Sgogwm

Mae’r ynys hyfryd hon, sy’n warchodfa natur, yn enwog am ei hadar môr a’i blodau gwyllt bendigedig. Daw Sgogwm o’r gair Norseg “Skokholm” sy’n golygu “ynys goediog”, ond erbyn hyn, yr unig arwydd o goetir yw’r rhywogaethau nodweddiadol fel llygad Ebrill a chlychau’r gog. Mae’r llystyfiant yn cael ei docio gan y gwynt a’i gwtogi gan gwningod, ond mae planhigion na ellir eu bwyta, fel clustog Fair, y gludlys arfor a’r wialen aur yn garped o liw yn y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf.

Daeth y naturiaethwr Ronald Lockley ag enwogwyd i’r ynys. Cyrhaeddodd yma ym 1927 i gymryd prydles 21 mlynedd, ac ef oedd un o’r bobl gyntaf i astudio bioleg fridio’r aderyn drycin, pâl Manaw, y pâl a’r gwningen. Ei ymchwil ar gwningod oedd sylfaen nofel Richard Adams, Watership Down. Ym 1933, daeth yr ynys i fod yn arsyllfa adar gyntaf Prydain.

Mae ymwelwyr yn gallu aros ar Sgogwm, yn llety’r Ymddiriedolaeth Natur, ond nid oes unrhyw deithiau dydd.

Manx shearwaters on Skokholm Island, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Ynys o adar y môr yw Sgogwm, yn bennaf, ac mae’r prif rywogaethau i’w gweld yma – pob un heblaw am yr wylan goesddu. Mae’r pâl, yr heligog, gweilch y penwaig, gwylan y graig, gwylan y penwaig, yr wylan gefnddu a’r wylan gefnddu fach oll yn bridio yma dros yr haf, ynghyd â’u hysglyfaethwyr craff: y gigfran, yr hebog tramor a’r boncath.

Mae adar y nos yn bridio yma hefyd: mae pâl Manaw ac un o’r cytrefu pwysicaf o adar drycin yn bridio yn y chwarel ac yn y waliau cerrig. Fe ddechreuodd Sefydliad Edward Llwyd Prifysgol Rhydychen farcio ac ymchwilio adar yma, ond symudodd i Sgomer ym 1977 ble mae’r gwaith yn parhau.

Mae yna oleudy ar y pentir gorllewinol noeth. Ynni’r haul sy’n pweru’r golau ac mae yna wawr goch ar ochr y tir rhag dallu ac anafu adar ar nosweithiau tywyll.

Hen Dywodfaen Coch yw daeareg yr ynys, ac mae yna ddarnau o gennau amrywiol o liwiau hyfryd ar arwynebau’r creigiau. Dyma ynys ddarluniaidd iawn.

Dod i hyd i Ynys Sgogwm

Ffeil Ffeithiau Ynys Sgogwm

  • Eiddo i Ystadau Castell Dale, ac yn cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (01239 621600)
  • Cyrraedd: cwch o Martins Haven
  • Aros yma: mis Ebrill tan fis Hydref, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Natur i drefnu llety ar (01834 870011)
  • Cyfleusterau: llety â gwasanaeth llawn, siop fechan
  • Ardal y Parc: Gorllewin
  • Cyfeirnod Grid: SM735050