac 11. Amddiffyn y Cyhoedd

Budd gwirioneddol o ran amddiffyn staff, aelodau, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ac aelodau’r cyhoedd o ran eu diogelwch personol.

Atal ymddygiad treisgar neu ymosodol tuag at staff PCNPA.

Amddiffyn adeiladau ac offer yr Awdurdod, ac eiddo personol staff, aelodau, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ac aelodau’r cyhoedd.

Atal a chanfod troseddau yn ei safleoedd a’i gyfleusterau manwerthu a chynorthwyo i adnabod a dal troseddwyr.

Darparu tystiolaeth o niwed neu golled i gwmni yswiriant yr Awdurdod.

Am ba hyd y byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch
Rydym yn adolygu ein cyfnodau o gadw gwybodaeth bersonol yn rheolaidd. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni gadw rhai mathau o wybodaeth am gyfnod penodol o amser i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol, megis cofnodion cynllunio, ariannol neu adnoddau dynol. Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau neu ar ffeil am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, neu am gyhyd ag y nodir mewn unrhyw gontract perthnasol sydd gennych gyda ni.

Gyda phwy yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn fewnol gydag adrannau perthnasol o fewn yr Awdurdod ond dim ond at ddibenion penodol.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn allanol gyda’r sefydliadau hyn ac am y rhesymau canlynol:

Sefydliadau

Ein Rheswm

Cyllid a Thollau EM, Rheoleiddwyr ac Awdurdodau eraill

Dibenion archwilio, canfod twyll a throseddu

Pensiynau Dyfed

Hwy sy’n gweinyddu Cynllun Pensiwn yr Awdurdod

Cyngor Sir Caerfyrddin

Hwy sy’n gweinyddu Cyflogres yr Awdurdod

Adrannau’r Llywodraeth neu drydydd partïon eraill sydd wedi darparu cyllid i’r Awdurdod

Rhennir data personol perthnasol â nhw os yw hyn yn un o amodau’r cyllid a ddarparant i’r Awdurdod

Pobl yr ydych chi’n cytuno i ni rannu eich data gyda hwy, gan gynnwys trydydd partïon fel Intuit Mailchimp yr ydym yn partneru â nhw i ddarparu ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi cydsynio i rannu’r data. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Intuit Mailchimp yn defnyddio’ch data, ewch i wefan Intuit Mailchimp (agor mewn ffenestr newydd).

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud penderfyniadau awtomataidd
Ar hyn o bryd nid ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth i wneud penderfyniadau awtomataidd. Os bydd hyn yn newid yn y dyfodol byddwn yn diweddaru’r adran hon o’r hysbysiad.

Os dewiswch beidio â rhoi gwybodaeth bersonol
Efallai y bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi.

Os byddwch yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth bersonol hon i ni, gallai hynny achosi oedi neu ein rhwystro rhag cyflawni ein rhwymedigaethau. Gallai hefyd olygu na allwn gyflawni tasgau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth yr ydych yn gobeithio ei gael.

Byddai unrhyw gasglu data sy’n ddewisol yn cael ei wneud yn glir adeg casglu’r wybodaeth.

Rhoi caniatâd a thynnu caniatâd yn ôl
Lle bo angen caniatâd unigolyn i brosesu gwybodaeth bersonol, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Fel rheol, ni fydd y caniatâd yn amod cyn derbyn gwasanaeth.

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw adeg. Cysylltwch â ni os dymunwch wneud hynny ar gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk neu’r tîm perthnasol o fewn yr Awdurdod y rhoddoch ganiatâd iddo.

Os byddwch yn tynnu’ch caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu gwybodaeth benodol neu rai gwasanaethau i chi. Os yw hyn yn wir, byddwn yn dweud wrthych.

Sut i gael copi o’ch gwybodaeth bersonol
Gallwch gael golwg ar eich gwybodaeth bersonol sydd gennym drwy ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn:

Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddol a Democrataidd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro SA72 6DY

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk / 01646 624800

Rhoi gwybod i ni os yw eich gwybodaeth bersonol yn anghywir
Os ydym yn cadw gwybodaeth amdanoch, gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau drwy gysylltu â ni ar gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk, ein ffonio ar 01646 624800, ysgrifennu atom neu gysylltu â’r tîm perthnasol o fewn yr Awdurdod y rhoddoch y wybodaeth iddo. Byddwn yn cymryd camau rhesymol i wirio cywirdeb y data a gedwir gennym a’i gywiro.

Beth os ydych am i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol?
Mae gennych hawl i wrthwynebu ein bod yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, neu ofyn i ni ddileu, gwaredu, neu roi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol os nad oes angen i ni gadw’r wybodaeth.

Fe all fod rhesymau cyfreithiol neu swyddogol arall pam y mae angen i ni gadw neu ddefnyddio’ch data. Ond dywedwch wrthym os ydych o’r farn na ddylem fod yn ei ddefnyddio.

Efallai y byddwn weithiau yn gallu cyfyngu ar y defnydd a wneir o’ch data. Mae hyn yn golygu y gellir ei ddefnyddio dim ond ar gyfer rhai pethau, megis hawliadau cyfreithiol neu i arfer hawliau cyfreithiol. Yn y sefyllfa hon, ni fyddem yn defnyddio nac yn rhannu eich gwybodaeth mewn ffyrdd eraill tra bod y wybodaeth wedi’i chyfyngu.

Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol:

  • os nad yw’n gywir.
  • os yw wedi’i ddefnyddio yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu.
  • os nad yw’n berthnasol mwyach, ond eich bod am i ni ei gadw i’w ddefnyddio mewn hawliadau cyfreithiol.
  • os ydych eisoes wedi gofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio’ch data ond eich bod yn disgwyl i ni ddweud wrthych a ydym yn gallu cadw ati i’w ddefnyddio.

Os ydych am wrthwynebu’r modd yr ydym yn defnyddio’ch data, neu ofyn i ni ei ddileu neu gyfyngu’r modd yr ydym yn ei ddefnyddio, cysylltwch â ni yn SDD@arfordirpenfro.org.uk/ 01646 624800.

Cwcis
Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o wasanaethau ar-lein, mae ein gwefan yn defnyddio cwcis parti cyntaf a chwcis trydydd parti ar gyfer nifer o ddibenion. Mae’r cwcis parti cyntaf yn angenrheidiol gan fwyaf er mwyn i’r wefan weithio’n gywir, a dydyn nhw ddim yn casglu data a fydd golygu bod modd eich adnabod yn bersonol.

Mae’r cwcis trydydd parti a ddefnyddir ar ein gwefannau’n cael eu defnyddio’n bennaf er mwyn deall sut mae’r wefan yn perfformio, sut rydych chi’n rhyngweithio â’n gwefan, cadw ein gwasanaethau’n ddiogel, darparu hysbysebion sy’n berthnasol i chi, ac at ei gilydd yn darparu profiad gwell i chi fel defnyddiwr a helpu i gyflymu eich rhyngweithio â’n gwefan yn y dyfodol.

Gallwch chi reoli eich dewisiadau cwcis drwy glicio’r botwm “Gosodiadau cwcis” a galluogi neu analluogi’r categorïau cwcis ar y ffenestr naid yn ôl eich dewisiadau.. Fel arall, gallwch reoli’r rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau porwr y rhan fwyaf o borwyr gwe.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Cwcis.

Anfon data y tu allan i’r DU
Byddwn ond yn anfon eich data y tu allan i’r DU i:

  • Gydymffurfio â dyletswydd gyfreithiol.
  • Pan fydd prosesyddion data a ddefnyddiwn yn anfon data y tu allan i’r DU ond bod ganddynt fesurau diogelu perthnasol ar waith.

Os ydym ni neu brosesydd a ddefnyddiwn yn trosglwyddo gwybodaeth y tu allan i’r DU, byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei diogelu yn yr un modd ag y byddai’n cael ei defnyddio yn yr DU. Byddwn yn defnyddio un o’r mesurau diogelu hyn:

  • Sicrhau bod y derbynnydd wedi’i leoli mewn yr AEE (Ardal Economaidd Europeaidd), neu trydedd wlad neu diriogaeth neu’n sefydliad rhyngwladol a gwmpesir gan ‘rheoliadau digonolrwydd’ y DU.
  • Gwneud contract gyda’r derbynnydd sy’n golygu bod rhaid iddo ddiogelu’r wybodaeth i’r un safonau â’r DU.

16 oed neu iau
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd plant 16 oed neu iau. Os ydych chi’n 16 oed neu’n iau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni.

Sut i wneud cwyn
Cofiwch roi gwybod i ni os ydych yn anfodlon â’r modd yr ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Cysylltwch â’n swyddog diogelu data yn SDD@arfordirpenfro.org.uk / 01646 624800

Hefyd mae gennych yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae gwybodaeth ar eu gwefan am sut i roi gwybod am fater sy’n peri pryder. Rhif y llinell gymorth yw 0303 123 1113.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o fanylion am sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data.

SDD@arfordirpenfro.org.uk

01646 624800

Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Swyddfa’r Parc Cenedlaethol

Parc Llanion

Doc Penfro

Sir Benfro, SA72 6DY